Dadansoddi

Llên plant a dychymyg y Gymraeg

Astrid Lindgren, cyf. Siân Edwards

Pippi Hosan-hir

Y Dref Wen, 185tt, 1978

Otfried Preußler, cyf. Roger Boore

Y Lleidr Hotzenplotz

Y Dref Wen, 125tt, 1975

T Llew Jones

Un Noson Dywyll

Gomer, 144tt, £5.99, 1973, 2008

Siwan M Rosser

Amser darllen: 10 munud

28·09·2016

‘Chewch chi mo’ch cymryd o ddifri fel llenor yn sgwennu i blant!’ meddai rhywun wrth awdur plant ar faes yr Eisteddfod yn ôl stori a glywais yn ddiweddar. Ni wn beth oedd cyd-destun yr ebychiad gwreiddiol ond roedd ei ergyd ddirmygus yn eglur: efallai fod angen llyfrau plant ac awduron i’w sgrifennu, er mwyn yr iaith, er mwyn ein diwylliant, ond does yna ddim gwerth llenyddol i’r llyfrau, does bosib.

Nid yw hon yn farn a wyntyllir ar goedd yn aml y dyddiau hyn, ond y mae ei holion ymhlyg yn y ffordd yr ydym yn ymdrin â llyfrau plant: wrth sôn am nofelau i blant fel prentiswaith awdur yn hogi ei grefft, wrth beidio â rhoi gofod teilwng i adolygu llyfrau plant yn y wasg ac ar y cyfryngau, wrth fethu pennu meithrin darllen er pleser fel un o flaenoriaethau’r Fframwaith Llythrennedd Cenedlaethol. Mae yna weithgarwch mawr, ymroddiad llwyr a thalent sylweddol yn y byd llyfrau plant Cymraeg, ond mae’r nodweddion uchod yn arwydd o gymuned ehangach nad yw’n ystyried llenyddiaeth plant yn rhan o’i hetifeddiaeth lenyddol. Nid sefyllfa unigryw i Gymru mo hynny; mewn sgwrs ar lên plant yng Ngŵyl Llên Plant Caerdydd eleni, soniodd yr academydd Catherine Butler am y difaterwch sy’n llethu’r byd Saesneg, hyd yn oed. (Rhoddodd y Times Literary Supplement y gorau i gynnal adran benodol ar lyfrau plant yn y 1980au, er enghraifft.) Ond mae sefyllfa leiafrifol y Gymraeg yn cymhlethu ein perthynas â’n llenyddiaeth plant ac yn ei neilltuo mewn ffordd wahanol o brif ffrwd ein diwylliant.

Story Go Iawn Karl MarxCwta ddwy ganrif sydd ers i’r gyfrol gyntaf o straeon plant Cymraeg, llyfryn pitw pum modfedd o hyd, gael ei llunio’n arbennig ar gyfer dwylo bychain yr ifainc. Fyth ers hynny mae pob cenhedlaeth wedi cynnig dull gwahanol o ddehongli’r hyn sy’n addas ac yn weddus i’w gynnwys rhwng y cloriau, gan wamalu’n aml ynghylch sut i wahaniaethu rhwng anghenion plant, pobl ifainc ac oedolion. Mynegant amrywiadau ar yr un pryderon ynghylch (dirywiad) safonau ieithyddol a llenyddol, apêl y deunydd a’i ddefnyddioldeb yn yr ymdrech i arwain ac addysgu meddyliau ifainc. Pryderon pobl mewn oed yw’r rhain, a hynny’n ein hatgoffa o ffaith sylfaenol amlwg llên plant, sef mai oedolion, nid plant, sy’n ei chynhyrchu a’i rheoli. Ein llenyddiaeth ni oll yw’r llenyddiaeth hon, felly, a gall ddadlennu llawer wrthym am ein hamgylchfyd diwylliannol. Wedi’r cyfan, y mae pob testun llenyddol yn annatod glwm wrth amgylchiadau diwylliannol yr awdur, ei gymdeithas a’i ddarllenwyr. Ond mae’r berthynas honno yn fwy amlwg yn achos testunau i blant gan fod holl fodolaeth y genre yn deillio o’r awydd i gysylltu’r darllenwyr ifainc â’u hamgylchiadau diwylliannol a chymdeithasol. Mae yna ddymuniad i drosglwyddo rhywbeth ym mhob llyfr creadigol i blentyn: nid wyf yn sôn am ‘wers’ na ‘neges’, gan na all ffuglen na barddoniaeth fyth fod yn gyfrwng dysgu mewn ystyr uniongyrchol. Ond mae yma awydd i agor drws y dychymyg i bosibiliadau neu heriau a’r rheini wedi eu siapio gan safbwynt neu werthoedd yr awdur.

Mae’r ffordd y mae cymdeithas yn trin a chyfarch ei hieuenctid yn arwydd o hyder neu ansicrwydd, gobeithion a phryderon y gymdeithas honno, a gallwn graffu ar y grymoedd diwylliannol a chymdeithasol sy’n ymrafael yn y gymuned Gymraeg drwy archwilio ei llyfrau i blant a phobl ifainc.

Nid corff o lenyddiaeth sydd yn ymylol i brofiad y gymdeithas yw’r llyfrau hyn, ond mynegiant o hyd a lled ei gallu i ddychmygu ei lle yn y byd. Mae’r dychymyg hwnnw wedi ei siapio gan ddisgyrsiau gwleidyddol cenedl sy’n ceisio ffurfio ei hunaniaeth ei hun yn wyneb newidiadau cymdeithasol, demograffig, crefyddol ac ieithyddol y ddwy ganrif ddiwethaf. Ond er yr arwyddocâd pellgyrhaeddol hwn, ychydig sy’n gyfarwydd â hanes llenyddiaeth Gymraeg i blant a sefyllfa bresennol llyfrau plant yng Nghymru.

Ar lefel academaidd, prin iawn yw’r rhai ohonom sy’n ystyried llenyddiaeth Gymraeg i blant a phobl ifainc yn brif faes dysgu ac ymchwil ac, ar lefel boblogaidd, nid yw gwybodaeth ynghylch llyfrau plant a’u hawduron yn rhan arwyddocaol o’n hymwybyddiaeth ddiwylliannol. Mae ein profiad o lenyddiaeth plant wedi ei gyfyngu, i raddau helaeth, i’n hatgofion darllen ein hunain (yn blant, ac yna i rai, yn rhieni neu’n athrawon), a diau y gall nifer ddwyn i gof ambell lyfr a greodd argraff arnynt. Ond ar wahân i T Llew Jones, Llyfr Mawr y Plant a rhai o’r cymeriadau a luniwyd ar gyfer y plant lleiaf, prin fod yna stôr o atgofion torfol ynghylch llyfrau plant Cymraeg sy’n creu ymdeimlad o gymuned ddarllen yn yr un modd ag y gwna enwau fel Alice, Blyton, Dahl, Potter ac eraill.

I mi, nid arwydd o ddiffygion llenyddol y testunau Cymraeg yw hynny, ond arwydd o ddiffyg awtonomi y byd llyfrau. Mae sefyllfa leiafrifol yr iaith, y ddibyniaeth ar grantiau cyhoeddus, y cysylltiad annatod rhwng darllen Cymraeg a’r ystafell ddosbarth, a dwyieithrwydd y darllenwyr oll yn pwyso ar y diwydiant llyfrau. O ganlyniad, mae’n her barhaus i gynnal rhaglen gyhoeddi sy’n ceisio ateb cant a mil o ofynion ar yr un pryd: defnyddio iaith syml / cyflwyno cyfoeth y Gymraeg; bachu darllenwyr anfoddog / peidio ag anwybyddu’r darllenwyr brwd; edrych mor ddeniadol â’r Saesneg / cynnig rhywbeth gwahanol i’r Saesneg. O ganlyniad, er bod cefnogaeth i’r byd llyfrau plant a phobl ifanc (a leisiwyd yn huawdl yn wyneb y bygythiad i dorri cyllideb y Cyngor Llyfrau eleni) a chanmoliaeth i’r amrywiaeth eang ac atyniadol o destunau a gynhyrchir, does yna ddim naratif clir yn dod i’r amlwg. Rydym yn ei gweld yn anodd adrodd stori llenyddiaeth plant Cymru, gan fod y testunau’n mynd a dod mor gyflym a mwyafrif y llyfrau byth yn para mwy na chenhedlaeth.

Pippi Hosan-hir gan Astrid Lindgren, cyf. Siân EdwardsWrth imi olrhain datblygiad llenyddiaeth i blant a phobl ifainc, yr hyn sydd fwyaf trawiadol yw cyfoesedd y deunydd. All neb gymryd cynulleidfa o ddarllenwyr ifainc yn ganiataol: mae awduron a golygyddion ers dwy ganrif wedi chwilio’n barhaus am ddeunydd sy’n llenwi bylchau ac yn adlewyrchu syniadau, chwaeth a diddordebau’r presennol. Er y duedd ers dechrau’r ugeinfed ganrif i ddilorni popeth a gynhyrchwyd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg am fod yn rhy syber a sych-dduwiol, wrth graffu’n fanwl gwelwn amrywiadau arwyddocaol yn y deunydd sy’n amlygu newidiadau diwinyddol a chymdeithasol sylfaenol ynghylch ystyr plentyndod a rôl y dychymyg. Mae’r elfen o gystadlu â deunydd Saesneg ac ehangu ffiniau llenyddol hefyd wedi gyrru’r ymdrech hon i sicrhau cyfoesedd. Meddylier am E Morgan Humphreys yn sgrifennu straeon antur yn unswydd er mwyn denu bechgyn oddi wrth y deunydd Eingl-Americanaidd, Tegla’n cyflwyno ffuglen ffantasïol i Gymru wedi drycin y Rhyfel Byd Cyntaf a D J Williams Llanbedr yn gweithio’n ddiflino, ac yn erbyn cryn wrthwynebiad, i gynhyrchu’r comic Cymraeg cyntaf, Hwyl, yn 1949. Bu cyfieithu yn rhan o’r ymdrech hon erioed hefyd; nid achos pryder yw hynny, ond arwydd o ddiwylliant iach sy’n edrych y tu hwnt i’w ffiniau. Eto, fel y dangosais yn y gyfrol Roald Dahl: Wales of the Unexpected (gol. Damian Walford Davies, 2016), rhaid trin cyfieithu i ieithoedd lleiafrifol â gofal; rhaid i’r rhesymeg dros wneud fod yn eglur o blaid ffyniant yr iaith leiafrifol dan sylw. Mae gwahaniaeth mawr, er enghraifft, rhwng rhaglen gyhoeddi uchelgeisiol Gwasg y Dref Wen yn y 1970au i gyfieithu goreuon llenyddiaeth Ewrop i’r Gymraeg (efallai y cofiwch Y Lleidr Hotzenplotz, Y Crwt Emil neu Pippi Hosan-hir) neu’r fenter ddiweddar i gyfieithu llyfr gwleidyddol i blant yn uniongyrchol o’r Gatalaneg (Stori Go Iawn Karl Marx) a thrawsosod talpiau cyfan o ddiwylliant Eingl-Americanaidd i’r Gymraeg yn ddigwestiwn.

Dylem felly, fel cymuned, gymryd mwy o ddiddordeb yn ein llyfrau plant a gwrando ar farn darllenwyr ifainc. Ar un adeg, roedd y gymuned a graffai ar lenyddiaeth plant lawer yn ehangach ac roedd yna drafodaeth fywiog ymhlith athrawon ysgol a phrifysgol a darllenwyr brwd o bob oed ynghylch safon, cynnwys a dyheadau’r byd cyhoeddi. Dyna chi’r ysgolor mawr, A O H Jarman, yn adolygu Teulu’r Cwpwrdd Cornel yn y cylchgrawn Lleufer yn 1950 ac athrawon yn trafod llyfrau ar dudalennau Pori: Cylchgrawn i athrawon, rhieni ac eraill ar lenyddiaeth plant rhwng 1983 a 1991. Bu Canolfan Genedlaethol Llenyddiaeth Plant Cymru yn hybu ymchwil yn ystod yr un cyfnod ac roedd cynhadledd flynyddol ar lenyddiaeth plant yn fodd i ddod ag awduron, darlunwyr, athrawon a chyhoeddwyr ynghyd. Arwyddion yw’r rhain o gymryd pwysigrwydd byd y dychymyg ym mywyd y plentyn o ddifri.

Mae’r byd llyfrau wedi newid yn llwyr ers dyddiau Pori, y Ganolfan a’r gynhadledd: mae yna amrywiaeth ehangach o lyfrau ac mae safon eu diwyg a’u dyluniad wedi codi’n aruthrol. Ond collwyd y llwyfannau rhyngweithiol a chynhwysol i drafod, craffu a phwyso a mesur blaenoriaethau. Yn sicr, mae yna lyfrau gwreiddiol a chyfieithiadau gwych yn cael eu cynhyrchu’n gyson ond, heb y fforymau trafod cyhoeddus, mae’n anodd cael gwybod amdanynt ac nid oes yna syniad amlwg o’r hyn y dylid ei gadw i’r genhedlaeth nesaf. O ganlyniad, ni welwn ymdrech fwriadol fel a gafwyd yn y 1970au a’r 1980au i adargraffu ‘clasuron’ llenyddiaeth plant gan Moelona, Tegla ac Elizabeth Watkin-Jones. O blith ein nofelwyr plant, T Llew Jones yn unig sydd wedi goroesi, nid yn unig oherwydd safon ac apêl ei straeon, ond oherwydd ei bersonoliaeth hoffus agored, ei hirhoedledd a’r gefnogaeth iddo (fel Prifardd) gan y byd llenyddol yng Nghymru (ac yng Ngheredigion, yn arbennig). Heb lwyddiant yr ymdrech honno i gadw llyfrau T Llew mewn print, ni fyddai yr un nofel Gymraeg wreiddiol ar restr Catalog Llyfrau Plant a Phobl Ifanc 2016 yn hŷn nag United! Eirug Wyn (1996) a Llinyn Trôns Bethan Gwanas (2000). (Mae hi'n sefyllfa wahanol gyda chymeriadau adnabyddus i’r plant lleiaf, fel Sali Mali a Wil Cwac Cwac, gan fod y cyfryngau a brandio masnachol, yn ogystal â’r llyfrau gwreiddiol eu hunain, wedi llwyddo i gadw’r rheini yn llygad y cyhoedd.)

Mae’n bryd ailgynnau’r drafodaeth ynghylch llyfrau plant ac arwyddocaol yw gweld parodrwydd y cylchgrawn newydd hwn i roi gofod i’r pwnc yn y rhifyn cyntaf. Ni ddymunwn weld trafodaeth sy’n bychanu’r deunydd cyfredol ac yn hiraethu am gyfoeth y gorffennol coll, ond yn hytrach un sy’n arwain at bwyso a mesur i ba raddau y mae llenyddiaeth plant yn rhan o etifeddiaeth darllenwyr ifainc heddiw. Yng nghân gyfareddol yr Wmpalwmpas yn Charlie a’r Ffatri Siocled (2002), cyfieithiad meistrolgar Elin Meek o gampwaith Roald Dahl, er enghraifft, mae’r creaduriaid estron, egsotig yn trin eu cartref newydd â sensitifrwydd diwylliannol annisgwyl. Maent wedi dysgu’r Gymraeg yn rhugl yn ffatri Willy Wonka ac, yn fwy na hynny, yn gallu defnyddio cyfeiriadau llenyddol yn ddeheuig. Felly, wrth gosbi Mike Teavee am wylio gormod o deledu, maent yn dyheu am weld plant bach Cymru’n bwrw ati i ddarllen clasuron y gorffennol:

Dyma’r llyfrau ’slawer dydd
Oedd gan blantos oedd yn rhydd
O gaethiwed cas teledu
A’r diogi a’r syrffedu
Wel, Llyfr Mawr y Plant oedd yno
Wil Cwac Cwac, a Siân a Iolo,
Teulu’r Cwpwrdd Cornel hefyd,
Teulu Bach Nantoer mewn adfyd,
Twm Siôn Cati, Cantre’r Gwaelod,
Chwedlau Grimm yn llawn dihirod,
Chwedlau Esop, Eira Wen,
Nedw, Mops a’r hogyn pren.
Felly bawb, os ych chi’n medru,
Ceisiwch daflu eich teledu,
Ac yn ei le, rhowch silff o lyfrau.
Anwybyddwch y sgrechiadau.

Mae ymwybyddiaeth yr Wmpalwmpas o hanes llenyddiaeth Gymraeg ac o arwyddocâd darllen wrth ffurfio hunaniaeth ddiwylliannol i blant yn rhyfeddol (ac yn ychwanegu haenen newydd o swrealaeth i’r testun Cymraeg o’i gymharu â’r Saesneg). Ond mae angen ymdrech ymwybodol i gynnal y gorffennol os ydym am sicrhau nad cyfeiriadau diystyr yw’r rhain i ddarllenwyr cyfoes. Mae cynsail i’r math hwn o adfer llenyddol: dyna sail beirniadaeth ffeministaidd yng Nghymru ers y 1980au wrth ailgyhoeddi ac ailasesu testunau gan ferched a gollwyd yn rhith patriarchaidd amser. Cafwyd hefyd ymdrech fawreddog i hawlio a phoblogeiddio llenyddiaeth Saesneg Cymru gyda chyfres ‘The Library of Wales’. Eithr mae’r diffyg trafod ar y syniad o ‘glasuron’ a’r diffyg ymwybyddiaeth gyffredinol ynghylch byd llyfrau plant a phobl ifainc yn awgrymu nad ydym yn rhoi fawr o werth diwylliannol arhosol ar ein profiadau darllen cynnar. Caiff y llyfrau eu hystyried yn bwysig ar y pryd i’n datblygiad ieithyddol a phersonol, ond pennod hanesyddol ydyw i’w rhoi heibio wrth dyfu’n hŷn, megis y pethau plentynnaidd yn llythyr Paul at y Corinthiaid: ‘Pan oeddwn yn blentyn, fel plentyn yr oeddwn yn llefaru, fel plentyn yr oeddwn yn meddwl, fel plentyn yr oeddwn yn rhesymu. Ond wedi dod yn ddyn, yr wyf wedi rhoi heibio bethau’r plentyn.’ Ond ai arwydd o aeddfedrwydd cenedl yw ei bod yn rhoi llenyddiaeth ei phlant o’r neilltu, neu a yw’r diffyg gwybodaeth am ei gorffennol ei hun yn arddangos amharodrwydd anaeddfed i fagu gwreiddiau?

Fel y gwelwch, nid testun hawdd nac amherthnasol mo llenyddiaeth plant, ond un a aiff â ni at graidd ein syniadau ynghylch arwyddocâd byd y dychymyg i’n hunaniaeth lenyddol, ddiwylliannol a chenedlaethol. Dylem gymryd hynny o ddifri, siawns.

Mae Siwan M Rosser yn dysgu cyrsiau ar lenyddiaeth plant a phobl ifainc yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd.

Darllenwch yn ogystal: Llyfrau Plentyndod

Gallwn graffu ar y grymoedd diwylliannol a chymdeithasol sy’n ymrafael yn y gymuned Gymraeg drwy archwilio ei llyfrau i blant a phobl ifainc

Pynciau:

#Llyfrau plant
#Rhifyn 1
#Siwan M Rosser