Javier Cercas


El Monarca de las Sombras

Literatura Random House, 288tt, €20.90, 2017

Javier Cercas (cyfieithwyd o’r Sbaeneg gan Ann McLean)


Lord of all the dead

MacLehose Press, 288tt, £20.00, Ebrill 2019

Udo am waed
Dadansoddi

Udo am waed


Aled Gruffydd Jones

Amser darllen: 6 munud

05·06·2019

‘La verdad no le interesa a nadie’, nid yw’r gwir o ddiddordeb i neb. Rhain oedd geiriau rhybuddiol ac iasoer un o gyfeillion Javier Cercas pan glywodd am fwriad disyfyd yr awdur i gychwyn cloddio i hanes ac ymdreiddio i feddylfryd ewythr ei fam, y ffasgydd brwdfrydig Manuel Mena. Prif gyfiawnhad Cercas dros adrodd buchedd ei hen ewythr, meddai, oedd cynnig esboniad, i'w deulu ac iddo ef ei hun, am rym a dyfalbarhad y cof am y ffigwr arwrol, chwedleuol bron, hwnnw a fu farw wrth ymladd gyda byddin wrthryfelgar Francisco Franco adeg y Rhyfel Cartref yn Sbaen.

Lladdwyd Manuel Mena yn bedair ar bymtheg oed mewn brwydr yn erbyn catrawd a berthynai i'r Frigâd Gydwladol. Fe'i trawyd ar lannau'r Ebro yn Nghatalunya ddiwedd Medi 1938, rai misoedd cyn diwedd y Rhyfel Cartref. Claddwyd ef yn ei bentref genedigol, Ibahernando, yn Extremadura. Oddi ar hynny, arhosodd ei lun yn ddi-syfl ar fur cartref ei fam fel eicon o'i sancteiddrwydd. A gwir oedd rhybudd y cyfaill hwnnw. Ers cyhoeddi'r gyfrol ysgytwol hon, nad yw'n nofel nac yn astudiaeth hanesyddol yn hollol, daeth Cercas dan don o feirniadaeth gan ymosodwyr ar y chwith a'r dde wleidyddol. Er gwaethaf ymrwymiad cryf Cercas ei hun i achos y chwith weriniaethol, condemniwyd ef gan sosialwyr am geisio pwysleisio dynolrwydd Falangista milwriaethus, a chan eraill ar yr asgell dde am ddryllio eu delwedd gynhaliol ohono a'i debyg fel un o ferthyron byddin fuddugol Franco.  

Serch hynny, mae'r ymchwiliad dirdynnol a beiddgar hwn gan Cercas, sydd ar yr un pryd yn hynod bersonol ac yn gyfanfydol ei afael, yn gyfle i ni ailystyried natur y cariad a'r casineb, y brwdfrydedd a'r brad, sydd unwaith yn rhagor yn rhwygo gwledydd y Gorllewin. Wrth ddarllen y gyfrol hon yn ystod yr wythnos cyn yr Etholiadau Ewropeaidd ar 23 Mai 2019, a'm llygaid ar yr arolygon dyddiol oedd yn darogan  'daeargryn' i'r 'Brexit Party', cwmni preifat Nigel Farage, anodd oedd peidio torri rheol oes a rhyfeddu at y gwersi nas dysgwyd gan y presennol yn dilyn chwalfeydd gwaedlyd yr ugeinfed ganrif. Ac yna, wrth eistedd i ysgrifennu'r darn hwn, mae un llygad ar hynt ymerodraethol Arlywydd honedig yr Unol Daleithiau trwy brifddinas sydd yn ymwrthod â'i ddirmyg ac yn gwawdio ei rwysg.
 

Rhan o lun clawr y gyfrol wreiddiol yn Sbaeneg (Literatura Random House, 2017)

Digon posib mai 'Sut ddigwyddodd hyn?' yw'r cwestiwn hynaf ohonynt i gyd. Sut a phaham y tyfodd bachgen o bentref gwledig – Manuel Mena – yn lladmerydd, yn arweinydd (yn ei blwyf) plaid ffasgaidd y Falange ac yn swyddog mewn byddin fyddai'n dod â dim ond trais a thlodi a gormes i'w gymuned a'i ardal? A sut a phaham y daeth y cof amdano yn arf mewn brwydr ideolegol a barhaodd am bedwar ugain mlynedd? Rhain yw'r cwestiynau anoddaf yr â Cercas i'r afael â hwy. Gwna hynny â dim ond ambell lun yn gymorth, prin ddyrnaid o ddogfennau ym meddiant y fyddin, ac atgofion aelodau'r teulu oedd eto â rhyw frith gof amdano cyn ac yn ystod y rhyfel. 

Mae'r darlun-bortread ffotograffig o Mena, mor ysblennydd yng ngwisg glaerwen ei gatrawd, yn bresenoldeb trychiolaethus trwy gydol y naratif, ond mae'n cuddio llawer mwy nac y mae'n datguddio. Oherwydd, fel y cafodd Cercas ei atgoffa gan un o bentrefwyr Ibahernando, mae'r gwir wastad yn fwy cymhleth a digysbell na'r fytholeg. Ac felly y bu yn achos Manuel Mena. Mena, y plentyn chwilfrydig, darllengar, y pleidiwr pybyr dros egwyddorion José Antonio Primo de Rivera, a'r milwr ymroddedig a aeth yn ôl i faes y gad er iddo gael ei anafu'n ddifrifol bum gwaith cyn ei ladd ym mrwydr yr Ebro. Ond y darganfyddiad mwyaf trawiadol a wnaeth Cercas am ei hen ewythr oedd iddo gyfaddef, rai wythnosau cyn ei farwolaeth, a hynny wrth ei fam, ei frawd a'i chwaer, ei fod wedi ei lwyr ddadrithio.Ya he cumplido. Celwydd, meddai, oedd addewid y gwrthryfel yn erbyn y Weriniaeth. Serch hynny, mynd yn ôl i ymladd a wnaeth, nid oherwydd ei ymrwymiad i'r achos, nac er dyletswydd i'r fyddin, ond yn hytrach i arbed i'w frawd, oedd yn briod ac â phlant, gael ei anfon i'r lladdfa yn ei le. Merthyr i'w deulu oedd Mena, nid i Franco a'i gachgwn gwancus a feddiannodd cyhyd y cof amdano. Rhywsut, rhywbryd, trodd dealltwriaeth y bachgen-filwr hwn o ddelfryd arwrol Velázquez o'r kalos thanatos, marwolaeth berffaith y gwladgarwr, yn ddelwedd o ryfel oedd yn ymdebygu fwy i byrth uffern Goya. Ac yn y foment honno, deallodd Cercas nad Achilles rhyfelgar yr Iliad oedd ei gyneifiad ifanc, ond Achilles yr Odyseia, y cysgod a ymddangosodd o flaen Odysews yn Hades i ymwrthod â'i fytholeg ac i fynnu na fyddai byth am fod yn frenin dros y meirw.
 

Parole in libertà, 1914 gan Filippo Tommaso Marinetti

Wrth gyniweirio nôl a blaen rhwng y presennol a'r 1930au, rhwng delfrydiaeth gynnar Manuel Mena a syniadaeth gyfoes yr awdur, awgryma Cercas sut y gellir pontio'r gagendor dwfn hwn rhyngddynt er mwyn deall yn well natur yr anghenfil ffasgaidd sy'n corddi'r dyfroedd unwaith eto yn sgil argyfwng ariannol y degawd diwethaf. Ar un olwg, nid oes i'r ffasgaeth bresennol yr un wefr fodernaidd a sbardunodd y Mena ifanc, gwefr efallai sydd i'w gweld ar ei gorau yn y cyfnod hwn yng ngwaith Filippo Tommaso Marinetti ac Ezra Pound, gyda'u pwyslais ar dechnoleg a byd ar garlam. Ac er gwaethaf ymdrechion Stephen K Bannon a'i griw i ailddarganfod gwefreiddioldeb y ffasgaeth gynnar honno, trwy addasu syniadau Julius Evola yn arbennig, efallai, methiant hyd yn hyn fu eu hymdrechion i asio hynny â cheidwadaeth draddodiadol. Gall hynny newid. Ond yr hyn sydd yn fwy sicr yw'r grymoedd eraill, dwysach o bosib, sydd yn grymuso'r dde eithafol, sef y damcaniaethau cynllwynio pwerus hynny, 'brad y deallusion' a’r ‘amnewidiad mawr’. Rhed y rhain gyda’i gilydd yn wythien amlwg trwy bleidiau cyfoes y dde eithafol Ewropeaidd, yr olaf wedi treiglo o gysyniad René Binet, aelod o gatrawd Ffrengig yr Waffen SS adeg yr Ail Ryfel Byd, trwy nofel Jean Raspail Le Camp des Saints ym 1973 i gyfrol Renaud CamusLe Grand Remplacement yn 2010.

Ond o dan yr wyneb wrth-Islamaidd, a’r panig parthed y perygl o 'hil-laddiad' Cristnogion gwynion Ewrop, gorwedd yr un amrywiadau ar gasineb: hiliaeth, gwrth-semitiaeth, gwrth-ffeministiaeth, a chywilydd dros dranc ymerodraethau Ewropeaidd y gorffennol. Nid bwgan, o bell ffordd, mo'r ffasgaeth adnewyddedig hon. Serch hynny, ni lwyddodd eto ychwaith i dynnu ynghyd y torfeydd sydd eu hangen arni, yn arbennig ymhlith yr ifanc, gyda'r math o apêl optimistaidd a wnaeth y Falange yn gartref gwleidyddol mor ddeniadol i Manuel Mena a'i debyg. Ac er nad credo hen ddynion gwynion o'm cenhedlaeth gymharol foethus i yn unig yw'r 'boblyddiaeth' bresennol, prin yw'r atebion sydd ganddi i wir argyfyngau ein hoes, megis chwalfa amgylcheddol, y gostyngiad cyson yn arfael cymdeithasol y gyfalafiaeth gorfforaethol, a heriau deallusrwydd artiffisial (AI). Rhain yw'r gwirioneddau y dylem oll ymddiddori ynddynt, ac ymroi i'w hannerch tra bo amser ar ôl i wneud hynny. Fel y daeth Manuel Mena i ddeall, a hynny yng nghanol erchylltra rhyfel, celwydd yw ffasgaeth. Ei gwir amcan yw nid atgyfodi'r genedl ond arbed buddiannau cyfoeth rhag dioddef unrhyw fygythiad gan y gweddill ohonom. Ond er gwaethaf ei thwylledd, a'i amherthnasedd yn wyneb peryglon dirfodol, a ninnau ymhell erbyn hyn o gyffro gwyllt Ibahernando ar drothwy'r Rhyfel Cartref, does dim amheuaeth nad ydi’r un bwystfil trwsgl, ethno-genedlaetholgar a distrywgar hwnnw – o Charlottesville i Christchurch, ac o Fosnia i Firstall – yn dal i udo am waed. 


Gellir darllen cyfweliad gyda Javier Cercas, a gyhoeddwyd yn wreiddiol mewn Albanieg yn y cylchgrawn Symbol (Kosovo, 2018), ar wefan Eurozine. 

Hanesydd yw Aled Gruffydd Jones


Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


Fel y daeth Manuel Mena i ddeall, a hynny yng nghanol erchylltra rhyfel, celwydd yw ffasgaeth

Dyddiad cyhoeddi: 05·06·2019

Yn ôl i frig y dudalen

Adolygu


Tomos Morgan

Heb os mae angen cryn sensitifrwydd wrth ymhél – neu ymyrryd – â digwyddiad lle mae teimladau mor gryf ac emosiynau mor amrwd. Mewn cyd-destun newyddiadurol, er enghraifft, mae’n hysbys pa mor real yw perygl dwysáu trallod teuluoedd sydd eisoes mewn galar drwy gyhoeddi erthygl neu…

Cyfansoddi


John Emyr

Casglodd Glyn ei fagiau gan sylwi, drwy ffenest ei lofft, fod llechi’r toeau yn sych. Hyd yma, ar y bore hwn o Fai ym Mangor Uchaf, roedd y tywydd o’i blaid. Er iddo glywed chwyrniadau ffrae atmosfferig y cymylau uwchlaw’r Carneddau neithiwr, roedd…

Adolygu


Angharad Penrhyn Jones

Mae’r profiad o ddarllen y gyfrol hon fel eistedd ar soffa yn gwrando ar ferch alluog, ddidwyll a byrlymus yn adrodd hanes ei bywyd, paned mewn un llaw, hancesi papur mewn llaw arall, a digon o chwerthin. Mae’n lyfr mor hawdd ei ddarllen ar un ystyr, mor agos at rywun, y…

Cyfansoddi


Osian Wyn Owen

Pobol coleg fu’n clegar ‘nad oes byd na phlaned sbâr wedi hon’ a bod ‘i wedd yr haf gynhesrwydd rhyfedd ... 

Cyfansoddi


Rhiannon Ifans

Piciodd Ingrid i'r ardd i dorri cabatsien. Roedd hi’n ddychryn o oer, ac asgwrn ei chlun yn boen byw rhwng y gwynt main a’r eira’n pluo’n ysgafn o gwmpas ei phen. Ers dyddiau roedd yr awyr dywyll fel petai’n dal ei hanadl, yn gyndyn o ryddhau mwy na sgeintiad…

Cyfansoddi


Carl Chapple

Yn 2013 y dechreuodd fy niddordeb mewn dawns. Cynigiodd John Livingston, dawnsiwr a hen ffrind i mi, eistedd ar gyfer llun. Roeddwn yn gweithio ar gyfres o bortreadau o berfformwyr llwyfan ar y pryd – comedïwyr ac actorion yn bennaf ... 

Dadansoddi


Angharad Closs Stephens

Dros y misoedd diwethaf aeth llawer ati i baentio ‘Cofiwch Dryweryn’ ar waliau ac adeiladau ar hyd a lled Cymru. O blith y rhai a welais i – mewn mannau cyhoeddus ac ar blatfform trydar – mae’r arwyddion fel petaent yn golygu amrywiol bethau i wahanol bobl. Gwelais un ag…

Adolygu


Dylan Huw

Yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst eleni, crëwyd yr hyn a alwyd yn AGORA, o hen ddrysau a gyfrannwyd gan bobl Sir Conwy. Gofod canolog, cyhoeddus ac agored yn ninas-wladwriaethau Hen Roeg oedd yr αγορά yn wreiddiol; mae’r gair hefyd yn golygu 'cynulliad' neu 'man cwrdd'. Paentiwyd y…