T H Parry-Williams


UGAIN O GERDDI

Gwasg Aberystwyth, 45tt, £7, 1949

T H Parry-Williams


LLOFFION

Y Clwb Llyfrau Cymreig, 99tt, ail law, 1942

Angharad Price


FFARWÉL I FREIBURG. CRWYDRIADAU CYNNAR T H PARRY-WILLIAMS

Gomer, 464tt, £25, 2013

Sigmund Freud; cyf. David McLintock


The Uncanny

Penguin Modern Classics, 240tt, £10.99, 1919; 2003

Dadansoddi

Drysu peth ar y plan


Llŷr Gwyn Lewis

Amser darllen: 12 munud

30·04·2019

We are making a new world gan Paul Nash, 1918 (Tate/Imperial War Museum)


Ni fûm i erioed yn Oerddwr, er dyheu lawer tro am gael mynd. Mi es cyn belled, unwaith, â throi trwyn y car i lawr o Feddgelert at Bont Aberglaslyn, gan ddal i fynd am chydig cyn arafu wrth ambell dro i fyny tua’r dde drwy’r goedwig drwchus. Ond ddois i ddim i stop yn llwyr, a dal yn fy mlaen i gyfeiriad Tremadog wnes i, nes dod o hyd i adwy i allu troi’n ôl am y mynyddoedd, a thrwy ganol y rheini wedyn i Gaernarfon at dŷ fy rhieni.

Mi wn am ambell un a fedr dystio bod cael profi’r wefr o gyffwrdd ym mlaenlythrennau T H Parry-Williams ei hun wedi’u cerfio i’r distiau yn ddigon i wneud iawn am yr ymlafnio i fyny drwy’r coed a’r gors. Ond nid meddwl am y dynfa a’m rhwystrodd rhag mentro y diwrnod hwnnw; yn hytrach rhyw fath o ofn at beth a ffeindiwn, beth a deimlwn — neu efallai, beth na ffeindiwn ac na theimlwn — yn y lle ‘rhyfedd ac ofnadwy’ hwnnw.

Tueddwn i ddefnyddio geiriau fel ‘noddfa’ a ‘dihangfa’ wrth sôn am arwyddocâd Oerddwr i THPW, sef y ffermdy a oedd yn gartref i chwaer ei fam a’i gefnder, y bardd William Francis Hughes neu Willie Oerddwr. Mae hynny’n enwedig o wir oherwydd iddo fynd yno i aros am gyfnodau go faith yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, ac yntau’n profi casineb o sawl cyfeiriad oherwydd ei safiad fel gwrthwynebydd cydwybodol. Ond er y meddyliwn yn aml mai mynd i Oerddwr er mwyn cael mynd yn ôl at y sicr, y cyfarwydd, y cartrefol, a’i ddaearu’i hun eto ym mhridd ei gynefin a wnâi THPW, mae ei ddull o ysgrifennu am y lle (rai blynyddoedd yn ddiweddarach, rhaid addef) yn awgrymu nad yw cyn symled â hynny. Fe ellid disgrifio ei ganfyddiad yntau o ddirgelwch a rhyfeddod Oerddwr fel profiad unheimlich.

Mae’n debyg bod Freud yn un o’r rhai cyntaf i archwilio’r unheimlich yn fanwl a cheisio’i ddiffinio. Fe’i cyfieithir i’r Saesneg gan amlaf fel yr uncanny. Daw’r heimlich o’r gair Almaeneg heim, ‘cartref’, ac yn heimlich mae’n golygu rhywbeth fel ‘cyfarwydd’ — cartrefol, efallai. Un o ystyron unheimlich felly yw anghyfarwydd, neu anghartrefol. Ond mae’r gair heimlich hefyd wedi dod i olygu rhywbeth cuddiedig neu ddirgel, ac felly mae rhyw gynodiad yma o rywbeth yn cael ei ddatgelu neu ei ddatguddio. Yn y Saesneg uncanny, y tarddiad yw ken, gwybod; felly tadogir yr anwybod, rhywbeth y tu hwnt i’n gwybod neu’n deall, ar y cysyniad hefyd. Rhywbeth sy’n greiddiol i’r unheimlich i Freud yw ei fod yn cynnwys o’i fewn ei wrthwyneb yn ogystal, ac felly’n creu rhyw fath o ddyblu neu wrthgyferbyniad.

Yn fras, y profiad unheimlich yw’r profiad o ddod ar draws yr anghyfarwydd a’r dieithr, mwyaf sydyn, yng nghanol ac wrth galon y cyfarwydd a’r cynefin, a dyna sy’n ei wneud yn frawychus. Dyna i chi’r déjà vu; neu pan fydd wardrob, ganol nos, yn arswyd o debyg i gysgod person go-iawn; efallai fod rhyw gyd-ddigwyddiad ‘sbwci’ wedi tarfu ar eich diwrnod; neu hyd yn oed rywbeth mor syml ag ias oer yn dod drosoch, rhyw fferru’r gwaed ar ennyd o ddistawrwydd sy’n hel ysgryd ac yn gwneud i chi deimlo, er na wyddoch pam, fod rhywbeth yn rhywle o’i le. Aiff ennyd arall heibio, ac mae’r teimlad yn pasio. Yr hyn sy’n nodweddu’r cyfan ydi eiliad o ansicrwydd, dieithrwch, ac ansadrwydd, a ninnau fel arall yn ddigon cyfarwydd â’n byd ac yn saff o’n pethau. Roedd gan Freud, felly, ddiddordeb mewn profiadau o’r fath, yr amodau a oedd yn eu creu, a’u hymddangosiad a’u rôl mewn llenyddiaeth.

✒︎

Yn Gymraeg, tueddir i gyfieithu uncanny fel ‘annaearol’; a dyna ychwanegu dimensiwn arall eto sy’n cyd-fynd yn bur dda â rhai o gynodiadau eraill yr unheimlich. Nid am ddim rheswm y galwn oriau mân y bore yn oriau ‘annaearol’. A gall yr ‘an-’ hwnnw fod yn negydd neu hefyd yn rhagddodiad cadarnhaol – fel yn Annwfn, angerdd, annedd. Y mae’r ‘an’ ei hun felly fel petai’n annog ystyron pegynnol, gwrthgyferbyniol o fewn un gair. Nid am ddim rheswm yr ydw innau’n cysylltu’r unheimlich â THPW, brenin y ddeuoliaeth, yr hanner-yn-hanner heb ddim yn iawn, yr ansicrwydd a’r ansadrwydd a’r pendilio. Ef yw ein hawdur unheimlich par excellence, a rhwng ei drwytho yn yr Almaeneg a’i diwylliant, a’i ddiddordeb mewn seicdreiddiad a damcaniaethau Freud, anodd gen i dybio nad oedd wedi dod ar draws y syniad ar ryw ffurf neu’i gilydd. Mae ‘annaearol’ yn air a arferir yn gyson gan THPW ei hun, ac mae’n air pwysig wrth iddo fynd ati i geisio esbonio gafael ryfedd Oerddwr arno. Nid oes unlle yn naearyddiaeth lenyddol THPW sy’n ymgorffori’r unheimlich gystal ag y mae’r man cyfriniol hwn.

Crynhoir y profiad o fynd i Oerddwr yn y rhigwm o’r un enw a gyhoeddwyd yn Ugain o Gerddi (1949). Wrth ddringo at y lle, daw ‘rhywbeth i rithio trem ac i rinio gwaed’. ‘Nid daear yw’r ddaear yno’, sy’n ein gosod yn syth, wrth gwrs, yn nhiriogaeth yr annaearol: ‘[m]ae ansylweddoldeb dan donnen pob cae a ffridd.’ Gan mai dianc yno oddi wrth holl wewyr y Rhyfel Mawr yr oedd, oni fyddai disgwyl iddo gyrchu rhywle lle gallai deimlo’r graig yn solet dan ei draed, yn hytrach na theimlo ‘rhyndod nad yw o’r byd hwn yn oerni’r dŵr’, fel a gafodd yma? Yn y cwpled olaf rhydd THPW inni grynodeb o’i brofiad yno: ‘Wrth lunio’r byd, fe ddryswyd peth ar y plan, – / Mae nodau annaearoldeb yn naear y fan.’ Daw’r unheimlich i darfu ac aflonyddu ar gwrs naturiol pethau. Yn union ddaear y lle, dyma’r annaearol yn dod i’n trwblo. Pwy, wir, yng nghanol gwewyr meddwl a chasineb enbyd y Rhyfel Mawr, a fyddai’n mentro encilio i le fel hwn? Dyma droi wedyn at yr ysgrif o’r gyfrol Lloffion (1942) sydd eto’n dwyn yr un teitl, ‘Oerddwr’, ac mae’n werth oedi ennyd, fel y gwna THPW ei hun, dros yr enw hwnnw. Sylwa fod rhywbeth dieithr a chythryblus hyd yn oed yn elfennau cyfarwydd yr enw Cymraeg — hynny yw, ‘dŵr’ ac ‘oer’ – o’u cyfuno yn y drefn ‘oer + dŵr’, sy’n ‘peri anesmwythyd i rai anghyfarwydd’. Ac fel pe na bai yr ad-drefnu cystrawennol hwnnw ynddo’i hun wedi ‘annaearoli’ digon ar enw’r lle, wele THPW, fel y tystia Angharad Price yn ei chyfrol Ffarwél i Freiburg (2013), yn mynd ati yn ei ddyddiadur i’w ddieithrio ymhellach drwy ei fedyddio (!) yn ‘Kaltwasser’. Fel yr awgryma Price, ‘mae rhywbeth herfeiddiol yn y weithred o Almaeneiddio’i ddyddiadur pan oedd y rhyfel yn erbyn yr Almaen yn ei anterth, yn enwedig gan ei fod yn newid enwau’r lleoedd a’r bobl a oedd agosaf at ei galon.’ Chwarae mig rhwng y cartrefol a’r anghartrefol a wna wrth wneud hyn; yn yr anghyfarwydd hwnnw y mae’r cyfarwydd braf a oedd wedi rhoi cymaint pleser iddo yn ieuengach, ond a oedd wedi ei wadu iddo oherwydd y rhyfel – sef cael ei fynegi ei hun yn yr Almaeneg. Dyma brofiad unheimlich o ganfod y cartrefol yng nghanol yr anghartrefol, gan grisialu’n union beth a olygai Oerddwr iddo. Fel y sylwodd Angharad Price, nid i’r cartref ‘go iawn’, Rhyd-ddu a Thŷ’r Ysgol, y mynnai ddychwelyd yn y cyfnod hwn, ond i’r cartrefol-anghartrefol: Oerddwr.
 

Wood on the downs gan Paul Nash, 1930 (Tate/Imperial War Museum)

 

Oherwydd er mor gyfarwydd yw Oerddwr i THPW, mae hefyd yn lle sy’n ymddieithrio rhagddo o’r newydd bob tro: ‘Yr oedd cyrraedd Oerddwr ar unrhyw adeg o’r dydd yn brofiad od a dieithr hefyd.’ Dro arall, ‘Clywswn gymaint am y pethau dieithr oedd yno ac oedd wedi digwydd yno o dro i dro [...] yr oedd awyrgylch byd-arall o gwmpas y lle – rhyw elfen naturiol-annaturiol.’ Gymaint y mae’r unheimlich i’w deimlo yn Oerddwr, mae’n effeithio ar sylwedd y tir dan draed. Gan atseinio cwpled clo’r rhigwm, dywed y traethydd: ‘Y mae holl ddaear y lle yn drwm gan annaearoldeb.’ Mae’r unheimlich fel petai’n tanseilio’r syniad cysurus confensiynol o ddychwelyd at wreiddiau, at fro mebyd, at filltir sgwâr. Nid profiad cysurus mo’r dychwelyd adref mewn cerddi adnabyddus eraill o’i eiddo chwaith. Yn ‘Tŷ’r Ysgol’, daw’r ‘ddau sydd yn y gro’ i aflonyddu ar y presennol. Yn ‘Hon’, y nod yw dianc rhag ‘lleferydd a llên’ ei gyfoedion, ond wrth gyrraedd y cynefin ‘[m]ae lleisiau a drychiolaethau hyd y lle’. Mae’r cartref, mwyaf sydyn, yn anghartrefol – neu efallai mai rhy gartrefol ydyw, a’r gorffennol yn pwyso’n rhy drwm, ac mae ansadrwydd y sylweddoliad hwnnw yn sigo dyn.

Soniais hefyd am yr ystyr arall hwnnw sydd wrth galon yr unheimlich, sef datgelu a datguddio’r hyn a oedd yn guddiedig a dirgel. A sut yr egyr yr ysgrif ar Oerddwr, meddech chi? Wel, drwy addasu’n chwareus eiriau’r emyn: ‘Pan ddatguddir pethau cudd [...] bydd cryn dipyn o waith dadlennu ar ddirgeledigaethau Oerddwr.’ Roedd angen y lle anghysurus-gysurus hwn arno, rhywle a wnâi iddo deimlo fel hyn, er mwyn datgelu ‘dirgeledigaethau’r’ galon. Wedi cyrraedd, deuai rhyw brofiad neu fewnwelediad anghyffredin i’w ran:

[Y]r oedd hi’n werth profi eglurder grisialaidd y gweithgareddau ymenyddiol hynny. Canys dyna oedd eu nodwedd – tryloywder anghyffredin a chlirder annaearol. Gellid, heb rodresu, eu galw’n greadigaethau, a phe bai’n bosibl, yn y fan a’r lle, eu croniclo’n deg mewn geiriau, y mae’n sicr gennyf y byddent yn wreiddiol [...] y mae gweld a sylweddoli unrhyw beth, er symled a chynefined fo, yn hollol glir a thrwyadl bendant â’r ymennydd yn brofiad na all neb ei ddibrisio, – y mae’n beth mor brin mewn bywyd ac yn hanes yr ymennydd.

‘Clirder annaearol.’ Dyna, yn ei grynswth, a gynigia Oerddwr i THPW, a dyna sy’n ei ddenu yn ei ôl yno dro ar ôl tro. Mae arno angen yr ysgytwad hwnnw o ddieithrwydd iasol yng nghanol ac yng nghalon y cyfarwydd er mwyn gallu gweld yn glir, pe bai ond am eiliad. Gweld y ‘cynefin’, ond o’r newydd, a wna. Felly ar adeg o drawma personol a chenedlaethol enbyd, mae’n cyrchu’r ansicrwydd creiddiol sy’n cyffroi ei gyneddfau mwyaf creadigol. ‘Rwy’n dechrau simsanu braidd’ – dyma’r ansadrwydd sy’n esgor ar fewnwelediad a chreadigrwydd, a sgrifennu: gweithred sydd yr un mor goncrit gadarnhaol arhosol â thorri’i enw yn y trawst; gweithred gythryblus hefyd, sy’n tarfu ac yn ‘drysu peth ar y plan’.

✒︎

Nid yn Oerddwr yn unig y mae modd i THPW ymdeimlo â’r unheimlich. Ym mharthau trothwyol, ffinio Drws y Coed i’r cyfeiriad arall o Ryd-ddu, ‘daw i ddyn brofiadau nad ydynt o’r byd hwn [...] Hwynt-hwy [...] ydyw’r agweddau mwyaf diragrith ac anffuantus ar ein dynoldeb.’ Awgrymir mai ar ein mwyaf ansad ac ansicr y cawn y profiadau pwysicaf. Yn ‘Dyfed’, mae daearyddiaeth y sir honno yn ei ddrysu’n llwyr, gan beri iddo fynd ar goll droeon, a honni ‘fod hud ar y lle o hyd’.

Mae ‘Hon’ yn ddifyr gan ei bod, yn fwy na’r un gerdd arall efallai, yn cysylltu’r profiad annaearol lleol hwnnw â Chymru gyfan, ac â’r cenedlaethol. A dychwelyd at heim, ac at etymoleg wreiddiol y gair, gellid awgrymu efallai fod yr unheimlich yma yn arwain at olwg newydd ar yr heimat, sef y famwlad neu’r treftad. Ac ambell dro, cysylltir yr ymdeimlad annaearol ac anghartrefol yn ddiamwys ag ymdeimlad o golled ac o rwyg, o fod wedi ymddieithrio oddi wrth dir a oedd unwaith yn gynefin neu’n gyfarwydd; naill ai iddo ef yn bersonol, fel yn ‘Bro’, lle daw profiad o recordio eitem deledu i aflonyddu arno a gwneud iddo ‘amau ai fy mro i ydoedd hi’; neu yn ‘Ar Encil’, lle’r aiff i ‘hel ysbrydion’ yn Sir Fynwy, cyn dechrau teimlo’r golled dorfol honno a fyddai’n dod yn rhan gynyddol o’r profiad Cymraeg dros yr hanner can mlynedd dilynol: ‘dyma’r fan, fel llawer man arall, lle y mae darfodedigaeth Cymru a Chymraeg, a malltod popeth a ystyriwn ni’n etifeddiaeth inni, wedi gweithio i mewn i’n cyfansoddiad.’ Dyma sy’n neilltuol i mi am brofiad ‘annaearol’ THPW: mae rhai o’r ysgrifau diweddarach hyn yn cymhwyso’r profiad cyfriniol unigol at brofiad cenedl gyfan o gael ei ‘hannaearoli’ bob yn dipyn. Ynddynt, mae a wnelo profiad ‘annaearol’ THPW â’r profiad o golli tiriogaeth a Chymreictod mewn ffordd go real, ac efallai mewn ffordd fwy allblyg ‘wleidyddol’ nag a gysylltwn â’i waith yn aml. Mae’r wlad yn dal yn gartref inni, ac eto teimlwn yn gwbl ddieithr ynddi, fel pe na bai’n perthyn i ni mwyach. Ai dyna sydd wrth wraidd annaearoldeb THPW, ei fod eisoes wedi synhwyro hyn oll ar ddyfod ac Oerddwr yn furddun?

✒︎

Ni waeth i ni ag addef fod Cymru y dyddiau hyn, am amryfal resymau, yn wlad wedi’i ‘diethrio’ i amryw byd ohonom. Sonia THPW yn ‘Oerddwr’ am gynnwrf rhyfedd ‘cyfnod afresymol’ y Rhyfel Mawr, ac onid yw hwn hefyd yn rhyw hen gyfnod felly? Yng nghanol y cyfarwydd fe’n plymiwyd i ganol ansicrwydd, ansadrwydd a dieithrwch. Mae nifer o bethau a oedd yn gudd am amser hir yn cael rhwydd hynt bellach i ddod i’r wyneb; ni allwn deimlo’n gartrefol yn ein cartref ein hunain. Onid oes nifer ohonom wedi ‘dechrau simsanu braidd’, a ‘rhyw ysictod’ fel petai’n dod drosom? Un profiad ‘clasurol’ unheimlich yw teimlo dy fod mewn stori, mewn ffuglen, nad yw hyn yn digwydd i ti mewn gwirionedd. Efallai mai dyna sut mae egluro ein parlys llwyr a’n diffyg ymateb yn wyneb argyfyngau’r dwthwn hwn — ein bod, yn syml, heb allu coelio bod hyn yn digwydd go iawn o gwbl.

Ymddengys i mi felly fod profiad unheimlich y blynyddoedd diweddar o’n gwlad yn rhoi dewis i ni; naill ai gallwn geisio ymysgwyd o’r ysgryd hwn, ei wfftio fel gwaith y dychymyg, hen gysgodion y meddwl yn chwarae triciau, gwadu iddo ddigwydd erioed a’n hargyhoeddi’n hunain mai ffuglen yw’r cyfan; neu gallwn dderbyn a chofleidio’r hyn sydd wedi ‘drysu peth ar y plan’, gan roi inni am ychydig y ‘clirder annaearol’ hwnnw i weld y wlad o’n cwmpas fel y mae mewn gwirionedd, a chymryd hynny fel cam cyntaf i’n symbylu i ymegnïo ac ymbrysuro drachefn. ‘Mae gan bob un ohonom ein Hoerddwr ein hunain hefyd does?’ gofynnodd Marged Tudur wrth draddodi Darlith Goffa Llew Gwent ym Mhrifwyl Caerdydd y llynedd. Efallai y dylai fod gennym, er mwyn i ninnau allu drysu peth ar blan ein dwthwn ni.

Dyma gloi ag ysgrif arall, y tro hwn ar ben bwlch ‘rhwng Cynwyl Elfed a Dyffryn Teifi’:

Bu bron i gysylltiad â’r ddaear yn y fan honno fynd yn drech na mi. Cyfodais rhag angerddoldeb yr ymdeimlad, — ymdeimlad bod yn un â’r ddaear neu’n rhan o symud anferth y bydysawd. Yr oedd yn hwyr bryd cyfodi rhag fy llethu gan gryfder aruthr y synhwyriad hwn. Gwell peidio ag aros yn rhy hir ar ben bwlch, nac ar ben banc, rhag ofn. Ofn y ddaear, — ac eto ar yr un pryd yn cael eich tynnu tuag ati, a’ch cofleidio ganddi, megis, yn erbyn eich ewyllys.

‘Ei ddieithrwch’, medd y traethydd, ‘ydyw ei ddychryn.’ Dyma i chi eto brofiad unheimlich clasurol: y ddaear solet, ar drawiad, yn teimlo’n hynod annaearol ac ansylweddol; y dynfa anorchfygol honno at y dibyn — a’r cilio’n ôl at y cyfarwydd ar yr eiliad olaf. ‘Pwy, a gofal am ei dipyn hunaniaeth,’ gofynna’r traethydd, ‘a âi o’i fodd i dramwy daear lle fel hyn? Pwy, pe gwypai, nad ofnai “fwlch yr argyhoeddiad”?’ Amen, meddwn innau. Ond wedyn, pwy sydd i ddweud na allem oll wneud â mymryn o’r annaearol yn y dyddiau dreng hyn, er mwyn ‘drysu peth ar y plan’, dod â ni’n ôl at ein coed, a’n nadu rhag cwsg-gerdded dros ymyl y dibyn? Na, ni fûm erioed yn Oerddwr; ond mwyaf sydyn, mae gen i flys garw cael mynd yno.


Carai'r awdur ddiolch yn fawr i Nona Gruffudd-Evans a Heini Gruffudd am eu cymorth parod a'u cymwynas wrth baratoi'r ysgrif hon, drwy roi arweiniad a chyngor ar amryw ystyron a chynodiadau'r unheimlich.

Yn yr ysgrif ‘I’r galon goch’, yn rhifyn Gwanwyn 2017, mae Llŷr Gwyn Lewis yn mentro troedio bryniau Brexit.


Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


Ar ein mwyaf ansad ac ansicr y cawn y profiadau pwysicaf

Dyddiad cyhoeddi: 30·04·2019

Yn ôl i frig y dudalen

Cyfansoddi


Grug Muse

Gan ymddangos mewn gofod diamser dechreuais siarad trwy fy nghlustiau yn y pnawn roeddwn eisiau diffodd y golau ond wyddwn i ddim pryd yn union roedd y golau am orffen canu roedd fy mreichiau wedi blino arwain yr unig beth y dois o hyd iddo o blith atgofion gorffennaf oedd yr offeiriad yn chwydu wedi’r priodasau ... 

Dadansoddi


Sioned Puw Rowlands

Fis Hydref eleni, yn fuan wedi cyhoeddi enw enillydd gwobr Nobel llenyddiaeth 2019 – Peter Handke (Griffen, Awstria, 1942) – cyhoeddodd PEN America eu bod yn gegrwth: ‘We are dumbfounded by the selection of a writer who has used his public voice to undercut…

Adolygu


Siân Melangell Dafydd

Sylwch ar ddarlun y nico bach, mor gysáct ei ystumiau, yn hedfan hyd glawr y gyfrol hon. Bron na ellir clywed fflap ei adenydd, ei gân benysgafn, sionc. Ond mae awgrym o rywbeth arall ar y clawr: darlun manwl berffaith cloc dant y llew…

Adolygu


Jerry Hunter

Mae hanes Unol Daleithiau America yn hanes ymerodraeth: dyna neges graidd y llyfr hwn. Yn ogystal â chraffu ar hynt imperialaeth Americanaidd, mae Daniel Immerwahr yn archwilio’r berthynas ryfedd rhwng dinasyddion yr Unol Daleithiau ac ymerodraeth eu gwlad. Fel yr awgryma teitl y gyfrol, ymerodraeth gudd ydyw o…

Adolygu


Mike Parker

Er na chefais gyfle hyd yma i gyfarfod â Daryl Leeworthy, awdur y gyfrol hon, rwyf wedi dod i’w nabod yn lled dda yn rhithfyd Twitter. Dywedodd wrthyf bod A Little Gay History of Wales yn ‘very “me”, as it were’. Ni allwn fod wedi cyfleu hynny’n…

Adolygu


Grug Muse

Dilyn hanes teulu ifanc o Grangetown mae’r nofel hon, a hynny yn sgil Brexit. Adroddir y stori o safbwynt tad ifanc o Gwm Gwendraeth, sef Carwyn. Dyma deulu bach niwclear dosbarth canol, efo morgais, y rhieni â graddau da i’w henwau, ac o leiaf un…

Cyfansoddi


Jerry Hunter

1. y noson honno. 2. gadael yr Eglwys Gadeiriol. 3. dweud rhywbeth [fel hyn] wrtho fo [:]. 4. chwara teg, roedd yr hen gastrato na yn canu'n wych. Dwi wrth modd â'r math yna o sŵn – pedwar llais yn dod ynghyd felna, yn…

Cyfansoddi


Jerry Hunter

Mae'n haws gosod popeth mewn trefn. Llyma dechreu [sic] rhoddi trefn ar ... Rhaid eu rhestru: pry genwair / hunangenhedlahalogol / O bosibl ymysg y rhai a oedd wedi bwyta Liwsi a'r lleill ac amlygu'r esgyrn ...