Dadansoddi

Roedd Josef K ar ei ben ei hun

Kafka a Chatalwnia


Jordi Puntí

Amser darllen: 4 munud

27·09·2017

Mewn cyfnodau cythryblus, mae llenyddiaeth yn llwyddo o bryd i'w gilydd i ddod o hyd i hollt ar sgrin fawr y newyddion, ac yn torri trwodd gan daflu rhywfaint o oleuni ar bethau. Ddydd Mercher diwethaf, er enghraifft, wrth ddilyn y don o arestiadau – 14 o swyddogion senedd Catalwnia, y Generalitat – meddyliais am linell gyntaf The Trial, gan Franz Kafka. Fe'i dyfynnaf yn y fan hon, am nad yw spoilers yn sbwylio clasuron: 'Mae'n rhaid bod rhywun yn dweud celwydd am Josef K oherwydd un bore, ac yntau heb wneud dim o'i le, cafodd ei arestio.'

A yw'r sefyllfa yng Nghatalwnia heddiw yn Kafkaesque felly? Mae llywodraeth Sbaen fel petai'n dymuno iddi fod. Tiwn gron y llywodraeth honno yw cyfreithlondeb cyfansoddiadol; cred mewn biwrocratiaeth ac mewn cod a gaiff ei dderbyn yn ddigwestiwn (ond sydd, serch hynny, yn agored i’w ddehongli). Ni chaniatéir unrhyw ddadl yn erbyn y cod hwnnw ac mae hynny'n gwneud i bobl deimlo'n ddiymadferth – fel petai eu bywydau wedi cael eu symud i fyd absẃrd. Ac fe gaiff y teimlad hwnnw ei atgyfnerthu gan sinigiaeth lwyr gweithredoedd y wladwriaeth Sbaenaidd: mae'r rheiny sydd ar hyn o bryd yn codi llais mor groch o blaid cyfreithlondeb yn bobl a aeth ati'n systematig dros y blynyddoedd i chwalu'r egwyddor honno.

Franz Kafka, 1923 (Parth cyhoeddus)

Boed hynny mewn achosion o lygredd gwleidyddol, neu mewn achosion eraill lle cafodd fframweithiau cyfreithiol amgen, fel y gyfraith Ewropeaidd, eu hanwybyddu'n llwyr: ers 2012, mae Sbaen wedi talu 70 y cant o'r dirwyon a ddyfarnwyd yn erbyn gwledydd unigol am dorri rheoliadau Ewropeaidd. Mae'r dirwyon hynny, gyda'i gilydd, yn werth mwy na €53 biliwn. Fel y cyfreithiwr neu'r arlunydd yn The Trial, mae swyddogion llywodraeth Sbaen yn chwarae'r gêm ac yn ailadrodd eu dadleuon, heb unrhyw arlliw o eironi neu hunanholi; eu hateb nhw i'r gwrthdaro yw'r unig ateb posib.

Felly dw i'n gofyn eto: a yw'r sefyllfa yng Nghatalwnia heddiw yn Kafkaesque?

Ond rhaid ateb 'Na' y tro hwn. Safodd Josef K ar ei ben ei hun yn y llys. Ond yma, yng Nghatalwnia, mae ymateb digymell pobl ar y stryd, a'r awydd i wrthwynebu agwedd ddiystyriol a dinistriol llywodraeth Sbaen, yn ffordd bendant o sefyll ochr yn ochr â'r rheiny sydd dan glo. Ac mae hynny'n ein harwain at awdur clasur arall, Henry David Thoreau.

Yn 1967, yn ystod cyfnod dwysaf y gwrthwynebiad yn erbyn Franco, cyhoeddwyd casgliad o ysgrifau Thoreau yn y Gatalaneg: Coratge cívic (Civil Disobedience, 1849). Roedd darllen damcaniaethydd anfudddodiad sifil, a'i ymadrodd ragrybuddiol enwog - 'Y llywodraeth orau yw honno sy'n llywodraethu leiaf' - yn arbennig o berthnasol yr adeg honno. Ac fel yna'n union y mae hi ar hyn o bryd.

--

(Nodyn pellach gan Jordi: Mae’r sefyllfa’n datblygu ac yn newid bob dydd, a hynny mewn modd cynyddol ddramatig. Ar hyn o bryd, mae hi’n anodd osgoi’r teimlad y gallai pethau fynd yn dreisgar. Mae’r rhan fwyaf o farnwyr ac uwch-swyddogion cyfreithiol Sbaen yn bobl a oedd eisoes yn weithredol yn ystod cyfnod Franco – ni chawsant eu herlyn wedi iddo fe golli grym. A’r bobl gyfreithiol hynny, bellach, sydd yn gwneud ‘gwaith budr’ Partido Popular y Prif Weinidog, Mariano Rajoy. Maen nhw wedi llwyddo i droi’r refferendwm ‘anghyfreithlon’ yn fater gwladol: cafodd chwe mil o blismyn eu cludo i Gatalwnia, i rwystro’r bleidlais ac i arestio unrhyw un sydd yn ei hyrwyddo. Caiff unrhyw arwyddion neu wybodaeth am y refferendwm eu tynnu i lawr, mae gwefannau’n cael eu cau a synnwn i ddim petai’r Arlywydd ac eraill o brif wleidyddion Catalwnia yn cael eu harestio dros y dyddiau nesaf ... Mae pethau peryglus ar droed.)

Gallwch ddarllen crynodeb cynhwysfawr o'r amgylchiadau a arweiniodd at y sefyllfa bresennol yng Nghatalwnia fan hyn (yn Saesneg) ac mae manylion am y dirwyon y bu'n rhaid i Sbaen eu talu fan hyn (yn Sbaeneg). 


Mae Jordi Puntí yn awdur a newyddiadurwr sy'n byw yn Barcelona. Enillodd ei nofel gyntaf, Maletes perdudes, sawl gwobr ac fe'i cyfieithwyd i 16 o ieithoedd. Cyhoeddwyd y fersiwn Saesneg, Lost Luggage gan Marble Arch Press yn 2013.   

Cyhoeddwyd y darn hwn yn wreiddiol yn El Periódico ar 22 Medi 2017.

Llun: Franz Kafka, 1923 (Parth cyhoeddus).


Mae O'r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn werthfawr - na, yn anhepgor - wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i'r cylchgrawn.


 

Categorïau:

Gwleidyddiaeth, Catalwnia

 


A yw'r sefyllfa yng Nghatalwnia heddiw yn Kafkaesque? Mae llywodraeth Sbaen fel petai'n dymuno iddi fod

Dyddiad cyhoeddi: 27·09·2017

Yn ôl i frig y dudalen

Dadansoddi


Cefin Roberts

Mae’r theatr yng Nghymru wedi colli dyrnaid creulon o’i mawrion eleni ac roedd clywed am farwolaeth Meic Povey yr wythnos ddiwethaf yn waldan greulon arall i bawb ohonom sy’n caru’r theatr Gymraeg. Roedd Meic yn actor, awdur, cyfaill a Chymro i’r carn ac un a fu’n dyfal osod…

Cyfansoddi


Jan Morris a Twm Morys

Glywsoch chi fi yn crio ddoe? Fy nghyfrifiadur, o bethau’r byd, oedd achos y dagrau. Yn ystod y bore, galwodd dyn fi i ddweud wrthyf beth oedd angen ei wneud ar frys er mwyn cadw’r cyfrifiadur i fynd. Wyddwn i ddim bod dim yn…

Dadansoddi


M Wynn Thomas

Roedd Tony yn un o gymwynaswyr mwyaf gwerthfawr Cymru a’r Gymraeg fy nghyfnod i. Roedd hefyd yn un o’r unigolion mwyaf egwyddorol a llachar o dreiddgar ei feddwl i mi ddod ar eu traws. Fe ddes i’w adnabod gyntaf ar ddiwedd yr wythdegau pan…

Cyfansoddi


Ifor ap Glyn

Rhwng 1914 ac 1918 bu chwarter miliwn o ffoaduriaid o wlad Belg yn byw dros dro ym Mhrydain. Daeth rhai i Gymru ... 

Cyfweld


Ruth Richards

Daeth yn amser i gyrchu hanfodion dianghenraid drachefn; y rhuthr blynyddol am anrhegion Nadolig. Ac os digwydd i chwi fod ym Môn dros y cyfnod hwn, fe welwch fod trefi Biwmares a Phorthaethwy'n prysur gystadlu am y farchnad mewn addurniadau, hylifau a…

Adolygu


Gideon Koppel

Dw i ar awyren Ryanair o Chania, ar ynys Creta, i Stansted. Er bod y profiad yn ddigon anghysurus – cawn ein gyrru fel anifeiliaid ar hyd y maes awyr a’n gorfodi i aros heb eglurhad fan hyn fan draw – mae yna deimlad…

Colofnau


Mihangel Morgan

Fis diwethaf roedd ffrind i mi yn cael ei phen-blwydd yn hanner cant oed. Pan oedd John Betjeman yn fardd y Frenhines cafodd ei feirniadu yn y wasg am beidio â llunio cerdd i ddathlu pen-blwydd Ei Mawrhydi pan gyrhaeddodd hithau’r hanner…

Dadansoddi


Steffan Gwynn

Mae’r Ffindir yn enwog am ei fforestydd maith a’i chant a mil o lynnoedd disglair. Dyma wlad yr haul ganol nos, a pheth cyffredin yw dal bws o’r ddinas allan i’r wlad er mwyn mwynhau’r tywydd braf gan gasglu llus neu fadarch mewn basged wiail…