Imre Kertész, cyf. Tim Wilkinson


Kaddish for an Unborn Child

Vintage, 128 tt, £8.99, 2010

Problemau oes ‘ôl-wir’
Colofnau

Problemau oes ‘ôl-wir’

'Fel na'n baseiddier'


Golygyddol

Amser darllen: 7 munud

07·12·2016

Mae yna dorri ysbryd y dyddiau hyn. Wrth ystyried yr ymatebion cynyddol ddiymadferth i’r creisis ymddangosiadol yng ‘ngwerthoedd gwareiddiad y Gorllewin’, y mae hi fel petai carfan niferus iawn – hen gefnogwyr adain chwith a aeth yn ddi-asgwrn-cefn ledled Ewrop, er enghraifft – yn cael cipolwg, o’r diwedd, ar gyflwr o rwystredigaeth nad yw ond yn rhy adnabyddus i nifer ohonom yng Nghymru, ac mewn mannau tebyg (a gwahanol) ledled y byd.

Fel yna yr oedd hi gyda’r Undeb Ewropeaidd. Dim ond pan oedd hi’n rhy hwyr y codwyd llais go iawn o blaid ei hegwyddorion gwareiddiol hithau. A phan fydd rhywun yn grac, ar ôl clywed y diweddaraf mewn cyfres o ddatganiadau hurt gan Boris Johnson, er enghraifft, dyma feddwl, ‘Dyma chi’n cael eich haeddiant. Fe fethoch chi â gweld bod yna fuddiannau ymhlyg yng ngwarchodaeth hawliau i leiafrifoedd sydd yn fuddiannau i bob un. Roedd yn rhaid i bethau fynd yn yfflon cyn i chi feddwl gwrthwynebu. Ac ry’ch chi’n methu o hyd â gwrthwynebu’n effeithiol. Gwnaed Ewrop ei gwaethaf â ni.’

Ers mis Mehefin, ac yn ddiweddar yn arbennig, yn lle ymgyrch wedi’i chydlynu i wrthwynebu dirywiad y syniad o gymdeithas eangfrydig, oddefgar a chynhwysol, yr hyn a gawsom – hyd syrffed – gan sylwebwyr y papurau breiniol yw sôn am ein cyfnod newydd ‘ôl-wir’. Crybwyllwyd yng ngolygyddol rhifyn cyntaf y cylchgrawn hwn ei bod yn anodd osgoi teimlad o fyw mewn byd o’r fath – ond, ychydig fisoedd yn unig yn ddiweddarach, osgoi’r teimlad hwnnw, a gwrthod y cysyniad yn llwyr, sydd raid.

Ac eironi sydd fel petai’n gwbl gydnaws â’r oes yw gorfod darllen am y byd ôl-wir hwn ar yr union gyfryngau a alluogodd, yn sgil eu methiannau, iddo fodoli.

‘Does dim ots gan bobl bod 80 y cant o ddatganiadau Trump yn anwir,’ meddir, neu ‘Mae pobl yn credu bod ymfudwyr i Brydain yn cael effaith negyddol’ – ond cyn i’r cyhoedd allu mynegi barn, roedd yn rhaid cyhoeddi’r datganiadau yn eu ffurfiau crai. Ac fe ddewisodd y BBC a’r papurau newydd (sydd, er gwaetha’r proffwydoliaethau, yn dal i lywio’r farn gyhoeddus yn fwy llwyddiannus o lawer na’r cyfryngau cymdeithasol ‘democrataidd’) roi llwyfan i’r celwyddau hyn. Gellid bod wedi dweud mewn cyfarfodydd golygyddol, ‘Mae’r datganiad hwn yn anwir. Wnawn ni mo’i gyhoeddi.’ Ond ni wnaed hynny. Yn y blynyddoedd diwethaf, dyw’r cyfryngau prif ffrwd ddim wedi bod fawr gwell na garejys dan draciau rheilffordd sy’n ailwerthu ceir wedi’u dwyn.

Does ’na ddim gwell ffordd o sicrhau y byddwn yn byw mewn byd ôl-wirionedd diffaith nag ildio i’r broffwydoliaeth honno (er gwaetha’r diffyg rhesymegol amlwg: mae cyflwr ôl-wir yn wir gyflwr hefyd). Mae yna lawer o bobl beryglus iawn a fydd yn hynod falch o wybod y caiff eu datganiadau mwyaf ysgubol a senoffobaidd eu cyhoeddi a’u derbyn bellach yn ddigwestiwn. (A ninnau’n gorfod derbyn ein haddysg foesol erbyn hyn gan gyn-bêl-droediwr a gwerthwr creision, a chan fyd didostur yr arian mawr – gredech chi’r fath beth? – a aeth ati i gyfrif cost ein hanoddefgarwch: £6 biliwn y flwyddyn. Dyna’r swm y bydd yn rhaid i Brydain ei fenthyg er mwyn llanw’r bwlch yn yr economi a ddaw yn sgil ‘cau ein ffiniau’.)

Dim rhyfedd bod pobl yn defnyddio Twitter a’r cyfryngau cymdeithasol i fynegi eu dicter. Rhith yw’r ‘democrateiddio’ honedig a ddaeth yn sgil y rheiny. Tafarn fawr – Wetherspoon’s – ydynt, lle’r awn i siarad ar ddiwedd noson â chyfeillion sy’n rhannu’r un farn â ni, neu i ddadlau’n feddw â phobl na newidian nhw eu meddyliau o ganlyniad i’n herfyn taer.

Ond mae’n rhaid gwneud rhywbeth ac, yn eu ffyrdd eu hunain, mae’r cyfryngau hyn yn gwrthbrofi’r celwydd hynod beryglus sydd ynghlwm â’r gair a enwyd yn Air y Flwyddyn gan Eiriaduron Rhydychen. Maent yn fodd o weld y gwir hefyd, efallai, ynglŷn â’r ffyrdd y caiff ein gwirioneddau eu cynhyrchu.

Hynny yw, mae’r gwirionedd yn llenyddol. Creadigaeth mewn geiriau a fwriedir i greu effaith, i greu byd sofran, ydyw. Mae golygyddion y Daily Mail a’r Sun yn gwybod hyn o’r gorau ac wedi arfer eu ffydd yn y syniad erioed. Mater o lunio a llywio’r stori yw hi. (Yn hynny o beth, roedd amddiffyniad Gwilym Owen o ddulliau Paul Dacre a Rupert Murdoch yn Golwg, wrth ymateb i rifyn cyntaf O’r Pedwar Gwynt, yn hollol iawn – ac yn hollol anghyfiawn.)

Nid argyhoeddi trwy ddadl yn unig yw’r nod ond argyhoeddi â chyfuniad o reswm ac apêl hefyd at ffactorau eraill, fel gallu’r darllenydd i uniaethu â math arbennig o gyflwyniad, ac at synnwyr celfyddydol hefyd, hyd yn oed. Dyna sydd wrth wraidd y syniad o ‘ennill Twitter’ (drwy gyfansoddi trydariad mor graff ac mor ddoniol-ddeifiol fel na ellid gwella arno). Nid newyddiadura y mae’r trydarwyr mwyaf ‘llwyddiannus’ ond ymateb â gwirioneddau rhethregol – ‘llenydda’, mewn ffordd o siarad.

Ar y gwastad llenyddol, felly, ar un olwg, y mae’r frwydr fawr heddiw. Brwydr dros ein heneidiau ydyw – a dyna ddod yn ôl at yr hyn sydd yn debygol o fod yn diwn gron i’r golofn olygyddol hon yn ystod y cyfnod nesaf yma, sef yr angen am gyfryngau teilwng i ni yng Nghymru gael llunio a gweld adlewyrchu ein straeon a’n gwahaniaeth.

Mae yna berthynas anwrthdro rhwng yr hyn a ddarllenwn, y modd y darllenwn ef a’r hyn a deimlwn, a feddyliwn ac a gredwn yn sgil hynny. Ac os am brawf mai ystyriaethau’r byd go iawn yw’r rhain, nid gwag ffuantu, ystyrier Imre Kertész – awdur a oroesodd wersylloedd crynhoi y Natsïaid, ennill Gwobr Nobel a marw eleni heb ormod o seremoni, er ei fod yn un o awduron mwyaf ‘ein gwareiddiad Gorllewinol’ bondigrybwyll (gwareiddiad yw hwnnw, yn ôl Kertész, y mae’r Holocost yn rhyw fath o goron ddraen ar ei ben). Profodd ef – yn y ffordd fwyaf cignoeth a real – bod yn rhaid i’r gwir am yr hyn sy’n aros o brofiad, ac o hanes, fod yn llenyddol a bod hynny o’r pwys mwyaf. Mewn cyfweliad â phapur newydd yr Independent yn 2008, dywedodd fel hyn: 

My opinion is that everything is fiction. My autobiography should begin [by saying] that at the age of 14 I was put on the train to Auschwitz so that I could win the 2002 Nobel Prize. But they didn't put me on the train so that I'd get the Nobel Prize [...] Fiction as a form is much more truthful [...] I invented myself as a novelist and stuck to fiction. Who knows what would have become of me if I had stopped? The whole of life is on a razor's edge.

Yr hyn y mae Kertész yn ei wneud, fel yn ei waith drwyddo draw (ac fe ddylid darllen ar bob cyfrif y cyfan o’i waith), yw gwrthod y demtasiwn i osod pethau mewn straeon rhy simplistig.

Fydd byw mewn cyfnod ôl-wir ddim yn gysur i deulu Jo Cox, neu i’r bobl o Wlad Pwyl neu o Bacistan sy’n cael eu herlid yn gynyddol ar strydoedd Prydain. Fydd yna ddim sydd yn ôl-wir chwaith am y modd y mae bomiau a bwledi, mewn ymgyrchoedd sy’n deillio’n uniongyrchol o gelwyddau cyfryngol-wleidyddol, yn lladd. 

Dyna’r math o beth a olygir, gallwn dybio, pan sonnir am yr ‘ôl-wir’; y math o wirionedd y gall perchnogion papur newydd a despotiaid eraill ei lurgunio. ‘If you're not careful, the newspapers will have you hating the people who are being oppressed, and loving the people who are doing the oppressing’, chwedl Malcolm X.

Ond mae’r math o wirionedd y treuliodd Imre Kertész bron y cyfan o’i fywyd yn ei gwmni yn ymwneud â’r frwydr fawr am hanfod ein dynoliaeth gyfun, fel na’n baseiddier. Ym mlwyddyn ei farwolaeth, mae hi’n gwbl warthus ein bod ni hyd yn oed yn gorfod ystyried y pethau hyn. Efallai fod angen symbol arnom, rhywbeth y gallem ei wisgo, er enghraifft, er mwyn ein hatgoffa ni i gofio ...

Ein harwain ar drywydd tebyg y mae pennill enwog Hedd Wyn o 1916,

Gwae fi fy myw mewn oes mor ddreng,
      A Duw ar drai ar orwel pell;
O'i ôl mae dyn, yn deyrn a gwreng,
      Yn codi ei awdurdod hell.’

Mae ‘awdurdod hell’ ein cyfnod ni yn cael ei roi ar waith – yng Nghymru, fel mewn mannau eraill – yn fwy llechwraidd slei nag mewn mannau a chyfnodau eraill efallai. Ond ar waith y mae. Yn enw ‘trafodaeth ddiduedd ac amrywiol’, bydd ymchwilydd radio gyda’r BBC yn gofyn, wrth fynd heibio, am rywun i ddweud ar yr awyr pam y dylai’r iaith Gymraeg farw. Neu fe wahoddir yr hilgi Farage i gyfrannu eto fyth i sioe banel. Ac fe ddaw aelod o’r llywodraeth i wyntyllu’r syniad y dylid cyhoeddi rhestrau o’r holl weithwyr tramor sy’n cael eu cyflogi ym Mhrydain ...

Ganrif yn ôl, hyd yn oed o Drawsfynydd bell, roedd digon eisoes o wae i’w weld yn y byd. Ond yr hyn sydd fwyaf brawychus yng ngwirionedd llenyddol Ellis Evans – a’r hyn sy’n atseinio o hyd – yw nad oedd e hyd yn oed wedi cyrraedd maes y gad pan ysgrifennodd ei eiriau enwog. Nid ôl-wir ond cyn-wir. Yn 1916, roedd yna waeth, o lawer, eto i ddod.

Rhagfyr 2016

Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


 

Categorïau:

Golygyddol, Rhifyn 2

 


Does ’na ddim gwell ffordd o sicrhau y byddwn yn byw mewn byd ôl-wirionedd diffaith nag ildio i’r broffwydoliaeth honno

Dyddiad cyhoeddi: 07·12·2016

Yn ôl i frig y dudalen

Cyfansoddi


John Emyr

Casglodd Glyn ei fagiau gan sylwi, drwy ffenest ei lofft, fod llechi’r toeau yn sych. Hyd yma, ar y bore hwn o Fai ym Mangor Uchaf, roedd y tywydd o’i blaid. Er iddo glywed chwyrniadau ffrae atmosfferig y cymylau uwchlaw’r Carneddau neithiwr, roedd…

Adolygu


Angharad Penrhyn Jones

Mae’r profiad o ddarllen y gyfrol hon fel eistedd ar soffa yn gwrando ar ferch alluog, ddidwyll a byrlymus yn adrodd hanes ei bywyd, paned mewn un llaw, hancesi papur mewn llaw arall, a digon o chwerthin. Mae’n lyfr mor hawdd ei ddarllen ar un ystyr, mor agos at rywun, y…

Cyfansoddi


Osian Wyn Owen

Pobol coleg fu’n clegar ‘nad oes byd na phlaned sbâr wedi hon’ a bod ‘i wedd yr haf gynhesrwydd rhyfedd ... 

Cyfansoddi


Rhiannon Ifans

Piciodd Ingrid i'r ardd i dorri cabatsien. Roedd hi’n ddychryn o oer, ac asgwrn ei chlun yn boen byw rhwng y gwynt main a’r eira’n pluo’n ysgafn o gwmpas ei phen. Ers dyddiau roedd yr awyr dywyll fel petai’n dal ei hanadl, yn gyndyn o ryddhau mwy na sgeintiad…

Cyfansoddi


Carl Chapple

Yn 2013 y dechreuodd fy niddordeb mewn dawns. Cynigiodd John Livingston, dawnsiwr a hen ffrind i mi, eistedd ar gyfer llun. Roeddwn yn gweithio ar gyfres o bortreadau o berfformwyr llwyfan ar y pryd – comedïwyr ac actorion yn bennaf ... 

Dadansoddi


Angharad Closs Stephens

Dros y misoedd diwethaf aeth llawer ati i baentio ‘Cofiwch Dryweryn’ ar waliau ac adeiladau ar hyd a lled Cymru. O blith y rhai a welais i – mewn mannau cyhoeddus ac ar blatfform trydar – mae’r arwyddion fel petaent yn golygu amrywiol bethau i wahanol bobl. Gwelais un ag…

Adolygu


Dylan Huw

Yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst eleni, crëwyd yr hyn a alwyd yn AGORA, o hen ddrysau a gyfrannwyd gan bobl Sir Conwy. Gofod canolog, cyhoeddus ac agored yn ninas-wladwriaethau Hen Roeg oedd yr αγορά yn wreiddiol; mae’r gair hefyd yn golygu 'cynulliad' neu 'man cwrdd'. Paentiwyd y…

Adolygu


Esyllt Lewis

Pnawn glawog, pawb bach yn fflat, naws oer yn yr awyr. Dydd Sadwrn ola’ Steddfod. Trodd sudd yr wythnos yn byllau mwdlyd dan draed. Brysiais draw o’r maes i Oriel Ffin y Parc cyn i’r falen Eisteddfodol allu gafael ynof. Dyma ofod gogoneddus yn y goedwig, yn gynnes ynghanol…