Caryl Lewis; cyf. Gwen Davies


The Jeweller

Honno, 208tt, £8.99, Medi 2019

Gosod ffenest mewn carreg
Dadansoddi

Gosod ffenest mewn carreg

Cyfieithu ‘Y Gemydd’ i’r Saesneg


Caryl Lewis a Gwen Davies

Amser darllen: 4 munud

30·10·2019

Yn fy nofel Y Gemydd, defnyddir gemau (ar ffurf modrwyon), i gario addewidion a gobeithion. Er fod y cymeriadau yn perchnogi’r gemau hyn dros dro, perthyn i’r byd a’r cenedlaethau i ddod y maen nhw mewn gwirionedd. Ceir proses debyg wrth greu stori: mae’r awdur yn datguddio’r deunydd crai ac yna’n naddu’r stori i’w chyflwyno i’r darllenydd. Dwi ddim yn teimlo perchnogaeth chwyrn dros ddarn ysgrifenedig, yn enwedig os aeth peth amser heibio ers i’r gwaith gael ei gyhoeddi. Pleser yw cael rhywun arall yn perchnogi’r gwaith, a phleser o’r mwyaf oedd cael Gwen Davies yn ymateb yn greadigol i’r testun hwn. Ar ôl iddi gyfieithu fy nofel gyntaf, Martha, Jac a Sianco (2004), roeddwn yn ymddiried ynddi i gymryd y gwaith a’i ail-greu, â hunaniaeth ac arddull newydd. Wedi’r cyfan, mae’n rhaid ail-dorri’r garreg, os hoffwch chi, i ddenu cynulleidfa newydd.

Dechreuodd Gwen ar y broses o gyfieithu’r nofel i’r Saesneg rai blynyddoedd yn ôl, yn weddol fuan ar ôl cyhoeddi’r nofel wreiddiol yn 2007, a mae llawer wedi newid ers hynny. Wrth baratoi ar gyfer lansiad The Jeweller (2019) yn ddiweddar, fe es ati i ail-ddarllen Y Gemydd a gwelais bethau newydd ynddi hi. Mae’n swnio’n amlwg, ond doeddwn i ddim wedi ystyried ar y pryd faint o bwyslais oedd yn y nofel ar ddatblygu crefft (cymeriad Mair yn torri’r garreg) a chwilio am hunaniaeth. Yn fy ugeiniau oeddwn ni pan ysgrifennais y nofel wreiddiol, yn ceisio dod o hyd i’m llais fy hun. Mae Mair yn y nofel yn astudio emrallt, ac yn ystyried sut i osod ‘ffenestr’ ynddi er mwyn syllu i’w chrombil. Dwi’n cofio treulio oriau yn chwilio am ffordd i mewn i’r stori. Pa ongl i’w defnyddio, pa doriad fyddai’n gwneud i’r garreg ddisgleirio gryfaf. Mae Mair hefyd yn amgylchynu ei hun ag atgofion o fywydau pobl eraill, yn union fel ag yr oeddwn i yn ei wneud fel awdur.

Aeth Gwen ati i gyfieithu yn weddol annibynnol (heblaw am wythnos swreal yn yr Eidal), a dwi’n cofio darllen y gwaith gorffenedig a theimlo ei bod wedi llwyddo i greu llyfr oedd yn taflu golau newydd ar y stori ac eto'n cadw’n driw i ysbryd y gwreiddiol. Ei chrefft yw ail-ddychmygu’r nofel mewn iaith newydd gan chwilio am eirfa a ‘llais’ iddi fydd yn siarad â chynulleidfa Saesneg. Mae’r modd mae hi’n adleisio rhythmau’r rhyddiaith wreiddiol yn dangos bod ganddi glust gerddorol. Dwi ddim yn arbennig o ffyslyd o ran trafod manylion ieithyddol â chyfieithydd, ond mae sŵn nofel yn hynod bwysig i mi a mae Gwen yn gwybod hynny.

Cefais bleser yn darganfod y stori yn y lle cyntaf a’i gweithio hi cyn ei phasio ymlaen, a nawr mae Gwen wedi buddsoddi ei phrofiadau a’i gobeithion hithau ynddi hi hefyd. Bellach, mae’n rhaid i’r ddwy ohonom ollwng ein gafael, yn y gobaith y bydd hi’n mynd ymlaen ar ei thaith ei hun ac yn denu llygaid rhywun arall. [Caryl Lewis]

✒︎

Yn ystod yr hydref hwn, mae Caryl Lewis a finnau wedi bod yn cyfweld â’n gilydd mewn cyfres o ddigwyddiadau. Rydym yn trafod Y Gemydd, ei nofel a gyhoeddwyd yn 2007, a fy nghyfieithiad i ohoni, The Jeweller, sydd newydd ei chyhoeddi gan wasg Honno. Mae Caryl yn fy holi ynghylch y ddelwedd o farc geni yn y llyfr. Ac yna: a yw ôl bys Gwen yn The Jeweller yn wahanol i un Caryl yn Y Gemydd? Nid peth newydd mo hyn. Nid yw’r ddadl o blaid ystyried y cyfieithydd fel awdur yn un newydd. Sut beth yw'r ymwneud rhyngom ar y tudalen, felly?

Yn The Jeweller, mae fy mrawddegau i yn fyrrach. Mae trefn y penodau olaf yn wahanol hefyd. Ffin denau sydd rhwng golygu a chyfieithu ac fe all penderfyniadau'r cyfieithydd arwain at ddileu geiriau ar adegau – gall ail-adrodd geiriau mewn un iaith amharu ar y glust yng nghyweiriau iaith arall. Af ati i ad-drefnu paragraffau, hyd yn oed, i osgoi ail-greu symudiadau’r cymeriadau. Gosodaf y cymeriadau yn syth yn yr olygfa, gan ddisgrifio pethau drwy eu llygaid hwy. Ac ambell dro, byddaf yn cyflymu naratif trwy osod cymeriad mewn lleoliad newydd yn hytrach na’i disgrifio’n symud o ystafell i ystafell. 

Llais y prif gymeriad yw’r prif peth sy’n fy nenu at nofel, ac felly gwnaf bopeth o fewn fy ngallu i gryfhau’r ymdeimlad mai darllen profiadau’r arwres yn uniongyrchol a wna'r darllenydd. Mae hynny’n ehangu weithiau i greu deialog mewnol, er mwyn rhoi llais i deimlad (ac mae tipyn o hynny yn y nofel hon oherwydd i'r prif gymeriad, Mair, fyw ar ei phen ei hun). I roi un enghraifft, mae’r Gymraeg yn nodi, wrth i Mair weld caets Nanw yn wag, ‘i’w chanol wingo’, ac er imi gyfleu’r emosiwn hwn yn ogystal yn Saesneg (‘she felt a twinge’), mae gennyf frawddeg ychwanegol: ‘Poor sweet Nanw, may she rest in peace.’ Mewn nofel sydd am feddylfryd Mair (Mari yn fy nghyfieithiad Saesneg: newid sy’n cynorthwyo tafodau di-Gymraeg), rwyf am i bob brawddeg gynorthwyo'r darllenydd i ddychmygu safbwynt y prif gymeriad.

I’r rhai nad ydynt wedi meddwl llawer am y broses o gyfieithu llenyddiaeth, rwyf yn ymwybodol y gallai’r uchod swno’n haerllug, fy mod yn ceisio ‘gwella testun’ oherwydd fy nghefndir a fy hyder fel golygydd. Ond mae’r penderfyniadau hyn yn deillio o ysfa i ymwrthod â’r golled anghenrheidiol sy’n rhan gynhenid o gyfieithu. Mae iaith ffuglen Caryl Lewis yn canu yn y glust, yn atseinio, yn odli a hanner-odli: elfennau sydd – i lasfilwraig fel finnau – yn swnio fel cynghanedd mewn gwisg rhyddiaeth. Sut yn y byd y gallai’r Saesneg fod yn deilwng? Penderfynais gryfhau, estyn neu hyd yn oed greu delwedd pan oedd ysbrydoliaeth yn taro: delwedd a fyddai’n deilwng o gyfrifoldeb Mam Wen at y symbol gwreiddiol. 

Ar dudalen un, nid yw fy nghyfieithiad o ‘sbwriel’ yn ddadleuol (‘seagulls… flung across the air like litter’), ond mae’r sain – itt neu utt – yn dechrau creu ei fywyd ei hun. Mae’n ail-ymddangos ym mhumed llinell The Jeweller: ‘A flutter, like fingers leafing through pages’ (‘siffrwd, fel dalennau llyfr’). Erbyn pennod 10, mae’r sŵn yn fy helpu i atgyfnerthu techneg Caryl o ymgnawdoli natur: ‘The beech was flirting its little fans of beaten neon-green at her’ (‘cynigodd y ffawydden ddail gloyw gwyrdd’). 

Fel lluwch eiddo Judy yn Martha, Jac a Sianco, mae delweddau newydd yn setlo: ‘knuckles of pale gold that twisted on an updraught’ yn lle ‘[cytiau]’r wyn bach’. Datblygir delwedd Caryl o fochau (cnau, rhosynnod, cyfeillion mynwes) sy’n defnyddio’r llythyren ‘O’ (wyneb fel masg Calan Gaeaf wedi ei wasgu yn erbyn y ffenest; y pwyslais ar ‘O’ yn y frawddeg hon o bennod 29: ‘swelling the nuts into rosy cheeks of nobodies’). Cyflwynais glustdlysau i’r berth, ‘prom frock’ lliwgar i draeth llawn cyrff marw sêr y môr. Gwnïais gwt môr-forwyn glas gloyw i’r tonnau. 

Yn wahanol i brofiad Martha wrth wynebu dillad Judy ar wasgar drwy ei thŷ, gobeithiaf fod nofelau Caryl, trwy gyfrwng fy nghyfieithiadau, yn parhau i deimlo fel ffrwyth ei hysbrydoliaeth hi. Wedi’r cwbl, hi sydd wedi rhoi bod i’r tonnau hyn; ei pherth hi a’i thraeth hi ydyn nhw. Ond mae pob pluen eira yn unigryw hefyd, a gall Mam Wen fod yn ail go agos i fam go iawn o gymryd ei chyfrifoldebau o ddifrif. [Gwen Davies]


Cyfieithwyd The Jeweller Caryl Lewis gan Gwen Davies ac mae'r gyfrol ar gael i'w phrynu gan wasg Honno. Cyhoeddwyd cyfieithiad Gwen Davies o nofel gyntaf Caryl Lewis, Martha, Jack and Shanco, gan Parthian yn 2007. Mae Gwen yn olygydd y New Welsh Review.


Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


 

Categorïau:

Caryl Lewis, Cyfieithu, Rhyddiaith

 


Mae Caryl yn fy holi ynghylch y ddelwedd o farc geni yn y llyfr. Ac yna: a yw ôl bys Gwen yn ‘The Jeweller’ yn wahanol i un Caryl yn ‘Y Gemydd’?

Dyddiad cyhoeddi: 30·10·2019

Yn ôl i frig y dudalen

Cyfweld


Angharad Penrhyn Jones

Angharad Penrhyn Jones, Golygydd Cysylltiol O'r Pedwar Gwynt, sy'n holi Beti George am ei bywyd a'i phrofiadau fel darlledwraig ac ymgyrchydd.

Dadansoddi


Ned Thomas

Fel pawb roeddwn wedi clywed yn y newyddion am yr hyn ddigwyddodd ger Madrid ar 24 Hydref, sef codi gweddillion y Cadfridog Francisco Franco o'i fedd yn y Valle de los Caidos a'u trosglwyddo i feddrod teuluol yn y brifddinas. Digwyddodd hyn wedi brwydr hir yn y…

Dadansoddi


Caryl Lewis a Gwen Davies

Yn fy nofel Y Gemydd, defnyddir gemau (ar ffurf modrwyon), i gario addewidion a gobeithion. Er fod y cymeriadau yn perchnogi’r gemau hyn dros dro, perthyn i’r byd a’r cenedlaethau i ddod y maen nhw mewn gwirionedd. Ceir proses debyg wrth greu stori: mae’r awdur yn…

Adolygu


Tomos Morgan

Heb os mae angen cryn sensitifrwydd wrth ymhél – neu ymyrryd – â digwyddiad lle mae teimladau mor gryf ac emosiynau mor amrwd. Mewn cyd-destun newyddiadurol, er enghraifft, mae’n hysbys pa mor real yw perygl dwysáu trallod teuluoedd sydd eisoes mewn galar drwy gyhoeddi erthygl neu…

Cyfansoddi


John Emyr

Casglodd Glyn ei fagiau gan sylwi, drwy ffenest ei lofft, fod llechi’r toeau yn sych. Hyd yma, ar y bore hwn o Fai ym Mangor Uchaf, roedd y tywydd o’i blaid. Er iddo glywed chwyrniadau ffrae atmosfferig y cymylau uwchlaw’r Carneddau neithiwr, roedd…

Adolygu


Angharad Penrhyn Jones

Mae’r profiad o ddarllen y gyfrol hon fel eistedd ar soffa yn gwrando ar ferch alluog, ddidwyll a byrlymus yn adrodd hanes ei bywyd, paned mewn un llaw, hancesi papur mewn llaw arall, a digon o chwerthin. Mae’n lyfr mor hawdd ei ddarllen ar un ystyr, mor agos at rywun, y…

Cyfansoddi


Osian Wyn Owen

Pobol coleg fu’n clegar ‘nad oes byd na phlaned sbâr wedi hon’ a bod ‘i wedd yr haf gynhesrwydd rhyfedd ... 

Cyfansoddi


Rhiannon Ifans

Piciodd Ingrid i'r ardd i dorri cabatsien. Roedd hi’n ddychryn o oer, ac asgwrn ei chlun yn boen byw rhwng y gwynt main a’r eira’n pluo’n ysgafn o gwmpas ei phen. Ers dyddiau roedd yr awyr dywyll fel petai’n dal ei hanadl, yn gyndyn o ryddhau mwy na sgeintiad…