Dadansoddi

Cofio Meic Povey

'Dos at y morgrugyn, ti'r diogyn'


Cefin Roberts

Amser darllen: 10 munud

12·12·2017

‘Dos at y morgrugyn, ti’r diogyn, edrych ar ei ffyrdd ef, a bydd ddoeth.’  Diarhebion 6:6

Mae’r theatr yng Nghymru wedi colli dyrnaid creulon o’i mawrion eleni ac roedd clywed am farwolaeth Meic Povey yr wythnos ddiwethaf yn waldan greulon arall i bawb ohonom sy’n caru’r theatr Gymraeg. Roedd Meic yn actor, awdur, cyfaill a Chymro i’r carn, ac un a fu’n dyfal osod sylfeini’r theatr Gymraeg yn ddiflino trwy gydol ei yrfa. Fu neb mor ddiwyd â Meic yn nhîm cynllunio’r sylfaen hwnnw.

Yn hogyn yn ei arddegau, fe ddaeth i Fangor i fod yn rhan o’r gymuned theatrig a oedd yn ffynnu yma yn y gogledd ar y pryd. Cychwynnodd yn llefnyn a oedd yn fodlon brwsio llwyfannau, tywallt paneidiau a chario setiau – unrhyw beth i gael bod yn rhan o’r cynnwrf oedd eisoes wedi rhyw ddechrau ystwyrian yn Y Tabernacl, deorfa theatrig yr hen Gwmni Theatr Cymru gynt. Ond buan iawn y darganfyddwyd fod gan Meic dipyn mwy o gyfraniad i’w wneud na tharo dŵr berw ar ddail te. Wedi iddo ddod yn rheolwr llwyfan ar ambell gynhyrchiad, dechreuodd sgriblan syniadau a chyn pen dim roedd yn dyfeisio sgriptiau a dramâu a fyddai, cyn hir, yn cael eu llwyfannu’n genedlaethol.

Meic Povey gyda Christine Pritchard a Cefin Roberts ar set y gyfres deledu Dim ond Heddiw

Pan oeddwn yn fyfyriwr yng Ngholeg y Drindod dwi'n cofio mynd i weld Ian Saynor a Stewart Jones yn perfformio’r Cadfridog, un o ddramâu cynharaf Meic. Mi wyddwn bryd hynny fod gennym lais yn y theatr Gymraeg a oedd yma i aros. Llais cwbl newydd ond eto’n meddu ar y ddawn i'n gwneud ni i gyd deimlo bod yna dalp bach ohonom ninnau yno’n rhywle yn rhan o’i greadigaethau. Hyd yn oed heddiw pan fydda i’n gweithio ar ddarnau o’i waith hefo disgyblion yr ysgol, gall bob un o’r actorion ifanc uniaethu rhywfaint ag unigrwydd, ing, colled, angerdd neu rwystredigaeth ei gymeriadau lliwgar. Llwyddodd i roi brawddegau bachog, beiddgar a threiddgar yng ngenau’r dyn cyffredin heb golli naturioldeb na’i ffraethineb gwerinol; a thrafod pynciau dyrys mewn iaith bob dydd yr oedd pawb yn ei deall. Creodd theatr o’r radd flaenaf mewn arddull hygyrch gan gyfuno dwyster a digrifwch ar yr un pryd. Clyfar!

Y Pibydd Brith yn y brifddinas

Wedi imi dderbyn rhan yn un o’i gyfresi teledu cynharaf, sef Dim Ond Heddiw fe ddaethom yn ffrindiau agos ac roedd drws cartref Meic a Gwenda, ei wraig, ar agor led y pen i Rhian a minnau bob tro yr oeddem yn gweithio yng Nghaerdydd. Pan ddarllenais yn ei hunangofiant fod y cyfnod lle bu'n gweithio ar y gyfres hon yn un o’r rhai hapusaf a gafodd yn y diwydiant teledu, mi fu bron i mi â gweiddi ‘Amen!’ dros y tŷ. Roedd y gyfres ei hun yn llwyddiant mawr ar y pryd, ond mi roedd hefyd yn gychwyn ar gyfeillgarwch a gyfoethogodd fy ngyrfa mewn sawl ffordd. Roedd Meic fel magned i bawb ohonom a’i ffraethineb, fel ei haelioni, yn ddi-ball. Os oedd Meic yn ei hanelu hi am y clwb am ryw ‘un bach’ ar ôl ffilmio, yno y byddem ninnau’n ei ddilyn ac yntau fel rhyw Bibydd Brith yn hudo ei giwed i noson arall o rialtwch pur. Roedd y teulu newydd symud i Plasturton Gardens ar y pryd ac roedd Meic, yn ôl ei eiriau o ei hun, yng nghanol antur fawr ei fywyd. Dyma ddyfyniad o’i hunangofiant yn trafod y cyfnod hwnnw:

Roedd cyfnod Dim ond Heddiw yn un hapus dros ben. Fel teulu, roedd ganddom gartra o’r diwedd. O ran gyrfa, fedrwn i ddim dymuno am well criw o bobl i gydweithio â nhw. Hen dro na fyddwn i wedi medru potelu’r cyfnod, fel medrwn i gymryd ffroeniad bach rŵan ac yn y man, fel bo’r galw, ac atgoffa’ fy hun o ddyddiau gwell. Ond nid fel‘na ma hi’n gweithio.

Yn sgil y gyfres mi ges i hefyd y cyfle i ddod i 'nabod ei bartner, Gwenda, un o’r bobl ddigrifaf a difyrraf imi fod yn ei chwmni erioed. Os oedd Meic yn ddoniol yn mynd trwy’i bethau yn y Clwb yn HTV, roedd double act y ddau yng nghwmni ei gilydd yn ddoniolach fyth, am y gorau yn adrodd eu straeon a’r naill a’r llall yn un corws mabinogaidd o helyntion a hanesion. Ac er na allwn ni, fel y dywed Meic, botelu unrhyw gyfnod o’n bywydau, dwi’n falch fod yr atgofion hynny wedi eu cerfio ar fy nghof. Dwi’n dal i glywed Gwenda’n siarad hefo fi bob tro bydd un o gymeriadau benywaidd Meic yn agor ei cheg ar lwyfan. Rhythmau Gwenda dwi’n eu clywed bob gafael. Ei ffordd fachog hi o ymateb sydd wedi ysbrydoli sawl clasur o linell gan rai o gymeriadau eiconig Meic.

Meic Povey gyda Cefin Roberts ar set y gyfres deledu Dim ond Heddiw

Dwi hefyd yn hynod falch mai un o’i ddramâu gorau, sef Yn Debyg Iawn i Ti a Fi oedd fy nghynhyrchiad cyntaf i’r Theatr Genedlaethol nôl yn 2004. Fedrwn i ddim meddwl am well ffordd o lansio’r cwmni newydd na thrwy lwyfannu drama gan yr awdur sydd wedi cynhyrchu deunydd i’r theatr Gymraeg a fydd hefo ni am genedlaethau i ddod.

Y ddrama deledu

Mae ‘na nifer o’i gydweithwyr eisoes wedi tystio i gyfraniad anferth Meic i’r ddrama deledu ac yn sicr fe gynhyrchodd berlau i’r cyfrwng hwnnw hefyd. O’i ddyddiau cynnar yn rhan o dîm sgriptwyr Pobol y Cwm i’w gyfresi diweddaraf, ni fu gennym awdur teledu mwy cynhyrchiol a llwyddiannus â Meic yma yng Nghymru. Ond yn ei ddramâu llwyfan y bydd ei lais yn canu i’r oesoedd a ddêl, dwi’n eithaf siŵr o hynny. Er cystal ei gyfresi i S4C, byrhoedlog yw natur y ddrama deledu, ac wedi un neu ddau ailddarllediad, hel llwch ar silff yn rhywle yw ffawd pob un. Mae pobl ifanc heddiw’n gyfarwydd iawn â Diwedd y Byd ond pwy o’r to iau fyddai wedi clywed am Dim Ond Heddiw, dudwch chi? Mae mwy o draed i ddrama lwyfan dda a diolchwn i’r nefoedd na fu i Meic droi ei gefn ar yr hen chwaer dlawd theatrig. Mae wedi ychwanegu’n helaeth at y silff honno - na fydd yn hel llwch tra pery’r theatr yng Nghymru yn fyw ac yn iach.

Tanwydd creadigol Nant Gwynant

Roedd y llwyfan yn gyfrwng pwysig iddo hyd y diwedd ac fe ddudwn i, heb betruso, mai yno y cynhyrchodd beth o’i waith gorau hefyd. Mentrodd fynd i’r afael â phynciau astrus a hynny heb orfod symud rhyw lawer o’i filltir sgwâr enedigol yn Nant Gwynant am ei gefnlen ddramatig; mae rhythmau ei ddeialog yn tyfu mor naturiol â’r grug o bridd y cwm lle cafodd ei fagu. Er ei fod wedi symud i Garndolbenmaen i fyw pan oedd yn ifanc iawn ac wedyn i Gaerdydd am y rhan helaethaf o’i oes, nôl i Nant Gwynant yr âi ei ddychymyg a’i glust yn amlach na pheidio wrth roi cig a gwaed ar ei gymeriadau. Os nad yn ddaearyddol bob amser, i’r cwm hwnnw, dan gysgod dramatig y mynydd llwyd, y crwydrai am ei ysbrydoliaeth a’i awen. Nant Gwynant oedd tanwydd creadigol Meic bob amser ac roedd yn ein hatgoffa’n wastadol o hynny mewn sgwrs, seminar a darlith. Ia, hyd yn oed darlith!

Er i Meic adael yr ysgol yn ifanc iawn fe’i gwahoddwyd yn rheolaidd i gynnal sgyrsiau i fyfyrwyr Cymraeg yn ein prifysgolion i drafod ei waith. Fe’i gwnaed yn gymrawd sawl un o’r colegau hynny ac mae ei sgriptiau yn cael eu trin a’u trafod yn gyson yng nghynteddau’n sefydliadau academaidd. Yn wir, does dim modd trafod yr hanner can mlynedd diwethaf yn nhwf y theatr yng Nghymru heb osod Meic yn rhan annatod o’r darlun.

Hen forgrugyn diwyd Llyfr y Datguddiad

Ond llwybr bywyd oedd coleg Meic. Â’i glust fain a’i lygaid praff, fe dramwyodd yr hen ddaear yma â phob un o’i synhwyrau ar waith o fore gwyn tan nos; cyrhaeddai ei antena theatrig dipyn pellach nag antena y rhan helaethaf ohonom. Gallai Meic synhwyro stori dda o hirbell a chai’r blaen ar y rhan fwyaf ohonom a fyddai’n cnoi’n beiros yn llawer rhy hir ar ryw destun a ddaliai’n bryd. Byddai Meic wedi gwau ei blot cyn i’r gweddill ohonom fentro sgwennu gair. Roedd fel yr hen forgrugyn diwyd hwnnw’n Llyfr y Datguddiad; doedd yr un owns o ddiogi yn perthyn iddo. Roedd ganddo hefyd ddisgyblaeth lem ar ei oriau creadigol ac fe ddylanwadodd hynny ar nifer ohonom a geisiodd ddilyn yn ôl ei droed fel sgriptwyr a dramodwyr Cymraeg. Mae ein dyled i Meic yn enfawr am resymau niferus.

‘Yn bora dwi’n gweithio ora,’ fydda fo’n ei ddweud yn gyson. ‘Ond fedri di ddim sgwennu mwy na chwartar awr ar y tro chwaith, sdi. Rhaid ti gym’yd brêc bob hyn a hyn ne mi sgwenni lot o rybish.' Gneud panad, picio i nôl papur, ffag, galwad ffôn. Nôl wedyn ac ailafael ynddi. Dyna fyddai ei batrwm boreol. Roedd yn grediniol fod angen cilfan gyson ar sgwennwr, seibiant i’r awen a chyfle i ail-lenwi pot inc creadigol yr ymennydd. Nid na fyddai’n dal ati’n hwyrach i’r pnawn pe bai’r syniadau’n llifo, ond i Meic, roedd y bore’n gyfnod pwysig. Tueddai i wneud ei waith ymchwil a mân nodiadau weddill y diwrnod ac fe wnâi’n siŵr fod digon o amser ar ôl i’w deulu a’i ffrindiau. Fe weithiai’n galed ond roedd o hefyd, a diolch byth am hynny, yn chwarae’n galed.

Roedd ei ddisgyblaeth yn rhyfeddol a bum yn dyst i hynny ar sawl achlysur. Pe digwyddwn alw a Gwenda’n dal yn ei gwaith a Meic yn sgwennu fe alwai o’r llofft yn ei swyddfa ar lawr uchaf eu cartref ym Mhlasturton Gardens: ‘Chdi sy’ ‘na Cef? Ti’n gwbod lle ma’r coffi a’r llefrith; lawr mewn rhyw hannar awr. Helpa dy hun.’ Hael hyd yr eithaf ond yn gwbl driw i’w grefft yr un pryd. Doedd fiw i neb dorri ar draws ei oriau gwaith ac felly y bu hi hyd y diwedd yn deg.

Pan gychwynnais ar fy swydd fel Cyfarwyddwr Artistig y Theatr Genedlaethol mi anfonais wahoddiad at bob dramodydd Cymraeg y gwyddwn amdanyn nhw i ddanfon brasluniau o ddramâu imi. Ces ymateb gyda throad y post gan ddau, sef Aled Jones Williams a Meic – dau o’n dramodwyr prysuraf, mae’n siŵr gen i. Doedd o byth bron yn hesb, ac fe wyddom i gyd y byddai wedi cyfrannu llawer eto petai o wedi cael llonydd i wneud hynny. Ond nid felly roedd pethau i fod, mae’n rhaid. Hen ddiweddglo digon giami ac anodd ei ddirnad gafodd Meic gan yr Awdur na wyddon ni’n iawn pwy ydi o. Tro yn y gynffon a honno’n plesio 'run enaid byw yn y gynulleidfa. Dwi’n siŵr y byddai Meic wedi ailddrafftio honna dipyn gwell tasa fo wedi cael 'i ddeud. Ond chaiff 'run ohonon ni sgriptio’n golygfa olaf waeth pa mor glyfar ydan ni. Felly dwi am orffen y pwt bach yma trwy ddyfynnu geiriau Rhi o’r ddrama Diwedd y Byd, a gadael i Meic dynnu fy llith i ben yn ei eiriau dihafal ei hun. Yma mae Rhi wedi cael llond bol ar ei ffrind Mags, sydd bron yn ofni ei chysgod ei hun heb sôn am ddechrau yn yr ysgol fawr ddiwedd yr haf:

Ma’ pawb yn gorfod marw, be s’an ti?! Mae o’n deud yn y Beibil, a tasa ti wedi gwrando ar Mus Olifyr yn yr ysgol Sul yn lle chwara lol efo Grês Penmaen Brith, mi fysat ti’n gwbod hynny. Mi farwodd Iesu Grist ‘ndo, heb neud ffys, ac mi farwodd nhaid i, ac mi farwodd Mair Polio, ac mi fydd rhaid i ti neud hefyd, fel pawb arall!

Felly roedd Meic yn ei gweld hi, greda i. Neu tybed ai Gwenda y gwelodd hi felly? Neu fallai mai llinell a lefarwyd gan Gwenda oedd honno rywdro a Meic wedi ei hanfarwoli yn un o’i glasuron? Does dim modd inni ddod o hyd i’r ateb i hynny bellach wrth gwrs, ond mi gawn ni lond gwlad o sbort yn trio dyfalu.

Nos da Meic, a chofia ni at Gwenda . . .


Cefin Roberts oedd Cyfarwyddwr Artistig cyntaf Theatr Genedlaethol Cymru (2003-2009). Mae wedi ennill y Fedal Ddrama a’r Fedal Ryddiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac yn awdur pump o gyfrolau, gan gynnwys dwy nofel, cyfrol o hwiangerddi i blant a chasgliad o lythyrau.


Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


 

Categorïau:

Teyrnged, Theatr

 


Fedri di ddim sgwennu mwy na chwartar awr ar y tro chwaith, sdi. Rhaid ti gym’yd brêc bob hyn a hyn ne mi sgwenni lot o rybish

Dyddiad cyhoeddi: 12·12·2017

Yn ôl i frig y dudalen

Dadansoddi


Simon Brooks

Gan Louie y clywais i’r ymadrodd gyntaf. Yn y Ship neu’r Aussie roeddwn i, efo criw Llais Gwynedd fwy na thebyg, yn y dyddiau braf hynny cyn i bethau suro rhyngom ar ôl i mi gefnogi’r ymgeisydd anghywir mewn etholiad ar sail rhywbeth mor…

Cyfansoddi


Manon Steffan Ros

Dyma Mam yn fy ngyrru fi allan bore 'ma am ei bod hi'n ddiwrnod braf, a deud, 'Rhoswch allan nes bod hi'n amser swpar, lle bo' ti dan draed'. A dyma Now ac Edwin a finna'n mynd lawr i chwaral bach efo brechdana' mewn papur pobi, a dyna lle roeddan ni…

Dadansoddi


Daniel G Williams

‘Iaith carreg fedd’ oedd y Gymraeg i Michael Stephens yn hafau ei arddegau pan fyddai'n gweithio fel torrwr beddau yn ei Drefforest enedigol. Ymhen amser fe drodd Michael yn Feic, a’r iaith ‘yn iaith carreg fy aelwyd’. Disgrifiodd ei hun yn un o blant ‘y Gymru ddiwydiannol,…

Cyfansoddi


Angharad Price

Pwy sy’n ddigon hen i gofio’r ogla? Blas rwber yr awel. Ceir yn ciwio i fynd i mewn. Y sentri sgwâr a llinell syth y bar. Tonnau trionglog y to – yn ymestyn draw hyd dragwyddoldeb. Ac enw mawr y ffatri ar y brig:…

Cyfansoddi


Angharad Price

Mae gan yr Alban Ben Nevis a chan Gaernarfon Ben Twthill. Fan hyn yr oedd y gaer gyntaf. Fan hyn, os byth, y bydd yr olaf. Dwrn caled o graig yn codi yn ei noethni dros amlinell afreolus y dre.

Dydi…

Dadansoddi


Angharad Closs Stephens

Yn Abertawe y mae gwaith awyr agored mwyaf yr artist gwleidyddol Jeremy Deller. Ef hefyd a gynlluniodd ‘We’re here because we’re here’ (ar y cyd â Rufus Norris, cyfarwyddydd Theatr Genedlaethol Pydain) – gwaith sydd yn cofiannu can mlynedd ers brwydr y Somme. Fel rhan o’r perfformiad hwnnw ar 1 Gorffennaf 2016, gwelwyd…

Adolygu


Ruth Richards

Maen nhw'n edrych fel pâr o hipstyrs o ddwy wahanol genhedlaeth. Yr hynaf yn farfog (gafrog hefyd, fel mae'n digwydd), a'r llall yn eiddgar a braidd yn betrusgar dan ei gýt powlen. Mae'r ddau yn syllu arnom drwy'r math o sbectolau a ffafrir, hyd heddiw, gan bobl…

Cyfansoddi


Elin Haf Gruffydd Jones

Mae sefyllfa gyfredol Catalunya wedi bod yn fyw yn ein newyddion ers Hydref 2017. Gwelsom olygfeydd trawiadol o’r refferendwm dadleuol ar annibyniaeth drwy sgriniau gwefannau cymdeithasol, y cyfryngau darlledu a’r wasg. Cyhoeddodd y dyddiolyn ar-lein Vilaweb gyfres o gerddi gan feirdd ‘Proclames de Llibertat’ (Datganiadau…