gol. Esyllt Maelor


Galar a fi

Y Lolfa, 176tt, £7.99, Gorffennaf 2017

Galar a fi
Dadansoddi

Galar a fi

Cracio


Manon Steffan Ros

Amser darllen: 6 munud

09·08·2017

Bu farw fy mam yn yr oriau mân un bore crasboeth ym mis Gorffennaf. O’r ystafell ar    Ward Alaw, Ysbyty Gwynedd, roeddwn i’n gallu gweld goleuadau ein pentref ni fel llygaid wedi cau ar lethrau’r foel. Doedd ’na fawr o awel o gwbl, ac mi feddyliais i beth mor od ei bod hi wedi medru gadael ei chorff ar noson mor dawel, heb i unrhyw un weld i ba gyfeiriad yr aeth hi.

Pan oedd hi’n sâl iawn yn yr ysbyty, a minnau’n teimlo’r diwedd yn drwm fel haf yn yr aer o’m cwmpas, daeth dyn mewn coler i mewn i’r ystafell aros ac eisteddodd yn fy ymyl. Roeddwn i wedi bod yn crio ar fy mhen fy hun eto.

Eisteddodd y ddau ohonom mewn tawelwch am ychydig, cyn iddo ofyn mewn llais oedd yn broffesiynol o addfwyn, ‘Fasach chi’n licio i mi weddïo efo chi?’

Am y tro cyntaf yn fy mywyd, cefais yr ysfa i ddyrnu rhywun.

Troais fy mhen i edrych ar ei wyneb agored, clên, a llenwi fy mhen â’r rhegfeydd gwaethaf. Dydw i ddim yn berson blin, ond teimlais y gynddaredd yn berwi fy ngwaed wrth i hwn eistedd yna, yn llonydd ynghanol y ffrwydrad ffiaidd, aflan oedd yn digwydd yn fy mywyd.

‘Sut fedrwch chi eistedd yna yn eich coler twt, efo’ch adnodau tlws yn barod ar eich tafod, a’ch Duw chi wedi caniatáu i’r ddynas ora dwi ’di nabod erioed fod yn gorwedd yn y gwely yn marw, yn bedwar deg ffycin pedwar mlwydd oed? Sut fedrwch chi falu cachu am nefoedd pan mae ei nefoedd hi yma, efo ni, dim efo seintia a hen bobol?’

Dyna roeddwn i’n ei sgrechian, yn fy mhen.

Ysgwyd fy mhen wnes i go iawn, a gwrthod ei gynnig yn dawel, yn gwrtais. Doedd Mam ddim angen pader i’w hebrwng hi o ’ma.

Rydw i’n difaru rŵan, yn difaru teimlo mor flin efo’r dyn a’i Dduw. Cynigiodd ddefod i mi. Mentrodd i mewn i fy eiliadau tywyllaf, mwyaf bregus, a chynnig gobaith. Doeddwn i ddim yn barod am ei ffydd o. Doeddwn i ddim yn barod i ofyn ffafrau gan Dduw.

Dyna pryd, efallai, y teimlais i o am y tro cyntaf – y cracio y tu mewn i mi, fel petai ’na rywbeth a fu’n gadarn ynof fi yn torri am byth, a ’mhen yn teimlo fel miloedd o ddarnau mân, llafnau bychain.

Mi es i chwilio amdani.

Mewn eglwysi ysbrydegwyr ac yn stafelloedd sbâr pobl oedd yn honni bod â chysylltiad ag arallfyd y meirw. Treuliais fy mhen-blwydd yn un ar hugain mewn gwesty yn Llanfair-pwll mewn ffair seicig, yn lluchio pres at fy ngholled, dim ond i glywed ystrydebau mewn llais capel: ‘I can see an old man in a cap, leaning on a gate’ a ‘There’s an old woman with white hair. Do you know anyone by the name of Elizabeth?’ Chwiliais am Mam, am ei llais, am arwydd ei bod hi’n dal yma, yn rhywle. Ac weithiau, pan fydd y tŷ’n dawel ac yn llonydd, mi fydda i’n gofyn i’r dim byd, ‘Wnei di jest neud wbath? Symud wbath, i fi gael gwbod bo chdi yma?’

Mae hi’n llenwi’r lle efo’i habsenoldeb, ei mudandod.

Yna, un noson wlyb, roeddwn i’n eistedd mewn eglwys ysbrydegol yn gwylio Sgowsar yn ceisio cysylltu efo’r meirwon. Roedd o’n cael llawer o bethau yn hanner cywir, ac roedd hynny’n ddigon i’r rhai oedd yn derbyn y negeseuon. Petai o wedi rhoi neges i mi, mae’n siŵr y byddwn innau’n hapus hefyd. Ond wnaeth o ddim.

Edrychais ar weddill y gynulleidfa. Roedd pawb yn brifo. Pob wyneb yn llawn gobaith. Roedd ’na hen bobl a phobl ifanc iawn, Cymry a Saeson, ffermwyr, dynion busnes, mamau ifanc, hipis a goths. A fi. Wedi ein huno gan brofedigaeth.

Edrychais ar y dyn yn y tu blaen.

‘I’ve got a man called Alan... I’m sure it’s Alan...’ ‘Could it be Aled?’ gofynnodd hen ffermwr, ei lais yn greithiau i gyd.

‘Alud! That’s it!’ meddai’r dyn yn llawn rhyddhad.

Llaciodd rhywbeth tyn, tyn ynof fi. Ro’n i’n iawn. Doeddwn i ddim angen hyn mwyach. Do’n i ddim angen dieithriaid yn gaddo’r amhosib. A beth bynnag, os oedd Mam yn dal i fodoli yn rhywle, doedd hi’n sicr ddim yn mynd i ddewis siarad efo fi drwy Sgowsar efo blow-dry a chroen oren llachar.

Mae gen i silff lyfrau yn drymlwythog o ffydd yn fy nghartref. Beibl, wrth gwrs, a Thestament Newydd bach cysurlon, cyfarwydd. Qu’ran, Torah, y Tao Te Ching, gwaith Kahlil Gibran, Plato a Confucius, a chyfrolau am ffydd brodorion America ac Awstralia. Bocs bach o gardiau tarot. Rydw i wedi archwilio’r cyfan, yn chwilio amdani hi – neu, efallai, yn chwilio am rywbeth i drwsio’r crac hyll ynof fi. Weithiau, mae ’na rywbeth yno, yn cuddiad yn Efengyl Mathew neu yn straeon y Dreamtime, a dro arall, dim ond geiriau ydyn nhw.

Silff wahanol o gyfrolau sydd wedi fy lleddfu i. Mae fy enw i ar bob clawr, a fy straeon i ar y tudalennau. Ac mae hi yno, wrth gwrs. Yn fy llyfrau cyntaf, nofelau i blant, mae Mam yn gymeriad pedair ar ddeg oed, yn mynd ar anturiaethau i wlad hud gyda’i brawd, Cledwyn (fy niweddar Yncl Cled). Mae hi yn y llyfrau eraill, hefyd, mewn ffordd fwy cyfrin. Mae’r nofelau’n gatalog o fy ymatebion iddi, ac i’r ffaith foel, oer ei bod hi wedi mynd. Yn gatalog o graciau.

Mae tair blynedd ar ddeg wedi mynd heibio ers i mi weld Mam. Dydi hi ddim wedi cwrdd â fy meibion, nac wedi darllen fy llyfrau, a dwi’n dal i deimlo’r crac yna’n graith y tu mewn i mi. Ond bellach dwi’n meddwl mwy am ei bywyd na’i marwolaeth. Fel mae’r blynyddoedd yn mynd heibio, dwi’n teimlo’n fwyfwy ffodus: ’mod i wedi cael mam annwyl a magwraeth hapus, sefydlog; ’mod i wedi teimlo’i chariad, hyd yn oed ar ôl iddi farw; ’mod i’n byw bywyd mor freintiedig â hyn, pan mae cymaint o bobl yn dioddef mor ofnadwy. A ’mod i’n dechrau, ar ôl yr holl flynyddoedd, dod o hyd iddi hi eto yn y niwl o alar sydd wedi bod o’m cwmpas.

Mae ’na gymaint o bethau hyfryd, digri, cynnes a chariadus i’w dweud amdani.

Ond stori arall ydi honno.


Gellir prynu Galar a fi (gol. Esyllt Maelor) yn eich siop lyfrau leol neu o wefan y cyhoeddwr. Diolch i'r Lolfa am ganiatâd i gyhoeddi'r ysgrif hon gan Manon Steffan Ros.


Mae O'r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn werthfawr - na, yn anhepgor - wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i'r cylchgrawn.


 

Categorïau:

Manon Steffan Ros, Ysgrifau

 


Mi es i chwilio amdani. Mewn eglwysi ysbry-degwyr ac yn stafelloedd sbâr pobl oedd yn honni bod â chysylltiad ag arallfyd y meirw

Dyddiad cyhoeddi: 09·08·2017

Yn ôl i frig y dudalen

Cyfansoddi


David Elwyn Lewis

Ymlwybrodd y trên trwy faestrefi Warszawa, heibio'r adeiladau aml-lawr concrid a dienaid. Ychydig a wyddai'r bachgen ar y pryd bod y ddinas hon, gwta ugain mlynedd ynghynt, ac fel cynifer o rai eraill, wedi ei difa'n llwyr. Ar ôl iddynt gyrraedd y brif orsaf,…

Adolygu


Iwan England

Fe’m magwyd i lai na dau gan metr o ddrws ffrynt cartre’r awdur, Huw Lewis. Roedd ei blentyndod e’n cwmpasu’r chwedegau a saithdegau’r ganrif ddiweddaf, cyfnod allweddol yn hanes pentref Aberfan. Dyma’r adeg pan lwyddodd y gymuned i ailadeiladu, gan glirio olion trychineb 1966 a sefydlu…

Cyfansoddi


Ffion Dafis

Er i mi ddatgan, wrth drafod y Mileniwm mewn dosbarth Bywydeg yn 1983, y byddwn – a minnau’n mynd i fod mor hen â 28 oed erbyn y flwyddyn dyngedfennol honno – yn briod â dau o blant erbyn hynny, tydw i erioed wedi gwirioneddol…

Dadansoddi


Jordi Puntí

A yw'r sefyllfa yng Nghatalwnia heddiw yn Kafkaesque felly? Mae llywodraeth Sbaen fel petai'n dymuno iddi fod. Mewn cyfnodau cythryblus, mae llenyddiaeth yn llwyddo o bryd i'w gilydd i ddod o hyd i hollt ar sgrin fawr y newyddion, ac yn torri trwodd gan daflu rhywfaint…

Dadansoddi


Casia Wiliam

Dwi wedi symud tŷ naw o weithiau yn ystod fy mywyd, ac ym mis Hydref, a minnau bellach yn byw yng Nghaerdydd ers deng mlynedd, fe fydda i’n symud eto. Rydw i a Tom wedi bod yn byw yn ein fflat…

Adolygu


Elan Grug Muse

Petawn i’n gorfod disgrifio Gwales mewn un gair, uchelgeisiol fyddai hwnnw. A taswn i’n cael ychwanegu dau arall, mi fyddwn i’n ychwanegu mentrus a chwareus. Mae darllenwyr Cymru wedi arfer efo nofelau realaidd, pridd-ac-adfeilion-a-charcasau-ŵyn-bach, a thros y blynyddoedd mae nhw wedi glynu’n reit ystyfnig at yr hyn maen nhw’n ei hoffi. Pwy a ŵyr, wedyn, be wnân nhw efo nofel…

Dadansoddi


Gwyn Griffiths

Derbyniodd Gwyn Griffiths wobr gyfieithu Ostana yn yr Eidal, am ei waith yn cyd-olygu dwy flodeugerdd yng nghyfres Francis Boutle o ieithoedd llai-eu-defnydd Ewrop. Llenyddiaeth Llydaw yw testun y gyfrol gyntaf ac mae’r ail, The Old Red Tongue, yn gyfrol swmpus o ryw 1,000…

Dadansoddi


Gerald Morgan

Mae tinc o euogrwydd yn poeni’r meddwl. Newydd ddychwelyd o Lydaw wedi wythnos o wyliau gyda pherthnasau – braf iawn. Bwyta’n dda, mwynhau’r traethau, trefi Pont-Aven, Pontivy, Concarneau a Landerneau. Cyngerdd egnȉol gan gôr meibion Tregunc yn canu caneuon y môr, arddangosfa fawr o waith Picasso, ac yn…