Dadansoddi

Rory Stewart, sadrwydd a rhesymoldeb

Socrates ar y stryd / 10


Huw L Williams

Amser darllen: 10 munud

02·08·2019

Rory Stewart adeg cynhadledd London Illegal Wildlife Trade (IWT), 2018. Creative Commons.


O bryd i’w gilydd, daw achubiaeth ar ffurf annisgwyl. Pe byddwn wedi crybwyll yr enw Rory Stewart ychydig fisoedd yn ôl, tebyg mai prin fyddai’r adnabyddiaeth wedi bod ohono; ond gyda’i eiriau pwyllog a’i drafod peniog – wedi’u cyfosod â’i ymddangosiad bachgennaidd rywsut – amlygwyd Stewart fel yr ymgeisydd mwyaf trawiadol yn y ras am arweinyddiaeth y Blaid Geidwadol. Dyma’r un y byddai’r mwyafrif y tu allan i’w blaid yn ei ystyried fel y gobaith gorau os yw rhywun am geisio osgoi enbydrwydd Brexit Torïaidd ar ei waethaf.

Mae Stewart yn gwneud yn fawr o themâu megis y diffyg difrifoldeb cyfredol yn ein gwleidyddiaeth, a’r angen i osod o’r neilltu faterion sydd y tu hwnt i ddylanwad a gallu’r rhai sy’n llywodraethu. Yn sail i’w ddadansoddiad o’r argyfwng gwleidyddol cyfredol mae ei ragdybiaeth o’n hymrwymiad digwestiwn i bob math o haniaethau afresymol ac afrealistig. Sonia, er enghraifft, am y sawl sy’n cwestiynu’r hyn y mae Prydain am ei wneud ynghylch yr anghydfod diweddaraf yn y wlad fel-a’r-fel. Dadleua fod yn rhaid gwaredu ein diwylliant gwleidyddol o’r camsyniad ei bod wastad yn bosib datrys problemau. A symptom gwaetha’r agwedd hon, wrth gwrs, yw haniaeth Brexit, cysyniad sy’n cael ei gynnig inni fel ateb i broblemau ein cymdeithas yn ei chyfanrwydd, ond tasg strwythurol sydd mewn gwirionedd yn anodd dros ben i’w gwireddu ac yn annhebyg o ddatrys y problemau hyn ar unrhyw ffurf, heb sôn am wneud hynny mewn modd fydd er lles cymdeithas.

Ar sawl gwedd, ymddengys Stewart fel ceidwadwr hen ffasiwn, o ran ei iaith, ei agwedd, a’r hyder a’r hunanfeddiant sydd mor nodweddiadol o’i ddosbarth uwch, traddodiadol. O ystyried hiraeth pobl gwledydd Prydain am y byd a fu, a amlygir ym mhoblogrwydd cyfresi megis Downton Abbey, mae apêl i’r sicrwydd a’r cysur a gynigir gan y math hwn o gymeriad. Ond mae Stewart yn cynnig rhywbeth llawer mwy na’r arwynebol, sef dychwelyd at syniadaeth geidwadol draddodiadol a gwmpasir, yn fwyaf penodol, gan ysgrifau’r athronydd Michael Oakeshott (1901–1990). Yn wir, byddwn yn synnu pe na bai Stewart wedi’i ysbrydoli’n uniongyrchol gan ei waith.

Mynegiant mwyaf adnabyddus y syniadaeth hon yw’r bennod ‘Rationalism in Politics’ yn y gyfrol o’r un enw, un sydd yn feirniadaeth egr o’r ymagwedd oedd, yn ei farn ef, wedi treiddio i fyd gwleidyddiaeth – a hynny ar draws y sbectrwm gwleidyddol. Beirniadu y mae Oakeshott y diwylliant sy’n canfod gwleidyddiaeth fel maes o broblemau i’w datrys, dan ofal arweinwyr a ystyrir yn ‘beirianwyr’ sydd â’r arbenigedd a’r taclau addas ar gyfer y dasg. Cam gwag, yn ei farn ef, yw cymhwyso’r agwedd a’r dull gwyddonol hwn at ffenomenau dynol, a honni fod modd deall, asesu a gwella holl agweddau cymdeithas a symud at ryw ddatrysiad terfynol o’r genedl-wladwriaeth berffaith – boed hynny yn ôl delfrydau’r asgell dde neu’r asgell chwith. 

Wrth wraidd y datblygiadau dryslyd hyn ceir camddealltwriaeth sylfaenol ynghylch natur gwybodaeth. Gwahaniaethir gan Oakeshott rhwng gwybodaeth ddamcaniaethol ar un llaw a gwybodaeth ymarferol ar y llaw arall. Y mae gwybodaeth ddamcaniaethol wedi’i chyfyngu i’r llyfr testun; dyma wybodaeth y mae modd i ni ei disgrifio, ei hesbonio, a’i chyflwyno’n ysgrifenedig a’i deall trwy’r broses wybyddol. Y mae gwybodaeth ymarferol – know-how – ar y llaw arall, yn wybodaeth y gallwn ei datblygu a’i pherffeithio drwy brofiad yn unig. Meddyliwch am goginio, er enghraifft: y mae’r wybodaeth ddamcaniaethol ar gael mewn llyfr ryseitiau, lle mae modd cyflwyno’r manylion o ran y cynhwysion a’r cyfarwyddiadau. Ond y ddelfryd yn unig a gawn rhwng cloriau’r llyfr, wrth gwrs. Meithrinir gwybodaeth ymarferol a’r gallu i gwblhau’r dasg drwy brofiad, a dim ond yn y modd hwn y mae datblygu’r wybodaeth sydd ei hangen er mwyn coginio’r rysáit yn llwyddiannus. Nid yw’n bosib cymhwyso’r profiad, y gallu na’r medr ar ffurf llyfr; dysgu’r agweddau hyn yr ydym drwy ymarfer, ond hefyd drwy fod gydag eraill sydd â phrofiad ac arbenigedd, drwy arsylwi’n ofalus ac amgyffred dros amser y manylion a’r arferion sydd yn creu’r arbenigedd all arwain at feistrolaeth.  

Wedi cymhwyso hyn i’r cyd-destun gwleidyddol, y problemau a wêl Oakeshott yn fwy na dim yw’r duedd i fod â ffydd yn yr ‘wybodaeth ddamcaniaethol’ y mae ideolegwyr yn ei chynhyrchu ar bapur, i gredu bod modd rhoi’r math hwn o wybodaeth ar waith, a’r ymagwedd gyffredinol sy’n dilyn yn ei sgil – un sydd yn gweld datrysiad i bob dim. Ar y cyfan, mae’r ymagwedd hon yn sefyll ar wahân i realiti gwleidyddol, gan wrthod cydnabod y gwahaniaeth rhwng yr amodau rheoledig sydd yn wynebu’r peiriannydd go iawn a chymhlethdod a natur anwadal maes y peiriannydd cymdeithasol. 

Dylid gwneud yn glir nad yw Oakeshott yn anelu ei lid at resymoliaeth yn gyffredinol; parod iawn ydyw i gydnabod y cyfraniad y mae’r dull gwyddonol wedi’i wneud i gymdeithas fodern ar sail athroniaeth ffigyrau cynnar modernrwydd, megis René Descartes a Francis Bacon. Sefydlu dulliau a ffurfiau dibynadwy o feddwl, a fyddai’n addas at ddeall y ffenomenau materol o’n cwmpas, oedd eu nod, a’r rheini’n sail ar gyfer arbrofi ac ymyrryd yn effeithiol. Ond ni ellir cymhwyso holl gymhlethdod bywyd dynol i ddeddfau cyson, rhagweladwy.  

Wedi ymestyn yn rhy bell y mae rhesymoliaeth yn yr oes fodern felly, wrth dreiddio i’r ymwybod gwleidyddol. Canlyniad hyn oll yw prosiectau bondigrybwyll, afrealistig, nad ydynt wedi’u gwreiddio yn realiti’r sefyllfa sydd ohoni, syniadau a gweledigaethau radical sy’n gofyn dechrau o’r newydd a gwrthod yr hyn sydd wedi bod. Nid hanfod y meddylfryd ceidwadol hwn yw troi’r cloc yn ôl, o reidrwydd; rhaid derbyn newid lle mae hynny’n digwydd, ond newid sy’n gymwys i’r amgylchiadau ac sy’n parchu’r arferion, y syniadau a’r strwythurau sydd eisoes mewn lle.  

Gellir cael dadansoddiad defnyddiol, treiddgar o Brexit ar sail y safbwynt beirniadol hwn: Brexit fel haniaeth radical, heb gydnabyddiaeth o’r hanner canrif o gyd-fyw a chyd-ddeddfu â gwledydd eraill Ewrop, na’r strwythurau llywodraethiant sydd wedi esblygu yn eu sgil; prosiect ffantasïol bron sy’n anwybyddu cyfyngiadau gwleidyddion a gweision sifil gan fynnu y gellir gwireddu’r weledigaeth hon o Deyrnas Gyfunol ‘annibynnol’ ar yr Undeb Ewropeaidd, ond sydd o fewn cyrraedd mewn gwirionedd drwy chwalfa’r No Deal yn unig.

Ni fyddwch yn synnu bod syniadau Oakeshott yn rhai sydd yn cael eu cysylltu â’r traddodiad ceidwadol, sy’n ymestyn yn ôl at Edmund Burke (1729–1797). Dyma feddyliwr sydd yn adnabyddus oherwydd iddo wrthod gweledigaeth y Chwyldro Ffrengig ar seiliau tebyg, am ei ddirmyg tuag at gred radicaliaid y cyfnod yn hanfod ‘Iawnderau Dynol’, ac am ei rybudd ynghylch y canlyniadau erchyll allai ddeillio o’r ymgais i greu cymdeithas o’r newydd drwy chwalu’r hyn a fu. Cred Oakeshott fod yr agwedd radicalaidd, resymolaidd hon yn un sydd yn ymestyn ar draws y sbectrwm gwleidyddol, cred a wireddwyd gan wleidyddiaeth Thatcher, a chwalodd gymaint o’r gymdeithas a etifeddwyd ganddi – agwedd a arweiniodd at ymadawiad Oakeshott o’i phlaid. Eto, er gwaethaf ei wrthwynebiad i eithafion o’r fath, mae’n anodd peidio â darllen ei ysgrifau heb deimlo fod yna elfen o eithafiaeth yn perthyn i’w barch at draddodiad. Ymysg y prosiectau ‘rhesymolaidd’ sy’n wynebu beirniadaeth ganddo y mae Adroddiad Beveridge – ysbrydoliaeth y wladwriaeth les, wrth gwrs – a’r ymgais i adfywio’r Wyddeleg (gallwn fod yn weddol hyderus o’i ymateb i’r nod o filiwn o siaradwyr). A daw ei gredoau aristocrataidd i’r amlwg wrth iddo gwyno am ddiffyg profiad a gwybodaeth ymarferol ymysg aelodau’r dosbarth llywodraethol; yn wir, teimla rhywun ar brydiau y byddai wedi bod yn well ganddo pe na bai democratiaeth gynrychioliadol wedi bwrw gwreiddiau – rhagfarnau sydd yn werth eu dwyn i gof pan fydd cymeriad fel Rory Stewart yn ein swyno â llais rhagorfraint. Rhaid cofio rhai o’r polisïau dienaid y mae wedi’u cefnogi yn enw Ceidwadaeth a’r llanast cymdeithasol y mae Ceidwadaeth wedi’i greu, sydd yn un o yrwyr pennaf Brexit.   

O safbwynt Cymreig ceir diddordeb o fath arall yn y traddodiad Ceidwadol, Seisnig hwn, os ystyriwn y rhai a adwaenid fel pendewiniaid yr heresi resymolaidd. Roedd testun Burke, Reflections on the French Revolution (1790), yn ymateb uniongyrchol, wrth gwrs, i anerchiad y Cymro Richard Price, A Discourse on the Love of Our Country (1789), a’i ddatganiadau o blaid y Chwyldro, gwladgarwch, hawliau a rhyddid. Ac wrth i Oakeshott ddisgrifio pla rhesymoliaeth mewn gwleidyddiaeth, cyfeiria at y ‘peiriannydd’ mwyaf beiddgar ohonynt i gyd, sef yr Iwtopydd o Gymro Robert Owen. Ei gynllun am fyd cyfiawn, wedi’i waredu o anghyfiawnder, oedd y prosiect rhesymolaidd par excellence, yn ôl Oakeshott. Yn fwy pryfoclyd fyth, at bwy mae Oakeshott yn cyfeirio fel rhagflaenydd y meddylfryd hwn yn ei feirniadaeth gynharach, sy’n rhan o’i adolygiad o waith Hans Morgenthau (un o’r realwyr clasurol pennaf ym maes gwleidyddiaeth ryngwladol)? Pelagius y Brython, wrth gwrs, a heriodd Awstin a’i gred mewn llwyr lygriad, gan arddel rhyddid ewyllys a natur ddyrchafedig dyn.

Ai cyd-ddigwyddiad sydd yma? Byddai dadlau felly’n ddigon teg, ond rwyf am awgrymu bod yna sylwedd i’r ffaith fod y naratif ceidwadol hwn wedi’i lunio mewn modd sydd yn wrthwynebus i’r traddodiad Cymreig (a awgrymwyd gennyf eisoes yn Credoau’r Cymry (2017) ac a ddatblygir ymhellach mewn gwaith sydd ar y gweill). O anghenraid, o gyfnod Rhufain ymlaen, y mae’r Brythoniaid a’r Cymry wedi bod yn bobl ar yr ymylon a than ormes, heb reolaeth gyflawn dros eu ffawd. Yn hynny o beth, digon naturiol yw iddynt gael eu denu at gredoau a syniadau sydd bob amser yn cyfleu gobaith am waredigaeth. Yn wir, y mae’n bosib awgrymu bod y syniad o iachawdwriaeth yn y byd hwn wedi gorfod bod yn un iwtopaidd sydd yn aros yn y dychymyg; amlygir y patrymau hyn o feddwl gan Pennar Davies yn ei waith Rhwng Chwedl a Chredo (1966), sy’n drafodaeth ar chwedloniaeth a barddoniaeth gynnar y Cymry a’r cyswllt â chredoau’r Brythoniaid cynnar: meddylfryd achubol a roddodd awch i wrthryfel Glyndŵr, y Mab Darogan, a chefnogaeth y Cymry i’r Tuduriaid, er enghraifft. Yn yr oes fodern esblygodd yr agwedd hon ym milflwyddiaeth Morgan Llwyd, yn efengyl achubol y Methodistiaid, yn radicaliaeth y rhydd-frydwyr a ragfynegwyd gan Price, yn rhaglenni’r sosialwyr yr oedd Owen yn rhagflaenydd iddynt, ac yn atgyfodiad yr ysbryd cenedlaetholgar ym meddwl Michael D Jones, Gwynfor a J R Jones yn arbennig.

I Oakeshott, mae’r rhwyg a ddeisyfir â’r hyn a fu yn gwbl wrthun i’r tymer Seisnig; o safbwynt y Cymry mae’r un agwedd yn hanfodol ac yn cynnal eu gobaith a’u gweithredoedd, boed hynny yn y dychymyg cenedlaetholgar neu sosialaidd, neu mewn cyfuniad o’r ddau. O safbwynt Oakeshott mi fyddai Brexit yn weithred yr un mor rhesymolaidd a di-sail â llywodraeth Corbyn neu annibyniaeth i Gymru; gwrthun yw unrhyw weithred sydd yn gofyn dechrau o’r newydd.

Wrth reswm, byddai’r sawl sy’n arddel y llwybrau radical hyn yn dadlau bod yna agweddau gwahanol iawn i’r prosiectau hynny. Ar y cyfan, dianc rhag y byd yw’r dyhead am Brexit, gweithred negyddol, amddiffynnol i nifer o bobl nad ydynt bellach yn teimlo’n gartrefol eu byd; neu weithred nihilaidd bron, lle mae pobl o’r farn fod y posibilrwydd o chwalfa yn well na pharhau â phethau fel y maent. Nid oes gennym wir weledigaeth na haniaeth glir o’r hyn fydd Prydain wedi Brexit, heblaw’r nirfana neoryddfrydol ddilyffethair sy’n sbarduno’r cyfoethocaf, neu, i eraill, ynys wedi’i gwaredu o bawb namyn pobl wynion. Methiant y sawl sy’n arddel Lexit yw’r diffyg delfryd i gynnig gwrthbwynt i’r gwacter a’r gweledigaethau arswydus hyn.

Daw’r myfyrio hwn â mi yn ôl at Rory Stewart; ochr yn ochr â’i apêl am sadrwydd a rhesymoldeb (nid rhesymoliaeth), mae ymgais hefyd i ystyried a thrafod yr hyn yw (neu oedd) Prydain, a’r hyn a all fod. Ymhlyg yn ei ymdrechion bu ymbalfalu i geisio creu naratif newydd i Loegr (ac felly i Brydain). Rhaid bod yn ofalus yn y cyswllt hwn, wrth gwrs, oherwydd y mae’r syniad o atgyfodiad, dadleuon yn erbyn elît sydd yn llywodraethu’n ddall, a’r awgrym eu bod wedi colli eu ffordd yn foesol yn agweddau sydd yr un mor nodweddiadol o wleidyddiaeth y ffasgydd ag y maent o feddylfryd y rhai ohonom sy’n ceisio arddel trywydd amgen. Ac er y ceir elfen o Schadenfreude wrth weld y Saeson yn ceisio ailadnabod ac ail-greu eu pwrpas, dylem fod yn gofyn rhai o’r un cwestiynau amdanom ni ein hunain hefyd yma yng Nghymru. Beth bynnag a ddaw dros y misoedd a’r blynyddoedd nesaf, yr hyn fydd ei angen arnom i lywio’r moroedd tymhestlog fydd ffydd yn y trywydd dewisedig, wedi’i wreiddio mewn hyder yn yr hyn ydym, ar sail dealltwriaeth feirniadol o’n gorffennol. Yn hynny o beth, mae parch at draddodiad ac ymwybyddiaeth hanesyddol yn allweddol i bob gwleidydd – boed yn Rory, neu’n Dori, ai peidio.

Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


O gyfnod Rhufain ymlaen, y mae’r Brythoniaid a’r Cymry wedi bod yn bobl ar yr ymylon a than ormes, heb reolaeth gyflawn dros eu ffawd [...] digon naturiol yw iddynt gael eu denu at gredoau a syniadau sydd yn cyfleu gobaith am waredigaeth

Dyddiad cyhoeddi: 02·08·2019

Yn ôl i frig y dudalen

Adolygu


Tomos Morgan

Heb os mae angen cryn sensitifrwydd wrth ymhél – neu ymyrryd – â digwyddiad lle mae teimladau mor gryf ac emosiynau mor amrwd. Mewn cyd-destun newyddiadurol, er enghraifft, mae’n hysbys pa mor real yw perygl dwysáu trallod teuluoedd sydd eisoes mewn galar drwy gyhoeddi erthygl neu…

Cyfansoddi


John Emyr

Casglodd Glyn ei fagiau gan sylwi, drwy ffenest ei lofft, fod llechi’r toeau yn sych. Hyd yma, ar y bore hwn o Fai ym Mangor Uchaf, roedd y tywydd o’i blaid. Er iddo glywed chwyrniadau ffrae atmosfferig y cymylau uwchlaw’r Carneddau neithiwr, roedd…

Adolygu


Angharad Penrhyn Jones

Mae’r profiad o ddarllen y gyfrol hon fel eistedd ar soffa yn gwrando ar ferch alluog, ddidwyll a byrlymus yn adrodd hanes ei bywyd, paned mewn un llaw, hancesi papur mewn llaw arall, a digon o chwerthin. Mae’n lyfr mor hawdd ei ddarllen ar un ystyr, mor agos at rywun, y…

Cyfansoddi


Osian Wyn Owen

Pobol coleg fu’n clegar ‘nad oes byd na phlaned sbâr wedi hon’ a bod ‘i wedd yr haf gynhesrwydd rhyfedd ... 

Cyfansoddi


Rhiannon Ifans

Piciodd Ingrid i'r ardd i dorri cabatsien. Roedd hi’n ddychryn o oer, ac asgwrn ei chlun yn boen byw rhwng y gwynt main a’r eira’n pluo’n ysgafn o gwmpas ei phen. Ers dyddiau roedd yr awyr dywyll fel petai’n dal ei hanadl, yn gyndyn o ryddhau mwy na sgeintiad…

Cyfansoddi


Carl Chapple

Yn 2013 y dechreuodd fy niddordeb mewn dawns. Cynigiodd John Livingston, dawnsiwr a hen ffrind i mi, eistedd ar gyfer llun. Roeddwn yn gweithio ar gyfres o bortreadau o berfformwyr llwyfan ar y pryd – comedïwyr ac actorion yn bennaf ... 

Dadansoddi


Angharad Closs Stephens

Dros y misoedd diwethaf aeth llawer ati i baentio ‘Cofiwch Dryweryn’ ar waliau ac adeiladau ar hyd a lled Cymru. O blith y rhai a welais i – mewn mannau cyhoeddus ac ar blatfform trydar – mae’r arwyddion fel petaent yn golygu amrywiol bethau i wahanol bobl. Gwelais un ag…

Adolygu


Dylan Huw

Yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst eleni, crëwyd yr hyn a alwyd yn AGORA, o hen ddrysau a gyfrannwyd gan bobl Sir Conwy. Gofod canolog, cyhoeddus ac agored yn ninas-wladwriaethau Hen Roeg oedd yr αγορά yn wreiddiol; mae’r gair hefyd yn golygu 'cynulliad' neu 'man cwrdd'. Paentiwyd y…