Colofnau

Dillad

Gwynt y Dwyrain


Mihangel Morgan

Amser darllen: 7 munud

29·11·2017

Fis diwethaf roedd ffrind i mi yn cael ei phen-blwydd yn hanner cant oed. Pan oedd John Betjeman yn fardd y Frenhines cafodd ei feirniadu yn y wasg am beidio â llunio cerdd i ddathlu pen-blwydd Ei Mawrhydi pan gyrhaeddodd hithau’r hanner cant. Amddiffynnodd Betjeman ei benderfyniad gan ddadlau nad oedd nodi oedran menyw yn beth cwrtais i’w wneud. Tybed a fyddai wedi llunio cerdd ben-blwydd i frenin ar achlysur ei hanner canrif? Bid a fo am hynny, roedd fy ffrind innau yn ddigon hapus ynghylch ei phen-blwydd a’i hoedran ac wedi gwahodd ei ffrindiau a’i theulu i gyd i barti mawr er mwyn ei nodi. Felly, roedd rhaid i mi brynu anrheg arbennig.

Penderfynais y prynwn ddarn o emwaith, dim byd ofnadwy o gostus ond rhywbeth deniadol a defnyddiol. Es i mewn i siop fach o emydd yn Aberdâr (mae hyn yn berthnasol, lleoliad y siop a’i bychander diymhongar). Edrychais o gwmpas ar yr arlwy o addurniadau, yn fodrwyau, clustdlysau, breichledi ac yn y blaen. Ac yn y diwedd dewisais freichled fach. O siop mor ddinod roedd y dewis yn ddigon o ryfeddod. Edrychai rhai o’r mwclis yn debyg i felysion danteithiol lliwgar, roedd rhai yn gywrain ac yn frau yr olwg, darnau eraill yn sylweddol ac yn sgleiniog. Ar ben hynny roedd yr amrywiaeth o dlysau y gellid eu hatodi at y breichledi yn ddi-ben-draw, bron â bod. Meddyliwch am unrhyw wrthrych – cath, esgid, castell, saeth, calon, lleuad, car, cwlwm, telyn – roedd yna swyndlws ar ei lun i’w gael. O leiaf, dyna’r dewis ar gyfer arddyrnau merched. Beth am freichledi ar gyfer dynion? gofynnais. Oedd, meddai’r ferch ddymunol wrth y cownter, roedd yna ddetholiad o freichledi i ddynion i’w gael. Felly edrychais ar yr arlwy ‘wrywaidd’. Os oedd yna wledd ar gyfer y merched, dim ond byrbryd, dim digon o damaid i aros pryd hyd yn oed, oedd yn cael ei gynnig er boddhau chwaeth y bechgyn. Y peth cyntaf a’m trawodd oedd y lliwiau. Lliwiau tywyll oedden nhw i gyd; du, glas, llwyd, brown. Roedden nhw i gyd yn drwm hefyd (arddyrnau bach tenau sydd ’da fi). Ac o ran breichdlysau, yr unig fotiff oedd ar gael oedd – credwch neu beidio – y benglog ddynol. Oedd, roedd yna rai mewn aur ac arian a rhai cerrig, ac roedd amrywiadau ar eu steil, ond penglogau oedd yr unig swyndlysau ar gyfer dynion. Cystal â dweud taw’r unig beth sy’n dderbyniol ar freichiau ‘gwryw’ yw symbol angau. Beth yw’r meddwl y tu ôl i hyn ys gwn i? ‘Dwi’n ddyn, dyma benglogau’r rhai dwi wedi’u lladd/b’yta.’ Cwynais wrth y ferch fod y dewis yn dorcalonnus ei apêl o gymharu â’r pethau amheuthun roeddwn i wedi’u llygadu ar gyfer y merched, ac wedi’u chwennych i mi fy hun. Doedd dim un peth i’r dynion yn apelio o gwbl. Nawr, roedd y siopwraig yn gall iawn a gwelodd fy nghyfyng-gyngor, a’i hunig ddymuniad hithau oedd gwerthu’i marsiandïaeth, dim ots i bwy nac i beth. ‘Dylech chi wisgo beth bynnag rydych chi’n ei licio,’ oedd ei chyngor hirben hi. Wrth gwrs, gallaswn fod wedi prynu’r freichled a edrychai fel cadwyn o losin bach amryliw, a’i gwisgo. Ond nace dyna’r pwynt!

Nawr, pe baech chi’n mynd i emydd yn Llundain neu ym Manceinion neu yn Nghaerdydd, diau y byddai’r rhychwant o eitemau addurniadol ar gyfer dynion yn helaethach ac yn fwy amrywiol. Ond nace dyna’r pwynt chwaith. Nid yw’r hyn y mae rhai’n ei wisgo ar y King’s Road neu Bond Street yn cynrychioli’r hyn sy’n ffasiynol nac yn dderbyniol ym mhobman. Fe welwch beth yw’r ffasiwn go-iawn pan fo rhai yn ei wisgo yn Aberdâr. Hynny yw, rhaid iddo dreiddio i bob rhan o’r wlad, hyd yn oed y rhannau mwyaf anffasiynol. Mi wyddwn i fod yr ‘Alice band’ wedi ‘cyrraedd’ nid pan wisgodd David Beckham un gyntaf ond pan welais ddyn ifanc yn gwisgo un yn Nhal-y-bont.

O’r diwedd dyma fi’n dod at y pwynt. Nid yw’n bwynt syml. Pe bawn i wedi prynu fy newis freichled yn y siop y diwrnod hwnnw, a’i gwisgo, ni fyddai hynny wedi newid dim. Rhaid i bopeth newid. Rhaid tynnu’r ffiniau rhywiaethol hyn i gyd i lawr. Nonsens yw sôn am freichledi ‘gwrywaidd’ a gemau ‘benywaidd’. Yn wir, diystyr yw sôn am unrhyw ddilledyn yn ôl ei rywedd (gender). Ac mae’n hen bryd dileu’r cysyniad o ‘menswear’ a dylunio a phatrymu deunydd er mwyn ei wisgo yn unol â chyfyngiadau rhywiaethol yn gyfan gwbl, ac eithrio, efallai, rhai eitemau o is-ddillad (ond dydw i ddim mor siŵr bod rhaid bod mor benodol o wahaniaethol ynghylch rheina hyd yn oed).

A dweud y gwir, mae’r rhyddid i groesi’r ffin honedig rhwng dillad dynion a dillad merched (gan gadw’r termau hyn am y tro, er hwylustod y drafodaeth) wedi bod yn haws i ferched ers degawdau, ond ewch chi’r ffordd arall ar boen eich bywyd.

Hoffwn archwilio’r cysyniad o ‘menswear’ cyn mynd yn ôl at yr angen i ddiddymu’r gwahaniaethau’n llwyr. Pam mae dillad dynion mor ddiflas o ddiliw ac unffurf? Cyfyngir y lliwiau yn llym; yn wir, prin y maent yn cyffwrdd â’r enfys. Eich lliwiau chi ddynion yw: du, brown, llwyd, glas tywyll. Weithiau fe gewch chi wyrdd tywyll a glas golau. Mae coch yn dderbyniol ond mae’n dynodi ‘egsentrig’. ‘Whacky’ yw unrhyw streipiau, smotiau neu batrymau, ac ychwanegwch rhain at y siaced neu’r trwser ac mae’n cael ei gyfri yn ‘loud’. O ran sgidiau (ac unwaith yn rhagor, ceir mwy o hyblygrwydd yn siopau mawr y dinasoedd, mwy na thebyg), prin ein bod wedi symud yn bell ers y 1940au – du, brown, wel, dyna’r cyfan i bob pwrpas. Yr unig gonsesiwn i amrywiaeth oddi fewn i focs bach ‘menswear’ yw’r tei a’r sanau (hepgorwn y posibiliadau sy’n cael eu caniatáu mewn crysau haf am y tro, ac mewn is-ddillad, nad ydynt yn cael eu gweld ar goedd, fel rheol beth bynnag). Dyma’r unig eitemau yn y wardrob wrywaidd lle goddefir yr un dyfeisgarwch ag a geir yn yr ystafell wisgo fenywaidd.

Mae mwy o amrywiaeth a lliw i’w cael mewn siopau dillad dynion ifanc, rhaid cyfaddef. Ond dim tebyg i’r meysydd a’r perllannau o ddewis sydd ar gael mewn siop ddillad merched.

Mae byd ffasiwn wastad wedi rhoi’r pwyslais a’r prif ffocws ar ddillad menywod. Mae hyn yn wir am ddylunwyr y gorffennol megis Givenchy, Saint Laurent a Valentino a Lagerfeld, er bod y dynion hyn i gyd yn hoyw. Synhwyrir taw rhyw fath o ddirprwy-ymwisgo oedd eu diddordeb mewn dillad merched. Yn gymdeithasol, ni allent wisgo’r dillad eu hunain ond gallent daflunio’u dyheadau personol ar fodelau a chwsmeriaid. Wedi dweud hynny, nid yw dylunwyr hoyw mwy diweddar fawr radicalach ynghylch dillad dynion ac nid yw Jean Paul Gaultier, Dolce a Gabbana na’r diweddar ryfeddol Alexander McQueen wedi gwneud y nesaf peth i ddim i doddi’r ffin rhwng dillad menywod a dillad dynion. Deil y rhaniad rhwng yr unig ddau ryw sydd yn cael eu cydnabod yn annileadwy, fel wal ddiadlam anweledig ym myd ffasiwn. A gwelir hynny ar ei gliriaf yn siopau’r stryd fawr.

Yn ddiweddar clywais beth o Eddie Izzard yn darllen rhannau o’i hunangofiant ar y radio. Wnes i ddim gwrando ar y cyfan gan iddo fy nharo fel un ag obsesiwn ynglŷn ag ef ei hun. Fe gafodd yr enw o fod yn ‘drawswisgwr’, er nad wyf i wedi’i weld yn gwisgo dim amgen na’i ewinedd wedi’u peintio. Ac yn yr hunangofiant hwn, dro ar ôl tro, roedd yn ei ddiffinio’i hun fel ‘trawsrywiol’, er nad yw, hyd y gwn i, wedi cael unrhyw lawdriniaeth i newid neu unioni’i ryw. Am hyn, rwy’n ei edmygu. Beth yw dyn, gwryw, beth yw benyw? Pethau aneglur iawn, anniffiniadwy ac eithrio yn y siop ddillad, lle na chaiff y naill gymysgu â’r llall. Onid yw’n bryd inni gydnabod yr hyn a ddywedodd Ivy Compton-Burnett, fod mwy o amrywiaeth oddi fewn i’r rhywiau nag sydd rhyngddyn nhw?

Ac mae’n bryd i’r siop ddillad fod yn siop ddillad nad yw’n dweud wrth neb beth i’w wisgo. Dylai’r siop gynnig dillad heb ddweud ar gyfer pwy y’u bwriadwyd a chaniatáu i’r cwsmer eu dewis a’u gwisgo yn ôl ei (d)dymuniad. Mae’n hen bryd i unbennaeth drahaus a gormesol ffasiwn gael ei dileu. Dymchweler y ffin rhwng ‘menswear’ a ‘womenswear’ a rhodder y cyfan ynghyd. Ac nid dillad ‘unisex’ mo’r ateb. Ni fu erioed ddillad ‘unisex’ go-iawn, dim ond dillad ar gyfer dynion y gallai menywod eu gwisgo hefyd. Prin iawn yw’r dillad sydd wedi croesi’r ffordd arall. Mae’r ‘Alice band’ yn eithriad.

Atodiad: Yn fuan ar ôl i mi lunio hon o erthygl, clywais fod siopau John Lewis wedi diddymu labeli bechgyn a merched, ond dim ond yn adran y plant. Dysgais hefyd am fudiad o‘r enw ‘Let Clothes Be Clothes’. Ond pan wnes i ymholiadau yn ei gylch, cefais ar ddeall taw dim ond ymgyrch ynghylch dillad plant yw hwn, felly mae’n amherthnasol i mi. Mae’n fudiad yn erbyn rhywiaetholdeb sydd yn hollol oedraniaethol (ageist).


Cyfrol ddiweddaraf Mihangel Morgan yw 60 (Y Lolfa, 2017).


Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


Fe welwch beth yw’r ffasiwn go-iawn pan gaiff ei wisgo yn Aberdâr. Rhaid iddo dreiddio i bob rhan o’r wlad

Dyddiad cyhoeddi: 29·11·2017

Yn ôl i frig y dudalen

Dadansoddi


Simon Brooks

Gan Louie y clywais i’r ymadrodd gyntaf. Yn y Ship neu’r Aussie roeddwn i, efo criw Llais Gwynedd fwy na thebyg, yn y dyddiau braf hynny cyn i bethau suro rhyngom ar ôl i mi gefnogi’r ymgeisydd anghywir mewn etholiad ar sail rhywbeth mor…

Cyfansoddi


Manon Steffan Ros

Dyma Mam yn fy ngyrru fi allan bore 'ma am ei bod hi'n ddiwrnod braf, a deud, 'Rhoswch allan nes bod hi'n amser swpar, lle bo' ti dan draed'. A dyma Now ac Edwin a finna'n mynd lawr i chwaral bach efo brechdana' mewn papur pobi, a dyna lle roeddan ni…

Dadansoddi


Daniel G Williams

‘Iaith carreg fedd’ oedd y Gymraeg i Michael Stephens yn hafau ei arddegau pan fyddai'n gweithio fel torrwr beddau yn ei Drefforest enedigol. Ymhen amser fe drodd Michael yn Feic, a’r iaith ‘yn iaith carreg fy aelwyd’. Disgrifiodd ei hun yn un o blant ‘y Gymru ddiwydiannol,…

Cyfansoddi


Angharad Price

Pwy sy’n ddigon hen i gofio’r ogla? Blas rwber yr awel. Ceir yn ciwio i fynd i mewn. Y sentri sgwâr a llinell syth y bar. Tonnau trionglog y to – yn ymestyn draw hyd dragwyddoldeb. Ac enw mawr y ffatri ar y brig:…

Cyfansoddi


Angharad Price

Mae gan yr Alban Ben Nevis a chan Gaernarfon Ben Twthill. Fan hyn yr oedd y gaer gyntaf. Fan hyn, os byth, y bydd yr olaf. Dwrn caled o graig yn codi yn ei noethni dros amlinell afreolus y dre.

Dydi…

Dadansoddi


Angharad Closs Stephens

Yn Abertawe y mae gwaith awyr agored mwyaf yr artist gwleidyddol Jeremy Deller. Ef hefyd a gynlluniodd ‘We’re here because we’re here’ (ar y cyd â Rufus Norris, cyfarwyddydd Theatr Genedlaethol Pydain) – gwaith sydd yn cofiannu can mlynedd ers brwydr y Somme. Fel rhan o’r perfformiad hwnnw ar 1 Gorffennaf 2016, gwelwyd…

Adolygu


Ruth Richards

Maen nhw'n edrych fel pâr o hipstyrs o ddwy wahanol genhedlaeth. Yr hynaf yn farfog (gafrog hefyd, fel mae'n digwydd), a'r llall yn eiddgar a braidd yn betrusgar dan ei gýt powlen. Mae'r ddau yn syllu arnom drwy'r math o sbectolau a ffafrir, hyd heddiw, gan bobl…

Cyfansoddi


Elin Haf Gruffydd Jones

Mae sefyllfa gyfredol Catalunya wedi bod yn fyw yn ein newyddion ers Hydref 2017. Gwelsom olygfeydd trawiadol o’r refferendwm dadleuol ar annibyniaeth drwy sgriniau gwefannau cymdeithasol, y cyfryngau darlledu a’r wasg. Cyhoeddodd y dyddiolyn ar-lein Vilaweb gyfres o gerddi gan feirdd ‘Proclames de Llibertat’ (Datganiadau…