Dadansoddi

Gwaddol Belgiaid y Rhyfel Mawr

Beth sydd i'w weld heddiw?


Ifor ap Glyn

Amser darllen: 3 munud

25·11·2017

Bu’r Belgiaid yn ardal Porthaethwy yn gyfrifol am adeiladu’r ‘Belgian Promenade’ sy’n arwain o eglwys Tysilio at Garreg yr Halen. Dyma’r arteffact mwyaf iddynt adael ar eu hôl ac fe'i cwblhawyd yn 1916. Rhoddwyd llety i dros drigain o Felgiaid yn ardal y Borth, a phan adferwyd y promenâd yn y 1960au gwahoddwyd yr unig un oedd yn dal yn fyw, sef Eduard Wilhelms, i ddod ’nôl ar gyfer y seremoni ailagor yn 1965.

Yn eglwys Llanfihangel-y-Creuddyn mae reredos derw o waith Jules Bernaerts. Mae’r disgyblion yn ei gerfiad o’r Swper Olaf wedi’u modelu ar rai o’r trigolion lleol, fel ffordd o ddiolch iddynt am eu caredigrwydd.

Llanwenog. Yma yr ailgartrefodd Joseph Reubens o Bruges, ac yn yr eglwys gwelir croglen mewn arddull Fflemaidd, a darllenfa unigryw ar ffurf draig Gymreig, yn lle’r eryr traddodiadol (gwrthododd Reubens gerfio eryr am fod yr aderyn hwnnw hefyd yn un o symbolau imperialaeth yr Almaen). Cerfiodd Reubens gofeb hefyd i’r pum bachgen o ysgol y pentref a laddwyd yn y rhyfel.

Yr Ysgwrn. Ar Borough Road, Penbedw, yr oedd Eugeen van Fleteren yn byw, ond comisiynwyd yr alltud o gerfiwr gan gymuned o Gymry alltud ar lannau Merswy i gerfio'r gadair ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol 1917, a gynhaliwyd ym Mhenbedw y flwyddyn honno. Fe'i henillwyd gan Hedd Wyn, a gweld y gadair hardd hon yw un o uchafbwyntiau'r arddangosfa er cof amdano yn ei hen gartref yn yr Ysgwrn. Bu o leiaf ddau gerfiwr arall yn gweithio ar y gadair hefo Van Fleteren, ac un ohonynt, mae'n debyg, sydd wedi cerfio'r priflythrennau 'EVH' o dan y gadair.

Aberdaugleddau. Ar Hamilton Terrace yn y dref mae cofeb o garreg goch i ddiolch i’r trigolion am y croeso a roddwyd i lynges bysgota Ostend a'u teuluoedd yn ystod y Rhyfel Mawr.

Hercule Poirot. Doedd gan y ditectif bach ddim cysylltiad â Chymru, ond mae'n werth ei grybwyll am mai ef, o bosib, yw gwaddol mwyaf adnabyddus y ffoaduriaid Belgaidd a ddaeth gan mlynedd yn ôl. Er na chafodd llyfr cyntaf Agatha Christie amdano mo'i gyhoeddi tan 1920 (The Mysterious Affair at Styles), roedd hi wedi dechrau ei ysgrifennu yn 1916. A dyna esbonio'r rheswm gwreiddiol pam mae ditectif o Wlad Belg yn gweithio yn Lloegr – roedd yn ffoadur rhyfel. Ymddangosodd Poirot mewn 33 o nofelau gan Christie, ac ar ôl yr un olaf yn 1975 cafodd deyrnged angladdol yn y New York Times – yr unig gymeriad ffuglennol i gael anrhydedd o'r fath!

Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


Hercule Poirot, o bosib, yw gwaddol mwyaf adnabyddus y ffoaduriaid Belgaidd a ddaeth gan mlynedd yn ôl i Brydain

Dyddiad cyhoeddi: 25·11·2017

Yn ôl i frig y dudalen

Cyfansoddi


John Emyr

Casglodd Glyn ei fagiau gan sylwi, drwy ffenest ei lofft, fod llechi’r toeau yn sych. Hyd yma, ar y bore hwn o Fai ym Mangor Uchaf, roedd y tywydd o’i blaid. Er iddo glywed chwyrniadau ffrae atmosfferig y cymylau uwchlaw’r Carneddau neithiwr, roedd…

Adolygu


Angharad Penrhyn Jones

Mae’r profiad o ddarllen y gyfrol hon fel eistedd ar soffa yn gwrando ar ferch alluog, ddidwyll a byrlymus yn adrodd hanes ei bywyd, paned mewn un llaw, hancesi papur mewn llaw arall, a digon o chwerthin. Mae’n lyfr mor hawdd ei ddarllen ar un ystyr, mor agos at rywun, y…

Cyfansoddi


Osian Wyn Owen

Pobol coleg fu’n clegar ‘nad oes byd na phlaned sbâr wedi hon’ a bod ‘i wedd yr haf gynhesrwydd rhyfedd ... 

Cyfansoddi


Rhiannon Ifans

Piciodd Ingrid i'r ardd i dorri cabatsien. Roedd hi’n ddychryn o oer, ac asgwrn ei chlun yn boen byw rhwng y gwynt main a’r eira’n pluo’n ysgafn o gwmpas ei phen. Ers dyddiau roedd yr awyr dywyll fel petai’n dal ei hanadl, yn gyndyn o ryddhau mwy na sgeintiad…

Cyfansoddi


Carl Chapple

Yn 2013 y dechreuodd fy niddordeb mewn dawns. Cynigiodd John Livingston, dawnsiwr a hen ffrind i mi, eistedd ar gyfer llun. Roeddwn yn gweithio ar gyfres o bortreadau o berfformwyr llwyfan ar y pryd – comedïwyr ac actorion yn bennaf ... 

Dadansoddi


Angharad Closs Stephens

Dros y misoedd diwethaf aeth llawer ati i baentio ‘Cofiwch Dryweryn’ ar waliau ac adeiladau ar hyd a lled Cymru. O blith y rhai a welais i – mewn mannau cyhoeddus ac ar blatfform trydar – mae’r arwyddion fel petaent yn golygu amrywiol bethau i wahanol bobl. Gwelais un ag…

Adolygu


Dylan Huw

Yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst eleni, crëwyd yr hyn a alwyd yn AGORA, o hen ddrysau a gyfrannwyd gan bobl Sir Conwy. Gofod canolog, cyhoeddus ac agored yn ninas-wladwriaethau Hen Roeg oedd yr αγορά yn wreiddiol; mae’r gair hefyd yn golygu 'cynulliad' neu 'man cwrdd'. Paentiwyd y…

Adolygu


Esyllt Lewis

Pnawn glawog, pawb bach yn fflat, naws oer yn yr awyr. Dydd Sadwrn ola’ Steddfod. Trodd sudd yr wythnos yn byllau mwdlyd dan draed. Brysiais draw o’r maes i Oriel Ffin y Parc cyn i’r falen Eisteddfodol allu gafael ynof. Dyma ofod gogoneddus yn y goedwig, yn gynnes ynghanol…