Dadansoddi

‘Ni chuddiaf fy nghefndir’

Diwylliant Cymraeg a’r Cymoedd


Morgan Owen

Amser darllen: 7 munud

16·01·2019

Pan symudais, dros dro, i ogledd-orllewin Cymru i fyw mewn cymuned Gymraeg lle mae’r iaith i’w chlywed o hyd yn hollol naturiol – i’r ‘Fro Gymraeg’, beth bynnag yw honno – darganfûm rywbeth annisgwyl: fy mod ers blynyddoedd wedi bod yn atal a chladdu fy nghefndir, sef y Cymoedd. Trwy fynd i gornel gwag fy map o Gymru (pitw iawn oedd fy mhrofiad blaenorol o’r gogledd-orllewin), deuthum i ddeall y rhan honno o Gymru a adawais yn well byth. Dysgais fwy am Ferthyr yng Nghaernarfon nag am Gaernarfon ei hun.

Er taw’r Gymraeg yw prif gyfrwng fy nghreadigrwydd, er taw hi yw’r iaith a ddefnyddiaf amlaf yn fy mywyd beunyddiol ac er ei bod yn un o elfennau creiddiol fy hunaniaeth, mae Saesneg y Cymoedd yn rhan amlwg iawn o’m hetifeddiaeth – yr iaith a draddodwyd imi gan y gymdeithas y’m maged ynddi. Roedd y Gymraeg yn y teulu o hyd, serch hynny, ac nid siaradwr ail-iaith mohonof: cefais fagwraeth ddwyieithog anghytbwys, gyda’r Saesneg yn drechaf ond hynny ym mhresenoldeb diamheuol y Gymraeg. Nid y Gymraeg oedd popeth felly; ac ym more f'oes nid oedd gen i amgyffred fod yna ddiwylliant Cymraeg arall ar wahân i’r hyn a brofaswn yn bersonol fel siaradwr Cymraeg yn y Cymoedd, nac ychwaith fod yna ddiwylliant Cymraeg a oedd yn sylfaenol wahanol a rywsut y tu hwnt i f'amgylchiadau. 

Drwy f'addysg a hefyd fy nhreuliant ar y diwylliant Cymraeg poblogaidd, deuthum o dipyn i beth i deimlo fod yna ‘ddiwylliant Cymraeg’ a fodolai fel endid digamsyniol ac iddo nodweddion neilltuol. Ymddangosai i mi bryd hynny fod ffiniau penodol i’r diwylliant hwn. Ond ble oeddwn innau mewn perthynas ag ef, fel Cymro Cymraeg oedd yn meddu ar yr iaith o’r cychwyn cyntaf, ar ryw ffurf; yn hanu o flaenau’r Cymoedd lle siaredir Cymraeg gan ddim ond 10% o’r boblogaeth – weithiau lai na hynny? Wrth gwrs, prin fod gan y Cymoedd unrhyw ran yn y ddelwedd boblogaidd o’r diwylliant Cymraeg, er taw dyma’r rhan o Gymru gyda’r nifer uchaf o bobl sy’n arddel hunaniaeth Gymreig, yn ôl y Cyfrifiad. Yn fy marn i, nid y ffaith fod yma ganran is o siaradwyr Cymraeg yn unig sy’n gyfrifol am absenoldeb y Cymoedd yn yr amgyffred poblogaidd o’r diwylliant Cymraeg, ond rhywbeth dyfnach a hanfodol ideolegol.
 

Cefn Cul, Chwefror 2018. Llun gan Morgan Owen.

Ar un wedd, adlewyrchu’r rhannau o Gymru lle siaredir yr iaith yn gymunedol y mae’r amgyffred o’r ‘diwylliant Cymraeg’ poblogaidd, ond mae ei ddetholrwydd, neu os caf ddweud, ei grebachdod, yn deillio o’r syniad creiddiol fod y diwylliant Cymraeg yn hanfod a draddodwyd yn llinach ddi-dor a mawreddog; hynny yw, yn gynnyrch priod iaith ac iddi ofod arbennig a rhyw undod dirgel rhyngddynt. Canlyniad hynny yw meddylfryd gwarchae. Os taw gwarchod etifeddiaeth unedig a chydlynol rhag ei dryllio yw’r ysgogiad i’r amgyffred poblogaidd, dyneiddiol o’r diwylliant Cymraeg (meddylier am y sôn mynych am frwydro, cadw’r ffynnon rhag y baw, traddodi i’m plant ac i blant fy mhlant), onid yw’n gwrthod, o reidrwydd, ddilysrwydd diwylliant y Cymoedd? Hynny yw, yn ôl yr uchod, mae ardal Gymreig lle nad yw’r Gymraeg bellach yn iaith gymunedol wedi colli cysylltiad â’r hanfod hwnnw sy’n ei chlymu wrth y cysyniad o ddiwylliant Cymraeg, bid a fo am barhad yr iaith mewn cynifer o ffyrdd eraill yno a’i rhan enfawr yn hanes a chymeriad yr ardal. 

Ac os yw rhywun o’r Cymoedd am gyfranogi o’r diwylliant Cymraeg hwn, mae disgwyl iddo/iddi fabwysiadu (yn ymwybodol neu fel arall) y safbwynt taw malurion yw ei gymdeithas; ac am nad yw’r Gymraeg yn iaith fwyafrifol yno, fod unrhyw ddiwylliant yno yn friwedig ac yn fynegiant o wewyr, o ymddieithrio. Yr awgrym wedyn yw taw dim ond trwy ryw adferiad ieithyddol absoliwt y byddai ei gymdeithas yn gyflawn eto (a gwyddom pa mor annhebygol yw hynny). Sut felly y mae pobl y Cymoedd i fod i ymwneud â’r ‘diwylliant Cymraeg’? Trwy wadu eu cefndir a chyfnewid eu bydolwg am un gwahanol, yn groes i’w greddf? Trwy rithio eu bod yn cyfranogi o ryw gymdeithas Gymraeg arwrol, hynafol sy’n hollol estron i’w profiadau o’u hardal, boed fel y mae heddiw neu fel yr oedd yn y gorffennol agos pan oedd yn dal i fod yn Gymraeg ei hiaith?
 

Pontmorlais, sef rhan uchaf stryd fawr Merthyr. Llun gan Morgan Owen.

Afraid dweud, ceir cymdeithas a diwylliant cadarn a neilltuol yn y Cymoedd a ddatblygodd dros gyfnod hir ac sy’n hyderus a diamwys ei Gymreigrwydd; nid yw, fodd bynnag, yn cydymffurfio â golygwedd y diwylliant Cymraeg poblogaidd. Y pwynt pwysig fan hyn yw nad yw pobl ddi-Gymraeg y Cymoedd wedi dewis pa iaith a etifeddasant; lluniasant ddiwylliant Cymreig o’r adnoddau oedd ar gael iddynt. Yn ieithyddol, golygai hynny Saesneg Cymreig y Cymoedd i lawer iawn o bobl yn ddiweddarach, am na throsglwyddwyd y Gymraeg iddynt. Wrth gwrs, cafodd rhai, fel minnau, gynnwys y Gymraeg hefyd, lle cafodd ei throsglwyddo, ac mae siaradwyr newydd yn codi o hyd wrth i bobl ddysgu'r iaith ac ailafael yn eu hanes neu fynychu ysgolion Cymraeg. Ceir darlun cymhleth yn hyn o beth, ond dyna yw diwylliant y Cymoedd: nid yw’r ffaith nad yw’r Gymraeg yn fwyafrifol yn atal y posibilrwydd o ddiwylliant Cymraeg cyflawn yno.

Efallai y bydd rhai yn dweud taw'r hyn a amlinellaf yma yw diwylliant Cymreig, nid Cymraeg, ond anghywir fyddai hynny. Mae’r Gymraeg yn rhan o wneuthuriad cymdeithas y Cymoedd, ac roedd yn iaith gymunedol hyd nes dechrau’r 20fed ganrif ym Merthyr, er enghraifft. Os yw’r iaith yn perthyn i bawb fel iaith Cymru, y mae’r Cymoedd, o reidrwydd, yn cyfranogi o ddiwylliant Cymraeg – ond nid y diwylliant a adwaenir gan amlaf gan y rhan fwyaf o siaradwyr yr iaith. Mae yna ddiwylliant Cymraeg lle bynnag y bo pobl sy’n mynegi eu hunain drwy gyfrwng y Gymraeg: dyna yw rhagamod diwylliant Cymraeg, nid cyfres o osodiadau hollgyffredinol a hollgofleidiol y dylid eu derbyn yn ddigwestiwn (pwy sy’n eu pennu?) nac ychwaith unrhyw ‘hanfod’.

Dyma felly ateb syml i’r cwestiwn parthed ‘y diwylliant Cymraeg’: nid oes un, ond nifer. Yn anochel, bydd mynegiant o ddiwylliant Cymraeg yn y Cymoedd yn ymateb i amodau unigryw'r ardal ei hun. Bydd felly'n rhan o frithwaith o ddiwylliannau Cymraeg, yn rhannu gofod a chyd-destun diwylliannol ehangach â Saesneg o fath arbennig, a fowldiwyd gan y Gymraeg ei hun. Ar drawiad, dyna oddiweddyd y meddylfryd gwarchae.
 

Hen Dŷ Cwrdd, Cefn Coed y Cymer, Merthyr. Llun gan Morgan Owen.

Mae cynifer o bobl o fewn y diwylliant Cymraeg yn credu, fe ymddengys, fod rhaid i bob darn o gelf neu lên fod yn rhan o ‘frwydr’ dros yr iaith, a bod pob gweithred Gymraeg yn ymryson dirfodol dros haniaethau mawr ‘y genedl’, ‘rhyddid’, ‘urddas’: ‘undod’. Credant felly, am y rhesymau a drafodais uchod, fod y diwylliant Cymraeg yn beth unigol, unedig y mae’n rhaid ei warchod rhag ei ddarnio. Wrth gwrs, mae sail i’r frwydr iaith, ond nid pan dry’n baranoia diwylliannol rhyfedd fel hwn. Yn ôl y cyfryw safbwynt, rhyw glais neu graith neu archoll yw’r ffaith taw Saesneg (Gymreig!) yw iaith arferedig y Cymoedd heddiw.

Nid ing na galar oedd fy magwraeth; mae bywyd Cymreig y Cymoedd yn fyw ac yn iach. Yn amlwg, mae’r Gymraeg yn hynod bwysig imi, ond mae’n rhan o wead brith fy nghefndir. Gellir cydnabod hynny a pharhau ar yr un pryd i ymdrechu dros sail gadarn a hyfyw i’r iaith ym mhobman – gan gynnwys y Cymoedd – a hynny heb wrthddywediad. Yn ddiweddar, rwyf wedi dechrau ail-ymagor i ddarlun cymhleth fy magwraeth ddiwylliannol a gweld popeth mewn cyd-destun ehangach. Ar yr ymylon diwylliannol hyn mae creadigrwydd yn byrlymu ynof. Mae’r Gymraeg fel cyfrwng yn beth amgenach imi na ‘brwydr’ yn unig; cyfrwng ydyw imi fynegi'r profiadau hyn ac yn wir bob profiad, nid meta-destun sy’n ei drafod ei hun a’i barhad a’i farw yn ddi-baid. Dichon fod llesgedd llawer o’n llên yn deillio o feddylfryd gwarchae cymaint o’r diwylliant Cymraeg.

Felly fy mhwynt yw hwn: nid ymguddiaf; ni chuddiaf fy nghefndir. Nid un etifeddiaeth unfath yw Cymru. Cymraeg yw iaith fy mynegiant, ond gwahanol iawn yw seiliau’r profiadau a rydd fod i fy mynegiant o gymharu â llawer sy’n ymhél â llenyddiaeth Gymraeg. Rwy’n falch o hynny. O hyn allan, ymwrthodaf â’r pwysau i gydymffurfio â rhyw ddiwylliant Cymreig sy’n estron yn aml iawn i mi. Mae lluosogedd o ddiwylliannau Cymreig a Chymraeg. Rydyn ni oll yn gyfoethocach yn ein hamrywiaeth; amrywiaeth yw ein cyflwr cynhenid. Nid oes diwylliant Cymraeg ond diwylliannau Cymraeg.


Morgan Owen yw Bardd y Mis Radio Cymru (Ionawr 2019). 


Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


 

Categorïau:

Morgan Owen, Y Cymoedd, Y Gymraeg

 


Nid y ffaith fod yma ganran is o siaradwyr Cymraeg yn unig sy’n gyfrifol am absenoldeb y Cymoedd yn yr amgyffred poblogaidd o’r diwylliant Cymraeg, ond rhywbeth dyfnach a hanfodol ideolegol

Dyddiad cyhoeddi: 16·01·2019

Yn ôl i frig y dudalen

Cyfansoddi


John Emyr

Casglodd Glyn ei fagiau gan sylwi, drwy ffenest ei lofft, fod llechi’r toeau yn sych. Hyd yma, ar y bore hwn o Fai ym Mangor Uchaf, roedd y tywydd o’i blaid. Er iddo glywed chwyrniadau ffrae atmosfferig y cymylau uwchlaw’r Carneddau neithiwr, roedd…

Adolygu


Angharad Penrhyn Jones

Mae’r profiad o ddarllen y gyfrol hon fel eistedd ar soffa yn gwrando ar ferch alluog, ddidwyll a byrlymus yn adrodd hanes ei bywyd, paned mewn un llaw, hancesi papur mewn llaw arall, a digon o chwerthin. Mae’n lyfr mor hawdd ei ddarllen ar un ystyr, mor agos at rywun, y…

Cyfansoddi


Osian Wyn Owen

Pobol coleg fu’n clegar ‘nad oes byd na phlaned sbâr wedi hon’ a bod ‘i wedd yr haf gynhesrwydd rhyfedd ... 

Cyfansoddi


Rhiannon Ifans

Piciodd Ingrid i'r ardd i dorri cabatsien. Roedd hi’n ddychryn o oer, ac asgwrn ei chlun yn boen byw rhwng y gwynt main a’r eira’n pluo’n ysgafn o gwmpas ei phen. Ers dyddiau roedd yr awyr dywyll fel petai’n dal ei hanadl, yn gyndyn o ryddhau mwy na sgeintiad…

Cyfansoddi


Carl Chapple

Yn 2013 y dechreuodd fy niddordeb mewn dawns. Cynigiodd John Livingston, dawnsiwr a hen ffrind i mi, eistedd ar gyfer llun. Roeddwn yn gweithio ar gyfres o bortreadau o berfformwyr llwyfan ar y pryd – comedïwyr ac actorion yn bennaf ... 

Dadansoddi


Angharad Closs Stephens

Dros y misoedd diwethaf aeth llawer ati i baentio ‘Cofiwch Dryweryn’ ar waliau ac adeiladau ar hyd a lled Cymru. O blith y rhai a welais i – mewn mannau cyhoeddus ac ar blatfform trydar – mae’r arwyddion fel petaent yn golygu amrywiol bethau i wahanol bobl. Gwelais un ag…

Adolygu


Dylan Huw

Yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst eleni, crëwyd yr hyn a alwyd yn AGORA, o hen ddrysau a gyfrannwyd gan bobl Sir Conwy. Gofod canolog, cyhoeddus ac agored yn ninas-wladwriaethau Hen Roeg oedd yr αγορά yn wreiddiol; mae’r gair hefyd yn golygu 'cynulliad' neu 'man cwrdd'. Paentiwyd y…

Adolygu


Esyllt Lewis

Pnawn glawog, pawb bach yn fflat, naws oer yn yr awyr. Dydd Sadwrn ola’ Steddfod. Trodd sudd yr wythnos yn byllau mwdlyd dan draed. Brysiais draw o’r maes i Oriel Ffin y Parc cyn i’r falen Eisteddfodol allu gafael ynof. Dyma ofod gogoneddus yn y goedwig, yn gynnes ynghanol…