Dadansoddi

Gwobrau Tir na n-Og 2017: Yr Argae Haearn

Myrddin ap Dafydd

Yr Argae Haearn

Carreg Gwalch, 144tt, £5.99, Gorffennaf 2016

Gwobrau Tir na n-Og 2017: Yr Argae Haearn
Myrddin ap Dafydd

Amser darllen: 2 funud

13·02·2017

Mae hanes Cwm Gwendraeth Fach yn protestio, yn gwrthwynebu ac – yn fwy na dim – yn llwyddo i drechu’r bygythiad o du corfforaeth Abertawe i foddi’r ardal yn un o fy hoff hanesion i. Mae’r geiriau ‘Mewn Undeb mae Nerth’ ar y gofeb sy’n dathlu’r fuddugoliaeth yn Llangyndeyrn. Dyna’n union ddigwyddodd yno – safodd pawb gyda’i gilydd gan ddangos cryfder Dafydd o flaen Goleiath, a'r cyfan yn dod i uchafbwynt yn 1963. Mae hanes a stori yn agos iawn at ei gilydd yn fy meddwl i a dwi'n hoff o glywed hanes yn cael ei adrodd ar ffurf stori.

Does gen i ddim cysylltiad uniongyrchol â'r cwm, ond mae Mam yn hanu o sir Gaerfyrddin ac roeddan ni’n dilyn yr hanes yn ofalus iawn ar y pryd. Yn ddiweddarach mi ddois i adnabod Mr Voyle, swyddog Undeb Amaethwyr Cymru yn yr ardal ac un o arweinwyr y brotest. Dwi hefyd yn adnabod Hywel Rees, mab y gweinidog, a olygodd gyfrol wych am yr ymgyrch. Gan fod gen i dad-cu a mam-gu o sir Gaerfyrddin (Dyffryn Aman), roeddwn i’n gyfarwydd â rhai geiriau a dywediadau ers pan oeddwn i’n hogyn bach. Mi gefais i gymorth Ann Rhys a'i theulu sy’n byw yng Nghwm Gwendraeth i edrych dros y dafodiaith wedyn.

Yr Argae Haearn

Mae digon o hanesion trist yn deillio o hanes colli cymoedd dan gronfeydd dŵr yng Nghymru. Dydi'r bennod honno ddim wedi'i chloi eto – dydan ni fel gwlad yn dal ddim yn cael tâl priodol gan ddinasoedd Lloegr am y dŵr sy'n llifo'n ddyddiol drwy eu tapiau nhw. Dyna pam fod ail-fyw'r hanes hwn mor bwysig.

Teulu dychmygol fferm Dolffynnon yw'r prif gymeriadau ond mae prif ddigwyddiadau'r ymgyrch yn cael eu cynnwys fel y gwnaethant ddigwydd. Mi fwynheais y sialens o adrodd hanes a chreu nofel ar yr un pryd. Mae'r cyfan yn cael ei ddarlunio drwy lygaid y plant, wrth gwrs, a dydyn nhw ddim yn gweld y darlun cyfan bob amser.

Mi ymwelais â'r ardal sawl gwaith wrth hel meddyliau. Dwi wedi ceisio cyflwyno daearyddiaeth y cwm yn ogystal â bywyd y 1960au i'r nofel. Ond yr ymweliad gorau a gefais â'r ardal oedd pan gefais gyfle i lansio'r nofel yn Ysgol y Fro, Llangyndeyrn. Roedd cyfarfod y plant yn brofiad emosiynol – maen nhw mor naturiol Gymreig, mor falch o hanes eu teidiau a'u neiniau a fu wrthi yn y frwydr, ac mor werthfawrogol o gael y cyfan rhwng dau glawr. Daeth Huw Pant-teg, tad-cu un ohonynt, i’r ysgol i sgwrsio yn ystod y dyddiau hynny. Roedd yn brofiad emosiynol iawn gwrando arno’n disgrifio fel y bu pob aelwyd yn trafod, ai'r tad neu'r mab a oedd am wynebu carchar wrth dorri'r gyfraith i atal mynediad i’w tiroedd drwy'r giatiau. Ym Mhant-teg, fo – y mab – oedd i fynd i garchar. Roedden nhw'n bobl ddewr iawn, yn gwbl ddi-ildio ac yn gwbl sicr fod y gyfraith yn annheg. Fedra’ i ddim ond gobeithio bod y nofel yn cadw'r ysbryd hwnnw yn fyw.

Enillodd Myrddin ap Dafydd Wobr Tir na n-Og yn 2001 am ei gyfrol o gerddi i blant, Jam Coch mewn Pwdin Reis (Hughes a'i Fab). Enillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol ddwy waith hefyd, ym 1990 a 2002, am gerddi i blant dipyn yn hŷn!

Y llyfrau ar restr fer Gwobrau Tir na n-Og 2017 yw: ABC Byd NaturLuned Aaron (Carreg Gwalch, 2016), Yr Argae Haearn, Myrddin ap Dafydd (Carreg Gwalch, 2016), Deg Chwedl o Gymru, Meinir Wyn Edwards (Y Lolfa, 2016), Dim Ond Traed Brain, Anni Llŷn (Gomer, 2016) a Pluen, Manon Steffan Ros (Y Lolfa, 2016). 

Roedden nhw'n bobl ddewr iawn, yn gwbl ddi-ildio ac yn gwbl sicr fod y gyfraith yn annheg

Pynciau:

#Gwobrau Tir na n-Og
#Myrddin ap Dafydd
#Llyfrau plant