Gerald Morgan


Cymro a'i Lyfrau

Y Lolfa, 144tt, £9.99, Mehefin 2017

Tri pheth ar fy meddwl
Dadansoddi

Tri pheth ar fy meddwl


Gerald Morgan

Amser darllen: 12 munud

30·08·2017

1

Mae tinc o euogrwydd yn poeni’r meddwl. Newydd ddychwelyd o Lydaw wedi wythnos o wyliau gyda pherthnasau – braf iawn. Bwyta’n dda, mwynhau’r traethau, trefi Pont-Aven, Pontivy, Concarneau a Landerneau. Cyngerdd egnȉol gan gôr meibion Tregunc yn canu caneuon y môr, arddangosfa fawr o waith Picasso, ac yn bennaf oll, fordaith ddwyawr ar hen long-tair-hwylbren y Corentin i ynysoedd Glenan. Gwych – gwell hyd yn oed na gwyliau yn Llydaw’r llynedd a’r flwyddyn gynt. Pam felly’r anfodlonrwydd?

Yn y chwedegau, ac Enid a minnau heb gychwyn teulu, aethom fwy nag unwaith i Lydaw. Roedden ni wedi cwrdd ȃ’r Llydawr carismataidd Per Denez, ac wedi ein cyfareddu ganddo gymaint nes i ni osod pabell yn y car, teithio, a gosod y babell mewn gwersyll tu cefn i gartref Per a’i wraig hyfryd Morwenna yn Douarnenez. Dim ots bod hanner dwsin o wystrys wedi troi ’mherfedd tu fewn tu faes, dim ots bod corwynt wedi clymu’r babell amdanon ni fel amdo tua dau o’r gloch y bore. Roedd y croeso cynnes yn unigryw.

Roedd Per yn ffenomenon o egni a sirioldeb, o nerth a deallusrwydd – yn hynod debyg yn fy meddwl i Merȇd. Ar y pryd roedd yn dysgu yn y lycée lleol. Ond roedd yn codi pob bore am bump i weithio ar y radd bellach fyddai’n ei alluogi i ddysgu mewn prifysgol, a daeth yn y pendraw yn athro Llydaweg ym Mhrifysgol Rennes. Roedd hefyd yn golygu cylchgrawn misol o ryw 120 o dudalennau – Ar Vro. Ffrangeg oedd iaith y cyhoeddiad, ac heblaw erthyglau diwylliadol a gwleidyddol, byddai’n cynnwys peth wmbredd o wybodaeth am holl leiafrifoedd Ewrop. Ni fu’r fath gylchgrawn na chynt nac wedyn. Ymladdai Per dros leiafrifoedd Ewrop, ac yn bennaf dros y Llydaweg, gan lwyddo i newid statws yr iaith ym myd addysg er gwell. Bu farw yn 2011 yn 90 oed.

Trwyddo cawsom gwrdd ȃ nifer o arwyr eraill oedd yn ymroi i’r un nod, a hynny yn wyneb pob math o rwystrau, gwaeth o lawer nag unrhyw beth a wnaeth fywyd y Gymraeg yn anodd: y Tad Calvez, awdur yr astudiaeth gyntaf o addysg Gymraeg; y Tad Le Clerc, offeiriad gwlad a siaradai’r Gymraeg yn rhugl cyn dod i Gymru erioed; ac yn bennaf yn fy nghof, Ronan Huon, sefydlydd gwasg a chylchgrawn Al Liamm, heb gymhorthdal o unrhyw fath. Mae ei fab Tudual yn cario’r gwaith ymlaen.

Arwr arall, yn ei ffordd dawel a diymhongar, oedd Arzel Even (Jean Piette), oedd yn ddarlithydd mewn Llydaweg yn Aberystwyth yn y chwe-degau. Roedd yntau ymhlith y cenedlaetholwyr ifainc a ddihangodd o Lydaw i Gymru wedi diwedd yr Ail Ryfel Byd oherwydd yr erledigaethau a fu. Roedd pleidwyr y Llydaweg wedi goresgyn problemau cyhoeddi trwy ddefnyddio cylchgronau dyblygedig, ac roedd Arzel yn flaenllaw yn y gwaith hwnnw cyn ei farw disymwth yn 1970.

O ymweld ȃ Llydaw heddiw, mae sefyllfa’r Llydaweg wedi gwella – ar yr olwg gyntaf. Mae cynghorau lleol yn cael gosod arwyddion ffordd ddwyieithog. Mae arwyddion yn dangos lle mae ysgolion Diwan (iaith Lydaweg) yn bodoli. Hyd yn oed yn yr arddangosfa o waith Picasso, roedd un panel esboniadol mewn Llydaweg. Gwaetha’r modd, rwy’n tybio nad yw pethau’n agos mor obeithiol ag y byddai dyn yn dymuno. Ond erbyn hyn collais bob cysylltiad ȃ’r genhedlaeth bresennol o arweinwyr Llydaw, ac rwy’n teimlo’n dlotach o’r herwydd.

 

2

Er mawr syndod i mi, rwyf wedi dod yn fath o awdurdod ar Seintiau Cymru! Peidiwch ȃ rhoi’r bai arna’ i – Lefi Gruffudd o’r Lolfa sydd yn euog. Ei awgrym e oedd y dylwn sgrifennu llyfr poblogaidd am Ddewi Sant, ac mi wnes hynny o ufudd-dod i’m cyn-ddisgybl. Ond fel y dadleuai George Bernard Shaw, ‘Os am fod yn awdurdod ar bwnc, sgrifennwch lyfr amdano – wedyn fe fyddwch yn awdurdod.’ Y peth nesaf oedd i mi gael cais i ddarlithio ar Badarn Sant, a hynny nid unwaith ond deirgwaith. Darlith ar Ddewi Sant wedyn (am yr ail dro) ac yn awr Seintiau Cymru. Un ddarlith ar holl seintiau Cymru? Byddai angen deng munud dim ond i ddarllen eu henwau i gyd!

Mae’n wir fy mod yn gwybod rhywfaint am y pwnc, i’r pwynt lle prynais ddoe gyfrol newydd sbon, hardd iawn, a phoenus o ddrud, sef St Samson of Dol and the Earliest History of Brittany, Cornwall and Wales. Gwaetha’r modd, mae’r ysgolheigion blaenllaw sydd wedi cyfrannu penodau i’r llyfr (gwir awdurdodau bob un, nid prentisiaid fel minnau) yn dal i ymdrechu i daflu gwir oleuni ar y ffigurau niwlog hyn. Samson druan! Roedd yn Gymro, ond does dim un eglwys gynnar wedi ei chyflwyno yn ei enw. Ar y llaw arall, mae’n cael ei ystyried yn un o seintiau pwysicaf Llydaw.

A ninnau yn Llydaw, gwnes ymdrech i weld ychydig o safleoedd y seintiau yn y wlad. Hyd yn ddiweddar roedd Llydaw’n debyg i Wlad Pwyl neu ynys Malta o ran y parch a roddir i seintiau’r Eglwys. Ond mae seciwlariaeth Ffrainc yn effeithio’n drwm ar Lydaw erbyn hyn. Mae eglwysi hanesyddol hardd Dirinon a Saint Divy, pentrefi poblog, yn gorfod rhannu offeiriad gyda phlwyfi eraill, fel bod rhaid cael offeren am yn ail wythnos. Braf yw dweud bod y ddwy eglwys yn dal yn agored bob dydd, ac yn cael gofal. Ond roedd y stori’n wahanol yn Stival, tu allan i Pontivy. Yno roedd eglwys hyfryd St Meriadeg ar gau, heb unrhyw awgrym lle y gellid cael allwedd. Dim gwybodaeth chwaith am hen gloch Geltaidd yr eglwys, a adnabyddir fel ‘het Meriadeg’. Hanner milltir i ffwrdd mae ffynnon sanctaidd Meriadeg – adeilad sylweddol. Ond rywdro’n ddiweddar syrthiodd coeden fawr ar draws y cyfan, ac yno y mae, heb fod unrhyw arwydd y bydd yn cael ei thynnu i ffwrdd yn fuan.

 

3

Y peth arall sy ar fy meddwl yw fy llyfr nesaf – pa bwnc i’w ddewis? A dweud y gwir, roedd gen i rywbeth ar y gweill hyd yn oed cyn cyhoeddi Cymro a’i Lyfrau yn ddiweddar. Gwaetha’r modd, doeddwn i ddim wedi gwneud copi o’r ddrafft gyntaf, rhyw bum mil o eiriau, cyn i’r hen gyfrifiadur nogio’n llwyr, ac ar hyn o bryd does dim awydd i fynd ati eto. Ond pwy a ŵyr – efallai y daw er gwaetha’r siom.

Un syniad sy’n apelio ataf yw sgrifennu bywgraffiad byr o George Powell (1842-82), sgweier Nanteos am bedair blynedd. Does dim llawer i ddweud amdano o ran Nanteos – ni bu farw ei dad tan 1878, felly ni chafodd ond pedair blynedd i fwynhau perchnogaeth y stad. Erbyn hynny roedd y stad wedi dechrau crebachu: roedd dedfryd ‘Mene, mene, tecel wparsin’ wedi ei chyhoeddi ar stadau bonheddig Cymru a’u perchnogion.[*] Eto, pan etifeddodd George y stad, gwnaeth ei orau i gadw pethau i fynd. Ond fel unigolyn y mae George Powell yn ddiddorol, nid fel perchennog Nanteos.

Plas NanteosYn ddeunaw oed, cyhoeddodd ddwy gyfrol o farddoniaeth o wasg yn Aberystwyth. Mae’n wir eu bod yn gerddi anaeddfed a diflas – ond pa fonheddwr arall yng Nghymru Oes Fictoria a gyhoeddodd ei farddoniaeth ei hun? Yn ugain oed, aeth i ymweld ag Ynys yr Iâ. Daeth yn ffrind i ysgolheigion y wlad, gan dalu am gyhoeddi dwy gyfrol Saesneg, Icelandic Legends (1864, 1866). Cefnogodd yn ariannol aelod seneddol yr ynys yn senedd Denmarc, a oedd yn rheoli’r wlad yr adeg honno. Bu’n ffrind mynwesol i’r bardd Algernon Swinburne – bu’r ddau yn rhannu bwthyn am gyfnod yn Aberffrwd, a thro arall yn Normandi.

Casglwr oedd George Powell yn bennaf: casglai lyfrau, gweithiau celf, crochenwaith, darnau arian a thrugareddau o bob math. Cadwai nhw yn ei gartref hen lanc yn Mornington Crescent. Roedd yn dipyn o gerddor: chwaraeai’r piano’n dda, aeth i Bayreuth i gwrdd ȃ Richard Wagner a mynychu perfformiadau cyntaf operâu mawrion Y Fodrwy. Casglai gerddoriaeth brintiedig ac ambell lawysgrif, a chefnogai’n ariannol y mudiad cerddoriaeth eglwysig. Ymdrechodd i ddarbwyllo corfforaeth Aberystwyth i greu oriel gelf ar gyfer ei gasgliad, gorchwyl a oedd y tu hwnt i adnoddau cyfyngedig y dref. Ond rhoes ei holl gasgliadau i Goleg Prifysgol Cymru wrth farw, ac yno y maen nhw byth. Does bosib nad oes llyfr o ryw fath i’w gael o hanes y dyn unigryw hwn! Ond rhaid mynd i Eisteddfod Môn, rhaid croesawu teulu, rhaid mynd i Ynys Manaw – a rhaid paratoi darlithoedd …

 

* Gweler Y Beibl Cymraeg Newydd, Daniel 5.24-26: ‘Fel hyn y mae'r ysgrifen yn darllen: “Mene, Mene, Tecel, Wparsin.” A dyma'r dehongliad. “Mene”: rhifodd Duw flynyddoedd dy deyrnasiad, a daeth ag ef i ben. “Tecel”: pwyswyd di yn y glorian, a'th gael yn brin. “Peres”: rhannwyd dy deyrnas, a'i rhoi i'r Mediaid a'r Persiaid.’ [Goln.]


Hunangofiant trwy gyfrwng ei gasgliad hynod o lyfrau yw cyfrol ddiweddaraf Gerald Morgan, Cymro a’i Lyfrau (Y Lolfa, 2017).

Delweddau: Rhifyn o Ar Vro, dan olygyddiaeth Per Denez.

Plas Nanteos, o'r gyfrol Annals and Antiquities of the Counties and County Families of Wales gan Thomas Nicholls (Llundain, 1872). Parth cyhoeddus.


Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


 

Categorïau:

Tri pheth ar fy meddwl

 


Un ddarlith ar holl seintiau Cymru? Byddai angen deng munud dim ond i ddarllen eu henwau i gyd!

Dyddiad cyhoeddi: 30·08·2017

Yn ôl i frig y dudalen

Adolygu


Guto Dafydd

Mae cerddi arobryn cadair a choron eleni’n gweddu i’r dim i’r brifwyl agored, orfoleddus, herfeiddiol a gafwyd ym Mae Caerdydd. O ran arddull, maent yn hygyrch – yn rhwydd i’w darllen, a throeon ymadrodd yn pefrio oddi ar y dudalen. O ran cynnwys, maent yn…

Dadansoddi


Nathan Abrams

Ydw i o'r farn bod Jeremy Corbyn yn wrth-Semitaidd? Nac ydw. A yw'n fygythiad dirfodol i Iddewon y Deyrnas Unedig? Nac ydi. Ydi maniffesto Llafur yn wrth-Iddewig? Nac ydi. A oes gan Corbyn broblem gydag Israel? Oes, mae ganddo. Ond nid…

Adolygu


Ruth Richards

Wrth i gamerâu cryno a rhad gyrraedd y farchnad ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, gwelwn y cwmni Kodak yn anelu eu nwyddau at ferched ifanc. Dyma grŵp demograffaidd a elwir ganddynt yn 'Kodak Girl', enw sy'n cyfleu a manteisio ar feiddgarwch ac…

Dadansoddi


Annwyl Olygyddion,

Yn yr awyrgylch anoddefgar sydd ohoni, hoffwn dynnu eich sylw at garreg fedd go arbennig ym mynwent Bethesda Manod, Blaenau Ffestiniog. Yn wynebu'r Moelwyn Mawr ceir carreg fedd syml o lechfaen 'Stiniog gyda'r arysgrif canlynol arni: In Loving Memory of Professor Achill Rappaport of Vienna,…

Dadansoddi


Fflur Arwel

Bore digon tebyg i’r arfer oedd y bore Sadwrn hwnnw yn y Shaftesbury Hand Car Wash yng Nghasnewydd. Roedd haul Mehefin yn crasu'r tarmac ac arogl coffi rhad yn cymysgu gyda sebon wrth i’r gweithwyr fynd ati i lanhau’r ceir. Yn eu plith yr oedd dyn ifanc tair ar hugain mlwydd oed o’r enw Mustafa Dawood.…

Adolygu


Diane Bailey

Fel cyfanwaith, mae'r arddangosfa hon yn rhoi i ni bortread o gymoedd de Cymru, heb y bobl. Meddai Stokes, ‘I was well into this endeavour before I saw that the Valleys people were absent. Or were they?' Mewn gwrthgyferbyniad gyda'r tai teras twt a…

Dadansoddi


Huw L Williams

Eisteddfod hamddenol oedd hi fod. Roedd y maes, yn gyfleus iawn, nepell o fy nghartref yn Grangetown. A minnau wedi cael hen ddigon o ruthro'n chwyslyd rhwng gormod o bebyll yn Eisteddfodau'r blynyddoedd diwethaf y bwriad y tro hwn oedd mwynhau’r adloniant,…

Adolygu


Elin Meredith

Nofel a ddatblygir ar gynfas eang yw Taith yr Aderyn. Mae’n ein tywys i diroedd pell, i fyd o lynnoedd, mynyddoedd a choedwigoedd. Dyma'r byd digyfnod y lluniodd Alun Jones yn wreiddiol yn Lliwiau’r Eira (Gomer, 2012). Mae’r amwysedd o ran lleoliad a chyfnod yn ei gosod ar wahân i…