Dadansoddi

Hen Wlad fy Nhadau - a neb arall


Gruffydd Jones

Amser darllen: 12 munud

30·11·2018

Lisa, wedi setlo'n yr ysgol yn Sweden

Meddyg o Gaernarfon sy’n trafod hanes teuluol o ymfudo, y traddodiad cryf yn Sweden o roi lloches i ffoaduriaid, a’r ‘adlais o’r tridegau’ a glywir erbyn hyn yn y Deyrnas Gyfunol.

‘Pryd wyt ti’n disgwyl i’r llo ’ma gael ei eni?’ Dyna’r cwestiwn a ofynnwyd i eneth ddeuddeg oed yn 1940 pan gyrhaeddodd ben ei thaith yn Sweden. Roedd wedi teithio bum can milltir ar ei phen ei hun o’i chartref yng Ngwlad y Saami yn y Ffindir. Yn gwmni iddi ar y daith roedd hanner dwsin o wartheg, un ohonynt yn gyflo. ‘Dydd Sadwrn,’ atebodd yn bendant, am y rheswm syml mai dydd Sadwrn oedd yr unig ddiwrnod o’r wythnos roedd hi’n gwybod y gair Swedeg amdano. Pan anwyd y llo ar fferm fach ddiarffordd ar y dydd Sadwrn canlynol, enillodd Helena enw fel tipyn o arbenigwraig ymhlith cymdeithas fach Åsele, ei chartref dros dro.

Ymosododd y Fyddin Goch ar y Ffindir ym mis Rhagfyr 1939. Doedd fawr neb yn disgwyl y gallai gwlad fach o dair miliwn lwyddo i wrthsefyll Stalin a grym milwrol enfawr yr Undeb Sofietaidd. Dros gyfnod y Rhyfel Gaeaf ( 1939–40 ) a’r Rhyfel Olynol ( 1941–44 ) gyrrwyd dros 70,000 o blant i Sweden am noddfa, heb eu rhieni. Yn eu plith yr oedd Helena, o bentref bach i’r gogledd o Rovaniemi.

Yn ôl amodau’r cytundeb heddwch a luniwyd rhwng y Ffindir a’r Undeb Sofietaidd yn 1944, roedd yn rhaid i’r Ffindir orfodi’r Almaenwyr i adael, a bu rhyfel byr ond atgas yn y gogledd rhwng y ddwy wlad a arferai fod yn gynghreiriaid – Rhyfel Gwlad y Saami. Pan ddychwelodd Helena i’w chartref, roedd y fferm, fel hanner adeiladau’r gogledd, yn lludw. Llosgwyd 90% o adeiladau Rovaniemi.

Roedd bywyd yn y Ffindir yn galed ar ôl dinistr y rhyfel. Pan hawliodd yr Undeb Sofietaidd y tir, gwthiwyd miloedd o ffoaduriaid mewnol o ardaloedd dwyreiniol Karelia yn y de a Petsamo yn y gogledd. Bu teulu Helena yn byw yn y sawna tra bu’r dynion yn ailadeiladu, drwy dorri a llifio coed, a’r merched yn gweithio’r tir ac yn ailgylchu hoelion o weddillion y ffermdy. Pan fu cymar Helena farw o gymhlethdodau yn dilyn ei anafiadau rhyfel, penderfynodd hithau ddychwelyd i Sweden i chwilio am ddyfodol gwell i’w merch fach dair oed.
 

Omin Silmin, paent acrylic ac olew ar ganfas, gan Samuli Heimonen, 2009

Ymgartrefodd yno. Priododd a daeth â thri o blant ychwanegol i’r byd. Ymaddasodd ei merch yn llwyr gan ddysgu Swedeg o fewn dim ac ennill ysgoloriaeth genedlaethol yn ei harddegau i ddod i Gymru i astudio. Syrthiodd honno mewn cariad â Chymro, a blwyddyn ar ôl dychwelyd i Sweden rhoddodd y gorau i’w lle ym mhrifysgol Göteborg er mwyn cael cymhwyster nyrsio; bryd hynny, dyma un o’r ychydig ffyrdd o gael fisa gwaith ac ennill yr hawl i ddod yn ôl i Brydain. Mudodd wedyn o Loegr i Gymru, a dysgu iaith arall. Dyna sut y daeth Lisa, fy ngwraig a merch Hanna Helena Kaunisvaara o Iso Kuusimaa, i fagu ei phlant yn y Gymraeg.

Mae rhoi lloches i ffoaduriaid yn dipyn o draddodiad yn Sweden. Mae Prydain yn haeddiannol falch o fod wedi achub 10,000 o blant Iddewig drwy’r Kindertransport yn 1939, ac eto, derbyniodd Sweden saith gwaith mwy o blant o’r Ffindir, er nad oedd ei phoblogaeth yn ddim ond seithfed rhan o boblogaeth Prydain, heb sôn am boblogaeth yr ymerodraeth. Achubodd Sweden tua 45,000 o Iddewon yn ystod yr Ail Ryfel Byd, yn cynnwys hanner Iddewon Norwy a mwyafrif llethol Iddewon Denmarc. Erbyn 1945 roedd 3% o’r boblogaeth yn ffoaduriaid, sy’n gyfwerth â bron ddwy filiwn ym Mhrydain heddiw.

Yn y nawdegau, daeth dros 100,000 yno i ofyn am loches yn ystod rhyfeloedd Bosnia, ac er i’r broses gymryd rhai blynyddoedd, maent wedi ymdoddi i’r gymdeithas yn Sweden yn llwyddiannus dros ben, gydag arweinwyr busnes, aelodau seneddol ac ysgrifenyddion gwladol yn eu plith, yn ogystal â phêl-droedwyr enwog. Ond yn sgil y rhyfel yn Syria, cynyddodd nifer y ceiswyr lloches i lefelau nas gwelwyd ers 1944. Yn ei anterth, yn 2015, daeth 156,000 o ffoaduriaid i geisio lloches yn Sweden, o’i gymharu â 40,000 ym Mhrydain, sef baich 26 gwaith trymach i’r dinesydd Swedaidd. Mae mewnfudo ar y raddfa hon yn gyfwerth â chael cant a hanner o ffoaduriaid yn dod i dref o faint Caernarfon mewn blwyddyn.

Yn anochel, cafwyd adwaith i hyn. Sylweddolodd y llywodraeth nad oedd parhau i dderbyn cynifer o ffoaduriaid yn wleidyddol gynaliadwy, yn enwedig pan nad oedd nifer o wledydd eraill Ewrop yn gwneud ymdrech gyffelyb. I lawer, roedd cymdeithas yn newid yn rhy gyflym, a’r wynebau newydd yn llawer mwy amlwg na’r rhai a ddaeth o’r Ffindir. Roedd gwthio’r drws, nid ynghau ond yn gilagored, i groesawu 22,000 yn 2016 a’r un nifer eto yn 2017 yn gyfwerth â phedair gwaith y niferoedd a dderbyniwyd gan Brydain. Ond erbyn i’r polisi gael ei ddiwygio, roedd pleidiau eithafol yr asgell dde wedi cael gwynt i’w hwyliau. Llwyddodd y Sverige Demokraterna (Democratiaid Sweden) i ennill cymaint â 17 % o’r bleidlais yn yr etholiad cyffredinol diweddaraf ym mis Medi 2018.

✒︎

Mae eithafwyr yr asgell dde oddi mewn a thu hwnt i ffiniau’r wlad yn awyddus iawn, wrth gwrs, i roi’r argraff fod lefel uchel o fewnfudo wedi bod yn fethiant llwyr yn Sweden, ac yn achos tensiwn cymdeithasol dirfawr. Mae unrhyw enghraifft o drais neu drosedd gan fewnfudwyr yn chwyrlïo drwy’r cyfryngau ‘cymdeithasol’ yn fydeang ac yn cael ei gynnig fel tystiolaeth fod mewnfudwyr Mwslemaidd yn wahanol, yn peryglu ein gwerthoedd a’n ffordd o fyw.

Heb os, ceir problemau cymathu, yn enwedig yn y dinasoedd. Pan fo nifer fawr o fewnfudwyr yn cyrraedd o fewn cyfnod byr, yn enwedig pan nad oes bron neb ohonynt yn siarad yr iaith, y duedd naturiol yw iddynt ffurfio’u cymdeithasau eu hunain drwy ymgynnull mewn ardaloedd penodol, ardaloedd cymharol dlawd yn aml, lle mae lefel diweithdra, o ganlyniad, yn uchel. Mae’r datblygiadau hyn yn glir i’w gweld, a’u clywed hefyd yn esblygiad yr iaith Swedeg yn lleol.

Anodd dros ben yw dadansoddi ystadegau troseddu mewn ardal o’r fath. Mae cynifer o ffactorau perthnasol i’w hystyried nes ei bod yn hawdd eu camddehongli, yn enwedig pan fydd mantais wleidyddol i’w hennill o ganolbwyntio ar ffigyrau a dynnwyd o’u cyd-destun. Casgliad y llywodraeth yw na wnaeth mewnfudo, ac eithrio mewnfudo i ardaloedd penodol a chyfyngedig, fawr o wahaniaeth dros y degawd diwethaf i lefelau cyffredinol trosedd a thrais yn y wlad.

Dengys hanes Sweden fod yr ymdrech i sicrhau bod mewnfudwyr yn cael eu cymathu yn ystod cyfnodau o fewnfudo wedi bod yn llwyddiannus, a hynny’n ddieithriad. Cafwyd mewnlifiad o blant ac Iddewon yn y pedwardegau, gweithwyr o’r Ffindir yn y pumdegau, a ffoaduriaid o Bosnia yn y nawdegau. O ganlyniad, mae Sweden wedi newid, ond mae newid yn anochel ym mhob gwlad.

Mae’n debyg y bydd y broses hon o gymathu mewnfudwyr yn cymryd blynyddoedd lawer yn y dinasoedd, ond yn y trefi bychain, fel Gällivare, lle magwyd Lisa a lle buom yn byw am ddegawd, mae i’w gweld ar waith yn ddistŵr, a hynny ledled y wlad. Wrth ymweld ag unrhyw dref debyg, mae’n anorfod fod rhywun yn dod ar draws trigolion a gyrhaeddodd y wlad fel ffoaduriaid. Yn y trefi hyn, dônt i gysylltiad â phobl gyffredin yn o fuan, ac fe’u gwelwn yn gwneud yr un pethau â phawb arall – mynd i’r ysgol, gweithio, syrthio mewn cariad, profi dadrithiad, cael plant ...

Er i wleidyddion eithafol geisio codi bwganod trwy awgrymu bod llu Mwslemaidd anweledig yn barod i groesi’r trothwy (chwedl poster enwog Nigel Farage), gwrthbwysir hyn gan y profiad o ddod i adnabod mewnfudwyr yn bersonol. Adlewyrchir hanes fy mam yng nghyfraith yn hanes llawer o’r mewnfudwyr rydym wedi eu cyfarfod yn Gällivare. Ibrahim, er enghraifft, a lwyddodd i ddianc o Gaza trwy gropian am hanner milltir trwy dwnnel pridd, cyntefig, hollol dywyll, gyda dim ond ei ffydd – y byddai rhywun yn y pen arall i agor yr hatsh – yn gwmni. Cuddio wedyn mewn seler am ddeufis, rhag yr heddlu cudd, cyn mentro i Fôr y Canoldir mewn cwch bregus. Heddiw, mae Ibrahim yn astudio am radd meistr mewn peirianneg yn un o brifysgolion mwyaf blaenllaw Sweden. Neu Ashraf, siaradwr tair iaith leol a roddodd i ni, y llynedd, gipolwg ar gymhlethdodau cymdeithas amlddiwylliannol gogledd Afghanistan, a hynny mewn Saesneg perffaith. Eleni, eglurodd wrthym – y tro hwn mewn Swedeg perffaith – gymaint gwell yw gweithio amser llawn na segura yn aros am gadarnhad dinasyddiaeth. Neu Kasim, a ddarluniodd i ni fywyd fel meddyg yn Iraq dan y bomiau, a’i argraff gyntaf wrth gyrraedd pentref bach yng Ngwlad y Saami dan lathen o eira, a’r tymheredd 60 gradd yn is na chanolrif thermomedr Baghdad.

✒︎

Yn y cyfamser, ym Mhrydain, llwyddodd meddylfryd cenedlaetholdeb i fagu gafael. Er bod cenedlaetholdeb yn gallu golygu pethau go amrywiol, o hiraeth rhamantus am ddiwylliant coll hyd at erchyllter hilgasedd Natsïaidd, mae’r pwysigrwydd a roddir i ffiniau cenedlaethol yn y naratif gwleidyddol presennol yn mynd i arwain, o reidrwydd, at ymdrech i bortreadu’r rhai sydd ar ochr arall y ffin fel dieithriaid, y rhai gwahanol, llai teilwng i fyw ar ein hochr ni o’r ffin. I ddadlau yn erbyn mewnfudo, mae angen dadlau, felly, fod mewnfudwyr yn wahanol, ac yn fygythiad i’n heconomi a’n diwylliant.

Pitw yw nifer y ffoaduriaid ym Mhrydain o’i gymharu â’r niferoedd mewn gwledydd fel Sweden a’r Almaen, ond mae ymgyrchwyr Brexit wedi llwyddo i greu delwedd o’r ‘llu bygythiol’ trwy gyfuno ffoaduriaid â gweithwyr o Ewrop. Yn sydyn, does neb yn cynhesu at ffoaduriaid na gweithwyr o Ewrop, nac yn sicr o’r gwahaniaeth rhyngddynt. Un haid ydynt, yn byw ar y dôl, ar ben ei gilydd mewn carafán, yn cymryd unrhyw waith am gyflog gweinidog, yn dwyn ceir, yn gwneud bomiau, yn treisio merched ac yn hel mefus. Dim syndod nad oes ganddynt amser i ymaddasu. Trafnidiaeth unffordd yw hon. Ond buddiol bob tro yw gwaith neu hamdden Prydeinwyr dramor; yn wir, nid mudwyr mohonynt, ond ex-pats.

Am y tro cyntaf, mae pobl yn dweud yn agored wrth Lisa fod yma ormod o estroniaid ac y dylent ddychwelyd i’w gwlad eu hunain. Pan eglura mai mudwraig ydi hithau hefyd, yr ateb a geir fel arfer yw, ‘Dim pobol fel chi ’dan ni’n feddwl, ond y rhai eraill.’

Yr eraill dienw yw’r broblem. Rhan annatod o’r meddylfryd hwn yw gweld mewnfudwyr mewn termau torfol. Cyfeirir, er enghraifft, nid at ‘fewnfudo’ ond at ‘fewnfudo torfol’.

Ar yr asgell dde, y farn yw bod mewnfudo yn fygythiad i’n diwylliant a’n traddodiadau. Ar y chwith, dadleuir ei fod yn cael effaith andwyol ar gyflogau. Llwyddodd Theresa May, i ddefnyddio’r ddwy set hyn o ragfarnau yn ei haraith yn Lancaster House ym mis Ionawr 2017:

In the last decade or so, we have seen record levels of net migration in Britain, and that sheer volume has put pressure on public services, like schools, stretched our infrastructure, especially housing, and put a downward pressure on wages for working-class people.

Dangosodd adroddiad swyddogol arbenigwyr y Migration Advice Committee (Medi 2018) mai chwedlau yw’r rhain, a bod diffyg cynnydd yng nghyflogau’r dosbarth gweithiol yn gysylltiedig â ffactorau eraill, fel gwendid undebau, yn hytrach na chystadleuaeth gyda gweithwyr Ewropeaidd. Clywir hyd yn oed gynrychiolwyr undeb yn rhoi’r bai am gyflogau isel ar y gweithwyr eu hunain yn hytrach nag ar y cyflogwr.

Ond nid yw’r pwyllgor hwn o ysgolheigion ychwaith wedi llwyddo i’w ryddhau ei hun o feddylfryd cenedlaetholdeb. Ystyrir mewnfudwyr fel adnoddau economaidd i’w mesur yn ariannol: athrawes o Sbaen yw athrawes o Sbaen. Os yw ei chyflog blynyddol yn £30,000, mae hi’n haeddu cael byw yma, dim ond iddi beidio â syrthio mewn cariad, cael plentyn, neu benderfynu newid gyrfa neu gychwyn busnes. Nid oes iddi hanes, creadigrwydd, uchelgais na chyswllt cymdeithasol. Nid oes iddi ddynoliaeth.

Clywn adlais o’r tridegau. Roedd Joseph Goebbels, sef gweinidog propaganda’r Reich yn yr Almaen Natsïaidd rhwng 1933 ac 1945, yn deall fod angen amser i droi poblogaeth yr Almaen yn erbyn yr Iddewon. Roedd llawer yn adnabod Iddewon fel perthnasau, cymdogion, cariadon, cyfeillion a chydweithwyr. Rhaid oedd trawsnewid yr Iddew o’r unigol i’r torfol a dieithrio’r cyfarwydd. Rhaid oedd troi’r personol yn amhersonol. Rhaid oedd dad-ddynoli cyn dieneidio.

✒︎

Wrth ymweld â Buchenwald, arswydais wrth weld y ffyrnau, y wifren bigog a’r lluniau erchyll yn yr arddangosfa, ond ni chollais ddeigryn tan i mi dystio i’r pentwr esgidiau. Esgidiau plant ac oedolion, y tlawd a’r cyfoethog, yn gorwedd yn swp pendramwnwgl o hanesion heb eu llefaru – metaffor o dynged eu perchnogion. Gwrthododd un pâr o esgidiau bach gwyrdd â llacio’u gafael ar fy nghof. Y rheswm am hyn, wrth gwrs, yw fy mod wedi personoli’r esgidiau; wedi dychmygu fy merch fach yn eu gwisgo am y tro cyntaf, yn troelli ar ei sawdl i’w hedmygu – darlun cyfarwydd i riant.

A chymaint haws yw teimlo poen unigolyn na phoen poblogaeth gyfan, yn enwedig pan fo’r dychymyg yn caniatáu trawsblannu aelod o’ch teulu chithau i’r un sefyllfa. Mi wnaeth y darluniau torcalonnus o gorff bach Alan Kurdi, y ffoadur Cwrdaidd teirblwydd oed o Syria, yn golchi i’r lan yn unig ac yn oer ar draeth estron, ennyn ymateb byd-eang yn 2015. Ac eto, prin fod unrhyw ymateb i adroddiad am ddau gant o ffoaduriaid yn boddi yn yr un môr, yn anweledig, dros y gorwel.

Pwy ohonom a welodd y ffilm Schindler’s List (Spielberg, 1993) a all anghofio’r eneth yn y got goch? Ynghanol yr hunllef lwydaidd o lu o Iddewon yn ymlusgo’n druenus at eu tranc yn siambrau nwy Auschwitz, mae un ferch fach, yn weledig ymysg yr anweledig, yn cerdded yn benderfynol i’r cyfeiriad arall, yn hawlio’i bywyd a’i dyfodol ei hun. Am ennyd mae gobaith yn codi yng nghalon y gwyliwr, ond caiff ei chwalu yn ddiweddarach yn y ffilm gan gip o got fach goch yn gorwedd ymysg llwyth o garpiau’r meirw.

I ddeall yr holocost mae angen gweld yr unigolyn yn ogystal â’r dorf. Felly hefyd gyda mewnfudo. Dan y rheolau mudo a argymhellir gan y llywodraeth ni fyddai Helena fechan wedi cael lloches, na’r hawl i weithio fel mam sengl. Ni fyddai fy nghariad wedi cael dod yma i fyw, nac aros ar ôl priodi.

Mae angen gwaith ymchwil, ystadegau dibynadwy, a defnydd o synnwyr cyffredin i greu system fewnfudo fodern, ond heb weld yr unigolyn, byddwn yn creu system anhyblyg a didostur. Pa werthoedd rydym am eu hamddiffyn? Ai dim ond y cyfoethog gaiff ddewis cymar? A fydd Cymru yn wlad i feirdd a chantorion, neu dim ond i enwogion o fri â chyflog o £30,000 y flwyddyn?

 

Newidiwyd enwau’r ffoaduriaid Mwslemaidd.

Meddyg wedi ymddeol o Gaernarfon yw Gruffydd Jones a fu'n gweithio fel meddyg yn Sweden yn ogystal.


Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


Mae’n debyg mai un haid ydi ffoaduriaid, yn cymryd unrhyw waith am gyflog gweinidog, yn dwyn ceir, yn treisio merched ac yn hel mefus

Dyddiad cyhoeddi: 30·11·2018

Yn ôl i frig y dudalen

Adolygu


Dyfrig Williams

Mae cyfrol ddiweddaraf Mariana Mazzucato, Athro yng Ngholeg Prifysgol Llundain, yn ddadl angerddol dros fuddsoddi a gwario er budd ein dyfodol. Yn ôl yr awdur, dylid ailfeddwl y berthynas rhwng marchnad a llywodraeth a bod yn gwbl lygatglir ynghylch pwy sydd yn…

Adolygu


Pedr Jones

Ar drothwy’r Rhyfel Mawr, roedd tueddiad gan y Cymry i gysylltu militariaeth â Seisnigrwydd, Eglwys Lloegr a gormes landlordiaeth. Yn y gyfrol bwysig hon gan Aled Eurig, sydd yn ffrwyth ymchwil archifol sylweddol, cawn ein hatgoffa bod nifer y Cymry a ymunodd â’r Fyddin yn…

Dadansoddi


Angharad Dafis

Aeth tridiau heibio bellach ers i gabinet Cyngor Dinas a Sir Abertawe benderfynu yn unfrydol i gau Ysgol Gynradd Gymraeg Felindre. Bu’n dridiau anodd. Rwyf wedi bod yn galaru droeon am anwyliaid. Mae hwn yn alar gwahanol: galar am gymuned benodol iawn…

Dadansoddi


Mabon Llŷr Hincks

Benben â’i gilydd, mewn cydbwysedd perffaith, mae dau gerflun yng nghanol cylch. Heb fwy na lled bys rhyngddyn nhw, does dim dwywaith nad ar y bwlch bychan hwn yr hoelir ein sylw gyntaf. Nid sefyll yn urddasol a wna’r siapiau rhyfedd ychwaith, ond…

Adolygu


Llio Mai Hughes

Nos Wener, 15 Mawrth, perfformiodd Cymdeithas John Gwilym Jones eu cynhyrchiad cyntaf yn Stiwdio Pontio, Bangor. Ac Eto Nid Myfi oedd y ddrama, a phob tocyn wedi’i werthu. Roedd Pontio yn llawn bwrlwm wrth i’r dorf ymgasglu; yn eu mysg roedd myfyrwyr, cyn-fyfyrwyr, darlithwyr,…

Cyfansoddi


Emyr Lewis

Mae Lana Turner 'di colapsio! O'n i'n trotian heibio ac yn sydyn ddechreuodd hi fwrw glaw a bwrw eira a deudist di ei bod hi'n bwrw cenllysg ond mae cenllysg yn dy hitio di ar dy ben yn galad felly go iawn ... 

Cyfweld


Sioned Puw Rowlands

Roedd hi'n llonydd braf uwch ben moryd Dyfi fis Chwefror eleni. Yn gynnes. Roedd yr eithin wedi hen agor ei des melyn i'r cloddiau. A oedd pioden ddŵr – yr halcyon – wedi drysu a rhithnythu ar y môr gan leddfu'r dyfroedd? Fel y byddai ar fyrddydd gaeaf, yn ôl awduron…

Adolygu


Angharad Tomos

Da oedd gweld y theatr yn Pontio yn gyfforddus lawn ar nos Iau, 21 Chwefror ar gyfer y ddrama Anweledig. Roedd y cynhwysion cywir ar gyfer noson dda yno – Ffion Dafis yn gwneud sioe un wraig, ac Aled Jones Williams yn awdur. Ychwanegwch ddyfeisgarwch…