Gwyn Griffiths


The Old Red Tongue

Francis Boutle Publishers, 1000tt, £30, Mehefin, 2017

Gwarchodwyr a chrewyr iaith
Dadansoddi

Gwarchodwyr a chrewyr iaith

Trafod ieithoedd llai-eu-defnydd yn Ostana, yr Eidal


Gwyn Griffiths

Amser darllen: 12 munud

06·09·2017

Yng ngeiriau fy nghyfaill Matteo Ghiotto, mae Ostana’n wyrth. Rai blynyddoedd yn ôl daeth y pentref i sylw’r cyfryngau rhyngwladol pan anwyd y baban cyntaf ers deng mlynedd ar hugain yno. Nid oes ond un teulu’n byw yn y pentref yn barhaol er bod oddeutu 80 o deuluoedd yn byw yn y gymuned am ryw ran o’r flwyddyn. Adnewyddwyd yr adeiladau, daw sgïwyr yma yn y gaeaf a cherddwyr yn yr haf. Mae yma amgueddfa i goffáu’r dynion – a’r merched yn arbennig – a fu’n rhan o wrthsafiad yr Ail Ryfel Byd, a wal ddringo artiffisial frawychus i’r rheini sydd am baratoi i fynd i’r afael â’r Alpau Eidalaidd sy’n pwyso dros y pentref. Dyma hefyd gartref y Premio Ostana per Escrituras en lenga maire, sef ‘Gwobrau Ostana i rai sy’n ysgrifennu yn eu mamiaith’ – pobl sy’n ysgrifennu mewn ieithoedd llai-eu-defnydd, hynny yw, neu ieithoedd di-wladwriaeth.

Ostana, Yr Eidal

Ostana, yr Eidal (Wkimedia Commons)

Mae yna fwy o ieithoedd lleiafrifol yn yr Eidal nag yn unrhyw wlad yn Ewrop, ac mae’r Alpau eu hunain yn frith o ieithoedd. Wedi’r Ail Ryfel Byd, mewn adwaith i bolisi Mussolini ar ‘Eidaleiddio’r’ wlad, penderfynodd y Weriniaeth warchod lleiafrifoedd ieithyddol. Yn anffodus ni phennodd y llywodraeth pa ieithoedd yn union fyddai’r rheini. Canlyniad hynny oedd rhoi statws arbennig i ieithoedd cenedlaethol y gwledydd a oedd yn ffinio’r Eidal – Ffrangeg yn Nyffryn Aosta, yr Almaeneg yn ne’r Tyrol ac ati. Ond doedd yna ddim statws i leiafrifoedd ieithyddol hanesyddol fel y Franco-Provençal, yr Ocsitaneg a’r Ladino. Dim ond yn 1999 y daeth hynny, pan basiwyd deddf a fyddai’n caniatáu’r un statws swyddogol iddynt â’r ieithoedd mwy o’u hamgylch. Roedd y ddeddfwriaeth hon yn ymdrin â'r defnydd o’r ieithoedd hynny mewn ysgolion, mewn gweinyddiaeth gyhoeddus ac yn y gyfraith. Diddorol nodi mai gan y comuni amministrativi, sy’n cyfateb i’n cynghorau cymuned ni, y mae’r hawl i ddeddfu pa ieithoedd a ddysgir yn yr ysgolion a pha rai a ddefnyddir yng ngweinyddiad y gymuned.

Saif pentref Ostana yn uchel yn nyffryn y Po, rhan o’r Eidal lle siaredir Ocsitaneg. Hi yw hen iaith y trwbadwriaid, ac mae ei thiriogaeth yn ymestyn ar hyd rhan helaeth o dde Ffrainc, draw i’r Eidal ac i un cwm bach yng Nghatalwnia, y Val d’Aran. Mae iddi statws swyddogol yn yr Eidal ac yn y Val d’Aran ond nid yn Ffrainc. Yn rhanbarth y Piemonte (sef taleithiau Turin a Cuneo) y’i siaredir yn yr Eidal, a hynny mewn rhyw ddwsin o gymoedd mynyddig – rhyw 100 o gymunedau, â phoblogaeth o ryw 180,000, er nad pawb yn y mannau hyn sy’n ei siarad. Fe’i siaredir hefyd yn y Guardia Piemontese, yng nghymuned Calabria. Mae trigolion y cymoedd mynyddig hyn yn amlieithog – maent yn siarad Ocsitaneg, Ffrangeg, Piemontese ac Eidaleg. Ac mae Maer Ostana, Giacomo Lombardo, a ddaeth i’n cyfarfod ym maes awyr Turin i'n hebrwng i'r ŵyl, yn medru'r ieithoedd hyn i gyd – ynghyd â mymryn o Saesneg hefyd. 

Eleni cynhaliwyd gŵyl Ostana am y nawfed tro a thros y blynyddoedd croesawyd ac anrhydeddwyd sgrifenwyr o genhedloedd a phobloedd mor amrywiol â Chwrdistan, y Maori, Tibet, y Ffrisiaid, Llydaw, y Cheyenne a Yoruba, yr unig iaith Affricanaidd i’w chynrychioli yn yr ŵyl hyd yma. Heb anghofio llu o ieithoedd bychain eraill Ewrop, wrth gwrs. Cyhoeddir cyfrol o’r cyflwyniadau bob blwyddyn sy’n cynnig golwg werthfawr ar y byd drwy lygaid lleiafrifoedd – os medrwch ddarllen Eidaleg.

Ymysg y rhai a anrhydeddwyd yn yr ŵyl eleni oedd Joséphine Bacon o Ganada sy’n sgrifennu mewn Innu ac yn Ffrangeg. Fe’i ganwyd yn 1947 yn Pessamit, tir a neilltuwyd ar gyfer y brodorion gwreiddiol ger aber yr afon Betsiamites. Yr Innu yw trigolion brodorol y rhan helaeth o ogledd-ddwyrain talaith Québec a rhannau dwyreiniol penrhyn Labrador. Am filoedd o flynyddoedd buont yn byw bywyd crwydrol, yn hela caribŵ, mŵs a cheirw ac yn pysgota. Mae rhai o’r llwythau arfordirol yn amaethu hefyd. Mae eu poblogaeth oddeutu 18,000 – rhyw 14,000 yn Québec, a’r gweddill yn Labrador.

Mor ddiweddar a hanner cyntaf yr 20fed ganrif, roeddent yn cael popeth yr oedd ei angen arnynt – yn fwyd, dillad, lloches ac offer – gan y caribŵ, anifail y mae iddo arwyddocâd diwylliannol mawr hefyd. Yna, yn y 1950au a’r 1960au, fe’u gorfodwyd i fynd i fyw mewn pentrefi a chymunedau a benwyd gan Lywodraeth Canada a’r Eglwys Gatholig. Wrth i’r llywodraeth ddwyn eu tiroedd ar gyfer mwyngloddio ac adeiladu ffyrdd, a boddi cymoedd i gyflenwi dŵr a thrydan, roedd y newid yn eu bywydau yn drawmatig ac yn achos lefelau uchel o alcoholiaeth a hunanladdiad. Er y byddai llawer yn dychwelyd i’r wlad, i hela a physgota, yn enwedig yn ystod y gwanwyn a’r hydref, aeth yn fwyfwy anodd iddynt wneud hynny, o ganlyniad i ddiflaniad eu tiriogaethau traddodiadol.

'Explorations in the interior of the Labrador Peninsula'

Delwedd o'r gyfrol Explorations in the interior of the Labrador Peninsula, the country of the Montagnais and Nasquappe Indians, HIND, Henry Youle. Digideiddiwyd gan y Llyfrgell Brydeinig. Parth cyhoeddus.

Mae’r iaith Innu neu Ilnu (neu, yn fwy arferol, Montagnais) yn perthyn i grŵp iaith y Cree, ac nid oes ganddi unrhyw berthynas â ieithoedd yr Inuit (Escimos) cyfagos. Wrth i Ganada ddangos mwy o gydymdeimlad ac edifeirwch am y modd y bu iddynt drin y brodorion gwreiddiol – cyfeirir atynt bellach fel ‘First Nation’ – dechreuwyd recordio chwedlau’r Innu. Ymgymerodd Joséphine Bacon â’r gwaith o gyfieithu’r deunydd hwnnw i'r Ffrangeg. Yna, gan nad oedd yr iaith wedi cael ei hysgrifennu erioed, aeth ati i lunio orgraff, a dechrau ysgrifennu barddoniaeth ynddi gyda chyfieithiadau Ffrangeg. Mae hi’n mynnu nad bardd mohoni ond calon grwydrol, yn hytrach, sy’n adleisio lleisiau’r henoed a’u hynafiaid drwy gyfrwng barddoniaeth, addysgu, trwy ganu’r hen ganeuon a gwneud ffilmiau, a thrwy gyfieithu a dehongli. Daeth yn symbol o Québec. Gweithiodd oddi mewn i gymunedau brodorol yr Innu, ar y cyd â darlithio mewn prifysgolion, trefnu gweithdai, cyfieithu a chyhoeddi ei barddoniaeth a’i hatgofion. Derbyniodd anrhydeddau yng Nghanada ac yn rhyngwladol a chydnabyddiaeth am ei gwaith ar ffurf doethuriaeth gan Brifysgol Ottawa.

Yr ieuengaf i’w anrhydeddu yn Ostana eleni oedd Erlend O Nødtvedi o Norwy. Bu ei gwmnïaeth, fel cwmnïaeth Joséphine, yn arbennig o addysgiadol. Rhyfedd cyn lleied y mae rhywun yn ei wybod a’i ddeall am ieithoedd a diwylliannau eraill. Am ryw reswm, ni thybiwn y byddai yna lawer i’w ddysgu am wlad fel Norwy. I’r gwrthwyneb. Diolch i Erlend cefais ddarlun pur fanwl o gefndir ieithyddol – annisgwyl – y wlad. 

Ceir dwy ffurf swyddogol ar Norwyeg ysgrifenedig, sef Bokmål (yn llythrennol ‘iaith llyfr’), neu weithiau Dano-Norwyeg, a Nynorsk (yn llythrennol ‘Norwyeg newydd’). Ceir dwy ffurf ysgrifenedig – answyddogol – arall hefyd, sef Riksmål (‘iaith y wladwriaeth’), sydd fwy neu lai yr un peth â Bokmål ond ychydig yn nes at Ddaneg. Y ffurf arall llall yw’r Høgnorsk (‘Norwyeg Uchel’), ffurf burach o Nynorsk.

Rhwng yr 16eg a’r 19eg ganrif, pan lywodraethid Norwy gan Ddenmarc, Daneg oedd yr iaith ysgrifenedig swyddogol. O ganlyniad datblygodd ffurf ysgrifenedig ar yr iaith Norwyeg ag iddi arlliw o'r Ddaneg. Yn hanesyddol felly, mae Bokmål yn ffurf ar Norwyeg a ddylanwadwyd gan y Ddaneg. Yn yr 1840au, daeth ieithegydd, bardd a llenor o’r enw Ivar Aasen i’r darlun. Mab i dyddynwyr tlawd o ddwyrain arfordirol Norwy oedd Aasen ond drwy ymdrech bersonol, addysgodd ei hun ac, ar ôl ymddihatru o ddyletswyddau tyddynnwr, aeth o gwmpas y wlad i gasglu geiriau tafodieithoedd dwyrain Norwy a chystrawennau nad oedd arnynt ddylanwad y Ddaneg. Yn 1848 cyhoeddodd ramadeg yn y Ddaneg o dafodieithoedd Norwy, Det Norske Folkesprogs Grammatik. Dilynwyd hynny yn 1850 gan ei eiriadur, yn y Ddaneg eto, o dafodieithoedd Norwy, Ordbog over det Norske Folkesprog. Aeth rhagddo wedyn i ddangos sut y gellid defnyddio’r iaith lenyddol – iaith a greodd i bob pwrpas – gan sgrifennu dramâu ynddi. Galwodd yr iaith yn Landsmaal – iaith y wlad. Ar sail hon y datblygodd Nynorsk (Norwyeg newydd), fel rhyw adwaith i’r Bokmål a’i dylanwadau Daneg. 

Y mae gan Bokmål a Nynorsk statws gyfartal, fwy neu lai, er bod oddeutu 85% yn defnyddio Bokmål yn bennaf fel iaith ysgrifenedig bob dydd. Mae rhyw 5% yn defnyddio’r ddwy a thua 8% yn defnyddio Nynorsk yn bennaf. Ond mae’n werth nodi bod llawer o bobol y wlad yn siarad tafodieithoedd sy’n nes at Nynorsk na Bokmål. Ymdrech ofer fu ceisio uno’r ddwy iaith. Heddiw, mae Nynorsk yn iaith swyddogol mewn pedair o 19 sir Norwy, ac mewn nifer o fwrdeistrefi ym mhump o’r siroedd eraill. Mae’n ofynnol i gorfforaeth ddarlledu Norwy ddarlledu yn Bokmål ac yn Nynorsk, a disgwylir i holl asiantaethau’r llywodraeth gefnogi’r ddwy iaith ysgrifenedig. Fel yn achos llawer o ieithoedd llai-eu-defnydd, mae yna wrthwynebiad i’r defnydd o Nynorsk, yn arbennig gan Blaid Geidwadol Norwy. Nid yw myfyrwyr yn ddi-euog yn hyn o beth chwaith, a hwythau’n derbyn addysg yn y ddwy iaith.

Mae Erlend, a aned yn 1984, yn lladmerydd dros Nynorsk. Fe’i magwyd mewn ardal ger Bergen, yng ngogledd-orllewin y wlad. Derbyniodd ei addysg ffurfiol yn Bokmål ac ym Mhrifysgol Bergen cwblhaodd ei radd uwch ag astudiaeth o lenyddiaeth gogledd y wlad – lle y dechreuodd ymddiddori yn Nynorsk.

O safbwynt artistig mae'n debyg i Erlend greu ei iaith lenyddol ei hun, gan fynd ati i ysgrifennu barddoniaeth sy’n cyfuno traddodiadau llenyddol, llên gwerin a chwedlau wedi eu gosod yn nhirweddau dramatig y ffiordau. Mae ei gerddi’n cyfuno Bokmål a Nynorsk, ffurfiau llenyddol hynafol a’r tafodieithol draddodiadol, ac maent yn dod at ei gilydd i greu barddoniaeth synhwyrus sy’n swynol i’r glust, er nad yn ddealladwy i mi wrth gwrs. Mae’n perfformio’r farddoniaeth yn rymus hefyd ac yn fynych ceir cyflwyniadau ar offeryn traddodiadol Norwy, yr hardingfele, math o ffidil addurnedig ag iddi wyth neu naw llinyn.

Ymddangosodd ei gasgliad cyntaf o gerddi, Harudes yn 2008, cyn i Bergens Beskrivelse gael ei chyhoeddi yn 2011, a Trollsuiten yn 2014. Barddoniaeth a iaith yw ei fyd. O sgwrsio gyda Birgit Hatlehol, Cyfarwyddwr Oslo Poesifilm – Gŵyl Farddoniaeth Ryngwladol Oslo – ac un o gefnogwyr mwyaf brwdfrydig Erlend, deuthum yn ymwybodol fod y bachgen difyr, diymhongar hwn yn ddawn lachar y disgwylir pethau mawr ganddo yn y dyfodol. Diymhongar? Wel, yn ôl Birgit, mae Erlend yn fardd a llenor uchelgeisiol dan yr wyneb. Yn yr hydref cyhoeddir ei nofel gyntaf ond chafodd neb ohonom wybod dim am ei chynnwys, ddim hyd yn oed Birgit.


Gwyn Griffiths yw cyd-olygydd y gyfrol The Old Red Tongue (gyda Meic Stephens) a gyhoeddwyd yn gynharach eleni gan wasg Francis Boutle (2017). Mae'n awdur bywgraffiad o'r heddychwr a'r gwladgarwr o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, Henry Richard (Francis Boutle, 2012). Cyhoeddodd hefyd lyfrau taith, cyfieithiadau o ddramâu o'r Lydaweg i'r Gymraeg, a chyfrolau eraill ar ddiwylliant Llydaw a Chymru. 


Mae O'r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn werthfawr - na, yn anhepgor - wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i'r cylchgrawn.


Rhyfedd cyn lleied y mae rhywun yn ei wybod a’i ddeall am ieithoedd a diwylliannau eraill ...

Dyddiad cyhoeddi: 06·09·2017

Yn ôl i frig y dudalen

Dadansoddi


Huw L Williams

Mae’r penderfyniad i streicio gan staff prifysgolion ledled Cymru a’r Deyrnas Gyfunol, yn wyneb y bygythiad newydd i gynllun pensiwn prifysgolion, yn codi cwestiynau sylfaenol am rôl y Brifysgol fel sefydliad. Mae hyn ar ben cynlluniau diswyddo sydd ar waith ar raddfa syfrdanol ac sydd…

Dadansoddi


Nerys Williams

Yn y chwedegau, anogwyd 'Mamau America' i yrru eu plant i'r sinema gan y bardd Americanaidd Frank O'Hara – yn chwareus felly. O leiaf byddai gobaith wedyn na fyddent yn stelcian yn eu llofftydd 'yn eich casáu cyn pryd, a chithau ddim wedi gwneud dim byd rhy…

Cyfansoddi


Marion Muller-Colard

Mae'r stori hon i blant gan Marion Muller-Colard, a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn Ffrangeg (2014), yn cyflwyno syniadau Hannah Arendt (1906-1975) ar ffurf hanesyn a lluniau unigryw gan Clémence Pollet. Mae'r athronwraig ar fin gorffen sgwennu ei llyfr olaf, ond wrth iddi bendroni dros y…

Cyfansoddi


Robert Walser

Cyhoeddodd Robert Walser ddarnau cyson ym mhapur dyddiol y Berliner Tageblatt yn 1907-8 ac yn y cyfnod 1925-1933, gan gynnwys 'Llythyr gan Ewropead' ym Mai 1926. Mae nifer o'r darnau hynny ar ffurf llythyr sy'n cyfarch y darllenydd yn bersonol, yn lythyrau caru sydd wedi eu cyfeirio at foment ddychmygol. Yn wir, yn 1930, penderfynodd y papur wahodd nifer o…

Dadansoddi


Daniel Huws

Mae canu'n ymestyn lawer pellach yn ôl yn ein hanes nag ysgrifennu. Genir canu yn y cof ac yn y cof y'i diogelir. Cof sy'n gwneud dyn. Mae grym y cof dynol yn rhywbeth y mae pawb ohonom wedi cael achos o bryd i'w gilydd i…

Dadansoddi


Huw L Williams

Nid ysgeler yw pob llais o'r ochr draw i Glawdd Offa. Yn ddiweddar, bûm yn ddigon ffodus i fynychu sesiwn benigamp Cymru dros Ewrop, yng nghwmni Anthony Barnett, sef cyfarwyddwr y mudiad Charter 88 a sefydlydd y wefan wych OpenDemocracy. Buodd yng Nghaerdydd yn…

Cyfansoddi


Mihangel Morgan

Rwy wedi golygu a diwygio wrth ailadrodd y stori ryfedd hon a gefais gan Merfyn Taylor y diwrnod hwnnw. Ac ers y siwrne drên honno bûm yn ddigon ffodus i gael gafael ar atgofion anghyhoeddedig Mona Moffat ei hun trwy law Dr…

Adolygu


Alun Llwyd

Ymhell bell yn ôl, cefais drip gorau'r flwyddyn i Bookland yn Wrecsam i brynu blwyddlyfr y cylchgrawn pop, Sgrech. Darganfyddais pwy oedd yn chwarae'r gitâr fâs i Trobwll, darllenais am (ond chlywais i ddim nodyn gan) T Dunlop Williams, a daeth 'canu pop Cymraeg' yn air yn ogystal â…