Dadansoddi

Eisteddfod 2018 – ‘Rolyrcostyr Emósiynýl’


Huw L Williams

Amser darllen: 8 munud

22·08·2018

Eisteddfod hamddenol oedd hi fod. Roedd y maes, yn gyfleus iawn, nepell o fy nghartref yn Grangetown. A minnau wedi cael hen ddigon o ruthro'n chwyslyd rhwng gormod o bebyll yn Eisteddfodau'r blynyddoedd diwethaf, y bwriad y tro hwn oedd mwynhau’r adloniant, gwarchod y plant a chyfrannu at ambell sesiwn yn ôl y galw. Yn hytrach nag Eisteddfod ymenyddol, felly, eleni roeddwn am ymroi yn gorff ac enaid, yn ysbryd y rhai sydd yn arfer cwyno am IOE (iselder-ôl-Eisteddfodol).

Cafwyd cyfle i gynhesu – cyn dechrau arni go iawn – ar y dydd Gwener blaenorol, fel rhan o griw fuodd yn trefnu gŵyl yn y Tramshed i godi arian i’r Cylch Meithrin lleol. Diolch i’r holl gyfranwyr (yn eu mysg, Tŷ Gwydr, Ani Glass ac Anni Llŷn, Wigwam a Lleden) cefais brofi dau begwn emosiynol: angst wrth boeni na fyddai’r un copa gwalltog yn ymddangos, a boddhad wedyn o sylweddoli bod pobl wedi mwynhau mas draw a bod arian yn y coffrau hefyd. Erbyn y nos Sadwrn roeddwn i’n teimlo fy mod yn dechrau mynd i hwyliau, ac yn wir, wrth imi wrando ar y Crumblowers yn mynd â ni yn ôl i’r 90au, ac yna’n bloeddio Cymru, Lloegr a Llanrwst yng nghwmni Mark Roberts o’r Cyrff, anodd oedd peidio ag ildio i gynnwrf y noson.

Pa fath o brofiad oedd hyn, tybed, i’r sawl a fagwyd yn Gymraeg yn y brifddinas, i weld eu hiaith yn llythrennol yn hawlio'r llwyfan? Meddyliais am fachyn Twitter un o feibion y ddinas, Siôn Jobbins: 'Cymraeg yw Iaith y Ddinas'. Dyna halibalŵ Carnifal y Môr yn codi wedyn, gyda brodorion Butetown yn llythrennol yn gwthio’u ffordd i ganol côr meibion yn enfys o liw a sŵn llesmeiriol. Estheteg syml, a'r traw ar ei ben. Fel dyn dŵad i ardal yr hen ddociau roeddwn wedi bod yn poeni am berthynas yr ŵyl gyda’i chyffiniau, ond ysgubwyd y pryderon hyn ymaith yn yr hanner awr gorfoleddus hwn. Cefais fodd i fyw wedyn wrth wylio uchafbwyntiau S4C a gweld criw arall a gyfrannodd at ein digwyddiad Cylch Meithrin yn dawnsio ar y llwyfan – y Jukebox Collective, criw ifanc o ddawnswyr lleol.

Dwysaodd fy nheimladau eto ar y dydd Llun wrth i mi glywed bod Catrin Dafydd wedi ennill y goron a bod ei barddoniaeth yn croniclo bywyd fy mro fabwysiedig. Cymhlethwyd hynny ymhellach wedi imi ddarllen ei bod hi ‘am dalu teyrnged hefyd i'r ymgyrchwyr wnaeth sefydlu Ysgol Hamadryad’. Mae unrhyw sôn am y cyfnod chwerwfelys hwn yn fy mywyd i ac eraill yn codi môr tymhestlog o emosiynau ynof. Diolchgarwch oedd yn drech y tro hwn. 

Yna, ar y dydd Mawrth, cynhaliwyd sgwrs gyda Siôn Jobbins, Ali Yassine (y Cymro Cymraeg adnabyddus o dras Somali), a phrif ferch Ysgol Plasmawr, sef Emily Pemberton sydd yn ferch hil-gymysg o Grangetown. Hynny oll dan gadeiryddiaeth yr amryddawn Ani Saunders a fagwyd gerllaw yng Nglan-yr-Afon. Fe’m llanwyd â balchder, fel Cymro, wrth glywed y pedwar yn trafod yr iaith Gymraeg mewn modd mor ffraeth, mor gyfoes a pherthnasol. Fy hoff atgof gweledol o’r wythnos ar ei hyd yw'r ddelwedd o'r panel hwn. Cefais foddhad mawr yn ogystal wrth weld mor amrywiol oedd yr ymwelwyr a grwydrai'r maes. Y noson honno, wrth i mi fodio trydar, ategwyd yr holl argraffiadau ffafriol hyn.
 


 

Fodd bynnag, erbyn hynny, roedd y geiriau amhriodol a lefarwyd gan Eifion Lloyd Jones o’r llwyfan ar y nos Sul wedi dod i’r amlwg. Wrth gyflwyno hanes llywydd newydd Cymru a’r byd, cyfeiriodd at Jamaica, Uganda ac Abergele, ac yna ychwanegu’r sylw difiriol: 'dwi ddim yn siŵr lle roedd yr anwariaid gwaethaf'. Jamaica, Uganda, Abergele – ac anwariaid. A dyna ni, newidiwyd cwrs fy hwyliau. Drannoeth cefais fy holi gan Catrin Penlan o Newyddion 9 am f'ymateb i'r datganiad o'r llwyfan, fel rhywun oedd wedi ymgartrefu yn yr ardal amlddiwylliannol gyfagos ac a oedd wedi bod yn rhan o ymgyrch TAG, yn brwydro dros ysgol Gymraeg i'r ardal. Ymatebais gyda’r unig eiriau roeddwn i’n gweld yn addas: bod angen ymddiheuriad a hynny mor fuan â phosib. Dyna roeddwn i'n disgwyl ei glywed, er lles yr ŵyl os nad unrhyw beth arall, waeth beth oedd canfyddiad y llefarydd o’i sefyllfa.

Erbyn y dydd Iau, wedi'r gwamalu a gafwyd am ‘gamargraffiadau’ yn lle ymddiheuriad uniongyrchol, roedd fy ngwaed yn berwi. Ni wnaeth sesiwn deimladol yn y Babell Lên, gyda Simon Brooks o bawb, ddim i dymheru f'emosiynau. Ein bai ni, mae’n siŵr, am fentro i dir teulu a chariad wrth drafod ei lyfr amlhaenog, hunangofiannol am wylio tymor o bêl-droed gydag Wltras Port yng nghwmni ei fab. (Rwy’n argymell y gyfrol hon yn fawr, gyda llaw, os ydych am ddarllen dadansoddiad craff, didostur o’r Gymru gyfoes ynghyd â myfyrdodau dadlennol.)

Ymrwymiad olaf yr wythnos i mi oedd sesiwn drafod ym Mhabell Prifysgol Caerdydd ar y thema hunaniaeth Gymreig ac amlddiwylliannedd – o bob peth. Ond wedi’r sesiwn yn y Babell Lên a thrafod yma a thraw'r geiriau anffodus o'r llwyfan, roeddwn wedi dod i'r casgliad, yng ngoleuni’r diffyg ymddiheuriad, na fyddwn i’n gallu ei chynnal. Wyddwn i ddim pam yn iawn ar y pryd. Roedd hynny'n amlwg wrth imi geisio esbonio i’r sawl oedd yn rhedeg stondin Prifysgol Caerdydd am yr wythnos. Cefais drafferth gafael yn fy ngeiriau a dyma hi'n estyn diod o ddŵr imi oherwydd ei chonsyrn. Apoplectic fyddai un ansoddair; cynddeiriog fyddai un arall.

Pe byddwn i yn fy iawn bwyll mi fyddwn i wedi esbonio’r hyn a ddywedais ar gamera’r noswaith flaenorol (a gafodd ei dalfyrru i ychydig eiriau, wrth gwrs). Ni’r Cymry yw’r cyntaf i gwyno – a hynny’n ddilys – pan fo rhywun yn ein dilorni ni neu ein hiaith; dylem felly fod ymysg y rhai cyntaf i adnabod rhagfarn, dihidrwydd a hiliaeth yn ein cymuned. Ni ddylem esgusodi hynny ar unrhyw gyfrif.

Yn yr achos hwn, wrth gwrs, roedd y sefyllfa gymaint yn waeth ynghanol dathlu’r ŵyl agored, y brolio am amrywiaeth yr Eisteddfodwyr eleni, y carnifal amlddiwylliannol, a’r cyngerdd Paul Robeson. Roedd yr eironi’n boenus. A beth wedyn am argraff y sawl yn y cymunedau o’n cwmpas, gyda dros 50% o’r boblogaeth yn dod o leiafrifoedd ethnig, nifer ohonynt â gwreiddiau yn y Caribî a’r Affrig ac amrywiol ardaloedd yr Ymerodraeth Brydeinig. Pa fath o neges oedd hon? Nid yn unig bod y geiriau wedi cael eu llefaru, ond yn waeth o lawer, nad oedd ymddiheuriad dilys wedi dilyn. Sut mae rhywun yn ymateb sydd bwysicaf mewn sefyllfa o’r fath. Mae unigolion yn tramgwyddo’n ddifeddwl weithiau, ond y modd y mae’r grŵp, gyda synnwyr trannoeth, yn delio â’r sefyllfa sydd yn adrodd cyfrolau. 

Hyn oll mewn cyfnod sydd wedi dangos inni’n blwmp ac yn blaen bod hiliaeth yn fyw ac yn afiach. A dyma’r pwynt allweddol: efallai mai jôc oedd y bwriad ac mae’n siŵr nad yw Eifion Lloyd Jones yn hiliol ond, fel rydym ni’r Cymry’n gwybod, pan fydd pethau anghynnes yn cael eu dweud amdanom ni neu’r iaith Gymraeg, yr hyn sy’n andwyol yw’r ymwybyddiaeth bod y ‘geiriau chwareus’ yna’n seiliedig ar ormes hanesyddol a rhagfarn go iawn sy’n effeithio arnom yn ein bywydau bob dydd. Siawns nad yw pawb yn gallu deall bod y sefyllfa hon yn fwy real fyth i bobl liw yng Nghymru? 

Ond efallai mai dyma un o’r anawsterau. Mae cymunedau BAME mor fychan yn y wlad hon nes nad yw’r rhwystrau sydd yn eu hwynebu – sy’n seiliedig ar yr hiliaeth y mae ein hanes a'n cymdeithas gyfoes wedi ei thrwytho ynddi – yn amlygu eu hunain. Ac eto, dim ond ychydig o ymwybyddiaeth sydd angen o’r clirio a ddigwyddodd i gymunedau Butetown yn ystod sefydlu’r Bae newydd yn y 90au i ddeall hynny.     

Efallai ein bod ni’n euog hefyd o orgymhlethu pethau. Efallai nad yw damcaniaethau, cysyniadau ac athroniaeth (sy’n aml yn troi at haniaethau er mwyn cyrraedd at y gwir) yn ateb y galw bob tro. Efallai mai personoli sydd angen yn y cyswllt hwn er mwyn amlygu’r broblem. Os yw Eifion Lloyd Jones neu eraill yn dal i bendroni ynghylch yr hyn sydd o'i le, gwerth gofyn sut fyddai Paul Robeson wedi ymateb i gellwair o’r fath. 

Wedi’r diffyg ymddiheuro roedd yn gwbl amlwg beth fyddai’n dilyn. Rhaid oedd gwylio’r dinistr yn ymledu'n araf bach. Cafodd y wasg Saesneg, wrth gwrs, afael yn y stori (i gyd-fynd gyda’r un stori arall a roddwyd sylw iddi…) a'r banllefau o brotestio ar y cyfryngau cymdeithasol. Cafwyd ymgais arall dila i ymddiheuro a lwyddodd i ddangos eto ddiffyg gafael yr Eisteddfod ar y sefyllfa a'r goblygiadau posib. Cyhoeddodd y Cyngor Mwslemaidd ddatganiad drachefn. 

Anodd oedd i mi fwynhau gweddill yr Eisteddfod; ond ymlaen â’r sioe. Cefais rywfaint o falm i’r enaid wrth wrando ar Gareth Bonello yn adrodd a chanu am ei brofiad fel myfyriwr ymchwil ar brosiect Leverhulme Lisa Lewis ym Mhrifysgol De Cymru. Mae'r gwaith yn ymwneud â hanes un o’r cenhadon Cymraeg ym mryniau Casia, yr India, sy’n arwr yno hyd heddiw yn sgil ei ymdrechion a ddiogelodd yr iaith frodorol. Cefais f'atgofffa nad du a gwyn yn unig yw hanes trefedigaethu. Ac yna, wrth deimlo tosturi dros y sawl a oedd yn wynebu eithafion y tywydd wrth i’r ŵyl ddod i ben, ymhyfrydais yn y delweddau o’r dorf yn dawnsio’n herfeiddiol yn y glaw. Nid yw’r ysbryd Cymraeg yn un i gilio yn wyneb her.   

Roedd yr Eisteddfod wedi gorffen, ond roedd y trafod yn parhau, i mi o leiaf: sgyrsiau gyda’r sawl yn y gymuned oedd wedi bod yn cwestiynu’r ymateb; ceisio esbonio bod yna brotestio o fewn y gymuned Gymraeg, na fyddai’r sefyllfa’n aros yn ei hunfan, bod yna gywilydd a dealltwriaeth. Ac yng nghefn fy meddwl, yr ofn ynghylch yr hyn a ddaw o’r Gymraeg yn yr ardal, y canfyddiad o’n cymuned ni yn y gymuned yma o gymunedau, a sut fyddai hyn yn effeithio ar yr ysgol newydd sbon o fewn tafliad carreg i’r Bae – y brwydrwyd drosti gennym, nid dim ond er lles ein plant, ond er lles plant pawb. Cymaint y diffyg gwybodaeth sydd wedi bod yn yr ardal am y Gymraeg ac addysg Gymraeg, ni allwn osgoi’r teimlad arswydus y bydda’r hanes yma’n goron ar yr urban myths sydd eisioes ar led ac sydd yn camarwain pobl i gredu nad yw’r cyfan ar eu cyfer hwy.       

Gyda hynny, dyma Dylan Foster Evans yn cymryd safiad. Roedd y datganiad syml, diffuant, cyhoeddus yn un amserol a dweud y lleiaf (clodwiw a dewr yn fy marn i). Ac roedd yn gyfle i’r gymuned ehangach ddangos ei chefnogaeth. Yn ddiweddarach, cyhoeddwyd datganiad gan Ymgyrch TAG yn collfarnu’r sefyllfa a, thrwy gyd-ddigwyddiad ai peidio, y noson honno daeth yr ymddiheuriad a ofynnwyd amdano.  

Ac eto, er y gwewyr, rwyf yn grediniol mai yn y pen draw dim ond daioni a ddaw o’r ŵyl, ac o’r stori hon yn ogystal. Mi oedd Eisteddfod 2018, o fod yn Eisteddfod agored, yn cymryd risg, ond y cyfryngau agored, torfol, yn hytrach na’r maes agored, a brofodd yn broblematig. Ar y llaw arall, dim ond trwy fod yn agored, trwy gydnabod ein cyfyngderau, a bod yn barod i drafod y mae pethau’n gwella yn fy marn i. Roedd gweithred Dylan Foster Evans wedi dangos i’r sawl oedd yn gwylio o gyrion y Bae ein bod ni’n gymuned sydd yn barod i wrthsefyll rhagfarn, ac yn alluog i gydsefyll gyda nhw pan fo angen. 

Mi fues i’n trafod wedyn gyda rhai o hoelion wyth yr ardal. Ategwyd mai peth da oedd y ffaith bod y gymuned Eisteddfodol wedi gorfod, ac wedi llwyddo i ddelio gyda’r sefyllfa a sicrhau’r ymateb priodol yn y pen draw. I’r sawl sydd wedi byw a bod amlddiwylliannedd yn ei holl ffurfiau – boed hynny’n dda neu’n ddrwg – dyma un hanesyn bach ymylol arall ar y llwybr tuag at arfer goddefgarwch a chydwerthfawrogiad. I Keith Murrell, er enghraifft – un sydd yn gyfrifol am Garnifal Trebiwt ac a gyfrannodd at Garnifal y Môr – yr hyn sy’n bwysig yw’r mwynhad a gafwyd, y profiadau di-ri, y cydgysylltu, y cyfle i gyfrannu a sicrhau bod ei ran fach ef o Gaerdydd yn derbyn cydnabyddiaeth a dilysrwydd gan y Cymry Cymraeg a’r Eisteddfod. Mae’n gobeithio y bydd cyfle iddynt gyfrannu eto flwyddyn nesaf a byddai wrth ei fodd yn gallu hwyluso ‘cyfnewid diwylliannol’ rhwng ein cymunedau ni a chymuned yr Eisteddfod yn Llanrwst 2019. Gobeithio y caiff ei ddymuniad. 

Yn f'achos i, rwy’n gobeithio y daw cymorth gyda chyfnewid diwylliannol ar raddfa ychydig yn fwy lleol. Y mae gwaddol Eisteddfodol wedi arwain at hybu’r Gymraeg yn ardal yr Eisteddfod yn y gorffennol, ac at ddymuniad i weld ehangu addysg Gymraeg. Y tro hwn, y mae’r ysgol honno wedi’i sefydlu’n barod. Yn awr, mae angen ei llenwi – gyda phlant holl gymunedau'r ardal. 


Huw L Williams yw Socrates ar y stryd, un o golofnwyr O'r Pedwar Gwynt.


Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


 

Categorïau:

Huw L Williams, Caerdydd, Eisteddfod

 


Mae unigolion yn tramgwyddo’n ddifeddwl weithiau, ond y modd y mae’r grŵp, gyda synnwyr trannoeth, yn delio â’r sefyllfa sydd yn adrodd cyfrolau

Dyddiad cyhoeddi: 22·08·2018

Yn ôl i frig y dudalen

Adolygu


Jane Aaron

Mae’r elw o werthiant y nofel hon yn mynd tuag at helpu ffoaduriaid rhyfel. Dyna’r hyn mae prif gymeriad Llinynnau, Ceridwen Jeremy, yn ei wneud hefyd, wrth iddi roi lloches yn ei chartref yng nghefn gwlad Ceredigion i ffoaduriaid o’r rhyfel yn Syria, yn ogystal â…

Cyfansoddi


Llŷr Gwyn Lewis

Bydoedd pell oedd y rhai a lygrwn i, a 'machau ar gontrol pad fy arddegau. Saethu hwrod ar draeth yn Miami; trywanu ellyllod yn Hyrule a Spira, achub Zelda; a liw nos, a'r dref yn dawel, esgyn o'r sybmarîn i hel Natsïaid ynghyd a'u llosgi â'm fflamdaflwr rhwng y sgwâr a'r stryd ... 

Cyfweld


Esyllt Angharad Lewis

Mae Mary Lloyd Jones wedi arddangos yn rheolaidd ers y 60au, yng Nghymru, ym Mhrydain ac yn rhyngwladol. Mae ei gwaith i'w weld mewn nifer o gasgliadau cyhoeddus a phreifat. Bu’n gweithio fel artist preswyl yn yr Iwerddon, Philadelphia, Vermont, yr Eidal, Catalwnia, Rajasthan, yr Alban a Llydaw. Ceir arddangosfa o'i gwaith (25 o baentiadau) yn Oriel Tegfryn,…

Cyfansoddi


Llŷr Gwyn Lewis

O le dwi’n sbio lawr fan hyn, mae pethau’n edrych yn ddu braidd, a gormod rywsut o bren i adael i’r balŵn hwn adael y ddaear; iddo fedru hedeg hyd yn oed o lenwi’r siambar, sori, mor llawn o aer poeth â hyn ... 

Cyfansoddi


Ruth Richards

‘DEW,’ MEDDAI NOW-HOW, gan ryfeddu at lun y Marcwis yn ei deits gwynion, gyda phlethen hir a phagoda ar ei ben. ‘Tydi hwn ddim byd tebyg i’r crach arferol.’ ​Gwenodd Annie arno, ei phenelin yng nghledr un llaw ac un o sigaréts Senior Service Now yn hongian rhwng deufys y llall, mewn ystum a…

Dadansoddi


Elin Haf Gruffydd Jones

Yn y byd cyhoeddi, nodir yr Hydref gan Ffair Lyfrau Frankfurt sydd, gyda llaw, yn arddel ei henw swyddogol Almaeneg, Frankfurter Buchmesse, hyd yn oed wrth gyfathrebu’n Saesneg ac yn rhyngwladol. Dyma ganolbwynt y farchnad ar gyfer y diwydiant hwn, gyda dros 7,000 o stondinwyr, 10,000 o newyddiadurwyr,…

Adolygu


Dyfrig Williams

Cyfrol i herio ein persbectif ar fyd gwaith a'r cyd-destun economaidd sy'n ei hybu yw Bullshit Jobs: A Theory gan yr anthropolegydd David Graeber. Mae'r awdur, sydd yn Athro yn yr LSE, eisoes yn adnabyddus am fathu'r slogan y mudiad Occupy Wall Street, 'We are the 99%', ac am…

Cyfansoddi


Frank Olding

Casgliad Frank Olding ddaeth yn ail yng nghystadleuaeth y Goron eleni yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd. Rydym yn falch o gyhoeddi detholiad o'r cerddi ar Ddiwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth 2018.