Dadansoddi

Mai nad yw’n deilio: argyfwng byd natur


Bethan Wyn Jones

Amser darllen: 6 munud

15·05·2019

Sir Benfro (Llun: Angharad Penrhyn Jones)


I mi, un o linellau mwyaf dirdynnol y Gymraeg ydi hon gan Dafydd Namor: ‘Ni ddyly Mai ddeilio mwy.’ Fedra i ddim meddwl am lawer o bethau gwaeth na Mai yn methu deilio. 

Ond dyma ydi hanfod adroddiad a gyhoeddwyd 6 Mai 2019 gan y Panel Rhynglywodraethol ar Wasanaethau Bioamrywiaeth ac Ecosystemau (IPBES) ar yr argyfwng sy’n wynebu planed Daear. Ddechrau Mai, yn UNESCO, Paris, cyfarfu gwyddonwyr a swyddogion llywodraethau 110 o wledydd i gwblhau asesiad allweddol o berthynas dyn â byd natur. Bu'r cynulliad hanesyddol hwn yn gyfle i arbenigwyr herio llunwyr polisi. Yn y gobaith o sefydlu man cychwyn ar gyfer penderfyniadau hyddysg, cyflwynwyd dogfen awdurdodol ar sail gwyddoniaeth drwyadl.

Sobrir dyn gan gasgliad yr adroddiad: rhagdybir y bydd rhwng 500,000 a 1,000,000 o wahanol rywogaethau dan fygythiad dros y degawdau nesaf, sef un ym mhob wyth. Does dim modd mwyach anwybyddu'r tebygrwydd ein bod ar drothwy'r chweched difodiant ar raddfa aruthrol yn hanes ein byd. Difodiant y dinosoriaid 65 miliwn o flynyddoedd yn ôl oedd y pumed difodiant. Ond nid sôn am fframwaith amser ar raddfa ddaearegol yr ydym y tro hwn: ychydig ddegawdau'n unig sydd yn y fantol. Ac yn ôl y dystiolaeth, un sy'n bennaf gyfrifol, sef dynol ryw. 

Am dair blynedd, bu 145 o arbenigwyr o 50 gwlad yn astudio 15,000 o ffynonellau gwybodaeth, gyda mewnbwn gan 310 o arbenigwyr pellach. O ystyried y consensws eang sydd yn sail iddi – consensws gwyddonol a gwleidyddol – does dim dwywaith nad ydi hon yn ddogfen awdurdodol. Daw’r crynodeb i 40 tudalen a’r adroddiad ei hun i dros 1,700 tudalen. Dyma'r asesiad mwyaf cynhwysfawr o gyflwr bioamrywiaeth y byd a gyhoeddwyd erioed. Ar sail astudiaeth o'r newidiadau a fu dros y pum degawd diwethaf, cyflwynir darlun trylwyr o effaith amrywiol lwybrau datblygiad economaidd ar fyd natur. Cynigir yn ogystal ystod o frasluniau o'r hyn sydd yn ein hwynebu dros y degawdau nesaf. 

✒︎

Mae'n amlwg erbyn hyn bod rhaid atgoffa ein hunain ein bod ninnau hefyd yn rhan annatod o fyd natur. Cyfoeth bioamrywiaeth y byd sydd yn rhoi i ni ein bwyd, ein dŵr, yr aer a anadlwn, ein meddyginiaethau a chyfran helaeth o'r egni a ddefnyddiwn. Ymhlyg yn nirywiad yr amrywiaeth hwn y mae colledion economaidd ar raddfa arwyddocaol, bygythiad dirfawr i sefydlogrwydd ein ffynonellau egni a dirywiad anorfod yn ansawdd bywyd pob un. Meddai Robert Watson, llywydd y panel: 'Rydym wrthi'n erydu seiliau ein heconomïau, yr adnoddau sydd yn caniatáu bywyd ar y Ddaear, sefydlogrwydd ein cyflenwad bwyd, ein hiechyd ac ansawdd bywyd bob un ar y blaned.' 

Dyma i chi rai o'r ffeithiau a gyflwynir sy'n sobri dyn: yn ogystal â'r ffigwr a wnaeth argraff ar y cyfryngau'n rhyngwladol ar 6 Mai, sef yr amcangyfrif bod miliwn o rywogaethau mewn perygl o ddifodiant, mae biomas mamaliaid gwyllt wedi gostwng 82% a chollwyd oddeutu hanner arwynebedd ecosystemau naturiol. Mae dau ym mhob pum rhywogaeth amffibiaidd mewn perygl o ddifodiant, fel y mae un rhan o dair o’r cwrelau sy’n ffurfio riffiau, a thua un rhan o dair o rywogaethau morol eraill. Ar yr un pryd, cred cadwraethwyr y gall o leiaf un ym mhob deg trychfilyn fod mewn perygl real o ddifodiant. Goblygiadau hyn ydi gostyngiad sylweddol yn niferoedd y peillwyr (trychfilod fel gwenyn, ag ati) gan arwain at golled gwerth oddeutu £440 biliwn mewn cnydau. Heb beillwyr, fel y gwyddom, does dim modd tyfu ffrwythau megis afalau, eirin ac eirin gwlanog.
 

Y Pabi Cymreig (Llun: Angharad Penrhyn Jones)


Ar ben hynny, mae dirywiad yn ansawdd y tir wedi golygu fod cynhyrchiant tir wedi gostwng oddeutu 23% yn fyd-eang. Dadlennir i ni blaned lle mae tri chwarter ein tir naill ai wedi’i droi yn dir ffermio, wedi’i orchuddio mewn concrid, wedi ei lyncu gan argaeau neu wedi ei newid yn sylfaenol. Trawsnewidiwyd dwy ran o dair o’r amgylchedd morol hefyd, gan ffermydd pysgod, llwybrau llongau a mentrau eraill. Ar yr un pryd, defnyddir tri chwarter ein hafonydd a’n llynnoedd ar gyfer tyfu cnydau neu ffermio anifeiliaid ac o ganlyniad mae dros 500,000 o rywogaethau â rhy ychydig o gynefinoedd i oroesi yn y tymor hir.

Amaeth a physgota ydi prif achos y dirywiad hwn. Cynyddodd lefelau cynhyrchu bwyd yn ddramatig ers saithdegau’r ganrif ddiwethaf. Bu hyn o gymorth i fwydo poblogaeth gynyddol y byd ac i gynhyrchu swyddi a thwf economaidd. Ond bu’r gost yn aruthrol. Cawn ddarllen yn yr adroddiad bod goblygiadau dirfawr i effeithiau amgylcheddol y diwydiant cig: mae gwartheg yn pori ar 25% o’r tir sy’n rhydd o rew. Wrth gynhyrchu cnydau, ar y llaw arall, 12% o’r tir a ddefnyddir. Er bod hynny'n achos consyrn difrifol, nid dim ond cynnydd ym mhoblogaeth y byd sydd ar fai. Ers 1980, mae defnydd cyfartalog trigolion y byd o adnoddau naturiol wedi cynyddu 15%, a hynny wrth gwrs, rhaid cofio, yn amrywio'n fawr rhwng trigolion gwledydd cyfoethog a thlawd.

Yn ôl yr adroddiad, mae effeithiau tebygol yr holl weithgaredd hwn ar ddyfodol dyn – gan arwain at brinder dŵr croyw ac ansefydlogrwydd yn yr hinsawdd – yn 'fygythiol' a dweud y lleiaf. Ac oni bai ein bod yn gweithredu ar frys, y tebygrwydd yw mai cynyddu'n afreolus wnaiff y bygythiadau hyn. Mae'r ymrafael am ffynonellau egni, dŵr, bwyd a thir eisoes ar waith, fel y gwyddom: cawn ein hatgoffa bod gwrthdaro ar hyn o bryd mewn dros 2,500 o fannau gwahanol ar draws y byd. Aeth IPBES gam ymhellach a mentro pwysleisio bod rhaid diwygio mewn modd sylfaenol systemau cyllid ac economaidd byd-eang hefyd, os am sicrhau dyfodol cynaliadwy. Beirniadir yn benodol y cymorthdaliadau a roddir i gynnal y diwydiant pysgota, y diwydiant amaeth dwys, y diwydiant da byw, i ymelwa ar draul cynefinoedd coediog, ac i echdynnu mineralau a ffosiliau hylosg. 

✒︎

Felly, beth fedrwn ni ei wneud? Argymhellir y dylid rhoi camau trawsnewidiol ar waith ar hyd ac ar led pob adran lywodraethol: newid rheolau masnach, er enghraifft, buddsoddi ar raddfa eang mewn coedwigoedd a mannau gwyrdd eraill, a newid ymddygiad unigolion (bwyta llai o gig, er enghraifft, a defnyddio llai o nwyddau).  

Meddai David Obura, un o brif awduron yr adroddiad ac awdurdod byd-eang ar gwrelau: 'Rydym wedi ceisio cofnodi graddfa'r argyfwng sydd yn ein hwynebu er mwyn i bobl wrando ond hefyd er mwyn cyfleu nad ydi hi'n rhy ddiweddar, bod modd newid y sefyllfa er gwell os ydym yn barod i newid ein hymddygiad mewn modd sylfaenol. Mae hyn yn hanfodol nid yn unig i allu rhywogaethau eraill i oroesi ym myd natur ond hefyd i’n gallu i oroesi fel dynol ryw. Dyma ein ''system cynnal bywyd''.'

Yr hyn sy’n frawychus ydi mor gyflym y digwyddodd hyn oll a’r angen mawr sydd yna i weithredu ar frys. Meddai’r Athro Robert Watson: 'Rwyf am i bobl ddeall fod byd natur yn wirioneddol bwysig ac na ddylid ei ddinistrio; mae’n gwbl hanfodol i'n gallu i fwydo ein hunain, i'n cyflenwadau dŵr ac ynni. Hoffwn weld aelodau'r cyhoedd yn datgan yn glir na ddylid dinistrio byd natur ac yn annog eu llywodraethau i sicrhau'r polisïau angenrheidiol, ac i holi'n ogystal beth sydd o fewn fy ngallu i fel unigolyn i'w wneud er mwyn sicrhau fod bywyd bob dydd yn fwy cynaliadwy?'
 

Bygwth y Borth (Llun: Angharad Penrhyn Jones)


Ni ddylid anghofio ychwaith bod y ddynoliaeth ar hyd y canrifoedd wedi troi at fyd natur am ysbrydoliaeth. Dyma ffynhonnell llawer o'n dysg a hefyd ein profiadau corfforol a seicolegol dwysaf. Dyma hefyd darddiad hunaniaeth cymaint o gymunedau ar draws y byd. Cydnabyddir gan y panel yr elfennau diwylliannol hyn – elfennau anos eu mesur – yn ogystal â rôl cymunedau lleol, cynfrodorol yn gwarchod o leiaf chwarter tiriogaethau'r blaned ar hyn o bryd, a dros un rhan o dair o'r tiriogaethau hynny nad ydynt eto wedi eu trawsnewid tu hwnt i adnabyddiaeth gan weithgareddau dyn. 

Meddai pennaeth UNESCO Audrey Azoulay a Robert Watson mewn cyhoeddiad ar y cyd: 'Wedi cyhoeddi'r adroddiad hanesyddol hwn gan IPBES, ni all neb haeru na wyddant. Byddwn yn atebol am ein hymateb cyfunol i'r canfyddiadau hyn gerbron cenhedlaeth iau sydd yn ein gwylio, sydd yn codi eu lleisiau ac sydd yn gwybod i ba raddau mae'r cyfnod hwn yn un tyngedfennol. Gyda'n gilydd y funud hon y dylem weithredu er mwyn gwarchod ein planed. Yn y fantol y mae ein dyfodol fel dynol ryw a'n gallu i gyd-fyw â rhywogaethau eraill y byd. 

Serch difrifoldeb y canfyddiadau, mae ambell i lygedyn o oleuni: am y tro cyntaf erioed, mae bioamrywiaeth ar agenda’r G7 [y fforwm gwleidyddol rhynglywodraethol a adnabyddwyd wrth yr enw G8, tan i aelodaeth Rwsia gael ei atal yn 2014 yn dilyn ei chyfeddiannaeth o'r Crimea]. Ond tybed faint o sylw wnaiff llywodraethau’r byd ei roi i’r adroddiad cynhwysfawr hwn sydd yn gosod y ddynoliaeth wyneb yn wyneb â'i chyfrifoldebau? Siawns nad oes hawl gan un rhywogaeth – ein rhywogaeth ni – benderfynu hynt yr holl rywogaethau eraill? Neu a fyddwn ni, dynol ryw, yn gyfrifol am Fai nad yw’n deilio mwy? 

Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


 

Categorïau:

Newid hinsawdd

 


Mae’n amlwg bod rhaid atgoffa ein hunain ein bod ninnau hefyd yn rhan annatod o fyd natur

Dyddiad cyhoeddi: 15·05·2019

Yn ôl i frig y dudalen

Dadansoddi


Morgan Owen

Beth yw wyneb poblyddiaeth? Wyneb blinedig, trist, trallodus. Nid yw’r ffromi a’r ysgyrnygu ond crychau egnïol, dros dro, ar y wyneb hwn; yn y dwfn y mae’r casineb yn llechu. A phrin mewn gwirionedd y bydd y casineb hwn yn brigo’n agored yng nghwrs y rhygnu…

Dadansoddi


Bethan Wyn Jones

I mi, un o linellau mwyaf dirdynnol y Gymraeg ydi hon gan Dafydd Namor: ‘Ni ddyly Mai ddeilio mwy.’ Fedra i ddim meddwl am lawer o bethau gwaeth na Mai yn methu deilio. Ond dyma ydi hanfod adroddiad a gyhoeddwyd 6 Mai 2019 gan y…

Adolygu


Rhianwen Daniel

Mae cymhwyso damcaniaeth ôl-drefedigaethol at hanes, diwylliant a gwleidyddiaeth Cymru wedi dod yn gynyddol ffasiynol dros y blynyddoedd diwethaf. Enghraifft newydd o hyn yw llyfr Martin Johnes, Wales: England’s Colony? Yn y gyfrol hon, dadleuir i'r gwrthwyneb na ddylid dehongli’r berthynas rhwng Cymru a Lloegr mewn termau trefedigaethol.

Cyfansoddi


Dyfan Maredudd Lewis

Mi roeddwn innau fel chithau unwaith. Yn ddiriaeth o foleciwlau. Fe’m ganed ac fe’m maged o’r fron fel baban o’ch rhywogaeth chi.

Ystyriwch eich safle yn nhrefn daear, ar ba begwn o’r echel hon ydych chi’n trigo – daioni ynte drygioni? Tybed a yw pegynnau moesoldeb dynolryw mor glir
i…

Cyfansoddi


Casi Dylan

‘Wennol Bwlch a Chilhollt’ Caryl Lewis oedd y stori a’n cyflwynodd ni i’n gilydd. Stori gariad o’r casgliad Plu (2013), wedi ei hadrodd o safbwynt Emrys, mab fferm a glymwyd i’w aelwyd gan amgylchiadau, ac a arhosodd yno yn y gobaith y dôi ei gariad cyntaf ’nôl ato o’i theithio byd: ‘Roedd…

Dadansoddi


Angharad Closs Stephens

Symudais i Abertawe i fyw ddechrau mis Ionawr 2016, yn ystod y gaeaf hwnnw lle bu hi’n bwrw glaw am bron i ddeufis yn ddi-baid. Gyrrais i lawr mewn car benthyg oherwydd fy mod wedi dinistrio fy nghar fy hun naw mis…

Adolygu


Gruffydd Aled Williams

‘Epig o nofel fydd yn byw yn y cof’ meddai Jon Gower mewn broliant ar glawr y nofel hon. Anodd fyddai anghytuno: o ran rhychwant amser a chymeriadaeth dyma’r fwyaf uchelgeisiol o bum nofel Jerry Hunter, ac, fe ddichon, un o’r nofelau mwyaf uchelgeisiol erioed…

Adolygu


Ceridwen Lloyd-Morgan

Bu pobl yn hoff o wneud rhestri erioed. Cymorth i’r cof, mae’n debyg, oedd diben llawer o’r casgliadau o enwau, ffenomenâu, traddodiadau neu wybodaeth arall a fu’n boblogaidd yn yr Oesoedd Canol. Ar wahân i’r Trioedd, lle crynhowyd traddodiadau storïol mewn cyfresi o dri, bu bri ar restri o bump, o saith, naw,…