Dadansoddi

Gwobrau Tir na n-Og 2017: Deg Chwedl o Gymru

Meinir Wyn Edwards

Deg Chwedl o Gymru

Y Lolfa, 128tt, £6.99, Ebrill 2016

Gwobrau Tir na n-Og 2017: Deg Chwedl o Gymru
Meinir Wyn Edwards

Amser darllen: 3 munud

04·04·2017

Yn 2016, cefais fy nghomisiynu gan y Lolfa, gyda nawdd Adran Addysg Llywodraeth Cymru, i ysgrifennu pump o lyfrau am chwedlau Cymru i blant 7 - 9 oed. Yn dilyn llwyddiant y pump hynny, comisiynwyd pump arall i greu cyfres o ddeg o Chwedlau Chwim. A hithau’n ‘Flwyddyn y Chwedlau’ yn 2017, roeddwn i’n awyddus i ailbecynnu’r deg llyfr a chreu un gyfrol hardd, fwy o faint, â dyluniad newydd.

Fel cyn-athrawes, roeddwn yn ymwybodol bod deunydd gwreiddiol ar gyfer plant yn y grŵp oedran hwn yn brin ac, fel y mae pob arolwg addysg ers blynyddoedd bellach yn ei nodi, mae angen denu mwy o fechgyn i ddarllen. Penderfynais geisio apelio at fechgyn drwy eu hadlewyrchu yn nheitlau’r storïau ac yn y lluniau ar y cloriau, er enghraifft, trwy roi ‘Branwen a Bendigeidfran’ yn deitl. Mae gwrando ar chwedlau yn rhan hefyd o Sgiliau Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu y Cyfnod Sylfaen.

Pan oeddwn yn athrawes, roeddwn i wrth fy modd yn darllen straeon i’r plant, ac mae rhywbeth yn y chwedlau hyn a fydd yn apelio at bawb. Gall y straeon yn y gyfrol Deg Chwedl o Gymru gael eu darllen gan athrawon a rhieni i blant dan 7 oed ac maen nhw’n addas hefyd i blant hŷn – plant hyd at 11 oed sy’n medru darllen yn annibynnol ac yn mwynhau gwneud hynny.

Un o’r diffiniadau a geir yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru o’r gair chwedl yw ‘ffug-hanes’, hynny yw, cyfuniad o’r hyn sydd yn wir a’r hyn sydd yn ffrwyth dychymyg. Wel, cymysgedd o ffeithiau hanesyddol a ffuglen yw’r chwedlau sydd yma. Mae ffaith a ffuglen yn plethu yn ei gilydd yn hanes trist stori garu Rhys a Meinir ac yn stori Cantre’r Gwaelod – daeth olion coedwig dros 4,000 oed i’r golwg ar draeth y Borth yng Ngheredigion adeg stormydd geirwon 2014. Bu dynion gwyllt stori Gwylliaid Cochion Mawddwy yn crwydro canolbarth Cymru yn yr 16eg ganrif, ac fe barchusodd Twm Siôn Cati yn ei henaint ar ôl anturiaethau ei ieuenctid.

Hanes gwir hefyd yw hanesion Merched Beca a Dic Penderyn yn y 19eg ganrif, wrth gwrs, ond cawn grwydro i fyd y tylwyth teg yn stori hyfryd Llyn y Fan Fach a hen hanes Meddygon Myddfai. Mae ystod hanesyddol eang i’r gyfrol – mae straeon Branwen a Bendigeidfran yn dod o’r Mabinogi (sy’n cynnwys elfennau o fytholeg y Celtiaid), yn yr 16eg ganrif yr oedd Gwylliaid Cochion Mawddwy wrthi ac fe aeth Dic Penderyn i’w grogi yn y 19eg ganrif.

Roedd y storïau yn eu crynswth yn bodoli eisoes, felly, wedi eu hadrodd dros y cenedlaethau a’r canrifoedd, ac fe gafwyd amrywiadau ac ychwanegiadau ym mhob oes. Yr hyn y ceisiais ei wneud yn Deg Chwedl o Gymru oedd creu storïau cyffrous, mewn iaith gyfoes a dealladwy i blant heddiw, rhoi geiriau yng nghegau’r cymeriadau, a chreu disgrifiadau byw o’r lleoliadau. Roeddwn i’n awyddus i gynnwys chwedlau o bob rhan o Gymru, er mwyn apelio at ysgolion yn bennaf. Mae nifer o’r lleoliadau ar hyd arfordir gorllewinol Cymru – y Borth, Ynys-las, Harlech, Nant Gwrtheyrn, Caernarfon – ond mae stori Dic Penderyn yn canolbwyntio ar Ferthyr a’r de-ddwyrain, Twm Siôn Cati yn Nhregaron, y Gwylliaid ym Mawddwy, a Llyn y Fach Fach yn Sir Gâr, oddi mewn i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae stori Beca wedi’i lleoli yn Efail-wen, ym mherfeddion cefn gwlad Sir Benfro.

Mae chwedlau yn rhan bwysig o ddiwylliant a hanes gwlad. Ac mae Cymru’n llawn chwedlau, o bob cwr o’r wlad. Mae yma arwyr dewr a chymeriadau o gig a gwaed. Dyma’n straeon gorau – maen nhw’n anturus, yn waedlyd, yn drist, yn rhamantus ac yn gyffrous. Mae darllen ein chwedlau yn fodd i ddysgu am leoliadau, cymeriadau a hanes Cymru.

A bod yn sinigaidd, efallai mai rhan o fwriad ‘Blwyddyn y Chwedlau’ Croeso Cymru a Llywodraeth Cymru yw denu twristiaid o’r tu allan, ond allwn ni ddim gwadu bod gan y wlad fach hon, ein ‘cilcyn o ddaear mewn cilfach gefn’, ei siâr o straeon gorau’r byd. Fe ddylem ni, fel Cymry, ymfalchïo yn hynny. 

Mae Meinir Edwards yn Olygydd Cymraeg y Lolfa.

Y llyfrau ar restr fer Gwobrau Tir na n-Og 2017 yw: ABC Byd NaturLuned Aaron (Carreg Gwalch, 2016), Yr Argae Haearn, Myrddin ap Dafydd (Carreg Gwalch, 2016), Deg Chwedl o Gymru, Meinir Wyn Edwards (Y Lolfa, 2016), Dim Ond Traed Brain, Anni Llŷn (Gomer, 2016) a Pluen, Manon Steffan Ros (Y Lolfa, 2016). 

Yr hyn y ceisiais ei wneud yn Deg Chwedl o Gymru oedd creu storïau cyffrous, mewn iaith gyfoes a dealladwy i blant heddiw

Pynciau:

#Gwobrau Tir na n-Og
#Meinir Wyn Edwards
#Llyfrau plant