Dadansoddi

Pwy oedd Betsi Cadwaladr?


Gruffydd Jones

Amser darllen: 7 munud

02·08·2019

Yn 2009, cyhoeddwyd enwau byrddau iechyd newydd Cymru. Fel meddyg teulu yng Ngwynedd, fy ymateb cyntaf ar glywed fy mod am weithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr oedd gofyn ‘Betsi pwy?’ a ‘Pa brifysgol?’ Erbyn heddiw, mae nifer o lyfrau ac erthyglau wedi eu hysgrifennu amdani, i gyd yn seiliedig ar The Autobiography of Elizabeth Davis, a Balaclava Nurse, Daughter of Dafydd Cadwaladyr (1857). Fe’i golygwyd gan Jane Williams (Ysgafell) a fu’n flaenllaw yn y frwydr yn erbyn y Llyfrau Gleision ac a aeth ymlaen i ysgrifennu llyfr safonol ar hanes Cymru yn 1869. Y fersiwn a ddarllenais er mwyn darganfod mwy am y fenyw ddiddorol hon oedd ail-gyhoeddiad Gwasg Honno (2007), sy’n gyffredinol ffyddlon i’r gwreiddiol, er nad yw’n cynnwys rhagair hollbwysig Jane Williams.

Yr hanes arferol a gawn o fywyd Betsi yw iddi gael ei geni yn 1789 yn un o 16 o blant i Dafydd Cadwaladr, pregethwr Methodistaidd enwog. Bu farw ei mam, Judith, pan oedd Betsi yn bump ac oherwydd casineb ei chwaer hŷn, aeth i fyw at Simon Lloyd pan oedd yn 10 oed, cyn ffoi i Lerpwl yn 14 oed i wasanaeth teulu cefnog. Teithiodd o gwmpas Ewrop gyda’r teulu hwn, ac wedyn am bymtheg mlynedd fel morwyn ar ddau gwch masnach yn mwynhau anturiaethau peryglus cyn dychwelyd i Brydain yn 1835, flwyddyn ar ôl marwolaeth ei thad. Bu’n gweithio yn Guy’s Hospital cyn gwirfoddoli i wasanaethu dan Florence Nightingale yn y Crimea yn 1854, lle bu’n gweithio yn ddiwyd ar y wardiau ac yn y gegin, yn aml mewn gwrthdrawiad ag awdurdod, cyn dychwelyd i Brydain ar ôl deng mis oherwydd gwaeledd. Bu farw yn 1860 yn nhŷ ei chwaer Bridget yn Llundain.

Mae’n amlwg i unrhyw ddarllenydd chwilfrydig fod gwallau ffeithiol yn frith drwy’r hunangofiant – dyddiad marwolaeth ac enw cartref plentyndod ei thad, enw bedydd ei mam, lleoliad fferm ei thaid (honnir iddi ffinio ar Sir Ddinbych a Sir Faesyfed!) ac enw llywodraethwr St Vincent yn y Caribî. Cyfeirir at Frenin Ioan yr Wythfed o Portiwgal, pan na fu mwy na chwech, ac ati. Ond y broblem fwyaf â’r hunangofiant yw annhebygolrwydd yr anturiaethau. Honnodd Betsi weld uncorn yn Ne Affrica – wrth deithio mewn cerbyd yn cael ei dynnu gan ddau sebra. Gwelodd anifail yn St Vincent â phen fel siarc, a thyllau yn glustiau iddo, chwe aden, deuddeg troed ‘besides a row of feet across the widest part below. The colour was green, mixed with white above, and the colour of oyster-shells beneath. The front part looked like feathers, and the hinder parts shelly.’

Trwy’r llyfr, Betsi yw canolbwynt y straeon. Hi yw’r arwres sydd yn achub y dydd rhag diofalwch a ffolineb eraill. Mae’n achub llong mewn storm ar ei phen ei hun ar ôl i’r criw roi y ffidil yn y to. Mae’n dal lladron. Mae dynion yn ei chanlyn ar draws y byd ond gwrthodir ganddi dros ugain o gynigion priodas. Mae’n ddigon medrus i wneud ffortiwn yn prynu a gwerthu nwyddau ar ei theithiau – cymaint â chyflog hanner canrif i athrawes y cyfnod – ond yn ddigon ffôl i golli popeth drwy dwyll. 

Mewn gwirionedd, nid hunangofiant mo’r llyfr, ond straeon llafar wedi eu gweu yn naratif gan y golygydd. Mae’n rhes o straeon anturiaethus arwynebol heb gariad, galar, hiraeth, gobaith nac edifar. Fel darn o lenyddiaeth mae’n hynod ddiflas, ond cwestiwn arall yw ei werth fel dogfen hanesyddol, yn enwedig y cynnwys sydd yn berthnasol i ofal meddygaeth rhyfel yn ysbytai’r Crimea.

Ar ôl ymddeol, ymunais â’r Brifysgol Agored i astudio hanes, ac eleni cefais gyfle i ymchwilio i ddibynadwyaeth hunangofiant Betsi fel ffynhonnell hanesyddol. Ond sut oedd gwneud hynny? Heblaw am ei genedigaeth, nid oes cofnod swyddogol amdani, o leiaf cyn iddi fynd i’r Crimea. Mae cynnwys mwyaf anghredadwy yr hunangofiant yn perthyn i’r cyfnod y bu Betsi yn hwylio ledled y byd. Yr anhawster yw asesu gwirionedd y straeon pan nad oedd Betsi wedi cadw dyddiadur, nac unrhyw awdur cyfoes wedi ysgrifennu amdani. Deuthum o hyd i’r ateb nid drwy ddilyn y fenyw, ond drwy ddilyn y cwch.

Yn y 18fed ganrif, roedd economi yr Ymerodraeth Brydeinig yn dibynnu ar forwriaeth masnach. Yr oedd diddordeb mawr yn hynt y llynges, nid yn unig gan berchnogion a masnachwyr, ond hefyd gan filoedd o bobl yn dilyn hynt perthnasau yn gweithio yn niwydiant mwyaf peryglus yr oes. Roedd symudiad pob llong ym mhob porthladd yr ymerodraeth, ac ymhellach, yn cael ei nodi yn fanwl mewn cyhoeddiadau fel Lloyd’s List, a phapurau newydd Prydain a thiroedd Awstralasia.

Mae tair llong yn hanfodol i hanes Betsi – y Perseverance, yr Iris, a’r Denmark Hill. Y Perseverance oedd llong Capten Thomas Harris. Ef, yn ôl yr hunangofiant, oedd darpar Betsi a foddodd o fewn cyrraedd porthladd Lerpwl pan ddrylliwyd ei long ar y Black Rock, ar gornel ogledd-ddwyreiniol Cilgwri. Mae’r hunangofiant yn fanwl iawn ynghylch amseriad a lleoliad y digwyddiad ym Mai 1816.

Nododd ambell awdur nad oes cyfeiriad at y digwyddiad ym mhapurau Lerpwl, ond heb gwestiynu gwirionedd y stori. Ac eto, ychydig o waith ymchwil sydd ei angen i ddangos nad wrth geg afon Merswy y suddodd y Perseverance ond ar y Bishop’s Rock, ger Sir Benfro. Yn ôl rhifyn 28 Mai 1814 o The Cambrian (Abertawe): 

On Thursday night last was totally lost on the Bishops, off the port of Milford, the Perseverance, of Cardiff, Harris master [...] bound from Bristol to Liverpool. - Crew saved.

Dyma dystiolaeth gadarn fod Harris wedi goroesi’r llongddrylliad a ddigwyddodd ddwy flynedd ynghynt, wrth i Betsi, yn ôl ei hunangofiant, grwydro’r Cyfandir.

Yn ôl Betsi, cyflogwyd hi gan Captain S_____ fel morwyn i’w wraig ar yr Iris, a hwyliodd am St Vincent yn Nhachwedd 1820. Mae digon o ffeithiau amgylchiadol yn yr hunangofiant i gadarnhau, ar ôl gwaith ymchwil, mai i Gapten William Sidney Smith a’i wraig Eliza y bu Betsi yn gweithio ar y môr ac ar ystad Dr Thomas Smith, tad William a pherchennog caethweision yn St Vincent, yn ogystal ag ar blanfa’r Golden Grove yn Trinidad. Ond mae dyddiadau Betsi yn anghywir. Ar 30 Rhagfyr 1821 yr hwyliodd yr Iris am St Vincent, a chyrhaeddodd yn ôl ar 29 Mehefin 1822. Cymerodd y daith ryw fis y ddwy ffordd, ac nid oes unrhyw dystiolaeth fod yr Iris wedi cyrraedd unrhyw borthladd arall yn ystod y pedwar mis y bu yn y Caribî.  Serch hynny, honnodd Betsi ei bod yn Demerara yn ystod gwrthryfel John Smith, er mai yn Awst 1823 y digwyddodd hyn, dros flwyddyn ar ôl i Gapten Smith a’r Iris ddychwelyd i Brydain. Yn wir, fe ddrylliwyd yr Iris dan gapten arall ger Barbados ddeng niwrnod cyn yr helbul yn Demerara. Amheus iawn, felly, yw straeon Betsi am deithio’r Caribî, ac mae’r honiadau am Demerara yn anwiredd.

Ond yn hanes y Denmark Hill mae lleoliad yr anwiredd mwyaf amlwg. Yn fyr, mae tystiolaeth gadarn ar sail symudiadau y Denmark Hill a rhestrau teithwyr mai dim ond dwy flynedd a dau fis yr oedd Betsi ar fwrdd y llong. Gadawodd Brydain yn Ebrill 1824 a chyrhaeddodd yn ôl ym Mehefin 1826. Yn ystod y cyfnod hwn, hwyliodd rhwng Hobart a Sydney bedair gwaith, ac unwaith o Hobart i Rio ac yn ôl. Ni fu’r Denmark Hill erioed ar gyfyl India, Tsieina, Periw na Môr y Canoldir ar unrhyw gyfnod yn ystod cyflogaeth Betsi, na chwaith ar ôl iddi adael.

Honnir i Betsi ddychwelyd i Brydain ar fwrdd y Denmark Hill dan gapteiniaeth John Foreman yn 1835, ond fe werthodd Foreman ei long yn 1831. Honnir hefyd iddi ymweld â’r capten yn ei gartref yn Llundain, ond mae tystiolaeth ysgrifenedig gadarn ei fod wedi byw yn barhaol yn Parramatta ar gyrion Sydney ar ôl gadael y môr. Yn wir, mae rhai o’r straeon yn chwerthinllyd o annhebygol. Pwy ar y ddaear all gredu fod cwch hwylio gan troedfedd yn gallu cludo 180 o bobl o Brydain i Awstralia, heb sôn am achub 430 o bobl ar y ffordd? 

Wrth gwrs, mae’r llyfr yn wir mewn mannau, ond pa fannau? Mae’n gymaint o ffuglen â hunangofiant; ni ellir derbyn unrhyw ‘ffaith’ heb gadarnhad ffynhonnell arall. Pa dystiolaeth sydd fod Betsi yn nyrs, er enghraifft? Yn sicr, ni chafodd unrhyw hyfforddiant yn y maes oherwydd nid agorodd ysgol nyrsio Guy’s Hospital tan 1880. Nid oedd nyrs yn oes Betsi yn nyrs yn yr ystyr fodern. Gwaith iselradd ydoedd, yn gyfystyr â gwaith morwyn neu olchwraig. Nid oedd unrhyw gymhwyster nyrsio yn cael ei gydnabod y tu allan i’r tai crefyddol, ar wahân i brofiad ymarferol dan oruchwyliaeth feddygol mewn ysbyty. Yn ôl ei hunangofiant, gweithiodd Betsi am ‘rhyw flwyddyn’ yn Guy’s, ond does neb wedi ymchwilio i natur na hyd ei gwasanaeth. Yn ôl Florence Nightingale, cogyddes oedd Betsi, ac fe’i gyrrwyd i redeg yr extra-diet kitchen ar ôl chwe wythnos yn unig ar y wardiau (dyrchafiad yn nhermau’r cyfnod).

Gadawodd Gymru yn 14 oed ac ni ddaeth yn ôl i fyw i Gymru ar wahân, mae’n debyg, i gyfnod byr yn gwasanaethu yn Llys Llanofer yn 1851/2. Sut felly y daeth Betsi, o bawb, yn Gymraes eiconig? Mae’r ateb i’w gael yn natur hanes ei hun. Nid yn y gorffennol mae hanes yn cael ei greu, ond yn y presennol, ac mae pob gwlad yn creu chwedlau cyfforddus i gynnal ei hunaniaeth genedlaethol. Camgymeriad yw credu fod y broses wedi darfod yng Nghymru gyda Iolo Morganwg. 

Fe grëwyd arwres o Betsi – fel Cymraes, fel nyrs ac fel menyw – pan oedd gofyn gwleidyddol neu ddiwylliannol. Ac er bod y fersiwn mwyaf diweddar o’i bywyd gan Gwyneth Tyson Roberts yn Y Bywgraffiadur Cymreig yn trafod annibynadwyaeth yr hunangofiant, mae chwedl Betsi yn parhau i dyfu, fel ar wefan 100+ menywod Cymru: ‘bu’n teithio’r byd yn gweithio ar longau mordeithiau lle bu’n helpu menywod i esgor ar fabanod, yn gofalu am bobl sâl, a hefyd yn perfformio mewn dramâu Shakespeare un-fenyw.’

Nid oes gair o wirionedd yn hyn. Yn wir mewn 136 o eiriau ar dudalen Betsi ar y wefan hon, mae’n bosib cyfri deuddeg o wallau hanesyddol. Nid yw llyfr argymelledig TGAU ar hanes meddygaeth gan Evans a Wilkinson yn fawr gwell. Mae hwn hefyd yn frith o wallau hanesyddol amdani. Bwydir plant Cymru, felly, â ‘hanes’ sy’n seiliedig nid ar waith ymchwil gwrthrychol, ond ar ramant cyfleus o’r un safon â stori Gelert.

Pwy oedd Betsi? Morwyn neu, yn ôl Florence Nightingale, gogyddes ddiwyd, onest oedd yn hoff o regi. Yn ôl disgwyliadau’r cyfnod, roedd hi’n anodd ei rheoli ac yn dueddol o wneud fel y mynnai. Rhaid ei bod yn gorfforol gryf i oroesi gwaith ar long hwylio ac mewn ysbyty rhyfel dan amodau erchyll lle bu farw cannoedd o ganlyniad i afiechydon heintus. Ar ôl bywyd o waith caled, a heb blant na phensiwn, cafodd gyfle i ennill dipyn o arian drwy dderbyn cymorth i gyhoeddi hunangofiant. Er – neu oherwydd – iddi orliwio ei hanes, bu’r llyfr yn fethiant ariannol. Bu farw dair blynedd yn ddiweddarach yn 71 mlwydd oed a’i chladdu mewn bedd tlotyn.

Ychydig iawn o gofiannau sydd o ferched dosbarth gweithiol y cyfnod. Petai Betsi wedi dweud y gwir yn llawn ac yn onest am ei gwaith, ei bywyd cymdeithasol, ei phrinder amser hamdden a’i rhywioldeb, byddai gan hanesyddion heddiw ddogfen hynod o werthfawr. Ond nid yw’r gwirionedd bob amser mor werthfawr yn y presennol ag y mae yn y dyfodol.


Am gopi o ‘The Incredible Adventures of Betsi Cadwaladr: Welsh Florence Nightingale or Munchausen in Petticoats’ ebostiwch yr awdur: gruffydd_jones@yahoo.se

Meddyg teulu wrth ei waith oedd Gruffydd Jones tan iddo ymddeol. Graddiodd eleni â BA gydag anrhydedd mewn Hanes o'r Brifysgol Agored. 


Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


 

Categorïau:

Gruffydd Jones, Hanes, Rhifyn 10

 


Honnodd Betsi weld uncorn yn Ne Affrica – wrth deithio mewn cerbyd yn cael ei dynnu gan ddau sebra

Dyddiad cyhoeddi: 02·08·2019

Yn ôl i frig y dudalen

Cyfweld


Angharad Penrhyn Jones

Angharad Penrhyn Jones, Golygydd Cysylltiol O'r Pedwar Gwynt, sy'n holi Beti George am ei bywyd a'i phrofiadau fel darlledwraig ac ymgyrchydd.

Dadansoddi


Ned Thomas

Fel pawb roeddwn wedi clywed yn y newyddion am yr hyn ddigwyddodd ger Madrid ar 24 Hydref, sef codi gweddillion y Cadfridog Francisco Franco o'i fedd yn y Valle de los Caidos a'u trosglwyddo i feddrod teuluol yn y brifddinas. Digwyddodd hyn wedi brwydr hir yn y…

Dadansoddi


Caryl Lewis a Gwen Davies

Yn fy nofel Y Gemydd, defnyddir gemau (ar ffurf modrwyon), i gario addewidion a gobeithion. Er fod y cymeriadau yn perchnogi’r gemau hyn dros dro, perthyn i’r byd a’r cenedlaethau i ddod y maen nhw mewn gwirionedd. Ceir proses debyg wrth greu stori: mae’r awdur yn…

Adolygu


Tomos Morgan

Heb os mae angen cryn sensitifrwydd wrth ymhél – neu ymyrryd – â digwyddiad lle mae teimladau mor gryf ac emosiynau mor amrwd. Mewn cyd-destun newyddiadurol, er enghraifft, mae’n hysbys pa mor real yw perygl dwysáu trallod teuluoedd sydd eisoes mewn galar drwy gyhoeddi erthygl neu…

Cyfansoddi


John Emyr

Casglodd Glyn ei fagiau gan sylwi, drwy ffenest ei lofft, fod llechi’r toeau yn sych. Hyd yma, ar y bore hwn o Fai ym Mangor Uchaf, roedd y tywydd o’i blaid. Er iddo glywed chwyrniadau ffrae atmosfferig y cymylau uwchlaw’r Carneddau neithiwr, roedd…

Adolygu


Angharad Penrhyn Jones

Mae’r profiad o ddarllen y gyfrol hon fel eistedd ar soffa yn gwrando ar ferch alluog, ddidwyll a byrlymus yn adrodd hanes ei bywyd, paned mewn un llaw, hancesi papur mewn llaw arall, a digon o chwerthin. Mae’n lyfr mor hawdd ei ddarllen ar un ystyr, mor agos at rywun, y…

Cyfansoddi


Osian Wyn Owen

Pobol coleg fu’n clegar ‘nad oes byd na phlaned sbâr wedi hon’ a bod ‘i wedd yr haf gynhesrwydd rhyfedd ... 

Cyfansoddi


Rhiannon Ifans

Piciodd Ingrid i'r ardd i dorri cabatsien. Roedd hi’n ddychryn o oer, ac asgwrn ei chlun yn boen byw rhwng y gwynt main a’r eira’n pluo’n ysgafn o gwmpas ei phen. Ers dyddiau roedd yr awyr dywyll fel petai’n dal ei hanadl, yn gyndyn o ryddhau mwy na sgeintiad…