Dadansoddi

Sinema Mai 68 - breuddwydio, chwyldroi


Emyr Glyn Williams

Amser darllen: 18 munud

25·04·2018

                                                                                                      Jean-Luc Godard (Louis Garrel) yn Redoubtable, 2018

Ca va? Mae gen i rywbeth i'w ddweud am ffilmiau chwyldroadol yr 1960au. Dwi'n meddwl am ffilmiau fel If… (1968) gan Lindsay Anderson, Weekend (1967) gan Jean-Luc Godard a The Battle of Algiers (1966) gan Gillo Pontecorvo a pham ei bod yn bwysig dal ati i'w gwylio nhw heddiw. Fel llawer o fyfyrwyr, gweithwyr, artistiaid a phrotestwyr gwreiddiol Mai 68, a oedd ar eu hanterth ar strydoedd Paris hanner can mlynedd yn ôl, ni wn innau 'chwaith, be’n union dwi’n trio dweud na gwneud. Ond mae mentro a darganfod synnwyr a phwrpas pethau trwy wneud yn bwysicach i mi nag aros a phwyllo er mwyn dilyn cynllun clir a phendant – dyma un o wersi bywyd praxis-aidd ’68. Fel Cymro, fel siaradwr iaith dan fygythiad, mae’r pwyslais gen i ar siarad, ar gyfathrebu, ar wneud a rhannu gyntaf. A pham na ddyweda’ i hynny ar y cychwyn fel hyn: mynnwn yr amhosibl bob tro! Mynnwn yr hyn sy’n agos at y galon, yr hyn nad oes modd ei negodi.

Dwi’n meddwl fy mod i am geisio defnyddio geiriau’r erthygl hon i’ch annog chi i gredu fod nam ar ein dychymyg cymunedol bellach, bod yna rywbeth sydd yn rhwystro breuddwydio a darganfod ffyrdd ymlaen – road block! Dwi'n meddwl bod gwylio ffilmiau chwyldroadol yn medru bod yn rhan o’r ateb wrth geisio gweddnewid ein cyflwr cymdeithasol. Dyma ni gelfyddyd sy'n medru clirio’r rhwystrau seicolegol yma. Hefyd, dwi isio darbwyllo fy hun (yn gyntaf) fod gwerth mewn dal i gredu mewn Sinema. Mi fyddwn i'n hoffi meddwl bod Sinema yn dal i fod yn arf pwerus – arf sy’n medru cydio yn rhinweddau elfennol celfyddyd. Achos mae gan Sinema'r gallu i wneud i wir anghenion realiti deimlo fel dewis melysach nag ildio i’r bywyd mewnol, solipsistaidd, ffantasïol, anobeithiol ein hoes gyfalafol ôl-fodernaidd. Felly, dim llai na cheisio gwadu fin de cinéma! Amdani! 

Ydi'r drych wedi trechu'r morthwyl?

Trwy daflunio chwyldro yn unig y mae llwyddo. Gwneud cam efo Sinema yr ydan ni trwy ddatgan yn 2018 mai dihangfa yw Sinema, bod y drych wedi trechu’r morthwyl. Yn sicr mae’r byd heddiw yn edrych yn wahanol iawn i fyd 1968. Mae gwawr optimistaidd, gynnes bywyd llawn cyfleoedd gam yn rhy bell i lawer ohonom, fel mae pethau; mae meddwl am gelfyddyd, am ddylanwad celfyddyd sinematig, yn isel iawn ar restr blaenoriaethau pobl.

Pe buasem yn onest efo ni'n hunain (spoiler alert!) mae'r mwyafrif helaeth ohonon ni'n gwybod yn fras pa fyd sydd tu hwnt i'r Sinema yn 2018 ac yn gweld yn ddigon clir sut mae pethau am fod o hyn allan: yn llwm. Tydi hi ddim yn amser bod yn swil a chuddio trafodaeth am y pethau dwys yma sydd ar y gorwel dan glogyn iaith y cinéaste. Allan â fo!

Does dim angen i neb bwyntio bys, cynnig safbwynt nag egluro rhyw lawer ychwaith (nid trydar 'di hwn). Pethau rhad yw geiriau wedi’r cyfan pan mae synnwyr cyffredin gwleidyddol yn brin a graffiau, canrannau a newyddion ffug yn teyrnasu. Sodrwch ei hun am eiliad. Mae cipolwg sydyn ar ein lle mewn byd neo-ryddfrydol yn ddigon i'n hatgoffa bod goroesi yn golygu derbyn boddi mewn ideoleg wenwynig. Dyma ideoleg sy’n ddinistriol i’r enaid. Ond yr opsiwn arall ydi boddi go iawn mewn dyled, iselder, salwch, tlodi, anobaith – eich dewis chi ydi o. Oes opsiwn arall eto? Ar wahân i hwrio dy hun ar The Apprentice neu ymuno gyda gweddill defaid y diwydiannau diwylliannol? Oes, wrth gwrs – Gwrthryfela. 

Gwrthod y teimlad fod y diwedd yn dod

Mi fedrwn wrthod y teimlad yma fod y diwedd yn dod, bod dilyn llwybr prif ffrwd yn anochel. Mae heddiw yn gystal amser ag unrhyw gyfnod i gydnabod fod protestwyr Mai 68 yn iawn am un neu ddau o bethau sylfaenol. Maen nhw'n dystion hanesyddol i’r ffaith fod y grymoedd anweledig yna sy’n rheoli pethau gefn llwyfan yn fregus ac yn ei lordio hi ar dir sigledig. Yr hyn oedd wir yn syfrdanol am Mai 68 oedd cyflymder pethau, y momentwm. Mi ehangodd protestiadau myfyrwyr i gynnwys gweithwyr ar streic, meddiannu colegau, ffatrïoedd dan warchae, terfysg a thrais, nes bod gwlad gyfan wedi ei pharlysu – a hyn i gyd yn digwydd mewn chwinciad, heb fod neb yn siŵr sut na pham.
 

Weekend, 1967 gan Jean-Luc Godard

A heddiw, pwy fuasai'n rhyfeddu mewn gwirionedd petai'n deffro bore yfory a gweld gweithred ddigymell yn ffrwydro ar ein strydoedd? Mae hi wastad yn bosib i’r bobl sydd ar yr ymylon – pobl efo dychymyg – i weld ymhellach na diflastod trefn bob dydd, i ddylanwadu ar symudiadau’r byd, yn weithwyr, yn fyfyrwyr, yr ifanc, y tlawd a'r balch. I too am willing to die for a cause, but not from boredom.

Mae gwrthryfela yn codi o egni naturiol, cynhenid; tydi gwrthryfela ddim yn gorfod dibynnu ar ddogma, credo nag arweinydd. Mae o yn y gwaed, jest yn dibynnu ar bwy wyt ti, sef dyn, rhan o ddynoliaeth. Mi fedrem ddadlau bod yr ysfa i wrthryfela yn rhan annatod o'r profiad o fod yn ddynol. Wedi’r cyfan mae bron pob plentyn yn medru adnabod rhyddid, anghyfiawnder a chariad ymhell cyn dysgu am y da a’r drwg, chwith a’r dde, Duw a’r Diafol. 

Poeni am weld eu hunaniaeth a'u heneidiau'n diflannu

Wrth gwrs mae hi’n wir i ddweud mai methiant oedd Mai 68 ar y cyfan, gwn heb fwledi. Mae holl gysyniad rhamantus y cyfnod, peryglus o ‘chwyldroadol’, bellach wedi cael ei breifateiddio gan gyfalafiaeth, wedi ei embalmio, gyda’r wasg a’r myfyrwyr (gwallt gwyn, erbyn hyn), y soixante-huitards gyda’u cofiannau ‘dyddiau da’, wedi argyhoeddi’r farchnad o werth ffasiynol y blip hanesyddol, y chwyldro flashmob.

Ond mi oedd pobl ifanc Ffrainc, yn ôl yn ’68, yn poeni digon am weld eu hunaniaeth a’u heneidiau'n diflannu, am effaith grym peiriant rhyfel imperialaeth Americanaidd ar ddyfodol y blaned, i godi oddi ar eu tinau i brotestio ar y stryd a cheisio bachu rhyddid a rheolaeth yn ôl. Sut felly mae cymharu hyn gyda sefyllfa pobl heddiw yma yn y DU? 

Os am fabwysiadu gogwydd optimistaidd o blaid gwrthryfela, mae hefyd angen derbyn mymryn o effaith gytbwysol realiti. Rhaid wynebu'r ffaith bod y sustem neo-ryddfrydol fyd-eang bresennol yn cynnig i ni fersiwn o gymdeithas waraidd sydd eisoes wedi derbyn dirywiad mewn hawliau, a oedd yn gadarn ddegawdau yn ôl, fel rhywbeth naturiol a derbyniol. Mae’r boblogaeth yma yng Nghymru yn byw gydag ansicrwydd parhaol: poeni am gyflogaeth, talu biliau a 'breuddwydio' am ddyfodol ydi'r norm. Dyma sefyllfa sydd wedi cyfrannu yn ddi-os at greu'r epidemig salwch meddwl sydd yn pwyso'n arbennig ar ein cenhedlaeth iau ond hefyd ar drwch y boblogaeth. A tydan ni heb ddechrau sôn am oblygiadau cysgod tywyll storom Brecsit. 

Ar ben hyn, mae'n amlwg mai gwasanaethu anghenion cyfalafiaeth yn hytrach na chynorthwyo unigolion i wireddu eu potensial y mae ein sustem addysg uwch, os mai gwasanaeth cwsmer ydi ei phrif atyniad. Nid yw ‘bonws’ gwyrthiau technoleg yr oes ddigidol, y teclynnau sy'n cynhesu ein dwylo, yn cynnig dim rhyddhad 'chwaith rhag effaith pellgyrhaeddol y ‘sefydliad’ a chyfalafiaeth. Dyma'r grymoedd sy’n dal i chwydu gwenwyn yn ddwfn i’n hymwybyddiaeth, a wladychwyd. 

Frederic Jameson a The Seeds of Time

Erbyn heddiw, mae hi'n glir i mi fod cyfalafiaeth yn sustem sydd yn llestair i oroesiad y ddynoliaeth. Bron i chwarter canrif yn ôl, yn ei lyfr The Seeds of Time (1994), gwnaeth Frederic Jameson ddatganiad syfrdanol ar y pryd, a honni ei bod hi bellach yn haws dychmygu ‘the destruction of the earth and of nature than the breakdown of late capitalism’.

Mae o'n iawn. Dyma sy’n esbonio bodolaeth safbwyntiau sydd yn gwadu newidiadau yn yr hinsawdd, sgeptigiaid sy’n fodlon rheibio pob ased a difa popeth er mwyn creu elw. Mae’r bydolwg hwn hefyd wedi trechu holl athroniaeth gwrthryfela yn yr hanner can mlynedd ers Paris. (Anghofiwch atgyfodiad sosialaeth, Corbyn neu ddim!) Mae termau fel ‘annibynnol’, ‘cymuned’ ac ‘amgen’, bellach, yn rhan o iaith cyfalafiaeth ac yn aml iawn â dim i wneud â chreadigrwydd a syniadau gwreiddiol unrhyw isddiwylliant egnïol. Yn hytrach, dyma’r union eiriau sy’n cael eu defnyddio i ddisgrifio rhinweddau a symudiadau prif ffrwd y peiriant pres a sustemau bancio.

Mae Jameson yn iawn i godi ofn ar bawb. Dwi ddigon hen i gofio sut oedd modd beirniadu rhywun ar un adeg am fradychu gwerthoedd, am gefnu ar egwyddorion y dosbarth gweithiol neu am gymryd y geiniog. Bellach, mae honiad o’r fath yn gwbl absẃrd. Mae pawb fwy neu lai wedi cael eu prynu gan y sustem fyd-eang; mae ceisio canolbwyntio ar wrthryfela yn dasg a hanner – the new flesh is too wired to concentrate. Mae’n rhaid bradychu gwerthoedd er mwyn jest medru byw mewn cymdeithas ar y lefel symla’ bosib.
 

The Battle of Algiers gan Gillo Pontecorvo, 1966

Yn y presennol, yn y byd digidol, mae popeth yn ymddangos ac yn diflannu bron yn syth, heb adael digon o ôl i ni fedru gweld yn iawn a dadansoddi sut y datblygodd pethau, heb sôn am gofio. Mae pethau yn hawlio sylw, ond ddim am yn hir, ddim yn ddigon hir i lunio atgof ac mae llai fyth o amser ar gyfer ymateb a ffurfio barn wleidyddol am unrhyw sefyllfa. Ar yr un pryd, mae nostalgia, y parodrwydd i hiraethu sy'n nodweddiadol o'n hoes heddiw yn orthrymus. Meddyliwch am lyfrgelloedd YouTube a’r ‘wyt ti’n cofio hon’ dyddiol ar trydar a facebook sydd yn sicrhau ei bod hi'n amhosib i ni anghofio’r hen atgofion. Ond maen nhw hefyd yn ei gwneud hi'n frwydr bron i greu'r llannerch angenrheidiol yna sy'n rhoi lle i atgofion newydd (a'r cyfle i ddechrau meddwl yn chwyldroadol). ‘Do we really have more substance than the ghosts we applaud?’ meddai'r diweddar Mark Fisher, yr awdur a'r darlithydd, a chrisialu'r broblem mewn un cwestiwn iasoer a phrydferth.

Mae pendroni a chydnabod y pethau hyn yn bwysig ond mae angen mwy, mae gwir angen esblygu meddylfryd gwrthryfelgar pronto, trwy gelfyddyd a gwleidyddiaeth, cyn iddi fynd yn rhy hwyr. Yma yng Nghymru, mae’r gagendor rhwng y tlawd a’r cyfoethog yn anferth ac yn dal i dyfu, mae'r economi allan o reolaeth; mae angen credu eto ei bod hi'n bosib cael pawb lawr ar y stryd i brotestio. Mae’r amser wedi dod i greu breuddwyd newydd, chwyldroadol; mae angen bod yn realistig a mynnu’r amhosib ar yr un pryd – sydd yn dod â ni yn ôl at freuddwyd a gofynion criw Mai 68. 

Mai 68 fel Oes y Cerrig

Dwi wedi bod yn ddigon ffodus, gyda chefnogaeth asiantaeth Canolfan Ffilm Cymru, i fedru cynnig rhaglen benwythnos o ffilmiau chwyldroadol llawn cyfoeth gweledol a deallusol ar y sgrîn yn sinema Pontio, Bangor [4-6 Mai 2018].

Nid gofyn i chi edrych yn ôl er mwyn dianc yw pwrpas y rhaglen, ddim o gwbl. Mae Mai 68 mor bell yn ôl, fel Oes y Cerrig bron erbyn hyn. Fydd cofio ffeithiau yn ddim iws i neb. Am ofyn i chi ystyried am eiliad ydw i fod gwreiddiau Mai 68 yn ddwfn yn niwylliant mentrus sinematig y cyfnod, yng ngwaith Henri Langlois (1914-1977) a’r Cinémathèque française, François Truffaut (1932-1983), Jean-Luc Godard (1930- ) a’r gweddill ohonyn nhw. Ffiws hanfodol oedd celfyddyd sinema'r chwedegau, nid rhyw sioe amherthnasol ar gyrion pethau. Mae angen i ni gael ein hatgoffa fod rhyddid, angerdd, dyfeisgarwch a dewrder yn y celfyddydau yn heintus, yn medru trosglwyddo o'r sgrîn i’r pafin. Ydi’r fath symbiosis yn bodoli o gwbl heddiw? A esgorodd celfyddyd ar unrhyw beth y medrwn ei alw'n ‘chwyldroadol’ ers dyddiau mawr Hip Hop a cherddoriaeth rap yr wythdegau? Ydi twf cyfalafiaeth a llwyddiant y neocons dros yr hanner can mlynedd diwethaf wedi dinistrio gallu sinema (neu unrhyw gelfyddyd) i ddylanwadu ar realiti o gwbl? Mae hwn yn gwestiwn teg sydd yn haeddu ateb gonest gan bob un ohonom wrth i ni edrych o'r newydd ar y ffilmiau hyn. 

Y peth mwyaf gobeithiol fedra i ddweud ar hyn o bryd yw bod pethau fel petaent ar groesffordd. Dyma adeg gall, felly, i edrych o gwmpas (ac yn ôl). Er bod y mwyafrif ohonom yn medru cytuno fod cyfalafiaeth heddiw yn gwneud i ni deimlo wedi ein datgysylltu oddi wrth realiti bob dydd, mae sawl ffordd yn dal ar gael i ni er mwyn ymgysylltu unwaith eto gyda hanfod bodolaeth. Yn bersonol, dwi’n anelu (os yn bosib) i osgoi’r seiciatrydd, yr archfarchnad a’r capel ac yn mynd yn syth am y sinema.  

Jean-Luc Godard

Mae 'na ddwy ffilm yn yr ŵyl dwi wir am eich annog chi i'w gwylio. Y gyntaf ydi Weekend (1967) gan Jean-Luc Godard. Mae Godard dal yn enw, dal yn chwyldroadol, yn 87 mlwydd oed ac yn dal i fentro, creu a holi. Mae ei ffilm newydd, Le Livre d’image (Y Llyfr Delweddau, 2018), am gael première yng Ngŵyl Cannes 2018, ac mi fydd Redoubtable (2017), biopig Hollywood-aidd am ei fywyd yn y chwedegau, yn cyrraedd y multiplexes yr un pryd. Weekend oedd y ffilm ‘fasnachol’ olaf i Godard ei rhyddhau cyn mynd ati i gynhyrchu ffilmiau mewn ffordd wleidyddol yn hytrach na chreu ffilmiau gwleidyddol, a thrwy wneud hyn, dianc yn llwyr o olwg y brif ffrwd i greu oddi ar y grid. Ynddi, mae Godard yn dangos fod y bywyd gwaraidd Gorllewinol, y bywyd bwrdais, dosbarth canol, yn amherthnasol, yn ddiwerth a ddim yn un y medrwn ni gredu ynddo bellach. Mae’n proffwydo fod popeth sydd yn bwysig i ti a fi a gweddill cymdeithas am ddod i ben, hynny ydi, mae’r byd breintiedig Gorllewinol wedi cyrraedd pen ei dennyn a bellach wedi ei lygru’n llwyr. Yn sicr mae'r ffilm hon yn alwad i’r gad, wrth i weithwyr y trydydd byd ddarganfod eu lleisiau (‘I maintain that neither you nor I will ever win our freedom by non-violence, patience and love’) ar yr union adeg yn y ffilm pan mae Godard yn colli 'mynedd (‘crap film, shitty dialogue’). Dyma ffilm sy’n creu dilyniannau llawn prydferthwch anhygoel yn syth ar ôl cynnig un gic arall yn y stumog (‘it is probably the biggest flop in the whole history of art’).

Yn ôl diffiniad Godard ei hun dyma ffilm sydd ar ddisberod yn y cosmos, ffilm a gafodd ei darganfod ar ben tomen sbwriel. Mae egni chwyldroadol yn dân drwyddi, nes ei gwneud yn gampwaith uffernol. Dyma uchafbwynt taith Godard i ddatgymalu waliau Jerico y byd sinematig, darn o gelfyddyd dinistriol a sicrhaodd, rhywsut, fod Godard ei hun dal yna yn rhywle, o dan y rwbel, hanner can mlynedd yn ddiweddarach.

Margarethe von Trotta

The German Sisters (Die bleierne Zeit, 1981) gan Margarethe von Trotta (1942- ) yw’r ail ffilm dwi’n eich annog i ddod i'w gwylio. Mae hon yn ffilm gwbl wahanol i storom danllyd Godard.

Derbynnir gan bawb fod chwyldro yn edrych yn rhywiol ar y stryd ond i mi, mae gwylio chwyldro yn y gofod domestig, personol, fel profiad sinematig, yn llawer mwy o chwalfa. Mae’r ffaith nad oes print safonol yn bod o'r ffilm hon a bod yn rhaid i mi wneud llwyth o ymchwil er mwyn clirio hawliau dangosiad cyhoeddus yn ei hun yn ddigon o dystiolaeth i brofi i mi fod hon yn ffilm chwyldroadol. Trist yw meddwl fod neb (hyd yn hyn) wedi mynd i’r afael â’r gwaith o ail-fastro y print gwreiddiol er mwyn ei diogelu hi ar gyfer cenedlaethau i ddod. Yn anffodus, mae hanes swyddogol y diwydiant sinematig wedi ceisio claddu’r ffilm trwy ei diystyru, yn ogystal â gwaith a chymynrodd dyneiddiol cyfanwaith ffilmiau Margarethe von Trotta. Dwi’n ofni fod sicrhau cydraddoldeb trwy gydnabod storïau a chyfraniad merched i hanes y sinema dal ymhell bell ar ei hôl i. Ond fedrwn ni ddim claddu celfyddyd bwerus fel y ffilm hon bellach, ddim yn oes Bechdel a’r F-Rating. Braint a phleser o'r mwyaf yw medru trefnu dangosiad cyhoeddus. 

Os mai un o negeseuon pwysicaf Mai 68 oedd yr angen i bawb gymryd rhan, wel pawb amdani yn ddynion a merched! Fel arall, mae’r gosodiad yn un diystyr. Mae gwreiddiau'r ffilm hon yn ddwfn yn y mudiadau ffeministaidd a sinema arbrofol yr 1970au a oedd yn gynhysgaeth protestiadau Mai 68. Chwilio'n angerddol am ystyr i fywydau menywod law yn llaw â cheisio cynnig byd gwell i bawb y mae pob un o ffilmiau Margarethe. Gweithiau wedi eu trwytho yn y perspectif benywaidd yw'r rhain, sydd yn ymhél â sefyllfaoedd a gwirioneddau benywaidd ac yn ymwneud â phlant, gofal plant, addysg, priodas, cyfeillgarwch rhwng merched, trais, perthyn, hunaniaeth, terfysgaeth, hanes, gwaith, mamolaeth, rhyw, atal cenhedlu, erthylu, trais yn y cartref, a gweithredu gwleidyddol mewn cymdeithas batriarchaidd. Mae Margarethe yn creu ffilmiau er mwyn bachu ar y cyfle i symud yr echel yn agosach at y perspectif benywaidd hwn a hefyd i greu storïau sydd yn tyfu yn naturiol o brofiadau a theimladau uniongyrchol bywydau merched.
 

Marianne (Barbara Sukowa) a Juliane (Jutta Lampe) yn The German Sisters (Die bleierne Zeit, 1981)

Dyma artist dewr a chyfarwyddwraig sydd gystal ag unrhyw ddyn enwog sy’n creu yn y cyfnod hwn. Yr hyn sydd yn sicrhau fod egni chwyldroadol yn byrlymu trwy’r gwaith yw bod Margarethe yn ceisio darganfod a chyflwyno storïau personol oddi mewn i fframwaith digwyddiadau mawr hanesyddol, gan ei bod yn gwybod fod bywyd personol merch yn gwbl gaeth i’r hanesyddol a’r cymdeithasol. Prin iawn ydi'r cyfle i fenywod wahanu bywyd preifat a bywyd cyhoeddus. Mae dynion yn medru gwneud hyn yn rhwyddach o lawer. Ond mewn sefyllfa lle mae'r wladwriaeth yn ceisio rheoli cyrff merched a chyfyngu ar gyfleoedd i weithio, dysgu a gweithredu yn wleidyddol, yn rhwystro'r awydd naturiol benywaidd i ad-drefnu a chreu sustemau newydd ar gyfer byw a magu teulu, mae bywydau merched yn gorfod ymrafael â heriau sylfaenol, ac mae angen i gelfyddyd fod yn rhydd i gydnabod a dangos hyn a brwydro yn ei erbyn. 

Y Baader-Meinhof

Mae hanes bywydau’r ddwy chwaer yn y ffilm, Marianne a Juliane, wedi ei seilio ar hanes go iawn y derfysgwraig (ac un o sylfaenwyr y Baader-Meinhof) Gudrun Ensslin a’i chwaer Christiane. Mae’r cefndir yn cynnwys manylion sydd yn hanesyddol gywir: mae Marianne yn byw ar ffo cyn ei hunanladdiad yn y carchar, yn union fel marwolaeth Ensslin yng ngharchar Stammheim. Ond mae Margarethe wedi creu portread gwreiddiol o’r berthynas sy’n bodoli rhwng y ddwy chwaer yn y ffilm, portread sydd yn cyffwrdd ar lawer mwy na manylion hanesyddol y cyfnod. Mae’r ddwy yn cael eu heffeithio gan chwyldro Mai 68 ond yn dewis dilyn llwybrau cwbl wahanol wrth iddynt geisio sicrhau rhyddid a chyfiawnder. Mae Marianne yn dewis terfysgaeth a Juliane yn dewis gweithio gyda’r wasg amgen a charfanau pwyso oddi fewn i fudiad y merched. Mae’r ffilm yn llawn golygfeydd trydanol sydd yn siarad iaith sinematig wahanol i’r drefn esthetig arferol. Methiant yw bywydau'r ddwy chwaer – un yn farw a’r llall yn galaru. Rhywsut neu'i gilydd mae’r methiant yma yn drosiad o daith ysbrydol digwyddiadau Mai 68. Llwydda Margarethe von Trotta i ddangos hanes a gwleidyddiaeth fel cyflyrau byw ar y sgrîn trwy archwilio'n fanwl un berthynas bersonol, rhwng dwy chwaer sydd yn meddu ar bersonoliaethau gwahanol, a hynny'n creu ffilm gymhleth, fythgofiadwy. 

Sinema chwyldroadol heddiw

Beth am sinema chwyldroadol heddiw? Mae digonedd o ffilmiau dogfen gwych yn cael eu cynhyrchu am broblemau’r byd, gwrthryfel a dyfeisgarwch yr ysbryd dynol (da a drwg). Ceir ffilmiau masnachol hefyd yn ymdrin â'r un themâu, fel The Fifth Estate (2013) a The Big Short (2015). Ond dyma ffilmiau sydd yn llwyddo i ysbaddu'r gwyliwr o'r awch i archwilio digwyddiadau mawr a phwysig ein hoes, trwy ganolbwyntio ar greu naratif sy’n plesio, ar adloniant. Mae hyn ar draul ymgais i ddarganfod dull sinematig all gorddi, dull sinematig sy'n creu cyswllt dwfn â'r gynulleidfa er budd rhoi ar waith y broses hir o geisio deall cyflwr pethau, a thrwy hynny, gamu'n agosach at newid pethau. 

Wedi dweud hynny, credaf fod yr ysbryd sinematig chwyldroadol bellach yn fyw ac yn iach pan mae'n fater o hunaniaeth, hil, rhyw a rhywioldeb. Mae gofyn am y cyfle i gael dy weld yn y follow spot gyda’r dyn gwyn strêt a chael ‘cydnabyddiaeth’ a rhannu'r un sgrîn wedi hen fynd. A ta waeth, pa rebel gwerth ei halen sydd yn ddigon gwirion i ofyn am unrhyw beth – mynnu neu gymryd ynde?
 



                                                        Uncle Boonmee who can recall his past lives, 2010 gan Apichatpong Weerasethakul

Ond mae’r ysbryd chwyldroadol am fynnu rhywbeth llawer mwy elfennol a phellgyrhaeddol. Dwi’n dechrau clywed mewn ffilmiau fel Tangerine (2015) gan Sean Baker (1971- ), A Fantastic Woman (Una mujer fantástica, 2017) gan Sebastián Lelio (1974- ) o Chile, yn chwedlau arallfydol Apichatpong Weerasethakul o Wlad y Thai (1970- ), ac ym mhob un o anturiaethau arwyr mutant ffilmiau Marvel, y galw i ddatgymalu’r sustem bresennol unwaith ac am byth. Mae hi ar ben ar bethau elfennol fel yr hen syniad o hunaniaeth draddodiadol. Dyma broses o newid a fydd yn sicr yn dipyn o sioc i bawb. Gan fod y sinema yn hen feistr ar greu hunaniaeth mae yna rôl newydd bwysig iddi yn y chwyldro sydd i ddod. Mae egni’r oes am ddinistrio hunaniaeth ffals, yr hen hunaniaeth saff, hunaniaeth y dyn gwyn, ceidwadol. 'Peidwch ceisio dal gafael ar eich diffiniad cul o hunaniaeth' fydd mantra’r dyfodol. Mae pawb bellach yn gorfod nofio heb fedru dibynnu ar angor rhyw traddodiadol, heb sicrwydd syniadaeth ddeuaidd. Mae sinema eisoes wedi dechrau dweud ‘peidiwch â cheisio achub y syniad sydd gynnoch chi o’ch hun’; yn hytrach, mae hi'n amser i ddechrau daffod y syniad sydd gynnoch chi o'ch hun. Dyna hanfod celfyddyd chwyldroadol ynde: meddwl yn agored drwyddi draw.

Credaf fod pob un person, yn ei hanfod ac ar ryw lefel, yn gwrthryfela trwy’r amser. Ac os na, pam? ddyweda i. Mae hi'n iawn i wrthryfela ac mae hi'n iawn i ddefnyddio celfyddyd, fel y sinema, i wrthryfela (pace Fassbinder, ‘I don’t throw bombs, I make films!’). Fel mae William Burroughs wastad yn ei ddweud, ‘art leaks in the future’. Dyma rym celfyddyd sinematig chwyldroadol: cyflwyno yfory i ni heddiw, dadlennu'r 'amhosib' ar sgrîn, rwan hyn.


Emyr Glyn Williams yw cydlynydd Sinema Pontio ym Mangor. Roedd ei gyfrol Is-Deitla'n Unig (Gomer, 2015) yn un o Lyfrau Ffeithiol Greadigol y Flwyddyn yn 2015.


Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


Yn bersonol, dwi’n anelu (os yn bosib) i osgoi’r seiciatrydd, yr archfarchnad a’r capel ac yn mynd yn syth am y sinema

Dyddiad cyhoeddi: 25·04·2018

Yn ôl i frig y dudalen

Cyfansoddi


Ruth Richards

‘DEW,’ MEDDAI NOW-HOW, gan ryfeddu at lun y Marcwis yn ei deits gwynion, gyda phlethen hir a phagoda ar ei ben. ‘Tydi hwn ddim byd tebyg i’r crach arferol.’ ​Gwenodd Annie arno, ei phenelin yng nghledr un llaw ac un o sigaréts Senior Service Now yn hongian rhwng deufys y llall, mewn ystum a…

Dadansoddi


Elin Haf Gruffydd Jones

Ym myd cyhoeddi, nodir yr Hydref gan Ffair Lyfrau Frankfurt sydd, gyda llaw, yn arddel ei henw swyddogol Almaeneg, Frankfurter Buchmesse, hyd yn oed wrth gyfathrebu’n Saesneg ac yn rhyngwladol. Dyma ganolbwynt y farchnad ar gyfer y diwydiant hwn, gyda dros 7,000 o stondinwyr, 10,000 o…

Adolygu


Dyfrig Williams

Cyfrol i herio ein persbectif ar fyd gwaith a'r cyd-destun economaidd sy'n ei hybu yw Bullshit Jobs: A Theory gan yr anthropolegydd David Graeber. Mae'r awdur, sydd yn Athro yn yr LSE, eisoes yn adnabyddus am fathu'r slogan y mudiad Occupy Wall Street, 'We are the 99%', ac am…

Cyfansoddi


Frank Olding

Casgliad Frank Olding ddaeth yn ail yng nghystadleuaeth y Goron eleni yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd. Rydym yn falch o gyhoeddi detholiad o'r cerddi ar Ddiwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth 2018.

Cyfansoddi


Mihangel Morgan

Gwn fod y Fanaweg wedi cael ei hatgyfodi gyda chryn lwyddiant yn ddiweddar, ac yn wir, maentumiai rhai na fu iddi farw gyda Ned Maddrell o gwbl. Ond credaf ei bod yn deg dweud iddi ddod i ben fel iaith…

Dadansoddi


Andrew Green

Roedd y cwpwrdd tridarn yn unigryw i Eryri a’r ardal gyfagos. Fe’i gwelid yn aml yn nhai ffermwyr cyfoethog a boneddigion. Tra dechreuodd arddulliau newydd ddylanwadu ar ddodrefn mewn mannau eraill, goroesodd y traddodiad lleol a ffynnu, o tua 1660 i tua 1770.

Gwneid…

Dadansoddi


Andrew Green

Erbyn diwedd y ddeunawfed ganrif, Caerfyrddin oedd prif ganolfan argraffu a chyhoeddi Cymru. Tua 1792, cyhoeddodd John Daniel, yr argraffydd blaenaf yn y dref, bamffled un ar bymtheg o dudalennau, ar werth am geiniog, a ysgrifennwyd gan ddyn anhysbys, ‘Cymro, gelynol i bob…

Dadansoddi


Andrew Green

Roedd Evan Roberts yn gyn-löwr ifanc o Gasllwchwr oedd yn hyfforddi i fod yn weinidog gyda’r Methodistiaid. Ym mis Tachwedd 1904, ym Mlaenannerch ger Aberteifi, fe’i llethwyd gan weledigaeth ddwys. ‘Pwysodd iachawdwriaeth eneidiau yn drwm arnaf. Teimlais ar dân am fynd trwy Gymru gyfan i ddweud wrth y bobl am y…