Dadansoddi

Penwythnos gydag Iris

Cloriannu gŵyl ffilm Gwobr Iris


Dylan Huw

Amser darllen: 8 munud

25·10·2017

Yn ei waith dylanwadol Cruising Utopia, mae’r theorïwr José Esteban Muñoz yn galw am ddealltwriaeth o fodolaeth hoyw â gyriad iwtopig yn ganolbwynt iddi. Mae e’n defnyddio 'criwsio' am ryw fel trosiad ar gyfer ei weledigaeth ef (sydd yn benthyg gan Heidegger, theorïau celfyddyd gyfoes a dadansoddiadau Muñoz ei hun o weithiau queer penodol) o’r modd y gallwn ddod i ddeall y potensial i gymunedau LGBT+ sy’n deillio o ddychmygu ar y cyd ddyfodolau posib, gwell. Heb ddychmygu iwtopia, awgryma – a hynny yn ein celfyddyd, yn ein rhyw, yn ein bywyd gyda’r nos – ni ellir dychmygu dyfodol posib ar gyfer cymunedau a israddiwyd gan gymdeithas.

Dwi’n hoff ers tro o’r syniad bod cruising ac iwtopia, yn nisgrifiadau chwareus Muñoz ohonynt, yn fframweithiau y gellid eu cymhwyso at wead gwyliau ffilm. Ac os oes yna ŵyl y mae’r fframweithiau hynny’n gweddu’n berffaith iddi, Gŵyl Gwobr Iris yw honno. Fe’i cynhelir yng Nghaerdydd bob mis Hydref a daeth gŵyl eleni i ben – y ddegfed a’r fwyaf llwyddiannus eto – ar nos Sul 22 Hydref. Mae Gŵyl Gwobr Iris yn un o’r gwyliau ffilm mwyaf blaenllaw yn y byd sy’n canolbwyntio ar ffilmiau â chynnwys LGBT+, ac mae’n ymfalchïo lawn cymaint yn ei hawyrgylch glòs, deuluol a diymhongar ag y mae yn ei detholiad eang a dibynadwy o’r gwaith cyfoes gorau o fyd(oedd) sinema LGBT+.

Noson agoriadol Gŵyl Gwobr Iris - Cyfarwyddwr yr ŵyl, Berwyn Rowlands, yn annerch y dorf

Noson agoriadol Gŵyl Gwobr Iris. Cyfarwyddwr yr ŵyl, Berwyn Rowlands, yn annerch y dorf 

Un o nodweddion arbennig Gŵyl Iris, ynghyd â’i bywyd hwyrol bywiog a’i phwyslais ar gymuned, ydy ei ffocws ar ffilmiau byrion, er nad gŵyl ffilmiau byrion yn unig yw hi. Mae Iris yn cynnig platfform sylweddol i lond llaw o ffilmiau nodwedd LGBT+aidd mwya’ blaenllaw’r flwyddyn (i’m tyb i, mae Inxeba, neu The Wound, am ddefod greithio gan lwyth yn Ne Affrica, a Beach Rats, am fachgen ifanc ar ymylon tywodlyd dinas Efrog Newydd sy’n dod o hyd i dynerwch ac empathi wrth gwrdd â dynion o wefannau camsex, yn ddwy o ffilmiau cryfa’r flwyddyn mewn unrhyw genre neu thema). Ond mae hyd yn oed y ffilmiau nodwedd arbennig hyn yn cael mynd i’r sedd gefn yng Ngŵyl Iris o’u cymharu ag adrannau cystadleuol y ffilmiau byrion. Mae yna reswm da dros hynny: prif wobr Iris, am ffilm fer â thema LGBT+ wedi’i chreu yn unrhyw le yn y byd, yw’r wobr fwyaf am ffilm fer a gynigir gan unrhyw ŵyl ar y blaned (LGBT+ neu beidio) – mae’n cynnig gwobr gwerth £30,000 sy’n caniatáu i’r cyfarwyddwr buddugol wneud ei ffilm nesaf.

Enillydd annisgwyl y brif wobr ryngwladol eleni oedd Mamma Vet Bäst, neu Mother Knows Best, gan Mikael Bundsen, y cyfarwyddwr cyntaf o Ddenmarc i gipio’r wobr. Mae hi’n ffilm ar ffurf sgwrs – un siot yw rhan helaeth ei chwarter awr o hyd – rhwng mam a mab mewn car, ar ôl iddi hi gwrdd â’i gariad ef am y tro cyntaf. Mae symlrwydd y plot – a dyna ddisgrifio fwy neu lai’r oll sy’n digwydd yn y ffilm fuddugol – yn cuddio portread troellog a chelfydd o berthynas ac iddi hanes cymhleth a sawl tensiwn yn berwi dan yr wyneb. Mae’n ffilm a chanddi lawer iawn i’w ddweud am derfynau a rhagrith goddefgarwch rhyddfrydol ein hoes, ac fe ddatgelwyd ei phŵer ymhellach i mi o’i gwylio eilwaith yn ystod penwythnos olaf yr ŵyl.

Ffilm mor syml bob tamaid ar yr wyneb ond ac iddi lai i gydio ynddo oedd The Mess He Made, ffilm un-nodyn Americanaidd am dad ifanc sy’n lladd amser wrth aros am ganlyniad prawf clinig iechyd rhywiol. Rwy’n hoff o wyliau sy’n lleihau eu rhestrau byrion yn raddol, fel y mae Iris, ac sydd yn cyflwyno’u dangosiadau o’r tri uchaf ar yr hyn y maen nhw’n ei alw’n ‘Super Saturday; mae hynny’n cynnig gwell cipolwg o ddeinameg a chwaeth rheithgor na chyhoeddi enwau’r enillwyr yn unig. Yn achos tri uchaf y brif wobr ryngwladol eleni, roedd hi’n amlwg iawn bod y rheithgor hwn – a gadeiriwyd gan Brian Robinson o’r BFI gynt – yn ffafrio ffilmiau wedi’u gyrru gan un cysyniad cryf a steil hyderus, uniongyrchol.

Roedd hyn yn sicr yn wir am Odd Job Man, gan Marianne Blicher, am ddyn canol oed sy’n colli ei swydd a’i wraig, ac yn dod o hyd i newid byd o fath ar ôl dechrau swydd fel ‘odd job man’ mewn clwb drag. Gellid dadlau mai hon oedd y ffilm fwya’ soffistigedig ei harddull ym mhrif gystadleuaeth Iris eleni. Ond, yn bersonol, dwi'n falch iawn bod y rheithgor wedi penderfynu peidio â gwobrwyo ffilm ac iddi bersbectif mor gyfarwydd, mewn gŵyl sydd wedi ei bwriadu fel llwyfan i leisiau nad ydyn nhw’n cael cynrychiolaeth ddigonol. Gellid dadlau hefyd bod yna le i straeon am gymunedau hoyw wedi’u hadrodd gan bobol nad ydyn nhw ar y sbectrwm LGBT+, a hyd yn oed ar gyfer ffilmiau sy’n canoli profiad dyn syth, gwyn, cisrywiol sy’n dwrist mewn sîn LGBT+ tanddaearol, fel y mae Odd Job Man – ond nid prif wobr Gŵyl Iris yw’r lle hwnnw.

Roedd ychydig mwy o amrywiaeth (o sawl math) i’w weld yn y ffilmiau a ddaeth i’r brig yng nghategori Iris ar gyfer ffilmiau byrion o’r Deyrnas Gyfunol. Été, i mi, oedd y ffilm fwyaf telynegol, synhwyrus a chynnil yn y tri uchaf mewn unrhyw gategori eleni. Mae’n adrodd hanes crysh mud bachgen ar ei ffrind yn ystod haf o gneifio defaid ac ymlacio ger llynnoedd a ffyrdd cul Swydd Henffordd. Ond mae’r cyfarwyddwr, Greg Oke, yn fframio’r sefyllfa ddigon arferol hon yn ymdrechion y bachgen i ddysgu Ffrangeg, a'i obsesiwn â’r canwr Jacques Dutronc, sydd yn chwarae dros dalpiau hir o drac sain y ffilm (sydd yn rhyw ugain munud o hyd). Nid yw’r ffilm yn esbonio’r elfen hon na llawer o bethau eraill yn Été chwaith. (Ces gyfle i ofyn i’r cyfarwyddwr, yn un o nifer o bartïon Iris, a oedd yna gysylltiad pendant ro’n i wedi methu â’i weld rhwng gwahanol linynnau’r ffilm – fe’m cysurodd trwy ddweud ei fod wedi dod at wahanol ddylanwadau’r ffilm fwy neu lai ar hap.) Ond mae’r ffilm yn waith llawer mwy awgrymog, a chyfoethog, o ganlyniad i’r aflonyddwch chwareus hwn.

Dathliadau yng Ngŵyl Gwobr Iris

Dathliadau yng Ngŵyl Gwobr Iris

Byddai’n anodd dadlau, serch hynny, nad oedd enillydd yr adran hon, We Love Moses, yn deilwng o’r wobr. Mae hon yn ffilm ac iddi bersbectif unigryw: mae’n dilyn merch ddeuddeg mlwydd oed sy’n magu obsesiwn â pherthynas agos ei brawd gyda’i ffrind gwrywaidd. Yr hyn sy’n nodweddu’r naratif hwn yw ei benodolrwydd; mae ei themâu, sy’n ymwneud ag amwysedd rhywiol a phwysau cymdeithasol ar ferched ifainc, wedi eu gosod mewn cymuned ddinesig ac mae pob aelod o’r cast a’r criw yn bobol groenddu. Mae yna hiwmor a chwilfrydedd yn y stori hefyd, a’r rhain yn cyfuno i sicrhau ei bod yn un o ffilmiau mwyaf argyhoeddiadol Iris 2017.

Roedd hi’n braf hefyd gweld ffilm ddogfen sensitif – y math o ffilm a fyddai wedi gallu llithro trwy rwyd gŵyl fel Iris yn ddigon rhwydd – yn cyrraedd tri uchaf adran ffilmiau’r Deyrnas Gyfunol. Mae Where We Are Now, a gyfarwyddwyd gan Lucie Rachel, yn portreadu’r berthynas esblygol rhwng tad a merch yn yr Alban wedi i’r ddau ddod allan, y tad fel dynes trans a’r ferch fel lesbiad. Dydy hon ddim yn ffilm sy’n gorbwysleisio nac yn pregethu – mae’n ffafrio arddull arsylwadol, yn hytrach, sydd yn goleuo nuances y berthynas arbennig hon mewn ffordd ryfeddol o gynhwysfawr o ystyried ei bod yn ffilm mor fer.

Yn nhudalennau olaf Cruising Utopia, mae Muñoz yn galw ar i ni chwilio – mewn gwaith esthetig ac mewn sefyllfaoedd cymunedol ag iddynt botensial iwtopig – am strategaethau er mwyn cael dianc o afael ‘a narrow version of the here and now’, i fynnu gwell i gymunedau nad ydyn nhw’n rhan o regimes normadol cymdeithas ac i gamu ‘out of this place and time to something fuller, vaster, more sensual, and brighter.’ Rhoddodd cyfnod byr Gŵyl Iris eleni – safon y detholiad o ffilmiau, y ddiod a’r dawnsio, yr oriau o sgyrsiau a gafwyd – flas imi o’r delfryd iwtopig llachar-lawn hwn. Roedd sawl un o ffilmiau a siaradwyr Iris yn atgoffâd ein bod, yn ein cwr ni o’r byd, wedi gweld cynnydd pendant o ran materion LGBT+. Ond beth am fynnu gwell eto i bobol ar hyd sbectrwm rhywioldeb ymhob cwr o’r byd? Beth am fynnu iwtopia?


Mae Dylan Huw yn frodor o Landre, Ceredigion. Mae'n astudio ar hyn o bryd am radd MA yn Goldsmiths, Prifysgol Llundain. Ei brif ddiddordebau yw diwylliannau ffilm a chelfyddyd gyfoes.

Fe gewch chi fwy o wybodaeth am Ŵyl Gwobr Iris fan hyn. Diolch i'r trefnwyr am ganiatâd i ddefnyddio'u lluniau.


Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


 

Categorïau:

Ffilm, Dylan Huw

 


Beth am fynnu gwell eto i bobol ar hyd sbectrwm rhywioldeb ymhob cwr o’r byd? Beth am fynnu iwtopia?

Dyddiad cyhoeddi: 25·10·2017

Yn ôl i frig y dudalen

Adolygu


Ruth Richards

Maen nhw'n edrych fel pâr o hipstyrs o ddwy wahanol genhedlaeth. Yr hynaf yn farfog (gafrog hefyd, fel mae'n digwydd), a'r llall yn eiddgar a braidd yn betrusgar dan ei gýt powlen. Mae'r ddau yn syllu arnom drwy'r math o sbectolau a ffafrir, hyd heddiw, gan bobl…

Cyfansoddi


Elin Haf Gruffydd Jones

Mae sefyllfa gyfredol Catalunya wedi bod yn fyw yn ein newyddion ers Hydref 2017. Gwelsom olygfeydd trawiadol o’r refferendwm dadleuol ar annibyniaeth drwy sgriniau gwefannau cymdeithasol, y cyfryngau darlledu a’r wasg. Cyhoeddodd y dyddiolyn ar-lein Vilaweb gyfres o gerddi gan feirdd ‘Proclames de Llibertat’ (Datganiadau…

Adolygu


O’r Pedwar Gwynt

Lle mae'r nofelydd Cymraeg sy'n abl i gymell cenedl gyfan i sefyll o flaen ei gwell? Dyma gwestiwn sy'n codi'n gyson yn sgyrsiau anffurfiol O'r Pedwar Gwynt. Gyda marwolaeth Philip Roth ar 23 Mai 2018, awdur yr enwog American Pastoral (1997), mae’r cwestiwn yn codi ei ben eto fyth.

Dadansoddi


Nerys Williams

Roedd hawliau atgenhedlu ac iechyd menywod yn perthyn yn naturiol i diriogaeth ddi-nod fy mhlentyndod yng ngorllewin Cymru'r saithdegau. Nyrs ardal a bydwraig oedd fy mam ac yn ystod gwyliau'r haf byddwn yn mynd gyda hi ar ei rownds. Gwrando ar dapiau ar y stereo…

Dadansoddi


Qing Niao

Mae'r Tsieineaid yn hoff o ddilyn ffasiwn ac wrth eu boddau yn trwytho eu hunain mewn moethusrwydd, lliwiau a phatrymau. Yn bwysicach na dim i'r Tsieineaid y mae gwneud yr argraff iawn: mae'r awydd i dynnu sylw yn gryf ond hefyd yr awydd i…

Adolygu


Mike Parker

Wrth ymddeol, troi at yoga neu jig-sos mae ambell un. Ond her go swmpus mae John Osmond – cyn-gyfarwyddwr y Sefydliad Materion Cymreig ac, ar un adeg, ymgeisydd Plaid Cymru yn ei ardal enedigol, Sir Benfro – wedi gosod iddo'i hun. Mae wrthi'n…

Adolygu


Alan Llwyd

Rhyw fath o Bum Llyfr Kerddwriaeth sydd gen i, sef pum llyfr o farddoniaeth. Mae gen i lyfrgell eang o ryw dair mil o lyfrau yn fy nghartref, a bûm yn ddarllenwr mawr oddi ar fy arddegau cynnar. Mae cannoedd o…

Adolygu


Janet Aethwy

Te yn y Grug gan Kate Roberts (1959)

Bu'r llyfr hwn yn ddylanwad mawr arna i. Dyma un o'r darnau cyntaf erioed i mi ei berfformio ar lwyfan ac roedd geiriau Kate Roberts yn rhan annatod o’r cyfareddu. Bûm yn ffodus i’m hathro Cymraeg ar y pryd benderfynu…