Dadansoddi

Pwysau byd, o hyd ac o hyd ...


Golygyddol

Amser darllen: 5 munud

22·07·2017

Pryd daw hyn i ben? Nid mynd o Steddfod i Steddfod – boed i hynny bara byth! A phan fydd yn rhaid iddo ddarfod, boed i’r nefoedd fod yn un Steddfod fawr a’i phabell lên yn gorlifo! – ond mynd o greisis i greisis, fel petai, ac o warth i warth.

Erbyn hyn mae rhywun yn ofni codi’r ffôn bach ger y gwely wrth i fore newydd wawrio – ac nid dim ond am ei fod yn ymwybodol y bydd, wrth wneud, wedi galluogi’r dechnoleg, a’i gafael arno, i ddarostwng rhan fach arall o’i hunan dilychwin. A fydd y Ceidwadwyr wedi clymbleidio gyda’r BNP dros nos? A fydd Jeremy Corbyn wedi chwipio aelodau seneddol y Blaid Lafur i bleidleisio gyda’r llywodraeth eto fyth, ond dros y Brexit mwyaf uffernol o galed y tro hwn? Efallai y bydd tanchwa mewn bloc o fflatiau wedi anrheithio elw tirfeddiannwr truenus (a lladd degau o bobl dlawd wrth fynd heibio). Neu bydd gŵr ifanc ar stad dai yn rhywle wedi cael ei guro i farwolaeth am ei fod ‘o dras Mwslemaidd’. A gwallgofddyn wedi penderfynu mai’r clwb nos lleol, yn llawn pobl hoyw a ‘snowflakes’, yw’r lle perffaith iddo ddangos i’r byd rymuster ei gyfiawnder ef.

Ond fydd pethau ddim yn ddu i gyd. Bydd un o’n cyfeillion ar Twitter wedi ‘mynd yn feiral’, efallai, ar ôl llwyddo i roi bys cyfiawn ar farn y miloedd, er mwyn i ni gael lleddfu peth ar y pwysau-nad-yw’n-codi drwy hoffi ac aildrydar.

Mae hi hefyd yn bosib, wrth gwrs, na fydd ‘dim byd anarferol wedi digwydd heddiw’, chwedl cerdd Mihangel Morgan, ac ar y boreau hynny bydd rhywbeth fel siom hefyd yn gymysg â’r cyffro ofnus. Gostyngaf fy llygaid tua’r teclyn, o’r lle y daw fy nghyffro.

Ond does dim angen poeni’n ormodol, oherwydd hyd yn oed pan fydd pethau’n dawel ar ffrynt yr axis of arseholes arferol – mae croeso i chi boblogi honno â phwy bynnag y dymunwch – daw poendodau mwy cartrefol-gyfarwydd i lanw’r bwlch. Ein hannwyl Guardian, er enghraifft, a’i erthygl orchestol o unochrog am addysg Gymraeg. Neu’r BBC – y BBC yng Nghymru hynny yw – yn rhyfeddu taw Portiwgal yw Portugal yn Gymraeg, am mai dynwarediad tila o’r Saesneg yw pob gair yn ein hiaith, wrth gwrs.

Mae’r gyfres ddi-ben-draw hon o heriau i’n bodau unigol – o’r digwyddiadau ar lefel facro i’r ymyriadau llai (microaggressions yw’r enw ffasiynol ar y rheiny, mae’n debyg) – yn dreth gyson nid yn unig ar hwyliau da rhywun yn ei fywyd bob dydd ond ar gydbwysedd ei organeb ddynol. Y trafod parhaol, yr ymatebion, yr ymatebion i’r ymatebion ...

Effaith gyfun hynny yw sicrhau ei bod hi’n amhosib bellach – os bu’n bosib erioed – i ni wadu bod ‘y personol yn wleidyddol’, a dyfynnu o erthygl Mererid Puw Davies yn y rhifyn newydd hwn, hyd yn oed os taw ‘gwleidyddol’ yw’r peth diwethaf un y byddai rhywun yn dymuno i’w ‘bersonol’ ei hun fod.

Mae’r angen i ymwneud yn radical â’r byd o’n cwmpas ymhobman: mewn trafodaethau penodol, fel sgwrs Simon Brooks a Daniel Williams am ddyfodol Plaid Cymru yn wyneb llwyddiant annisgwyl Jeremy Corbyn yn yr Etholiad Cyffredinol diweddar, ac yn y paned o goffi boreol. O’r braidd y bydd rhywun wedi deffro y dyddiau hyn cyn iddo sylweddoli bod ei ymwybod fel petai wedi’i feddiannu’n llwyr. Deffro un bore, felly, a phethau wedi ffurfio’n gwbl glir yn y meddwl: ‘Os yw Brexit yn methu â diwallu anghenion Cymru, ANNIBYNIAETH! Rhaid i ni ddechrau plannu’r had nawr, fel bod yr opsiwn ar flaenau meddyliau pawb pan ddelo’r dydd.’ Codi dro arall wedi drafftio maniffesto Plaid Annibyniaeth Cymru rhwng cwsg ac effro. Neu yn gandryll – yn wyllt gacwn berw – cyn naw o’r gloch am bod rhyw ffŵl wedi dweud hyn, llall neu arall.

Diddorol yw ystyried y berthynas rhwng y galwadau radical yma ar ein meddyliau a’n teimladau – fel profiadau diriaethol, ym mywydau unigolion – a’r enw a ddefnyddir, os mewn cyd-destun cwbl wahanol o hyd am y tro, i ddiffinio, i gwmpasu ac i dreulio’r ffenomenon ehangach, sef ‘radicaleiddio’.

Mae hwnnw’n un o eiriau mwyaf ymfflamychol ein cyfnod ni, wrth gwrs, ac fe welwyd ei iteriad diweddaraf a mwyaf diddorol, efallai – yn semantegol o leiaf – yn achos Darren Osborne, a fydd yn sefyll ei brawf am yr ymosodiad diweddar y tu allan i fosg Finsbury Park yng ngogledd Llundain.

Dywedir taw ‘hunanradicaleiddio’ wnaeth Osborne (‘the suspect was probably “self-radicalized”’ oedd yr ymadrodd) drwy gyfrwng ei ddarllen a thrwy gyfrwng ei gylchoedd cymdeithasol, yn y byd ar lawr felly yn y rhithfyd hefyd. Mae’r ferf gyfansawdd, a’r hyn a ddywed am y cysyniad cysylltiedig, yn dra diddorol: nid gweithred atblygol ydyw yn union, fel ‘ymolchi’, ‘ymwrthod’ neu ‘ymwneud’; yn hytrach, mae’n awgrymu proses allanol a weithredir ar yr hunan gan yr hunan. Ac yn yr amwysedd hwnnw, yn y bwlch rhwng y gwahanol bersonau (yr hunan sy’n gweithredu a’r hunan sy’n derbyn y weithred – bron nad ydyn nhw’n ddau berson gwahanol) mae yna wirioneddau tanbaid.

Hynny yw, i lawer iawn o bobl mae’r byd fel y mae, ac fel y’i profir ganddynt, yn polareiddio, yn ypsetio, yn drysu ac yn diymadferthu. Mae’n gweithredu arnynt awydd am radicaleiddiwch.

Nid dim ond mater ‘tramor’ yw hynny bellach – nid dim ond mater o bobl ifainc, o Brydain a gwledydd eraill, sy’n gadael yn eu cannoedd i frwydro gyda’r Wladwriaeth Islamaidd yn Syria. (Fel y dywedodd Rob Brydon Baglan, mewn sgwrs ddiweddar gyda Steve Coogan yn The Trip to Spain, y rheiny yw fersiynau ein cyfnod ni o’r freedom fighters a aeth i ymladd Franco yn Rhyfel Cartref Sbaen ...)

Ac mae’r cyfryngau cymdeithasol yn porthi’r ysbryd radical hwnnw’n barhaol – yn rhinwedd y ffaith eu bod yn ein dilyn i bobman, yn ein pocedi, ac yn cael eu hatgyfodi bob tro yr arhoswn am fws neu am ddiod mewn bar a byseddu’r ffôn i weld y diweddara’... Gellid dweud taw gwedd ar hunanradicaleiddio yw hyn hefyd – prosesau allanol a weithredir ar yr hunan gan yr hunan arall, yn fasocistaidd bron. Dyw hi ddim yn syndod wedyn, efallai, bod pobl yn chwilio am ffyrdd o resymoli: edrych tua’r gorffennol, a chymharu ein cyfnod ni â’r Almaen yn y 1930au ac yn y blaen ac yn y blaen.

Mae hi’n hawdd dilorni ‘swigen’ y cyfryngau cymdeithasol, wrth gwrs, a dweud nad yw’n cynrychioli llawer iawn mwy nag ego’r bobl sy’n ei phoblogi. Ond os dim ond o ran y niferoedd sy’n defnyddio’r cyfryngau hyn bellach, a hynny fel estyniadau di-ffin o’u bywydau ‘go iawn’, gallwn ddweud bod yna rannau helaeth o’r byd Gorllewinol, a fu’n gysglyd am ddegawdau, sy’n dechrau adnabod o’r diwedd y grymoedd a all stwyrian mewn pobl wahanol iawn i’w gilydd ... A chael rhyw sbec ar ddeall, efallai, sut beth fyddai byw mewn cyflwr o warchae parhaol. Nid oes dihangfa, nac yn effro nac mewn cwsg.

Ond am nad ydyn ni – diolch byth – yn llythrennol dan warchae ac am ein bod ni’n rhydd o hyd (o fewn y terfynau arferol) i feddwl fel y dymunwn, siawns na ddylem ni ddefnyddio’r mewnwelediad newydd hwn i radicaleiddio dealltwriaeth ac addysg, i radicaleiddio gweithredoedd daionus, i radicaleiddio creadigrwydd ac i radicaleiddio cydymdeimlad? Canys y mae’r llwybr arall yn arwain i fannau tywyll iawn.

Yng Nghymru, ac er gwaetha’ newydd-deb ymddangosiadol a brawychus anno stupendo 2016 – mae’n debyg taw’r un yw’r heriau ag erioed: radicaleiddio er mwyn creu cymdeithas gydradd, gynhwysol, egwyddorol, annibynnol a chynhaliol er budd pob un o’i thrigolion; cymdeithas lle mae’r Gymraeg yn ffynnu fel iaith cydlyniad y gymdeithas honno ac fel tarddiad i’w syniad gwaelodol o’i gwerth ei hun. Y gwahaniaeth mawr heddiw yw bod yr angen i wneud hynny’n mynd yn fwyfwy taer bob dydd. Ond pwy a ŵyr na fyddwn ni, un dydd, rhyw ddydd, yn gallu deffro’n hamddenol, heb estyn yn syth bìn am y ffôn a’i restr ddiwaelod o erchyllterau, a gwneud rhywbeth gwirioneddol radical â gweddill y diwrnod hyfryd hwnnw: Cael hoe! Ymlacio! Byw! [OM]
 

Tony Bianchi, 1952–2017

Gyda thristwch a theimlad dwys o golled y derbyniasom y newyddion am farwolaeth Tony Bianchi wrth fynd i’r wasg. Roedd yn gyfaill didwyll, hael ac ymroddedig, a bydd O’r Pedwar Gwynt yn talu teyrnged i’w gyfraniad difesur i lenyddiaeth a diwylliant Cymru – cyfraniad athrylithgar o amlweddog – yn ein rhifyn nesaf. Yn y cyfamser, gallwch ddarllen teyrnged Jon Gower i'w gyfaill fan hyn. Byddwn yn cyhoeddi mwy o deyrngedau ar y wefan yn ystod yr wythnosau nesaf. 

Mae O'r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn werthfawr - na, yn anhepgor - wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i'r cylchgrawn.


 

Categorïau:

Rhifyn 4, Golygyddol, Tony Bianchi

 


Gostyngaf fy llygaid tua’r teclyn, o’r lle y daw fy nghyffro

Dyddiad cyhoeddi: 22·07·2017

Yn ôl i frig y dudalen

Adolygu


Elan Grug Muse

‘Trwy ddrych’ oedd testun y Goron yn Eisteddfod Môn 2017. Y mae drych, yn ôl ei natur, yn dangos i ni ryw ddarlun o’n byd. Llun sydd efallai’n gyfarwydd, ond nid yr union lun yr ydym wedi arfer ei weld gyda’n llygaid noeth. Dyna oedd yng nghefn fy meddwl wrth…

Cyfansoddi


Siân Cleaver

Enillydd Her Gyfieithu 2017 Cyfnewidfa Lên Cymru a PEN Cymru yw Siân Cleaver, sy'n hanu o Gastell-nedd. Yn y fan hon gallwch ddarllen cyfieithiad buddugol Siân o gerdd gan y bardd Twrcaidd Nâzim Hikmet, ynghyd â'i hymateb i'r heriau penodol sy'n deillio o gyfieithu o 'iaith bontio'.

Dadansoddi


Manon Steffan Ros

Bu farw fy mam yn yr oriau mân un bore crasboeth ym mis Gorffennaf. O’r ystafell ar Ward Alaw, Ysbyty Gwynedd, roeddwn i’n gallu gweld goleuadau ein pentref ni fel llygaid wedi cau ar lethrau’r foel.

Dadansoddi


Elinor Wyn Reynolds

Creadur prin oedd Tony Bianchi. Dyn yr ydw i’n falch o allu dweud i fi ei nabod e, rhyw fymryn o leia’, achos y peth am Tony oedd ’mod i’n gwybod mai nofio ar yr wyneb oeddwn i, o gymharu â’i allu rhyfeddol e i blymio i…

Dadansoddi


Marged Tudur

Ar ddydd Llun y Pasg 2014, roeddwn i yn y Caban ym Mrynrefail, yn holi Steve Eaves ar gyfer fy nhraethawd hir. Bwriad y traethawd oedd gofyn a oedd wedi cael sylw haeddiannol fel bardd. Wedi cael fy swyno ers…

Adolygu


Ruth Richards

Ai peth fel ’ma, mewn difri, oedd Eisteddfod y bedwaredd ganrif ar bymtheg? Rhyfeddwn at ffotograffau John Thomas o Eisteddfod Genedlaethol Lerpwl yn 1884, a'r un pryd fe'n gorfodir i'w cydnabod fel cofnod cywir. Ffotograffiaeth, wedi'r cwbl, yw un o'r cyfryngau amlycaf i gyflwyno'r…

Dadansoddi


Angharad Price

Bob blwyddyn, mae dwy filiwn o deithwyr yn mynd trwy Gaergybi, porthladd fferi prysuraf-ond-un y Deyrnas Unedig, sydd hefyd yn rhan allweddol o briffordd fawr Ewropeaidd yr E22 sy’n ymestyn o Ddulyn i Fosgo a thu hwnt. Flina’ i byth ar y wefr o ddod yma.

Dadansoddi


Simon Brooks & Daniel Williams

'Roedd yna berygl ar ôl Brexit, ac yng nghyd-destun yr etholiad hwn yn benodol, dw i’n meddwl, i Blaid Cymru ddiflannu’n llwyr o olwg pleidleiswyr mewn rhai rhannau o Gymru. Un o sgil-effeithiau Brexit oedd rhannu’r ardaloedd hynny o Gymru a esgorodd ar y bleidlais o…