Tony Bianchi


Ras Olaf Harri Selwyn

Gomer, 288tt , £8.99, 2012

Greddf ddynol, dawn brin
Dadansoddi

Greddf ddynol, dawn brin

Cofio Tony Bianchi


Elinor Wyn Reynolds

Amser darllen: 15 munud

02·08·2017

Smo Tony ’ma mwyach – mae hynny’n siom clwyfus. Creadur prin oedd Tony Bianchi, un o’r bobl hynny sy'n cyfoethogi bywydau eraill jyst wrth fodoli a thrwy ysgrifennu. Dyn yr ydw i’n falch o allu dweud i fi ei nabod e, rhyw fymryn o leia’, achos y peth am Tony oedd ’mod i’n gwybod mai nofio ar yr wyneb oeddwn i, o gymharu â’i allu rhyfeddol e i blymio i ddyfnderoedd. Dyn deallus, llengar, galluog ydoedd a ymhyfrydai’n anghyffredin yn y cyffredin. Roedd hanfod bywyd ei hun yn ei oglais.

Pan ddechreuais i fel golygydd llyfrau Cymraeg, roeddwn i’n ddigon ffodus i gael Tony fel mentor. Tony oedd yn fy arwain i, Tony oedd yr un a roddodd yr hyder a’r hawl i fi gychwyn ar hyd y llwybr gyda llyfrau, i gredu ynof fy hun fel golygydd ac i ddatblygu fy ngallu i feithrin lleisiau awduron er lles y llyfrau, yr awdur a’r darllenydd. Dyn hael â’i amser ac â’i gyngor ydoedd, un a fyddai’n tafoli pob dim gan ddefnyddio’i safonau uchel ei hun fel llinyn mesur – a fyddai e’n disgwyl dim llai yn ôl. Byddai Tony’n dweud rhywbeth ysgubol yna, ‘Beth wyt ti’n feddwl?’ A byddai’n disgwyl yn eiddgar i glywed beth oeddwn i’n ei feddwl er mwyn ystyried ac ymateb eilwaith, am fod ganddo ddiddordeb go iawn yn yr ateb. Byddai’n edrych i fyw llygaid rhywun, bron i fyw yr enaid.

Llwyddodd i fy neffro i bosibiliadau a thechnegau ysgrifennu da, gan fy annog i weld sut oedd modd i fi fod yn rhan o’r broses o droi testun amrwd yn gyfrol orffenedig, gwrthrych y gellid estyn at silff a chydio ynddo. Ac o wneud hynny, a bwrw iddi â’r darllen, camu i fyd cyflawn mewn man arall yn hollol. Anhygoel! Dyna oedd hud a lledrith llenyddiaeth, yr alcemi sy’n digwydd gyda llyfrau – ac fe ddysgodd Tony beth o’r gyfrin-grefft honno i fi.

Roedd ganddo glust am eirwiredd mewn llenyddiaeth, gallai aroglu rwtsh o bell. Fel golygydd ei hun, medrai adnabod yr hyn oedd yn ‘ffug’. Wy’n cofio darllen rhyw destun neu’i gilydd gydag e a fynte’n taflu’r testun ’nôl ata i dros y ford a chyhoeddi: ‘Ma hwn yn bollocks llwyr! Yffach! Ma cheek ’da’r awdur ’ma’n sgrifennu’r fath rwtsh! Fysen i’n hollol embarrassed!’ A dyna’r gwirionedd, mi fysai Tony’n hollol embarrassed achos fel awdur doedd ail orau ddim yn ddewis iddo; chwiliai’n ddiflino am y gwir, am y ffordd iawn o ddweud rhywbeth, pob un gair yn ‘reit’ ac yn gwmws yn ei le. Roedd am fod yn hollol, hollol ddilys a ffyddlon i deithi’r iaith – ac adlewyrchu anwadalwch pryfoclyd y natur ddynol ar yr un pryd.

Roedd gan Tony ddiléit yn y manylion, y pethau pitw, y minutiae – gwelai’r darlun mwy yn y pethau bychain hynny, ac roedd hynny’n ddifyrrwch mawr iddo. Roedd ei ddiddordeb mewn pobl ac mewn bywyd yn ddihysbydd a’i chwant am dynnu’r cwbl yn shils a’i ailadeiladu yn ymddangos fel corwynt egnïol. Yn union fel gwneuthurwr clociau sy’n datgymalu cloc ac yn didoli ei berfedd cain yn amyneddgar a gofalus dros ford, er mwyn ei ddadansoddi a deall ei union natur, codi cogiau bychain bach i gledr llaw a chraffu arnynt o bob cyfeiriad cyn ailadeiladu’r mecanwaith fesul darn, byddai Tony’n datgymalu ac yn cymalu pobl ei nofelau drachefn. O, roedd e’n dwlu ar lo mân bywyd.

Er mwyn dangos bod ei straeon yn rhai go iawn, byddai’n cynnwys ychwanegiadau i’w dilysu: rhestrau siopa, amlen llythyr (gyda’r stamp arno o’r union gyfnod cywir), llun o goeden Nadolig wedi’i dynnu gan fachgen bach (cafodd Logan, un o’i wyrion, ei dalu’n hael mewn siocled am y llun os cofia’ i), mapiau pensaernïol, lluniau cain o gregyn, pob math o bethau. Doedd dim un manylyn yn rhy fach iddo, dim byd yn ddibwys. I Tony roedd detritus bywyd yn rhan annatod o’i straeon oherwydd yn y mân bethau hynny roedd y pethau mawrion yn llechu.

Gweithiais fel golygydd gyda Tony ar ei dair cyfrol Gymraeg olaf: Ras Olaf Harri Selwyn, Dwy Farwolaeth Endaf Rowlands a Sol a Lara. Roedd llwybr pob un o’r cyfrolau hyn i’r wasg yn brofiad llawn a chyfoethog.

Rhaid i mi ddweud mai’r gyntaf, Ras Olaf Harri Selwyn (llinell o gynghanedd), oedd fy ffefryn personol, efallai am mai dyma’r tro cyntaf i fi weithio ar ei waith ei hun gydag e, ond hefyd am fod sail y nofel mor ogleisiol a’r senario yn un sy’n gyrru’n ddidrugaredd at y dénouement a’r diwedd. Mae dyn mewn tipyn o oed, Harri Selwyn, yn deffro, yn codi ac yn cyflawni gorchwylion ei fywyd beunyddiol. Mae wedi gadael i’w wraig gysgu ’mlaen, ond heb yn wybod iddo, mae hi wedi marw yn ei chwsg yn ystod y nos. Fel darllenwyr, gwyddom y bydd yn rhaid iddo ddod o hyd i’w chorff marw – ond pryd? A beth fydd yn digwydd wedyn? Dere mlân Harri, w! Siapa’i! Cawn fynediad i friwsionach meddyliau Harri Selwyn, sydd yn hollol gyfareddol: y cul-de-sacs ieithyddol, y diffyg meddwl am neb ond fe ei hunan a’r cyfan yn creu darlun o ddyn go iawn yn ei holl ogoniant ffaeledig o flaen ein llygaid.

Enillodd Tony’r Fedal Ryddiaith am Dwy Farwolaeth Endaf Rowlands (cynghanedd eto), sy’n adrodd hanes bachgen a chanddo allu i glywed y tu hwnt i’r gallu dynol arferol. Clywodd Endaf eiriau ei fam a’i dad tra’r oedd yn y groth ac mae hynny’n gadael marc andwyol arno am weddill ei oes. Mae Endaf yn tyfu i fod yn fachgen unig a’i glustiau’n merwino wrth iddo glywed pob dim. Mae’n cario’r baich emosiynol o gwmpas gydag e, yn casáu ei dad ac yn caru’i fam – fel pob gwrth-arwyr gwerth ei halen.

Hanes dau na ddylai fod wedi cwrdd, mewn amgylchiadau arferol, yw Sol a Lara, ond dyna ni, fyddai hi ddim yn nofel gan Tony Bianchi fel arall, na fyddai? Mae Lara’n nyrs mewn ysbyty, yn byw adre gyda’i mam ac yn breuddwydio a chreu ffantasi am un holiday romance a gafodd hi dro yn ôl. Boi cyffredin yw Sol, bildar, wedi gwneud ambell i ddêl amheus yn ei dro. Mae e’n gorfod cuddio rhag yr heddlu, ond nid ei fai e yw hynny, cofiwch. Nofel am dwyll a hunan-dwyll yw Sol a Lara, a stori y cafodd Tony flas mawr ar ei hadrodd. Yn wir, mae cyrraedd y diwedd a darllen y gair olaf, hyd yr atalnod llawn, yn brofiad boddhaol tost.

Pobl gyffredin wedi’u niweidio gan fywyd yw pobl Tony, pobl wedi’u hystumio gan eu hanes, a rhai o’r hanesion hynny yn cynnwys troeon yn eu cwte – a hwre am hynny, dyna lle mae’r difyrrwch. Efallai nad oedd Tony’n hoffi ei gymeriadau bob amser ond roedd e’n credu ynddyn nhw’n llwyr. Byddai’n byw gyda nhw am amser hir, yn treulio amser yn eu cwmni hyd syrffed, hyd nes iddo gael llond bol arnyn nhw – ond sut arall fedrai e ddod i’w hadnabod nhw’n iawn? Roedd portreadu ffaeleddau bodau dynol yn rhan bwysig o’i ysgrifennu am mai yn yr amherffaith yr oedd y gwir. Meddai ar y ddawn i edrych ar ei gymeriadau yn hollol ddiduedd, yn fforensig ar adegau, er mwyn dal eu hunion anian yn y geiriau. Gadawai le i’r darllenydd ddatblygu eu perthynas eu hunain â’r cymeriadau yn ogystal, achos un hael fel ’na oedd Tony.

Cerddai lwybrau trwstan y Gymraeg am fod teithi’r iaith yn hanfod i’w ysgrifennu. Byddai’n ail-greu’r ffordd y mae pobl yn siarad i’r sillaf cwmws olaf. Byddem yn trafod, yn cytuno – ac anghytuno weithiau – am bob collnod, a hynny am yn hir iawn. Roedd ei ddealltwriaeth o’r Gymraeg yn feistrolgar, mewn ffordd na fyddai’n tynnu sylw o gwbl. Byddai’n fy holi’n dwll am bethau, cai ddiléit o ofyn: ‘Beth ti’n meddwl fydde’r cymeriad hwnnw’n gwneud yn y sefyllfa honno?’ Fy ateb i fyddai: ‘Sa i’n gwbod Tony, chi bia’r stori.’ Ac wrth gwrs, mi oedd e’n gwybod beth fyddai’r cymeriad yn ei wneud achos pe bawn i’n awgrymu rhywbeth nad oedd yn taro deuddeg, ro’n i’n cael gwybod yn syth, yn y modd neisia’ posib. Mewn ffordd, nid fi roedd e’n ei holi, ond ei hunan.

Yn ddi-ffael, yn ddi-ffael, byddai’n ffonio, pan oedd wrthi gyda chyfrol ac yn dweud, ‘Elinor! Ti’n gwbod y tipyn nofel ’ma? Wel, wy wedi rhoi’r hen rhacsyn peth yn y bin, o’dd e’n werth dim! Rybish llwyr! Wy wedi dechre ’to! Sdim ots ’da ti o’s e? Paid â becso, fydd e’n iawn.’ A fydden i ddim yn becso, achos roeddwn i’n gwybod y byddai Tony’n cael y maen i’r wal, ond dim ond os oedd e’n hapus. Doedd dim ots am neb arall. Ac ro’n i’n gwybod, beth bynnag, y byddai’r hyn a ystyriai Tony Bianchi’n rwtsh, yn werth dim mwy na chael mynd i’r bin, yn ddigon da i guro pawb arall yng nghystadleuaeth y Fedal Ryddiaith yn hawdd. Roedd yn rhaid i Ruth, ei bartner, gymeradwyo hefyd; roedd yn rhaid iddid hi feddwl bod rhywbeth yn gweithio cyn iddo fod yn hollol fodlon. Mae’n amlwg fod ganddi hi glust a llygad dda hefyd a phan fyddai pethau’n mynd yn ben-set, os oedd Ruth yn meddwl bod rhywbeth yn gweithio, byddai Tony’n fodlon. Weithiau, wedi i ni fod yn gweithio ar gyfrol am gyfnod hir, byddai’n ffonio’n ddigymell i ddweud ei fod am newid teitl nofel a hynny ar yr unfed awr ar ddeg, cyn mynd i’r wasg. Tynnu coes y byddai – er nad oeddwn i’n hollol siŵr weithiau …

Yn ddiweddar, bu Tony’n trafod bwrw ati â chyfrol a fyddai’n plethu rhai o’r hanesion ffantastig ac anodd eu credu am aelodau o’i deulu gyda ffuglen ac elastig ei ddychymyg. Bu’n twrio yn ei achau ac fe gafodd hyd i straeon anhygoel, yn wir; haid liwgar o adar brith oedd y Bianchis! Roedd ganddo straeon rif y gwlith: un o’i gyndeidiau yn act vaudeville gwallgo a oedd yn jyglo bachgen ac yn ei falansio ar ei ben; un o’i gyn-neiniau’n fenyw ddansierys a reidiai foto-beic, gormod o blant i’w cyfri ganddi, a chroesech chi mohoni hi dros eich crogi. Wn i ddim a wreiddiodd yr egin syniad. Gobeithio.

Roedd Tony hefyd yn ddyn tra egwyddorol. Roedd yn berchen ar ddaliadau cryfion, yn ddyn o argyhoeddiad am bob mathau o bethau; dyn triw a chreadur prin, fel y dywedais. Roedd yn ddyn yr oedd bod yn ei gwmni yn ddifyr bob amser ac roedd yn hael bob amser â’i amser a’i gyfeillgarwch. Dyn dynol iawn ydoedd, ac nid oedd ofn dangos hynny arno chwaith. Roedd cymaint amdano’n codi gwên. Prynodd fws er mwyn cario’i wyrion o gwmpas. Roedd ganddo dast mwnci mewn crysau, a’r rhan fwyaf ohonynt yn dod i Gymru o gwpwrdd rhywle yn Hawaii. Dyn y ‘nice line in self-deprecation’. Dyn y sanau a’r sandalau, dyn y neidio ar gefn ei feic i gwrdd dros baned a hel straeon. Dyn a adawodd gymaint ohono ar ôl yn ei waith, diolch byth.

 

 


Golygodd Elinor Wyn Reynolds dair o nofelau Tony Bianchi yn ystod ei chyfnod fel Golygydd Llyfrau Cymraeg Gwasg Gomer.


Mae O'r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn werthfawr - na, yn anhepgor - wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i'r cylchgrawn.


 

Categorïau:

Tony Bianchi, Teyrnged

 


Roedd portreadu ffaeleddau bodau dynol yn rhan bwysig o’i ysgrifennu am mai yn yr amherffaith yr oedd y gwir.

Dyddiad cyhoeddi: 02·08·2017

Yn ôl i frig y dudalen

Dadansoddi


Cefin Roberts

Mae’r theatr yng Nghymru wedi colli dyrnaid creulon o’i mawrion eleni ac roedd clywed am farwolaeth Meic Povey yr wythnos ddiwethaf yn waldan greulon arall i bawb ohonom sy’n caru’r theatr Gymraeg. Roedd Meic yn actor, awdur, cyfaill a Chymro i’r carn ac un a fu’n dyfal osod…

Cyfansoddi


Jan Morris a Twm Morys

Glywsoch chi fi yn crio ddoe? Fy nghyfrifiadur, o bethau’r byd, oedd achos y dagrau. Yn ystod y bore, galwodd dyn fi i ddweud wrthyf beth oedd angen ei wneud ar frys er mwyn cadw’r cyfrifiadur i fynd. Wyddwn i ddim bod dim yn…

Dadansoddi


M Wynn Thomas

Roedd Tony yn un o gymwynaswyr mwyaf gwerthfawr Cymru a’r Gymraeg fy nghyfnod i. Roedd hefyd yn un o’r unigolion mwyaf egwyddorol a llachar o dreiddgar ei feddwl i mi ddod ar eu traws. Fe ddes i’w adnabod gyntaf ar ddiwedd yr wythdegau pan…

Cyfansoddi


Ifor ap Glyn

Rhwng 1914 ac 1918 bu chwarter miliwn o ffoaduriaid o wlad Belg yn byw dros dro ym Mhrydain. Daeth rhai i Gymru ... 

Cyfweld


Ruth Richards

Daeth yn amser i gyrchu hanfodion dianghenraid drachefn; y rhuthr blynyddol am anrhegion Nadolig. Ac os digwydd i chwi fod ym Môn dros y cyfnod hwn, fe welwch fod trefi Biwmares a Phorthaethwy'n prysur gystadlu am y farchnad mewn addurniadau, hylifau a…

Adolygu


Gideon Koppel

Dw i ar awyren Ryanair o Chania, ar ynys Creta, i Stansted. Er bod y profiad yn ddigon anghysurus – cawn ein gyrru fel anifeiliaid ar hyd y maes awyr a’n gorfodi i aros heb eglurhad fan hyn fan draw – mae yna deimlad…

Colofnau


Mihangel Morgan

Fis diwethaf roedd ffrind i mi yn cael ei phen-blwydd yn hanner cant oed. Pan oedd John Betjeman yn fardd y Frenhines cafodd ei feirniadu yn y wasg am beidio â llunio cerdd i ddathlu pen-blwydd Ei Mawrhydi pan gyrhaeddodd hithau’r hanner…

Dadansoddi


Steffan Gwynn

Mae’r Ffindir yn enwog am ei fforestydd maith a’i chant a mil o lynnoedd disglair. Dyma wlad yr haul ganol nos, a pheth cyffredin yw dal bws o’r ddinas allan i’r wlad er mwyn mwynhau’r tywydd braf gan gasglu llus neu fadarch mewn basged wiail…