Dadansoddi

Sofraniaeth, senoffobia a’r Gymraeg


Emyr Lewis

Amser darllen: 30 munud

29·04·2017

Yn ôl cyhoeddwyr geiriadur Saesneg Collins, Brexit oedd ‘gair y flwyddyn’ y llynedd. Ni welwyd erioed y fath gynnydd, mae’n debyg, mewn defnydd o air newydd ag a welwyd yn achos y gair hwn.

Cyfuniad yw’r gair, wrth gwrs, o ‘Britain’ ac ‘exit’, ac mae hynny efallai’n ddarlun o’r disgwrs cyhoeddus am y pwnc hwn. Amdanom ni y Prydeinwyr y mae o, ac amdanom ni yn mynd allan. Ni chrybwyllir yr hyn yr ydym yn mynd allan ohono. Nid ymadael (‘leave’), sylwer, ond mynd allan (‘exit’). Mae’r gair yn cyfleu bod y weithred o adael yr Undeb Ewropeaidd fel mynd allan o adeilad neu stafell, yn hytrach nag ymadael â pherthynas neu berson. Drwy’r ddelwedd honno, mae’r gair yn llwyddo i symleiddio a dadbersonoli’r weithred ar yr un pryd. Cymaint haws yw bod yn bendant ac yn ‘galed’ wrth fynd allan o’r tŷ nag wrth ymadael â rhywun.

Y cwestiwn y gofynnwyd i ni bleidleisio arno oedd hwn: ‘A ddylai’r Deyrnas Unedig aros yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd neu adael yr Undeb Ewropeaidd?’ 

Dechreuaf drwy ddwyn y disgwrs yn ei ôl at yr hyn y pleidleisiwyd dros ei adael, sef yr Undeb Ewropeaidd. Cyn deall effaith bosib ymadael ar y Gymraeg, mae angen ystyried beth yw’r Undeb Ewropeaidd. Rwyf am wneud hynny drwy ganolbwyntio yn gyntaf ar ddwy agwedd ohoni, sef yr agwedd gyfreithiol (beth yw’r UE a beth yw ystyr ffurfiol ymadael â hi) a’r agwedd economaidd (beth mae’r UE yn ei wneud). Byddaf wedyn yn ystyried yn fras sut y gallai ymadael â pholisïau economaidd yr UE effeithio ar y Gymraeg, cyn ystyried effaith y refferendwm ar sefyllfa’r Gymraeg fel iaith leiafrifol yn Ewrop ac ar siaradwyr Cymraeg fel grŵp lleiafrifol yn y DG. Gorffennaf drwy grybwyll effaith y refferendwm ar un agwedd ar lywodraethiant Cymru, sef taith Mesur Cymru, a ddaeth yn Ddeddf ar 31 Ionawr eleni, drwy San Steffan, a sefyllfa’r Gymraeg yn sgil hynny.

Yr agwedd gyfreithiol

Er mwyn deall natur gyfreithiol yr Undeb Ewropeaidd, rhaid deall rhywbeth am gyfraith ryngwladol. Cyfundrefn yw cyfraith ryngwladol sy’n rheoli perthnasau rhwng gwladwriaethau a’i gilydd.  Datblygiad cymharol ddiweddar ydyw, yn dilyn twf cenedl-wladwriaethau, ac mae’n cadarnhau’r cysyniad o genedl-wladwriaethau fel endidau cyfreithiol annibynnol, y mae ganddynt hawliau a dyletswyddau mewn perthynas â'i gilydd.

Mae’r cysyniad hwn yn cael ei fynegi yn yr hyn a alwodd yr Athro Ian Brownlie ‘the basic constitutional doctrine of the law of nations’, sef sofraniaeth a chydraddoldeb gwladwriaethau. Yn ôl Brownlie, mae tri chanlyniad yn deillio o sofraniaeth a chydraddoldeb gwladwriaethau, sef 

  • awdurdodaeth (sydd ar yr wyneb yn ecsgliwsif) dros diriogaeth benodol a’i phoblogaeth barhaol
  • dyletswydd i beidio ag ymyrryd ym maes awdurdodaeth ecsgliwsif gwladwriaethau eraill
  • dyletswydd i gydymffurfio â chyfraith ryngwladol yn ddibynnol ar gydsyniad gwladwriaeth. Mewn geiriau eraill, mae gwladwriaeth yn rhydd i ddewis a yw hi, ac i ba raddau y mae hi, yn derbyn y gyfundrefn gyfreithiol ryngwladol.

Oherwydd y pwynt olaf hwn, sonnir yn aml am gyfraith ryngwladol fel cyfundrefn sy’n dibynnu ar gonfensiwn neu arfer, a hynny er mwyn gwahaniaethu rhyngddi a chyfraith ddomestig. Dan gyfraith ddomestig, er enghraifft cyfraith Cymru a Lloegr, does dim dewis gan ddinesydd (yn ôl y gyfraith beth bynnag) na chwaith y Llywodraeth, p’un ai i gydsynio i’r gyfraith ai peidio. Mae’n rhaid gweithredu yn unol â’r gyfraith. Os na wneir hynny, mae gan y llysoedd y pŵer i gosbi'r methiant hwnnw neu i orchymyn i iawn gael ei wneud amdano. Mae llysoedd rhyngwladol yn bodoli, wrth gwrs, ond nid oes modd gorfodi gwladwriaethau i ymddangos ger eu bron, na chwaith i fod yn rhwym wrth eu penderfyniadau. Fel y nodais yn fy nghyfraniad i ail rifyn O'r Pedwar Gwynt, gellir gweld bywyd ar y gwastad rhyngwladol, felly, fel rhyw fath o anarchiaeth sy’n cael ei rheoli drwy barodrwydd gwladwriaethau i gydsynio i drefn gyfreithiol, ond dim ond i’r graddau y mae hynny’n eu siwtio nhw.  

Trocadéro

Un o’r ffyrdd o osod trefn oddi mewn i’r anarchiaeth hon yw drwy gytundebau rhwng gwladwriaethau. Drwy gytundebu â’i gilydd, mae gwladwriaethau’n gallu rheoli’n ffurfiol y berthynas rhyngddynt. Gall cytundebau o’r fath fod yn rhai rhwng dwy wladwriaeth (dwyochrog / ‘bilateral’) neu rhwng mwy na dwy (amlochrog / ‘multilateral’). Fel mater o gyfraith ffurfiol, creadigaeth cytundebau rhyngwladol amlochrog yw’r Undeb Ewropeaidd. Y cytundeb presennol sy’n dwyn y cytundebau yma ynghyd yw’r un a elwir yn gytundeb Lisboa (‘Lisbon Treaty’), sy'n datgan cyfansoddiad yr Undeb Ewropeaidd. Mewn sawl ffordd, mae’r cyfansoddiad hwnnw’n debyg i gyfansoddiad clwb neu gymdeithas. Mae’r cyfansoddiad yn dweud pwy sydd yn aelod o’r clwb, beth yw ei ddibenion, beth yw ei reolau, sut mae’n gweithredu, pwy sydd yn cael pleidleisio dros beth, sut mae cyfri’r pleidleisiau hynny a sut mae datrys anghydfodau. Er mwyn gwneud hyn, crëir organau llywodraethiant penodol: Senedd Ewrop, y Comisiwn Ewropeaidd, Cyngor y Gweinidogion a’r Llys Cyfiawnder. Drwy’r cytundeb, mae pob gwladwriaeth sydd yn aelod o’r clwb yn cytuno i gadw at y rheolau hyn.

Mae un gwahaniaeth sylfaenol, fodd bynnag, rhwng yr Undeb Ewropeaidd a’r rhan fwyaf o sefydliadau a grëir drwy gytundeb amlochrog rhyngwladol: er mwyn bod yn aelod o’r clwb, mae’n rhaid i wladwriaeth sicrhau bod cyfraith Ewrop a’r hawliau a’r dyletswyddau sy’n deillio ohoni yn rhan o’i chyfraith ddomestig ei hun hefyd. O’r herwydd, mi fyddaf yn meddwl yn aml nad clwb yw’r ddelwedd orau ar gyfer yr Undeb Ewropeaidd ond yn hytrach sect grefyddol, gan fod rheolau’r lle yn dy rwymo ym mhob agwedd ar dy fywyd bob dydd, nid dim ond pan fyddi di'n mynd i’r capel. Yr wyt wedi ildio dy hawl i reoli dy fywyd domestig fel y mynnot, drwy fabwysiadu rheolau’r clwb.

Yn achos y Deyrnas Gyfunol, cyflawnwyd hyn drwy basio Deddf y Cymunedau Ewropeaidd ('European Communities Act’) ym 1972. Mae Adran 2(1) y ddeddf honno yn peri bod cyfraith a wneir ar y gwastad rhyngwladol gan yr Undeb Ewropeaidd yn rhan o gyfraith y Deyrnas Gyfunol ac, ar ben hynny, nad oes modd i gyfraith ddomestig oddi mewn i’r Deyrnas Gyfunol fod yn drech na chyfraith Ewrop. Lle bo anghysondeb, cyfraith Ewrop sy’n sefyll, nid yn unig fel mater o gyfraith ryngwladol ond hefyd fel mater o gyfraith ddomestig.

A dyma ddod ’nôl at sofraniaeth. Cofiwn mai dau o nodweddion sofraniaeth yw awdurdodaeth ecsgliwsif dros diriogaeth benodol a’i phoblogaeth, a rhyddid rhag ymyrraeth allanol. Mae’r ffaith fod y Deyrnas Gyfunol, fel gwladwriaethau eraill yr Undeb Ewropeaidd, wedi cytuno bod cyfraith Ewrop yn trosgynnu ei chyfraith hi ar y gwastad domestig yn golygu ei bod wedi ildio’r ddwy elfen hyn o sofraniaeth. Mae gan gyfreithiau a wneir gan Senedd a Chomisiwn yr Undeb Ewropeaidd a dyfarniadau ei Llys Cyfiawnder rym uniongyrchol oddi mewn i’r Deyrnas Gyfunol. Am y rheswm hwn, fe ddisgrifir yr UE fel corff goruwchwladol (‘supranational’) yn hytrach na rhyngwladol, er mwyn gwahaniaethu rhyngddi a Chyngor Ewrop, er enghraifft, lle nad yw’r corff na’i reolau yn tresmasu ar sofraniaeth ddomestig, heblaw i'r graddau y mae cyfraith ddomestig yn darparu fel arall (er enghraifft ym maes hawliau dynol).

Mae’r cysyniad hwn o golli sofraniaeth wedi peri annifyrrwch sylweddol i nifer o bobl, yn arbennig felly rai y gallem eu galw’n genedlaetholwyr Prydeinig neu Seisnig. Dyna i chi eiriau enwog yr Arglwydd Denning ym 1974 yn achos H P Bulmer Ltd v J Bollinger SA (No 2) [1974] lle disgrifiodd gyfraith Ewrop ‘like an incoming tide. It flows into the estuaries and up the rivers. It cannot be held back.’ Mae’r ddelwedd a’r rhethreg yn cyfleu i’r dim feddylfryd llawn panig y cenedlaetholwr o gael ei drechu a’i ddifwyno gan rym estron sydd y tu hwnt i’w reolaeth, ac yn atgoffa dyn o ddelweddau eraill: moch yn difetha gwinllan, er enghraifft.

Credaf nad yw’r rhai sydd, fel fi, wedi gwrthwynebu ymadael ac sy’n parhau i wneud hynny wedi sylweddoli pa mor gryf yw’r teimlad hwn o adfer sofraniaeth genedlaethol a fynegwyd mor groyw yn y sloganau ‘I want my country back’ a ‘Taking back control’. Gan mor llafar ac mor chwerw oedd y rhethreg negyddol, wrth-estron, hiliol a senoffobaidd a oedd yn cyd-fynd yn aml â’r sloganau hyn, ni thalwyd fawr o sylw i’r bobl hynny, y credaf eu bod yn niferus, nad oeddent yn hiliol nac yn senoffobaidd, ac a oedd yn dirnad y colli sofraniaeth yma fel elfen o golli hunaniaeth. Mae cymdeithasegwyr, mae’n debyg, yn sôn am ‘ingroups’ ac ‘outgroups’. Ingroups yw’r cymunedau hynny y mae rhywun yn perthyn iddynt neu’n uniaethu â nhw, ac outgroups yw’r rheiny nad yw rhywun yn perthyn iddynt neu’n uniaethu â nhw. Nid yw cariad neu deimladau cadarnhaol tuag at yr ingroup yn golygu o anghenraid gasineb neu deimladau negyddol tuag at yr outgroup. Gellid barnu llawer o Brexiteers am fod yn genedlaetholwyr rhamantaidd afrealistig neu’n ymreolwyr cibddall, ond dydy hynny ddim yn eu gwneud yn hilgwn na chwaith yn gwneud eu safbwynt yn annilys.

Ochr arall y geiniog, wrth gwrs, yw nad y Deyrnas Gyfunol yn unig sydd wedi ildio ei sofraniaeth fel hyn, ond pob gwladwriaeth yn yr Undeb Ewropeaidd. Yn sgil yr ildio sofraniaeth hwn gan y gwladwriaethau, y mae gennym ni fel dinasyddion hawliau y medrwn eu harddel a’u gweithredu ledled gwledydd yr Undeb Ewropeaidd, er enghraifft yr hawl ddilyffethair i fynd i wlad arall i weithio neu i fyw. Dyma hawliau sydd mewn peryg o ddiflannu, ac fe fydd hynny’n crebachu ein byd yn sylweddol.

Nid yw gofod yn caniatáu i mi fynd ar drywydd mecanwaith cyfansoddiadol a chyfreithiol Brexit [gweler Emyr Lewis, 'Cyfraith a chyfansoddiad Brexit', O'r Pedwar Gwynt, rhifyn 2, Nadolig 2016] na phenderfyniad gloyw diweddar yr Uchel Lys am Erthygl 50 Cytundeb yr Undeb Ewropeaidd. Digon yw dweud mai ystyr ffurfiol y DG yn ymadael â’r UE yw ymadael â’r clwb hwn. Byddai cyfraith yr UE yn peidio â bod yn rhan o gyfraith y DG a byddai sofraniaeth y DG mewn cyfraith ryngwladol wedi ei hailorseddu’n gyflawn.  

Yr agwedd economaidd

Gellid dadlau mai craidd yr Undeb Ewropeaidd ers ei chychwyn fel ‘marchnad gyffredin’ yw chwalu rhwystrau rhag masnachu ar draws ffiniau’r gwladwriaethau sydd yn aelodau o’r Undeb. Oddi mewn i’r anarchiaeth gysefin a ddisgrifiais uchod, mater o bawb drosto’i hun yw hi pan ddaw hi’n fater o fasnachu’n rhyngwladol. Cyn y cyfnod modern, manteisiodd Cymry blaenllaw ar y rhyddid masnachu rhyngwladol hwn: gallwn enwi Harri Morgan a Barti Ddu, er enghraifft.

Un ffordd i wladwriaethau geisio hybu twf economaidd yw drwy ffafrio eu busnesau a’u cynnyrch eu hunain, a gosod rhwystrau ar fusnesau a chynnyrch estron. Oherwydd sofraniaeth, mae gwladwriaethau’n medru gwneud hyn. Un ffordd o’i wneud yw drwy osod treth neu dollau ar gynnyrch sy’n cael ei fewnforio (‘tariffau’), a darparu nawdd i fusnesau er mwyn iddynt allu allforio (‘cymorth y wladwriaeth’). Mae nifer o anghydfodau rhyngwladol a rhyfeloedd wedi digwydd oherwydd ymddygiad o’r fath gan wladwriaethau.

Bwriad yr UE yw ysgogi masnach rydd rhwng gwladwriaethau oddi mewn i’w ffiniau. Yn wreiddiol, ei phrif gyrhaeddiad oedd gwahardd tariffau rhwng gwladwriaethau a’i gilydd oddi mewn i ffiniau’r Undeb, a gwahardd cymorth y wladwriaeth. Datblygodd hyn yn rhaglen gynyddol o chwalu rhwystrau o bob math yn erbyn masnachu rhyngwladol er mwyn creu y ‘farchnad sengl’, fel y’i gelwir, er enghraifft drwy wahardd rheolau sy’n cyfyngu mynediad i fath arbennig o broffesiwn neu waith mewn ffordd sy’n ffafrio dinasyddion y wladwriaeth yn unig. Dyna pam mae cysgod Brexit mor drwm ar Ddinas Llundain – y rheoliadau ‘pasbort’, fel y’u gelwir, sy’n galluogi banciau a sefydliadau ariannol eraill Llundain i weithredu ledled yr Undeb Ewropeaidd. Heb y rhain, bydd hi’n sylweddol anos arnynt.

Mae yna bedwar ‘rhyddid’ sydd yn greiddiol i’r farchnad sengl, sef:

  •     rhyddid symud nwyddau
  •     rhyddid symud gwasanaethau
  •     rhyddid symud pobl a gweithwyr a sefydlu busnesau
  •     rhyddid symud cyfalaf / arian

Mae unrhyw beth sy’n tueddu i rwystro’r pedwar rhyddid hyn yn debygol o fod yn anghyfreithlon dan gyfraith yr UE ac felly dan gyfraith y DG.

Eto, mae agwedd arall hollbwysig ar yr UE, sef nad yw dogma’r farchnad rydd yn cael ei ffordd yn ddilyffethair. Mae economegwyr clasurol yn aml yn sôn am yr ‘allanolion’ (‘externalities’) sydd yn effeithio ar allu marchnadoedd i weithredu’n effeithlon. Mewn sefyllfa lle nad oes rheolau yn erbyn llygru’r amgylchedd, nid yw cynhyrchwyr nwyddau sy’n peri llygredd yn ysgwyddo’r gost o lygru, ac felly nid yw’r prisiau a delir am y nwyddau hynny’n adlewyrchu’r wir gost. Mae baich cymdeithasol llygredd yn cael ei ysgwyddo gan y gymdeithas. Felly mae’r UE yn rheoleiddio gwarchod yr amgylchedd a hefyd yn caniatáu elfen o gymorth y wladwriaeth i fusnesau er mwyn ceisio lleihau niwed i’r amgylchedd, er enghraifft drwy gynhyrchu trydan drwy ddulliau adnewyddadwy.

Felly, ar yr olwg gyntaf, effaith ymarferol y DG yn ymadael â’r UE yw y bydd gan y DG a’i busnesau, drwy beidio â gorfod cadw at reolau cyfraith Ewrop, fwy o ryddid i weithredu ym maes masnach ryngwladol. Camargraff yw hynny, fodd bynnag, sy’n deillio yn fy marn i o gamddealltwriaeth o natur sofraniaeth ar y gwastad rhyngwladol. Er i mi nodi mai anarchiaeth yw cyd-destun cyfraith ryngwladol yn y bôn, ym maes masnach, fodd bynnag, mae’r rheidrwydd i alluogi masnachu yn golygu bod cytundebau yn bodoli rhwng gwladwriaethau a grwpiau o wladwriaethau (fel yr UE) a’i gilydd. Efallai mai'r pwysicaf o’r cytundebau amlochrog hyn yw Sefydliad Masnach y Byd (‘World Trade Organisation’), y mae’r DG a'r UE yn rhan ohono, ac sy’n rheoli masnach rhwng y rhan fwyaf o wledydd y byd. Craidd y cytundeb hwn yw bod hawl gan wladwriaethau i osod tariffau ar ei gilydd, ond bod yn rhaid gwneud hynny mewn ffordd nad yw’n ffafrio un wladwriaeth ar draul un arall oni bai fod yna gytundeb masnachu dwyochrog gyda’r wladwriaeth honno. Dyma’r rhwyd ddiogelwch ryngwladol. Os na ddaw’r DG a’r UE i gytundeb masnachu amgen, dyma fydd sail y berthynas rhyngddynt. Mae rheolau oddi mewn i’r WTO sy’n gwahardd cymorth y wladwriaeth hefyd, a materion gwrth-gystadleuol eraill. Nid yw sofraniaeth ar y gwastad rhyngwladol, sef y rhyddid i gydsynio neu beidio i bethau, yr un fath â sofraniaeth ar y gwastad domestig, sef yr hawl i wneud beth a fynnoch oddi mewn i’ch tiriogaeth. Mae’n ddigon hawdd datgan bod y DG yn sofran, ond er mwyn iddi hi weithredu ar y gwastad rhyngwladol mi fydd yn ofynnol iddi wneud cytundebau, a thrwy hynny ildio rywfaint o’i rhyddid bondigrybwyll er mwyn manteisio ar yr hyn sydd gan wledydd eraill i’w gynnig. Yn y pen draw, nid mater o gyfraith yw masnach ryngwladol ond mater o ymarferoldeb, negodi, cyfaddawdu a grym masnachol.

Dyma un rheswm pam mae Brexit yn gymaint o gur pen i wleidyddion y DG. Mae natur Erthygl 50 cytundeb Lisboa ynghyd â hunan-les aelodau eraill yr UE (ar y cyd ac yn unigol) yn golygu (1) bod sefyllfa negodi y DG yn wannach nag y gallai fod, a (2) nad oes modd gweld o ble y daw cyfaddawd ynglŷn â mater sylfaenol rhyddid pobl a gweithwyr i symud ar y naill law a mynediad di-dariff i’r farchnad sengl ar y llall. Digon hawdd dweud ‘’Dan ni’n sofran ac yn rhydd’. Tipyn anos yw byw bywyd felly, oni bai mai Gogledd Corea yw eich model. Serch hynny, ymddengys fod Llywodraeth y DG ar hyn o bryd wedi dewis gosod rheoli mewnfudo (a thrwy hynny, wadu rhyddid symud pobl) uwchlaw pob ystyriaeth arall, ac mae adleisiau pwerus o'r agwedd hon i'w canfod yn rhethreg a gweithredoedd yr Arlywydd Trump yn America.

Yr economi a’r Gymraeg

Dydw i ddim wedi sôn rhyw lawer am y Gymraeg hyd yn hyn, ac efallai mai dyma’r lle cyntaf a’r pwysicaf i’w chrybwyll hi, sef ym maes masnach ac economeg.  Mae ‘Tai a gwaith i gadw’r iaith!’ yn hen slogan, ond yn fy marn i mae’n parhau'n wir. Tueddaf i gredu mai un o’r rhesymau dros lwyddiant cymharol y Gymraeg o’i chymharu â’r ieithoedd Celtaidd eraill yw ei bod hi wedi bod yn ddigon cryf i sefyll ei thir fel iaith gymunedol mewn ardaloedd lle bu datblygiad economaidd sydyn iawn a mewnlifiad o weithwyr. Nid yn unig yr oedd hynny’n golygu nad oedd angen gadael cymunedau fel Blaenau Ffestiniog a Chwm Gwendraeth i chwilio am waith, roedd hefyd yn golygu bod angen i newydd-ddyfodiaid ddysgu’r iaith er mwyn cymathu i’r gymuned. Er bod pethau wedi newid, yn enwedig o ran cymathiad newydd-ddyfodiaid, yr wyf mor bendant fy marn ag y gallaf fod bod llewyrch economaidd mewn ardaloedd lle mae’r Gymraeg yn iaith gymunedol gref yn hanfodol ar gyfer ei pharhad.

Enghraifft nodedig o sut mae’r UE yn ymwneud ag ‘allanolion’ yw maes polisi rhanbarthol. Mae marchnad rydd yn medru creu sefyllfaoedd lle mae cyfoeth yn cronni mewn llefydd penodol oddi mewn i diriogaeth y farchnad, ac mae hynny’n gallu creu anghyfartaledd cyfoeth sydd yn ei dro yn arwain at gostau cymdeithasol uwch drwy daliadau lles ac ati. Nid yw datrysiad gor-syml selotiaid ‘on your bike’ masnach rydd yn ddigonol i ddelio â hyn, yn arbennig mewn ardaloedd lle bu llewyrch economaidd a wanychodd maes o law. Mae polisïau rhanbarthol yr UE yn bodoli er mwyn lliniaru rhywfaint ar y broblem hon. Drwy’r cyfryw bolisïau, mae’r UE yn gwneud dau beth. Yn gyntaf, mae’n dargyfeirio cyllid i’r ardaloedd mwy anghenus, ac yn ail mae’n llacio rheolau yn erbyn cymorth y wladwriaeth drwy ganiatáu i lywodraethau roi grantiau neu fuddsoddiadau ar delerau ffafriol i fusnesau yn yr ardaloedd hynny.  

Mae rhannau helaeth o Gymru wedi manteisio ar hyn, wrth gwrs, gan gynnwys yr ardaloedd hynny lle mae’r Gymraeg yn iaith gymunedol gref. Er na fu’r ffordd y gwariwyd yr arian yn fuddiol o ran twf economaidd bob tro efallai, does dim dwywaith yn fy marn i nad yw’r Gymraeg wedi bod ar ei hennill oherwydd ymyrraeth yn y farchnad yn sgil yr arian strwythurol sydd wedi dod i Gymru gan gronfeydd yr UE.

Yn wahanol i’r UE, nid oes gan y Deyrnas Gyfunol bolisi rhanbarthol â nod o gynyddu llewyrch economaidd mewn ardaloedd llai breintiedig. Mae’r system les yn golygu bod unigolion llai breintiedig yn derbyn peth cymorth, ond nid oes rhaglen strategol o ddargyfeirio adnoddau o ardaloedd goludog er mwyn eu buddsoddi mewn ardaloedd lle mae angen datblygiad economaidd.  Nid yw’r arian a drosglwyddir i Lywodraeth Cymru drwy fformiwla Barnett yn cydnabod y gwahaniaeth angen rhwng Cymru a Lloegr. Heb bolisi ar ran Llywodraeth Prydain o gynorthwyo buddsoddiad mewn ardaloedd difreintiedig, a darparu’r cyllid ar gyfer hynny, bydd yr her economaidd i ardaloedd lle mae’r Gymraeg yn iaith gymunedol gref yn dwysáu. Bydd mwy o bobl, a phobl ifanc yn arbennig, yn gadael.

Hefyd, mae angen cadw mewn cof bwysigrwydd y diwydiant amaeth i’r ardaloedd cefn gwlad hynny lle mae’r Gymraeg yn gryf, a’r trefi a phentrefi yn yr ardaloedd hynny. Nid wyf yn arbenigwr yn y maes hwn o gwbl, ond mi fentraf ddyfalu bod busnesau ffermio teuluol yr ardaloedd Cymraeg wedi bod fwy ar eu hennill nag ar eu colled yn sgil Polisi Amaethyddol Cyffredin yr UE.  Mae dadansoddiad Dr Prysor Williams o Brifysgol Bangor yn cadarnhau hyn, a hefyd yn tynnu sylw at yr effaith debygol ar wead cymdeithasol, economaidd ac felly ieithyddol yr ardaloedd hynny pe na bai arian yn dod i gymryd lle'r cymorthdaliadau Ewropeaidd.

Yr hyn y mae angen ei gadw mewn cof am y cyfryw effeithiau economaidd ar y Gymraeg yw y byddant yn digwydd boed y Brexit yn ‘galed’ neu beidio. O adael, ni fydd polisi rhanbarthol yr UE na’i pholisi amaeth yn weithredol yng Nghymru. Mater i Lywodraeth y DG fydd penderfynu a yw am gynnal polisïau o’r fath.

Niwl

Ymadael, a’r effaith ehangach ar y Gymraeg

Symudaf yn awr i ymdrin yn ehangach, yn fwy goddrychol efallai, ag effaith y refferendwm ar y Gymraeg. Yr wyf am sôn am y Gymraeg fel iaith leiafrifol yn Ewrop ac am y Cymry Cymraeg fel lleiafrif yn y DG.

Problemau amlieithedd 

Hoffwn yn gyntaf ddychwelyd at y cysyniad o ingroup ac outgroup. Gwyddom am y peryglon sydd yn deillio o ddemoneiddio unigolion ar y sail eu bod yn perthyn i grŵp gwahanol. Mae drwgdybiaeth tuag at yr ‘arall’ yn gallu arwain at gasineb a thrais.

Hyd y gwelaf i, lle diffinnir yr arall yn nhermau iaith, mae’r potensial am ddrwgdybiaeth yn uchel.  Nid mater o fod yn perthyn i grŵp gwahanol mo hyn yn unig, ond mater o fod yn perthyn i grŵp sy’n meddu ar nodwedd sy’n llesteirio dealltwriaeth, sef ei iaith ei hun. Mae’r anghyfiaith yn outgroup anos ei ddirnad na’r un. Nawr, fe fydd gan bob grŵp i raddau mwy neu lai ei lect ei hun, ys dywed yr ieithegwyr, ei ffordd ei hun o siarad ac o fynegi pethau. Mae gan bob teulu ei eiriau a’i ymadroddion ei hun, sydd yn ystyrlon i’w aelodau, ond nid i’r rheiny nad ydynt yn aelodau. Wyddoch chi, er enghraifft, beth yw ‘bogos’ a ‘llebes’?  Dyma eiriau sydd yn gysefin yn fy nheulu i, ond yn ddryswch pur i bobl o’r tu allan. Eto i gyd, Cymraeg yw iaith y teulu. Ni fyddai’n anodd i rywun arall sy’n medru’r Gymraeg wylio fy nheulu a meithrin dealltwriaeth o natur y grŵp a’r berthynas rhwng ei aelodau. Ond mae grŵp a ddiffinnir gan ei iaith ei hun yn cynnig mwy o her i’r sawl a fyn ei ddeall o’r tu allan. Mae fy nheulu yn rhan o ingroup siaradwyr Cymraeg. Peth anodd iawn yw hi i rywun nad yw’n perthyn i’r ingroup hwnnw feithrin dealltwriaeth o’i natur, gan na fydd yn meddu ar y prif arf ar gyfer gwneud hynny, sef dealltwriaeth o’r Gymraeg.

Credaf fod y ffactor hwn, a’r ddrwgdybiaeth sy’n deillio ohono, wedi bod yn llestair ymarferol, seicolegol a gwleidyddol i ffyniant y Gymraeg oddi mewn i’r DG. Mae hynny’n arbennig o wir oherwydd bod y rhan helaethaf o’r ingroup yn medru Saesneg yn rhugl. Yn aml, gwelir y Gymraeg fel cod dirgel sy’n bodoli er mwyn cau pobl allan, cynllwynio yn eu herbyn neu sicrhau breiniau megis swyddi i aelodau’r ingroup. Ac weithiau, rhaid cydnabod bod rhai aelodau o’r ingroup yn ymddwyn felly.  

Mae hyn yn fwy o broblem oherwydd mai tiriogaeth unieithog yw rhan helaethaf y Deyrnas Gyfunol, ac mai iaith y diriogaeth honno fu unig iaith grym masnachol, gwleidyddol a chyfreithiol am ganrifoedd, hyd yn oed yn yr ardaloedd bychain y tu allan i’r diriogaeth honno lle siaredir mwy nag un iaith.

Amlieithedd Ewrop a’r Gymraeg

Mae’r un peth yn wir, wrth gwrs, am nifer o wladwriaethau eraill yr UE, yn arbennig felly y rhai hynny a fu yn eu tro yn rymoedd imperialaidd. Un o brif ddulliau ymerodraeth yw gwastrodi ieithyddol, er mwyn sicrhau unffurfiaeth y rhai a lywodraethir. Does ond angen edrych ar y modd y daeth tafodiaith ardal Paris, drwy orfodaeth, yn iaith swyddogol Ffrainc, neu sut y daeth tafodiaith ysgolion bonedd Lloegr yn ‘received pronunciation’, i weld hyn ar waith.

Eithr ar lefel tiriogaeth Ewrop gyfan, nid oes modd gweithredu fel hyn yn ymarferol. Er (neu efallai oherwydd) bod Saesneg wedi datblygu’n iaith ryngwladol a siaredir ar draws cyfandir Ewrop, mae amrywiaeth ieithyddol y diriogaeth yn parhau’n nodwedd sydd yn ei diffinio, a hefyd yn rhywbeth y mae angen ei ddathlu. Mae’r Undeb Ewropeaidd yn ei hanfod yn amlieithog, oherwydd bod y diriogaeth y mae’n ei chwmpasu yn amlieithog, a thra bo’r DG yn dal yn aelod o’r UE, mae’r Gymraeg yn bodoli oddi mewn i’r cyd-destun amlieithog hwnnw.

Oddi mewn i nifer o wledydd Ewrop, mae amlieithrwydd yn fater sy’n fwy gwleidyddol gymhleth na lleiafrif bychan sy’n ‘dipyn o boendod i’r rhai sy’n credu mewn trefn’. Yn aml mae iaith lleiafrif mewn un wladwriaeth yn iaith mwyafrif neu’n iaith swyddogol mewn gwladwriaeth arall. Meddylier am siaradwyr Eidaleg yng Nghroatia, siaradwyr Ffinneg yn Sweden, siaradwyr Hwngareg, Almaeneg ac Iwcraineg ledled canol Ewrop. Mae gwastrodi lleiafrif ieithyddol y mae ganddo ‘kin state’ pwerus yn beth peryglus i’w wneud. Hyd yn oed oddi mewn i’r UE, er enghraifft, bu diffyg hawliau iaith yr hanner miliwn o siaradwyr Hwngareg yn Slofacia yn destun gwrthdaro gwleidyddol difrifol.

Mae Cytundeb yr Undeb Ewropeaidd yn cydnabod yr amrywiaeth hon. Mae Erthygl 3(3) sydd yn datgan hanfodion pwrpas yr UE yn cynnwys ymrwymiad yr Undeb fel a ganlyn: It shall respect its rich cultural and linguistic diversity, and shall ensure that Europe’s cultural heritage is safeguarded and enhanced. Dyma osod amrywiaeth ddiwylliannol ac ieithyddol yn un o brif gonglfeini cyfansoddiad Ewrop. Mae Erthygl 2 y cytundeb wedyn yn mynnu ‘parch i hawliau pobl sydd yn perthyn i leiafrifoedd’ ac mae Siarter Hawliau Sylfaenol Ewrop yn gwahardd camwahaniaethu ar sail iaith.  

Ar ben hynny, mae cyfreithiau Ewropeaidd yn ystyried amrywiaeth ieithyddol fel rhywbeth y mae angen ei ddiogelu fel mater o bolisi mewn meysydd economaidd lle mae yna fygythiad i’r amrywiaeth honno. Mae hi’n deg dweud, wrth gwrs, bod gwahanol raddfeydd o gydnabyddiaeth i ieithoedd yn yr UE ar lefel ffurfiol. Yn y lle cyntaf, mae yna ieithoedd y mae gwladwriaethau sy’n aelodau o’r UE wedi eu nodi fel ieithoedd swyddogol. Dyma’r ieithoedd y mae’r prif gytundebau a deddfau Ewropeaidd ar gael ynddynt, a’r ieithoedd y medrir eu defnyddio yn ddiamod yn Senedd Ewrop. Nid yw’r rhain yn cynnwys y Gymraeg, er eu bod yn cynnwys y Wyddeleg. Mae gan y Gymraeg, serch hynny, statws a elwir yn ‘gyd-swyddogol’ neu ‘co-official’, megis y Gatalaneg a’r Fasgeg, sydd yn rhoi hawliau i ddinasyddion ohebu yn y Gymraeg efo’r Comisiwn, a derbyn ateb, ac mae peth defnydd o’r Gymraeg wedi bod yng ngweithgareddau’r Senedd. Serch hynny, Llywodraeth Cymru, nid cyllideb yr UE, sydd yn gorfod ysgwyddo’r gost o sicrhau hyn.

Felly, er nad ydy sefyllfa feunyddiol y Gymraeg yn Ewrop fawr ddim gwahanol i’r hyn ydyw ar raddfa Brydeinig, mae ymlyniad yr UE at amrywiaeth ieithyddol fel hanfod cyfansoddiadol yn rhoi safle ffurfiol a chreiddiol iddi nad yw’n bodoli oddi mewn i’r DG y tu allan i Gymru. Mae dau ganlyniad pwysig yn deillio o hyn. Yn y lle cyntaf, mae’n golygu bod y Gymraeg yn bodoli mewn cyd-destun lle mai amrywiaeth ieithyddol yw’r norm, nid yr eithriad. Nid yw seicoleg yr UE yn wrthwynebus i amrywiaeth ieithyddol fel mater o egwyddor. Yn ail, mae’n drosol cyfreithiol sy’n rhoi gofod a chyfle i’r Gymraeg gydweithio a chyd-ymgyrchu ag ieithoedd lleiafrifol di-wladwriaeth eraill megis y Gatalaneg a’r Fasgeg.

Yn 2013, pleidleisiodd 92 y cant o aelodau Senedd Ewrop o blaid cynnig manwl yn galw ar wladwriaethau sy’n aelodau o’r UE i weithredu er lles ieithoedd dan fygythiad ac ieithoedd lleiafrifol ar draws Ewrop. Er nad oedd grym cyfreithiol i’r cynnig, mae’n dangos bod diogelu ieithoedd lleiafrifol yn destun polisi sydd yn berthnasol ar draws y cyfandir. Cafodd ymlyniad yr UE at ieithoedd lleiafrifol ei amlygu hefyd wrth i wladwriaethau o’r cyn-floc Sofietaidd ymuno â’r Undeb. Un o amodau ymaelodi y gwladwriaethau hynny oedd eu bod yn ymrwymo hefyd, drwy Gyngor Ewrop, i Siarter Ieithoedd Rhanbarthol neu Leiafrifol Ewrop, ac i’r Confensiwn Fframwaith ar gyfer Amddiffyn Lleiafrifoedd Cenedlaethol (sy'n cynnwys darpariaethau o blaid ieithoedd lleiafrifol). Er gwaetha'r rhagrith sydd ynghlwm wrth y pwnc (nid yw Ffrainc, er enghraifft, sydd yn aelod o’r UE ers y cychwyn, wedi ymddarostwng eto i ymrwymo i’r Siarter), dyma ddangos awydd yr UE i sicrhau bod y gwladwriaethau hyn yn cyrraedd lefel o ymrwymiad rhyngwladol er mwyn diogelu lleiafrifoedd ieithyddol oddi mewn i’w tiriogaethau.

Rhaid cydnabod, serch hynny, nad yw’r Undeb Ewropeaidd wedi gosod diogelu hawliau lleiafrifoedd a’u hieithoedd yn rhan o brif ffrwd ei gwaith. Yn 2013 cyflwynwyd deiseb i’r Comisiwn Ewropeaidd yn cynnig bod Senedd Ewrop yn mabwysiadu polisi ac yn creu deddfau er mwyn diogelu ieithoedd lleiafrifol. Gwrthodwyd hyn gan y Comisiwn ar y sail nad oedd y meysydd hyn yn rhai oddi mewn i bwerau’r UE. Materion i’r gwladwriaethau unigol oeddent. Fis Medi y llynedd cynhaliwyd achos yn Llys Cyffredinol yr Undeb Ewropeaidd i herio’r penderfyniad hwn. Ar 3 Chwefror eleni, cyhoeddodd y Llys ei ddyfarniad o blaid yr her. Nid oedd y Comisiwn wedi darparu rhesymau o gwbl dros ei gasgliadau, felly nid oedd modd i'r dinasyddion ddeall sut y daeth i'w benderfyniad. Bydd yr ymgyrch hon yn parhau, felly. Hyd yn oed wedyn, fodd bynnag, nid oes gwarant y bydd deddf yn deillio o hyn. Un peth yw datgan cefnogaeth i ieithoedd lleiafrifol, peth arall yw deddfu o’u plaid. Eto, saif y ffaith bod miliwn o bobl wedi cefnogi'r ddeiseb. 

Beth bynnag a ddaw, byddai i’r DG ymadael â’r UE yn golygu bod y Gymraeg yn cilio o gyd-destun cyfansoddiadol lle mae ganddi gefnogwyr a chynghreiriaid brwd. Byddai’r DG, wrth gwrs, yn dal yn rhwym wrth Siarter a Chonfensiwn Fframwaith Cyngor Ewrop, sydd yn rhoi troedle i’r Gymraeg ar y llwyfan Ewropeaidd, ond nid yw Cyngor Ewrop yn darparu cyd-destun gwleidyddol sefydliadol mor gryf ag a wna’r UE. At hynny, mae rhywun yn synhwyro beth bynnag nad yw Llywodraeth bresennol y DG yn orawyddus i fynd i’r afael â gofynion yr offerynnau rhyngwladol hyn.  

Credaf ei bod hi’n fater o egwyddor, ond hefyd yn fater o strategaeth, ein bod yn mynd i’r afael â diogelu’r iaith a hawliau ei siaradwyr yn rhan o dirlun ehangach hawliau lleiafrifoedd a chydraddoldeb yn Ewrop, ac y dylem ddechrau dwyn pwysau ar Lywodraeth y DG yn hyn o beth. 

Y Gymraeg oddi mewn i’r DG

Dyma droi felly at ddylanwad y refferendwm ar sefyllfa’r Gymraeg fel iaith leiafrifol oddi mewn i’r Deyrnas Gyfunol.

Crybwyllais uchod y Brexiteers hynny a oedd yn frwd o blaid adfer sofraniaeth Brydeinig, gan rybuddio yn erbyn eu hystyried yn awtomatig fel hilgwn neu senoffobiaid. Fedrwn ni ddim gwadu, fodd bynnag, fod llawer o’r gefnogaeth i Brexit, a’r ymgyrchu drosto, wedi bod yn hiliol ac yn senoffobaidd. Ers y refferendwm, mae pethau wedi gwaethygu. Mae hi fel pe bai pobl yn teimlo bod ganddynt drwydded bellach i fynegi lefel o atgasedd ymosodol tuag at estroniaid o bob math nad oedd yn dderbyniol cyn y refferendwm. Ar ben hynny, mae gwleidyddion prif ffrwd, gan gynnwys gweinidogion y Goron a’r Prif Weinidog ei hun, wedi gwneud datganiadau am weithwyr tramor a’u dyfodol yn y DG na fyddent wedi meiddio eu gwneud cyn y refferendwm. Mae bygythiadau llwfr ar y ‘cyfryngau cymdeithasol’ bondigrybwyll i ladd pobl ac i dreisio menywod am eu bod yn mynegi eu barn yn arferol bellach. Mae ymosodiadau’r wasg ar aelodau o leiafrifoedd yn adlewyrchu a hefyd yn hybu hinsawdd lle mae erledigaeth yn ffynnu, a lle mae peryg y bydd pobl yn ofni dweud eu dweud. Mae dicter afresymol, a gwrth-resymol, yn nodwedd hyglyw o’r disgwrs beunyddiol.

Mewn sefyllfa felly, y lleiafrifoedd yn aml sydd dan y lach. Y rhain yw’r outgroups hawsaf eu gormesu a’u beio, am eu bod yn aml yn wan yn wleidyddol ac yn ddigon ‘gwahanol’ i gael eu harallu, eu dadbersonoli, eu dad-ddynoleiddio. Mae gen i bryder dros y Gymraeg yn y cyd-destun hwn. Mewn rhai ffyrdd, yr ydym yn gymharol ffodus fel lleiafrif ieithyddol yn Ewrop, er enghraifft ym maes darlledu, lle mae arian sylweddol wedi cael ei wario ar ddarpariaeth Gymraeg. Bu hynny’n bosib i raddau oherwydd llewyrch cymharol yr economi Brydeinig, sydd i’w briodoli – yn rhannol beth bynnag – i’r UE. Does dim dal a fydd y llewyrch hwnnw yn parhau wedi Brexit. Teimlaf weithiau ein bod mewn bàth cynnes, cysurus, lle mae peryg i’r dŵr oeri ac i’r plwg gael ei dynnu. Yr ydym yn lleiafrif yng Nghymru, ac yn lleiafrif llai fyth yn y DG. Yr ydym yn hen gyfarwydd â rhagfarn yn erbyn yr iaith, casineb tuag ati a mythau am ei siaradwyr hi. Mae llawer o waith da wedi ei wneud gan wleidyddion ac eraill i wrthsefyll hyn. Ar y cyfan, dengys arolygon barn yng Nghymru fod agweddau pobl tuag at y Gymraeg yn gefnogol, ond erys elfen fechan graidd sydd yn ei chasáu hi a’i siaradwyr, ac elfen fwy sydd yn drwgdybio’i siaradwyr. Does dim amser maith ers pan oedd ymosodiadau ar y ‘Welsh-speaking elite’ yn rhan o arfogaeth bob dydd gwleidyddion prif ffrwd populist asgell chwith honedig, yn ogystal â rhai asgell dde. Rhaid i ni fod yn barod i wrthsefyll rhethreg o’r fath os daw hi yn ei hôl, ac i sefyll ysgwydd yn ysgwydd nawr â lleiafrifoedd eraill sydd eisoes yn wynebu ymosodiadau tebyg a gwaeth. Dyma pam mae’n ofynnol hefyd i ni barhau i ddefnyddio’r sefydliadau a’r rhwydweithiau rhyngwladol sydd ar ôl, er mwyn cynghreirio gyda lleiafrifoedd ieithyddol eraill ein cyfandir.

Mesur Cymru a’r refferendwm

Gorffennaf trwy droi at effaith Brexit ar lywodraethiant Cymru a goblygiadau hynny i’r Gymraeg. Cyn cychwyn, a rhwng cromfachau megis, ni ddylid colli golwg ar y ffaith bod cyfraith Ewrop hefyd yn rhwymo organau llywodraethiant Cymru. Caiff hynny ei ddatgan yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006, ac mae Deddf Cymru 2017 yn ategu hynny. Bydd yn rhaid diwygio’r ddeddf er mwyn newid hynny yn sgil Brexit.

Nid canlyniadau cyfreithiol Brexit i Fesur Cymru sydd dan sylw gen i fan hyn, fodd bynnag, ond canlyniadau gwleidyddol.

Pan ddaw prif adrannau'r ddeddf newydd i rym byddant yn newid natur setliad datganoli Cymru o fod yn fodel pwerau a roddir i fod yn fodel pwerau a gedwir yn ôl. Bydd grym y Senedd yng Nghaerdydd i ddeddfu yn newid. Yn fras, yn hytrach na gallu deddfu mewn perthynas â meysydd penodol yn unig, bydd modd i’r Cynulliad Cenedlaethol ddeddfu ar unrhyw beth, gydag eithriadau penodol. O ran siâp y setliad, bydd hyn yn gosod Cymru ar yr un gwastad â’r Alban a Gogledd Iwerddon.  

Ond yn anffodus, mae’r ddeddf yn ddiffygiol mewn sawl ffordd, a hynny yn y bôn am fod Whitehall yn gyndyn i ollwng gafael ar reolaeth dros Gymru, ar ei sofraniaeth fewnol fel petai. Er enghraifft, mae cynnal y cysyniad mai un gyfraith sydd yn bodoli ar draws Lloegr a Chymru er gwaetha’r gwahaniaethau cynyddol rhwng y ddwy diriogaeth wedi arwain at ddrafftio cymhleth ac aneglur. Hefyd, mae nifer a chymhlethdod yr eithriadau gyfryw fel mai effaith y ddeddf fydd gwanhau grym deddfu’r Cynulliad yn sylweddol. Fel y nododd Richard Wyn Jones yn ei erthygl ddiweddar ar y pwnc yn Barn, mae Swyddfa Cymru yn rhy wan oddi mewn i Lywodraeth y DG i wrthsefyll adrannau Whitehall sy’n gyndyn i ollwng gafael. Roedd Pwyllgorau yn y Cynulliad ac yn Nhŷ’r Arglwyddi wedi beirniadu’r Mesur, a bu ond y dim i'r Cynulliad beidio â chydsynio iddo.  

Yr hyn oedd ei angen fwy na dim y llynedd oedd amser i bwyllo, i drafod ac i ddwyn perswâd, ond fe greodd y refferendwm ofod yn rhaglen ddeddfu Llywodraeth y DG. Creodd hynny – ynghyd ag awydd Whitehall i fanteisio ar y cyfle i adennill pwerau – fomentwm a gyfrannodd at setliad cyfansoddiadol annigonol arall i Gymru eto fyth.

Beth sydd a wnelo hyn â’r Gymraeg? Dau beth. Yn gyntaf, bydd cymhlethdod ac ehangder yr eithriadau yn golygu cwtogi ar allu’r Cynulliad i ddeddfu ar faterion yn ymwneud â’r Gymraeg. Yn ail, ystyrier y manylyn canlynol. Mae’r ddeddf newydd yn rhagori ar y gyfraith bresennol gyda golwg ar bwerau Gweinidogion Llywodraeth y DG mewn meysydd y mae gan y Cynulliad rym i ddeddfu ynddynt. Os daw’r Mesur yn gyfraith, bydd y Cynulliad yn gallu deddfu mewn modd sy’n effeithio ar y pwerau hynny yn y rhan fwyaf o achosion, yn dilyn ymgynghori â’r Gweinidog priodol. Mewn ambell achos, fodd bynnag, bydd yn rhaid derbyn cydsyniad y Gweinidog priodol. Hynny yw, bydd gan Whitehall veto yn y sefyllfaoedd hynny. Mae yna bum sefyllfa o’r fath. Un ohonynt yw ‘any function of a Minister of the Crown exercisable in relation to the Welsh language’.

Mae modd deall pam mae’r eithriadau eraill yn bodoli – mae rhai’n ymwneud â materion trawsffiniol, er enghraifft – ond beth yw’r rheswm dros yr eithriad hwn? Rydym yn sôn am feysydd lle mae grym deddfu ym mhob ffordd arall wedi ei roi i’r Cynulliad. Beth yw’r rheswm polisi dros roi veto i Whitehall dros swyddogaethau mewn perthynas â’r Gymraeg mewn meysydd sydd fel arall wedi eu datganoli i Gymru? Nid wyf wedi gweld na chlywed eglurhad na chyfiawnhad dros hyn, er i mi ofyn.  

Tybed ai’r hyn yr ydym yn ei weld fan hyn yw enghraifft o’r hen amheuaeth ohonom ni’r Cymry oblegid ein hiaith – dyma sydd yn ein gwneud yn ‘arall’ annealladwy, yn outgroup sydd yn medru cynllwynio heb i neb ein deall; rhaid peidio â chaniatáu i ni gael ein ffordd ein hunain, does wybod beth a wnawn.

Beth bynnag yw’r rheswm, dyma wadu i Gymru ryw dipyn sofraniaeth dros ei thrysor cenedlaethol unigryw. Os yw fy nyfaliad yn gywir, mae hwn yn bryder amdanom ni'r siaradwyr Cymraeg nad yw’n broblem oddi mewn i Ewrop, lle mae amlieithrwydd yn norm, a lle nad ydym yn od am nad Saesneg yw ein hunig iaith. Os mai mynd allan o’r tŷ mae Prydain, ymadael â chyfaill mae’r Gymraeg. Rhaid i ni gadw’r cysylltiad.

 

Diweddariad a thalfyriad o ddarlith a draddodwyd yn seminar 'Brexit a'r Gymraeg', Canolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor ar 8 Tachwedd 2016


Mae Emyr Lewis yn gyfreithiwr.

Lluniau gan Owen Martell.


Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


Yr wyf mor bendant fy marn ag y gallaf fod bod llewyrch economaidd mewn ardaloedd lle mae'r Gymraeg yn iaith gymunedol gref yn hanfodol ar gyfer ei pharhad

Dyddiad cyhoeddi: 29·04·2017

Yn ôl i frig y dudalen

Dadansoddi


Rhys Llwyd

Yn 1974, bu R Tudur Jones yn ddylanwadol wrth i Blaid Cymru geisio penderfynu lle y safai ar y sbectrwm dde-chwith. Roedd Tudur Jones, fel Gwynfor, yn credu na ddylai Plaid Cymru ildio i rethreg yr oes, hynny yw na ddylai ddatgan a…

Cyfansoddi


Elin Haf Gruffydd Jones

Meddai bardd Her Gyfieithu 2019, Julia Fiedorczuk o Wlad Pwyl: ‘Yr hyn sy'n ddelfrydol i mi ydy barddoniaeth sydd yn ymgomio gyda disgyblaethau eraill, er enghraifft bioleg; barddoniaeth sydd yn agored i ystod eang o fodau ac emosiynau, ond sydd hefyd ar yr un pryd yn ostynedig ac yn…

Dadansoddi


Aled Gruffydd Jones

‘La verdad no le interesa a nadie’, nid yw’r gwir o ddiddordeb i neb. Rhain oedd geiriau rhybuddiol ac iasoer un o gyfeillion Javier Cercas pan glywodd am fwriad disyfyd yr awdur i gychwyn cloddio i hanes ac ymdreiddio i feddylfryd ewythr ei fam, y ffasgydd brwdfrydig Manuel…

Dadansoddi


Gareth Leaman

Yn y misoedd diwethaf, ar hyd ac ar led Cymru, daeth dau fudiad protest gwahanol ond rhyng-gysylltiedig i'r amlwg, gan ddod at ei gilydd yn ein prifddinas. Y cyntaf yw'r adain Gymreig i'r mudiad rhyngwladol Extinction Rebellion a fu allan ar y stryd yn…

Dadansoddi


Morgan Owen

Beth yw wyneb poblyddiaeth? Wyneb blinedig, trist, trallodus. Nid yw’r ffromi a’r ysgyrnygu ond crychau egnïol, dros dro, ar y wyneb hwn; yn y dwfn y mae’r casineb yn llechu. A phrin mewn gwirionedd y bydd y casineb hwn yn brigo’n agored yng nghwrs y rhygnu…

Dadansoddi


Bethan Wyn Jones

I mi, un o linellau mwyaf dirdynnol y Gymraeg ydi hon gan Dafydd Namor: ‘Ni ddyly Mai ddeilio mwy.’ Fedra i ddim meddwl am lawer o bethau gwaeth na Mai yn methu deilio. Ond dyma ydi hanfod adroddiad a gyhoeddwyd 6 Mai 2019 gan y…

Adolygu


Rhianwen Daniel

Mae cymhwyso damcaniaeth ôl-drefedigaethol at hanes, diwylliant a gwleidyddiaeth Cymru wedi dod yn gynyddol ffasiynol dros y blynyddoedd diwethaf. Enghraifft newydd o hyn yw llyfr Martin Johnes, Wales: England’s Colony? Yn y gyfrol hon, dadleuir i'r gwrthwyneb na ddylid dehongli’r berthynas rhwng Cymru a Lloegr mewn termau trefedigaethol.

Cyfansoddi


Boz Groden

Bu ein cartwnydd yn y Gwrthryfel yn erbyn Difodiant ac yn tynnu lluniau o'r hyn a welai'n digwydd o'i gwmpas yn ystod y pythefnos dwys hwn o brotestio yn Llundain.