Colofnau

Plu’r Mamo

Gwynt y Dwyrain

Mihangel Morgan

Amser darllen: 4 munud

24·07·2016

Arferai Kamehameha y cyntaf (1736–1819), Kamehameha Fawr fel y’i llysenwid am iddo sefydlu brenhiniaeth Hawaii yn 1810, wisgo clogyn melyn ysblennydd ar gyfer defodau brenhinol. Nid yw’r gair ‘melyn’ yn gwneud cyfiawnder â godidowgrwydd y dilledyn unigryw hwn; mae’n felyn sydd fel petai’n ymbelydru gan ryw leufer hudol mewnol.

Pan wisgai Kamehameha Fawr ei fantell euraidd, yr enw amdani yn iaith Hawaii oedd ‘‘ahu‘ula’. Mae’n debyg y byddai pawb yn Hawaii y pryd hynny yn gwybod nid yn unig y gair hwnnw ond yn gallu mynegi eu hedmygedd neu eu hofn, neu gymysgedd o’r ddau, o’r brenin yn ei holl ogoniant a hynny'n hollol rugl, yn eu hiaith lafar eu hunain. Serch hynny, ni allai neb 'sgrifennu gair yn yr iaith; fe fyddai’n rhaid aros tan 1826, pan ffurfiwyd gwyddor ar ei chyfer gan griw o genhadon Cristnogol. Cafwyd cyfieithiad o’r Beibl yn fuan wedyn ac, yn 1839–40, sefydlodd Kamehameha III gyfansoddiadau swyddogol yn yr Hawaieg. Doedd dim rheswm i bryderu am yr iaith gan fod pob un yn ei siarad yn naturiol.

Teyrnasodd Kamehameha III am bron i ddeng mlynedd ar hugain, y cyfnod meithaf gan unrhyw frenin yn hanes y wlad. Efe oedd yr ail o feibion Kamehameha Fawr i esgyn i’r orsedd. Daethai ei frawd hŷn yn Kamehameha II ar ôl marwolaeth eu tad ac roedd y brenin hwn yn dipyn o deithiwr. Yn wir, ar ymweliad â Llundain yn 1824 daliodd y brenin, y frenhines a’u gosgordd i gyd y frech goch a bu farw pob un ohonynt – y brenin yn saith ar hugain oed.

Nodweddid teyrnasiad Kamehameha III gan duedd i fabwysiadu arferion gorllewinol, Ewropeaidd. Bu farw yn 1854. Bob yn frenin, megis, dros y degawdau nesaf gorllewineiddiwyd y wlad. Ac yna, yn 1898, fe gyfeddiannwyd y wlad ac fe ddarostyngwyd y frenhiniaeth frodorol gan yr Unol Daleithiau. Pasiwyd deddf yn datgan ‘The English language shall be the medium and basis of instruction in all public and private schools.’

Drepanis funera gan John Gerrard Keulemans (1842-1912)

Yn gefndir i’r holl hanes cythryblus ac alaethus hwn, fel llinyn aur, goroesodd ‘ahu‘ula mawreddog Kamehameha Fawr. Ac mae’n anodd ymatal rhag gweld cyfatebiaeth rhwng gwneuthuriad y wisg ysblennydd a’r iaith. Er mwyn creu clogyn a roddai’r argraff fod y brenin yn gwisgo’r heulwen am ei ysgwyddau, fe benderfynwyd bod rhaid wrth blu aderyn arbennig iawn, y mamo (Drepanis pacifica). Aderyn bach du oedd y mamo ond bod ganddo blu aur yn addurno ei gynffon ac, yn achos y ceiliog yn unig, ambell bluen felen ar hyd ymylon ei adenydd. Amcangyfrifir bod 400,000 o’r plu bach melyn hyn wedi eu defnyddio i wneud yr ‘ahu‘ula, ac fe gafwyd y rhain oddi wrth 80,000 o adar mamo. Ond rhaid cofio bod yna ddigonedd o’r adar hyn i’w cael ar draws Hawaii yn ystod oes Kamehameha Fawr. Mae’n gwestiwn dadleuol a leddid yr adar er mwyn eu plu ynteu a ryddheid hwy wedi tynnu ohonynt y plu melyn yn unig? Maentumia haneswyr a brodorion Hawaii taw’r olaf sy’n wir. Ar y llaw arall, dadleua adaregwyr y byddai dal yr adar bach, tynnu rhyw draean o’u plu ohonynt a’u rhyddhau yn brofiad mor erchyll fel y byddai’n gyfystyr â phoenedigaeth ac yn debygol o achosi y marw ohonynt beth bynnag. Ac erbyn 1892 prin bod yr un mamo ar ôl.

Tua’r adeg yma, penderfynodd Walter Rothschild (1868–1937), ail farwn Rothschild, nad oedd ei gasgliad naturiaethol – a gynhwysai 300,000 o grwyn adar, 200,000 o wyau amrywiol, 2,250,000 o wahanol fathau o ieir bach yr haf a 30,000 o chwilod (a dim un o’r creaduriaid hyn yn fyw, afraid dweud) – yn gyflawn heb gynrychiolaeth o'r mamo. Felly, fe ddanfonodd ddyn o’r enw Henry Palmer i ynysoedd Hawaii er mwyn chwilio'n benodol am enghraifft o’r aderyn mamo. Ac aeth Palmer ati gydag arddeliad. Ond yn ystod yr ymgyrch cafodd ei gicio a’i anafu’n enbyd gan geffyl. Bu’n rhaid iddo ddanfon dirprwy ymlaen yn ei le, sef Ted Wolstenholme. Aeth hwnnw gydag un o frodorion yr ynysoedd, un o’r enw Ahulan a oedd yn giamster ar ddal adar. Yna, yn nyfnder perfeddion coedwigoedd Ola'a ar ochr llosgfynydd Mauna Loa, gosododd Ahulan faglau ar y coed ac, wedi hir ymaros, fe ddaliwyd mamo. Roedd Wolstenholme wrth ei fodd a daeth yn hoff iawn o’r aderyn bach yn ystod y dyddiau y bu’n rhaid iddo ef ac Ahulan eu treulio ar eu ffordd yn ôl drwy’r drysgoed i chwilio am Henry Palmer. Wedi dod o hyd iddo, fe drosglwyddwyd yr aderyn i'w feddiant. Yn y fan a’r lle ac yn gwbl ddiseremoni fe laddodd Palmer yr aderyn mamo. Danfonwyd y gweddillion i gael eu stwffio a’u cynnwys yng nghasgliad Rothschild. A dyna ddiwedd yr aderyn mamo olaf. Yn atodiad i’r rhan hon o’r stori, cafodd Henry Palmer ei lofruddio yn Awstralia ac mae’n anodd teimlo llawer o gydymdeimlad ag ef.

A oes modd coleddu gobaith y caiff yr aderyn mamo ei atgyfodi? Efallai fod yr awgrym yn dwyn ffantasïau ffuglen wyddonol megis Jurassic Park i’r meddwl ond mae yna wyddonwyr sy’n hyderu y bydd modd, yn y dyfodol agos, i ddod â chreaduriaid a aeth i ebargofiant yn ôl o farw’n fyw, o gael digon o ddeunydd DNA – adar fel y dodo ac anifeiliaid fel y thylacine a’r mamoth o bosibl. Ac, yn achos yr aderyn mamo, mae yna gronfa DNA ddigon amlwg a hawdd ei chanfod, hynny yw ym mantell ysblennydd Kamehameha Fawr. Wedi dweud hynny, does dim un rhywogaeth ddarfodedig wedi cael dadenedigaeth, hyd yn hyn.

Ffolineb, medden nhw, yw cyffelybu iaith dan fygythiad â rhywogaethau anifeiliaid ac adar prin ac, eto i gyd, mae’n anodd peidio â sylwi pa mor agos y daeth iaith Hawaii at rannu’r un dynged â’r aderyn mamo. Ni ddaeth rhyw Henry Palmer ieithyddol i ddienyddio’r siaradwr Hawaieg olaf, nid oedd gofyn yr un: bu ond y dim i ddiffyg diddordeb pobl Hawaii eu hunain ddod â’r iaith i ddiweddglo digon taclus drwy esgeulustod. Erbyn 1997 dim ond 2,000 oedd yn siarad yr iaith ar draws y dalaith i gyd. Wrth lwc, fe ffurfiwyd ysgolion tebyg i’r ysgolion meithrin yng Nghymru ac, erbyn 2008, cynyddasai nifer y siaradwyr i fwy na 24,000. Mae adferiad yn bosibl, felly, i iaith, os nad i aderyn. Wedi dweud hynny, mae’r sefyllfa yn fregus o hyd, wrth gwrs, a’r prif berygl, fel yn achos ein gwlad a’n hiaith ni ein hunain, yw difaterwch.

Cyfrol ddiweddaraf Mihangel Morgan yw Pygiana ac Obsesiynau Eraill (Y Lolfa, 2014).

Llun: 'Black Mamo (Drepanis funera)' gan John Gerrard Keulemans (1842-1912). Eiddo cyhoeddus.

Yn gefndir i’r holl hanes cythryblus ac alaethus hwn, fel llinyn aur, goroesodd ‘ahu‘ula mawreddog Kamehameha Fawr

Pynciau:

#Gwynt y Dwyrain
#Mihangel Morgan
#Rhifyn 1
#Brenhiniaeth
#Anthropoleg