Dadansoddi

Gwobrau Tir na n-Og 2017: Pluen

Manon Steffan Ros

Pluen

Y Lolfa, 111tt, £5.99, Hydref 2016

Gwobrau Tir na n-Og 2017: Pluen
Manon Steffan Ros

Amser darllen: 2 funud

11·04·2017

Mae bachgen ifanc yn piciad i mewn i dŷ teras ar Stryd Fawr Llangefni ar y ffordd adref o'r ysgol. Tŷ Nain ydi hwn, ac mae'r bachgen - Huw - yn chwilio am sgwrs a darn o gacen. Ar ddiwedd y sgwrs, mae Nain yn gwneud camgymeriad arwyddocaol - mae hi'n anghofio enw ei hŵyr.

Dyna ddechrau Pluen, sydd yn plethu at ei gilydd themâu dementia a'r rhyfeloedd byd mewn stori ysbryd fodern. Ydi, mae hi'n nofel sy'n ymdrin â phynciau anodd, ond mae 'na gyffyrddiadau ysgafn, digri hefyd, ac mae tref Llangefni, a chyfeillgarwch ei phobl ifanc, yn gynnes a chysurlon.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, bu'n rhaid i mi drio esbonio dementia i fy mhlant fy hun. Trio esbonio pam fod rhywun a fu'n rhan mor fawr o'u bywydau bob dydd, ers y dechrau, bellach yn anghofio eu henwau neu yn gofyn yr un cwestiwn dro ar ôl tro; neu yn canu'r un llinell o'r un gân, dro ar ôl tro, ddydd ar ôl dydd, flwyddyn ar ôl blwyddyn. Fedrwn i ddim ateb llawer o'u cwestiynau (‘Ydi O dal yn Fo?’ ‘Pam fod O fel 'ma?’), felly, yn ôl fy arfer, es ati i sgwennu nofel a fyddai, gobeithio, yn llwyddo i esbonio pethau yn well nag y medrwn i.

Weithiau, mewn nofelau fel yn y byd go iawn, mae yna berthynas rhwng plentyn a rhiant sydd yn rhy agos i'r ddau berson allu trafod rhai pethau – mae un yn siŵr o boeni am y llall. Ond mae trafodaethau rhwng ffrindiau ifanc yn fwy cignoeth, yn fwy gonest – ac yn aml yn fwy synhwyrol na’r sgyrsiau gor-gymhleth sydd rhwng oedolion.

Asgwrn cefn pob nofel dwi wedi’i sgwennu i bobl ifanc ydi'r cyfeillgarwch hyfryd, tymhestlog a chyffyrddus sy'n bodoli rhwng plant. Dwi'n gobeithio mai nofel fel yna ydi Pluen. Ac os ydw i’n llwyddo i ddal ychydig o'r cyfeillgarwch a'r gefnogaeth sydd gan blant i’w gilydd, dwi’n hapus!  

Mae Manon Steffan Ros yn awdur toreithiog. Cyhoeddir ei nofel newydd i oedolion, Cynlais, ym mis Hydref 2017. Gallwch ddarllen y bennod gyntaf fan hyn.

Y llyfrau ar restr fer Gwobrau Tir na n-Og 2017 yw: ABC Byd NaturLuned Aaron (Carreg Gwalch, 2016), Yr Argae Haearn, Myrddin ap Dafydd (Carreg Gwalch, 2016), Deg Chwedl o Gymru, Meinir Wyn Edwards (Y Lolfa, 2016), Dim Ond Traed Brain, Anni Llŷn (Gomer, 2016) a Pluen, Manon Steffan Ros (Y Lolfa, 2016). 

Mae trafodaethau rhwng ffrindiau ifanc yn fwy cignoeth, yn fwy gonest – ac yn aml yn fwy synhwyrol na sgyrsiau rhwng oedolion

Pynciau:

#Gwobrau Tir na n-Og
#Manon Steffan Ros
#Llyfrau plant