Fay Godwin


Land

Heinemann, 160tt, ar gael yn ail-law, 1985

Rachel Carson


Silent Spring

Penguin, 336tt, £9.99, 1962; 2000

George Monbiot


Feral

Penguin, 308tt, £6.99, 2013

Gweld y byd fel y dylem
Dadansoddi

Gweld y byd fel y dylem


Sara Penrhyn Jones

Amser darllen: 15 munud

09·12·2016

Gofynnodd fy mab i mi’n ddiweddar a oeddwn i erioed wedi gweld draenog. Edrychais arno'n syfrdan. Roedd draenogod yn gymaint rhan o fy mhlentyndod â chrafu pengliniau, danadl poethion a gwneud cadwyni o lygad y dydd. Doedd gen i ddim syniad y gallai unrhyw un dreulio plentyndod heb weld ambell ddraenog o leiaf, naill ai'n fyw neu'n farw. Ond dyma ni'n trafod rhywogaeth a oedd, i bob golwg, mor ddieithr i fy mhlentyn fy hun â'r dodo.

Fis yn ddiweddarach, clywais ffermwr oedrannus yn Nhal-y-bont yn dweud bod yr afon leol yn ferw o bysgod pan oedd yn fachgen, ond nad oedd hynny'n wir mwyach. A oedd hynny'n ganlyniad, gofynnodd, i lygredd amaethyddol? Mae'r gwyddonwyr a'r ecolegwyr a ffilmiais dros y blynyddoedd yn teimlo eu bod yn gwylio stori fyd-eang yn datblygu, stori sydd yn rhy drymlwythog ag eironi dramatig iddi fod yn ddifyr, ac maent yn crafu eu pennau wrth geisio meddwl am ffyrdd o'n perswadio y gallwn ddylanwadu o hyd ar ei diweddglo.

Mae hi’n anodd ein perswadio am ei bod yn ymddangos bod y rheiny sydd ar ganol y llwyfan gwleidyddol yn ffyliaid (a hynny heb fod yn yr ystyr Shakespeareaidd chwaith). Neu am fod heddlu yn ymosod yn gorfforol ar yr Americanwyr Brodorol yng Ngogledd Dakota, y 'gwarchodwyr dŵr' sydd yn ceisio atal adeiladu pibell olew a gwarchod eu dyfroedd; sut mae mynd ati i’n perswadio wedyn y dylem boeni bob un am ein hadnoddau dynol, neu fod gennym gyfrifoldebau sydd yn rhychwantu'r cenedlaethau a'r rhywogaethau?

Wn i ddim a fydd y draenog — un o'r rhywogaethau arwyddocaol hynny, fel y caneri mewn pwll glo — wedi diflannu ymhen degawd, fel y mae sawl un yn rhagweld. Doedd gen i mo'r galon i ddweud wrth fy mab deng mlwydd oed — ei obsesiwn yw byd natur — y bydd bywyd gwyllt ar y blaned wedi edwino o ryw 70 y cant erbyn y bydd yn ugain oed. Ac y bydd yr edwino hwnnw yn cynnwys anifeiliaid na fyddwn wedi dod ar eu traws erioed, mewn mannau nad ydym wedi ymweld â hwy erioed chwaith, ac eithrio mewn llyfrau, ffilmiau neu yn ein dychymyg ein hunain. Ond ers pan oedd fy ngŵr yn fachgen, mae dros hanner rhywogaethau brodorol y DG wedi diflannu hefyd.

Mae'r rhain yn ddigwyddiadau syfrdanol ac maent yn digwydd ar raddfa sydd yn ddigon i roi'r bendro i rywun — o fewn cyfnod ein bywydau ni ein hunain. A ydym yn abl i sylwi ar y newidiadau yn ein tirweddau naturiol ein hunain? Mae ein disgwyliadau sylfaenol hefyd yn esblygu, wrth gwrs, fel petaem yn cyfarwyddo byth a hefyd â ‘safon normal’ newydd. Os na fydd y gog yno i gyhoeddi dyfodiad y gwanwyn, a fyddwn ni hyd yn oed yn sylwi mor ddilywodraeth yw ein tymhorau bellach?

Mewn ffilmiau, caiff sefyllfaoedd a thrychinebau apocalyptaidd eu cyflwyno, yn fwy aml na pheidio, mewn golygfeydd dramatig o ddinasoedd yn cael eu dinistrio neu eu boddi. Mwy brawychus o lawer, hyd y gwelaf i, yw proses o dawelu graddol, a honno'n ildio yn y pen draw i ddystopia, fel y gwelir yn nofel gofiadwy Cormac McCarthy, The Road (2006). Nid peth newydd yw dychmygu'r amgylchedd yn y fath fodd. Silent Spring gan Rachel Carson, a gyhoeddwyd yn 1962, yw'r llyfr ffeithiol mwyaf arwyddocaol erioed o bosib. Mae’n seiliedig ar absenoldeb canolog ac annifyr: mewn dyfodol gwenwynig, mae yna rywbeth wedi diflannu — cân yr adar. Roedd y syniad hwnnw yn ddigon grymus, yn y 1960au, i sicrhau deffroad amgylcheddol a newid gwleidyddol gwirioneddol yn yr Unol Daleithiau. Roedd yn fodd hefyd i danio'r mudiad amgylcheddol. Yn fwy diweddar, mae Rob Nixon, yn ei lyfr Slow Violence and the Environmentalism of the Poor (2013), yn gofyn i ni roi sylw i ddinistr amgylcheddol graddol ond marwol o bob math, nid dim ond i’r digwyddiadau mawr dramatig. Caiff rhyfeloedd eu hymladd dros dir — ond beth am ein harfordiroedd, sydd yn wynebu bygythiad cynyddol o du’r môr, neu erydiad priddoedd mwyaf ffrwythlon y DG yn Nwyrain Anglia, sydd, ar hyn o bryd, yn cynhyrchu 25 y cant o'n tatws? Fe allai'r tir hwnnw gael ei golli o fewn cenhedlaeth. Neu ystyriwch y ffaith bod dros hanner dŵr daear gorllewin Cymru mewn cyflwr ecolegol affwysol, a hynny'n rhannol o ganlyniad i wenwyn o hen weithfeydd mwyn ac amaethyddiaeth. Byddai Nixon yn disgrifio’r rhain fel ‘hir farwolaethau’ — ond mae hi bron yn amhosib creu delweddau cryfion neu straeon cyffrous i ddramateiddio sefyllfaoedd o’r fath. Mae amser ei hun fel petai'n cyflymu, wrth i ddifrod a cholledion amgylcheddol gael eu rhagweld ar raddfa anhygoel, ac oddi mewn i gyfnod amseryddol — cenhedlaeth neu ddwy — y gellid disgwyl i fodau dynol ei ddeall yn reddfol. Ond rydym yn gweithredu (neu’n methu â gweithredu) fel pe bai gennym amser i'w sbario. Does dim rhyfedd i'r amgylcheddwr a'r awdur Bill McKibben ddweud amdanom ein bod yn ‘dioddef o ddryswch marwol ynglŷn ag amser’. Mae disgwyl i'r celfyddydau gweledol gyfleu'r colledion hyn, wedyn, fel y byddwn yn poeni neu’n cael ein hysgogi i wneud rhywbeth, yn gyfystyr â disgwyl yr amhosib.

Beth sydd gan y synfyfyrion tywyll hyn i’w wneud, felly, â ffotograffiaeth, ac yn benodol â gwaith dogfennol a thirluniol y ffotograffydd Prydeinig Fay Godwin (1931–2005)? A all ffotograffiaeth ein cynorthwyo i weld y difrod amgylcheddol graddol sydd o'r braidd yn weladwy, fel y llwyddodd y ffotograffydd Henri Cartier-Bresson i ddal yr hyn sydd, yn ôl y sylwebydd celfyddydol John Berger, yn 'ymddangosiadol anweledig'? Un o'r prif ffactorau a gysylltir â'r cyfrwng ffotograffig — ac un o'r rhagfarnau pennaf amdano — yw mai dim ond yr hyn sydd ‘yno’ yn gorfforol y gall ei gyfleu; ‘dal’ gwrthrych a wna mewn ennyd o amser. Y syniad o ‘giplun’ corfforol a symbolaidd yw hwn ac y mae, o reidrwydd bron, yn syniad arwynebol. Yn ei ragair i lyfr arloesol Godwin, Land (1985), mae'r awdur John Fowles yn gwarafun bod ffotograffiaeth yn gyfrwng caeedig a marw sy'n ei chael hi'n anodd cyfleu gorffennol neu ddyfodol. Mae'n tanio yn y gwyliwr ddyhead (sydd yn amhosib ei gyflawni) am y profiad mwy real ac ystyrlon o fod yn gorfforol yng ngofod y llun. Ond mae Fowles yn cydnabod, ar yr un pryd, y gall llun da fod yn awgrymog, a bod Godwin — a oedd yn ffotograffydd dawnus a phwysig — yn llwyddo i gyflawni hynny.

Yn 'Marker Stone, Old Harlech to London Road, Wales' caiff y llygad ei ddenu yn gyntaf at y maen hir, sydd yn amlwg ym mlaendir y ffotograff. Mae'r garreg wedi bod yn nannedd y gwynt ers canrifoedd ac mae hi'n pwyntio'n barchus at gromlin gynnil ffordd hynafol y porthmon. Caiff y maen hir ei adleisio, gryn bellter i ffwrdd, gan yr hen wal gerrig sych, sy'n nadreddu'i ffordd — ar ongl gyfochrog — i fyny'r bryn serth a moel. Mae golau ariannaidd yn taro'r garreg ac mae'r bryn hefyd yn rhan hanfodol o gyfansoddiad y ddelwedd. Cyfranna hyn oll at yr hyn a ddisgrifiodd yr hanesydd ffotograffiaeth Roger Taylor, fel ‘dealltwriaeth reddfol [Godwin] o fframio delwedd’.
 

'Marker Stone, Old Harlech to London Road, Wales', Fay Godwin


Bydd unrhyw un sydd wedi ceisio tynnu lluniau o dirwedd yn gwybod nad ar hap a damwain y deuir ar draws amodau o'r fath. Mae nodweddion y tir, wedi'u dal mor rymus, yn tystio nid yn unig i allu ffotograffig ond hefyd i'r gwerthfawrogiad mynwesol bron sydd yn deillio o dreulio oes yn crwydro cefn gwlad. Roedd Godwin yn Llywydd Cymdeithas y Cerddwyr rhwng 1987 ac 1990 ac fe ddywedodd y gallai gymryd blynyddoedd iddi gofnodi'r ddelwedd a oedd ganddi mewn golwg. A hyd yn oed ar ôl llwyddo i’w dal, nid yw'r ddelwedd honno'n 'derfynol', am fod y tirwedd ei hun yn endid byw a newidiol. Dyma ffotograffydd y gellid dweud ei bod yn ‘bodoli’ yn y tirwedd ac sydd yn gwneud i ni deimlo ein bod ni'n bodoli yno hefyd, yn cymuno â hanes dyfnach.

Mae'r bardd ecolegol o Awstralia, Mark Tredinnick, yn disgrifio barddoniaeth fel ‘coreograffi gwacter’. Mae'r disgrifiad hwn yn arbennig o addas yng nghyswllt rhai o ffotograffau Godwin sydd, ar yr olwg gyntaf, fel petaent yn llawn gwacter. Ond mae’r gwacter hwnnw’n ofod hefyd sydd yn caniatáu i'r gwyliwr ffurfio ymateb personol i'r lleoedd yn llygad y lens.

Esboniodd Godwin ei hun nad trwy gyfrwng theorïau academaidd yr oedd hi'n adnabod tirwedd ond trwy gyfrwng gwaith ac â chymorth gwadnau ei thraed ei hun. Ategir hyn gan gerdd Ted Hughes (a gydweithiodd â Godwin), 'The Sole of a Foot'. Cyhoeddwyd honno yn Land ar y cyd â'r ffotograffau ac ynddi nid oes gymaint ag esgid rhwng croen a charreg; caiff gwadn y droed ei bersonoli, ac mae hwnnw'n mynegi'n uniongyrchol ei werthfawrogiad o'r graig y mae'n ei throedio:

         [...] I am no wing,
         To tread emptiness.
         I was made
         For you.

Mae'r hanesydd celf Ian Jaffrey yn dadlau bod diddordebau Godwin, a'r awdur Shirley Toulson, yn eu llyfr The Drovers’ Roads of Wales (1977) yn seiliedig ar syniad o'r ddaear fel endid i'w brofi'n gorfforol yn hytrach na'i weld â’r llygaid. Esbonia fod Godwin yn hoffi ymgorffori tirweddau a'i bod, wrth wneud hynny, yn uniaethu â bugeiliaid a phorthmyn, er mwyn rhoi mynegiant i leoedd a allai ymddangos i eraill yn ddigon di-nod.

Mae'r delweddau unigol 'Four Trees' neu 'Boardale' o’r gyfrol Land, a ddewiswyd i gynrychioli gwaith Godwin mewn arddangosfa fydd yn agor yn MOMA Machynlleth a Siop Lyfrau a Galeri Penrallt fis Chwefror 2017, yn defnyddio golau naturiol i greu effaith sydd yn syfrdanol o atmosfferig os nad yn aruchel. Mae'r golau sy'n taro'r tir yn amlygu'r coed neu'r gwartheg fel eu bod yn ymddangos yn fach ac yn arwyddocaol — symbolaidd hyd yn oed — yn y tirwedd ehangach. Mae golau hefyd yn hollbwysig yng nghyfansoddiad perffaith 'Pen-y-garreg Reservoir'; mae hwnnw'n cyfleu teimlad o fanylder ac o bellter, yn y tir gwyllt a'r elfennau dynol fel ei gilydd. Mae Godwin yn ein hysgogi i weld o'r newydd, ac yn ein cysylltu'n gynnil â lleoedd a themâu. Mor gynnil yw’r argraff, yn wir, fel y gallwn gredu ein bod yn dod ar draws y pethau hyn drosom ein hunain a hynny heb orfod gwisgo ein sgidiau cerdded.
 

'Pen-y-garreg Reservoir', Fay Godwin


Dylid ystyried corff o waith fel yr eiddo Godwin yn ei gyfanrwydd, wrth gwrs, ac yng nghyd-destun oes o ddatblygiad a arweiniodd at ymatebion cynyddol emosiynol a gwleidyddol at dirwedd. Doedd ganddi ddim amynedd â'r rheiny a ddewisai ddehongli ei gwaith fel gwaith rhamantaidd ac, yn Our Forbidden Land, a gyhoeddwyd yn 1990, mae hi'n datgan yn blaen bod rhwydd hynt i'r gwyliwr ddehongli ei gwaith fel y dymuna ond ei bod, o’i rhan hi, wedi dymuno creu rhywbeth gwahanol yn y llyfr hwn. Defnyddir testun i ddisodli amwysedd ac mae barddoniaeth hefyd yn rhan o'r arfogaeth deimladol, wrth i Godwin gysylltu tirweddau â'r bobl sydd yn byw ynddynt, yn gweithio ynddynt neu’n mwynhau ymweld â hwy. Caiff gwleidyddion a thirfeddianwyr eu harosod ar y tirweddau hyn hefyd, ac mae eu safbwyntiau hwythau yn siapio'r tir, neu’n atal eraill rhag cael mynediad iddo o gwbl. Mae Godwin yn parhau â'i harfer o greu delweddau du a gwyn ac mae hi’n catalogio’r amrywiol ffyrdd y mae pobl yn pennu, yn marcio ac yn marchnata eu tirweddau. Mae hi’n canolbwyntio ar yr arwyddion sy'n datgan bod rhannau o'r tirwedd, neu lynnoedd, wedi eu gwahardd i ymwelwyr, am resymau fel preifateiddio neu lygredd. Mae'r testun cysylltiedig hefyd yn ein hatgoffa y gall arwyddion o'r fath fod yn gamarweiniol weithiau — nid oedd y Dyfarniad Glendid Traethau yn ystyried carthion yn nŵr y môr o gwbl, er enghraifft. Yn ei chyflwyniad, mae Godwin yn mynd at wreiddyn y mater: 'Roeddwn wedi bwriadu i fy llyfr fod yn archwiliad o'r syniad o hygyrchedd ond, cyn gynted ag y dechreuais, roedd hi'n amhosib osgoi gofyn pa fath o dir yr ydym am gael mynediad iddo.’

Mae i'r delweddau hyn yn benodol elfen ddogfennol ddigamsyniol ac mae’r ffotograffydd yn gwrthod y demtasiwn i hepgor o'r ffrâm bethau a allai beri anesmwythyd yn y gwyliwr neu a allai andwyo ‘prydferthwch’ delwedd unigol. Mae yna elfen ddi-lol hefyd yn The Edge of the Land (1995). Ar gyfer y gyfrol hon, aeth Godwin i ymylon arfordirol Prydain. Mae hi fel petai'n dweud wrth y rheiny y mae'n well ganddyn nhw olygfeydd o fynyddoedd epig bod angen i ni ystyried hefyd y bobl sy'n byw yn y mynyddoedd, bod angen edrych yn ogystal ar y ffosydd a'r sbwriel a adawyd yn yr afonydd, a gofalu a phoeni am yr hyn sy’n anweledig. Mae’r anweledig hwnnw’n cynnwys dirywiad poblogaeth y llymrïaid (llyswennod y tywod) yn Ynysoedd Shetland, a'r goblygiadau i'r adar ymfudol sy'n dibynnu arnynt am fwyd; y chwistrelliadau o blaladdwyr neu'r cwmwl ymbelydrol o Chernobyl y cerddodd Godwin ac eraill drwyddo (yn llythrennol) ar eu teithiau drwy'r tir hwn. Mae'r delweddau'n amrywio o lwybr ffawydd hardd a deniadol, a moment gyfrin bron, yn Fforest y Ddena, i raeadr o wylanod sy'n heidio at bysgotwyr yn yr Alban — yn y ddelwedd olaf hon, bron nad oes modd clywed eu sgrechian.

Mae yna un ddelwedd arbennig o ingol yn Our Forbidden Land — morfil diymadferth mewn môr o goncrid, â defaid yn y cefndir pell. I mi, mae'r ddelwedd hon yn arbennig yn awgrymu dyfodol o ddioddefaint anifeilaidd cyffredinol a'n dryswch ni ein hunain mewn byd cynyddol unig ac anghyfarwydd.

Pam mae ffotograffydd yn cael ei denu i greu delwedd benodol? Weithiau, rhyw fath o adnabyddiaeth gorfforol ydyw, neu adnabyddiaeth drwy lens; rhywbeth nad ydym wedi ei lawn sylweddoli neu wedi gallu rhoi mynegiant iddo’n iawn mewn unrhyw ffordd arall. Nid oedd newid hinsoddol yn rhan o drafodaethau prif ffrwd pan oedd Godwin wrthi’n creu ei delweddau a rhyfygus fyddai i mi ragdybio ei barn ar hynny. Ond fe fu'r ysgrifen ar y mur neu, yn hytrach, ar y tir ers peth amser eisoes, ac roedd Godwin ymhlith y rheiny a ymdeimlodd ddyfnaf â hynny. Mae yna bryder cynnil ond amlwg yn ei gwaith mwy bwriadol amgylcheddol — pryder ynglŷn â byd sydd yn newid ar raddfa frawychus.

Fel gwneuthurwr ffilmiau ac ymchwilydd sy'n archwilio heriau amgylcheddol, bu'r duedd gyffredinol i weld ‘yr amgylchedd’ fel mater 'ar wahân' i'n huneiniau cymdeithasol a diwylliannol yn dân ar fy nghroen. Yn fy ngwaith fy hun, rwyf wedi ei chael hi'n anodd dod o hyd i ffordd o wrth-ddweud y syniad hwn — dechreuais fy ngosod fy hun o flaen y camera, felly, er mwyn tynnu sylw at y ffaith fy mod yn rhan o dirwedd a bod gennyf berthynas gorfforol â'r tirwedd hwnnw. Rhan o'r broblem yw bod y math o ffotograffiaeth sgleiniog a drud a welir yn y National Geographic yn arwain yn aml at argraff o fyd natur neu o dirwedd fel sbectacl i'w fwynhau neu i edrych arno â pharchedig ofn — yn hytrach nag fel rhywbeth i fod yn rhan ohono neu i ofalu amdano. Roeddwn i'n falch iawn, felly, pan gefais gyflwyniad i waith Fay Godwin gan berchnogion ysbrydoledig Siop Lyfrau a Galeri Penrallt ym Machynlleth. Mae'n amheus gen i a fyddai Godwin ei hun wedi dewis mynd ar ôl y trywydd hwn ond ni ddylid anghofio chwaith ei bod hi'n ddynes mewn byd ffotograffig hynod o wryw-ganolog. Ac mae hi'n anodd dadansoddi hynny heb dderbyn llawer o ragdybiaethau na fyddent o angenrheidrwydd wrth fodd Godwin. Ac eto, a boed hynny'n ganlyniad ai peidio i'w rhyw, cefais fy nharo gan y modd y caiff thema fel ‘cysylltiad’ ei hamlygu yn ei gwaith. Y mae i’w gwaith ostyngeiddrwydd mawr (er ei fod hefyd yn drawiadol o bendant). Yr hyn sy'n creu argraff ddofn arna i yw'r ffordd y mae Godwin yn chwilio am 'bobl leol' i siarad â hwy ac yn archwilio sefydliadau y mae ganddynt ran i'w chwarae yn ei thirluniau. Trwy wneud hynny, mae hi'n cynnig persbectif mwy cyfoethog fyth ar y tir. Mae hi’n ymgorffori safbwyntiau pobl eraill a thrwy hynny'n cynnig ymdeimlad mwy amlhaenog o hanes ac o'r foment gymdeithasol gyfredol. Mae hi fel petai'n cloddio o hyd, yn ddyfnach i grombil amser; yn archwilio'r ddaear mor drylwyr ag y gall, bron hyd at y lefel ficrobaidd. Ar yr un pryd, mae hi'n ystyried y gronynnau yn yr awyr ac yn cyfeirio at y dyfodol fel gofod i'w warchod. Yr ystod hon, a chymhlethdod amrywiol y safbwyntiau amserol a gofodol a gyflwynir, sy'n gwneud ei chorff o waith mor gyfoethog ac sydd yn ymestyn terfynau ei chyfrwng. Os yw ffotograffiaeth yn gyfrwng dan glo, mae Godwin yn ysgwyd bariau'r gell yn sicr.

Mae ei hymagweddu yn arbennig o berthnasol, efallai, yng ngorllewin Cymru, lle mae rhai pobl yn dal i gael eu pigo gan y darlun fymryn yn unochrog o ffermwyr yn llyfr George Monbiot, Feral: Rewilding the Land, Sea and Human Life (2014). Mae'r llyfr hwnnw'n alwad delynegol ar i ni adael i bocedi o'r byd ddychwelyd i gyflwr gwyllt, er lles bioamrywiaeth, anifeiliaid ac er ein lles ni'n hunain. Mae'n cyfleu awydd heintus i deimlo'n fyw yn y byd naturiol, yn hytrach na bod yn hanner marw mewn monoddiwylliant di-liw. Yn rhan o ddadl ysgubol ehangach y llyfr, mae'r bennod 'Greening the Desert' yn ein harwain ar daith gerdded trwy diroedd Pumlumon — lle marw, yn ôl Monbiot. Mae'n fan sydd yn antithesis i'r bywyd gwyllt y mae'n dyheu amdano a hynny'n bennaf am fod defaid, neu 'gynrhon gwlanog', ymhobman. (Mae’r disgrifiad hwnnw’n ddigon tebyg i ddisgrifiad John Muir o 'locustiaid carnog'.) Cymaint mae'r disgrifiad arswydus o Bumlumon yn argyhoeddi (ac euogrwydd y defaid) fel nad oeddwn i'n gallu credu fy mod wedi bod i'r un lleoedd, oni bai bod gen i luniau i brofi hynny. Mae dadansoddiad Monbiot o’r rhan hon o dirwedd Cymru yn ddigyfaddawd o negyddol ac mae'n ystyried y tirwedd yn ‘ddigalon a thorcalonnus’. Y tu hwnt i Ddwyrain Anglia, nid yw erioed wedi ‘gweld tirwedd Prydeinig mor wag a difywyd â'r hyn a eilw rhai pobl yr “Anialwch Cambriaidd”’. Mae'n adleisio syniad Rachel Carson o amgylchedd heb adar ac yn galw i gof, yn anfwriadol mae'n ddigon posib, ddisgrifiad Godwin ei hun o dirwedd Dwyrain Anglia fel ‘paith cemegol’. Mae adroddiadau o'r fath, gan Godwin a Monbiot, yn gwneud i ni weld tirweddau mewn ffordd wahanol. Hynny yw, pan welwn dirweddau trwy lygaid gwirioneddol ecolegol, caiff harddwch cefn gwlad ei gymhlethu’n ddirfawr, a'i ddifetha hyd yn oed. Mae ymwneud â delweddau a darlleniadau fel hyn yn ysgogi ystyriaethau mwy cyffredinol am y modd y gall celfyddyd ein cymell i weld nid drwy 'sbectol werdd' ond drwy sbectol gywirol, yn hytrach — ein cymell i weld y byd fel y dylem, efallai.

Fay Godwin: The Drovers' Roads of Wales a lluniau eraill, MoMA Machynlleth ac Oriel a Siop Lyfrau Pen'rallt 18 Chwefror-1 Ebrill 2017. Digwyddiadau, teithiau cerdded, lansiad ffilm.
Mwy o wybodaeth ar wefan Pen'rallt


Mae Sara Penrhyn Jones yn wneuthurwr ffilmiau ac ymchwilydd ym Mhrifysgol Bath Spa.

Lluniau: 'Marker Stone, Old Harlech to London Road, Wales' a 'Pen-y-garreg Reservoir' gan Fay Godwin. Gyda chaniatâd caredig Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The British Library.


Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


Doedd gen i mo’r galon i ddweud wrth fy mab y bydd bywyd gwyllt ar y blaned wedi edwino o ryw 70 y cant erbyn y bydd yn ugain oed

Dyddiad cyhoeddi: 09·12·2016

Yn ôl i frig y dudalen

Adolygu


Dyfrig Williams

Mae cyfrol ddiweddaraf Mariana Mazzucato, Athro yng Ngholeg Prifysgol Llundain, yn ddadl angerddol dros fuddsoddi a gwario er budd ein dyfodol. Yn ôl yr awdur, dylid ailfeddwl y berthynas rhwng marchnad a llywodraeth a bod yn gwbl lygatglir ynghylch pwy sydd yn…

Adolygu


Pedr Jones

Ar drothwy’r Rhyfel Mawr, roedd tueddiad gan y Cymry i gysylltu militariaeth â Seisnigrwydd, Eglwys Lloegr a gormes landlordiaeth. Yn y gyfrol bwysig hon gan Aled Eurig, sydd yn ffrwyth ymchwil archifol sylweddol, cawn ein hatgoffa bod nifer y Cymry a ymunodd â’r Fyddin yn…

Dadansoddi


Angharad Dafis

Aeth tridiau heibio bellach ers i gabinet Cyngor Dinas a Sir Abertawe benderfynu yn unfrydol i gau Ysgol Gynradd Gymraeg Felindre. Bu’n dridiau anodd. Rwyf wedi bod yn galaru droeon am anwyliaid. Mae hwn yn alar gwahanol: galar am gymuned benodol iawn…

Dadansoddi


Mabon Llŷr Hincks

Benben â’i gilydd, mewn cydbwysedd perffaith, mae dau gerflun yng nghanol cylch. Heb fwy na lled bys rhyngddyn nhw, does dim dwywaith nad ar y bwlch bychan hwn yr hoelir ein sylw gyntaf. Nid sefyll yn urddasol a wna’r siapiau rhyfedd ychwaith, ond…

Adolygu


Llio Mai Hughes

Nos Wener, 15 Mawrth, perfformiodd Cymdeithas John Gwilym Jones eu cynhyrchiad cyntaf yn Stiwdio Pontio, Bangor. Ac Eto Nid Myfi oedd y ddrama, a phob tocyn wedi’i werthu. Roedd Pontio yn llawn bwrlwm wrth i’r dorf ymgasglu; yn eu mysg roedd myfyrwyr, cyn-fyfyrwyr, darlithwyr,…

Cyfansoddi


Emyr Lewis

Mae Lana Turner 'di colapsio! O'n i'n trotian heibio ac yn sydyn ddechreuodd hi fwrw glaw a bwrw eira a deudist di ei bod hi'n bwrw cenllysg ond mae cenllysg yn dy hitio di ar dy ben yn galad felly go iawn ... 

Cyfweld


Sioned Puw Rowlands

Roedd hi'n llonydd braf uwch ben moryd Dyfi fis Chwefror eleni. Yn gynnes. Roedd yr eithin wedi hen agor ei des melyn i'r cloddiau. A oedd pioden ddŵr – yr halcyon – wedi drysu a rhithnythu ar y môr gan leddfu'r dyfroedd? Fel y byddai ar fyrddydd gaeaf, yn ôl awduron…

Adolygu


Angharad Tomos

Da oedd gweld y theatr yn Pontio yn gyfforddus lawn ar nos Iau, 21 Chwefror ar gyfer y ddrama Anweledig. Roedd y cynhwysion cywir ar gyfer noson dda yno – Ffion Dafis yn gwneud sioe un wraig, ac Aled Jones Williams yn awdur. Ychwanegwch ddyfeisgarwch…