Dadansoddi

Tri pheth ar fy meddwl


Casia Wiliam

Amser darllen: 3 munud

20·09·2017

Gadael y nyth

Dwi wedi symud tŷ naw o weithiau yn ystod fy mywyd ac ym mis Hydref, a minnau'n byw yng Nghaerdydd ers deng mlynedd, fe fydda i’n symud eto. Rydw i a Tom wedi bod yn byw yn ein fflat eco-gyfeillgar (passivhaus yn Almaeneg) yn y Rhath yng Nghaerdydd ers tair blynedd ond, a chyw bach wedi ymuno â ni bellach, mae’n amser mudo i nyth mwy. Mi fydd yn chwith ffarwelio â Nyth y Dryw; mae wedi bod yn addysg byw yma. Does dim gwres canolog yn y Nyth, dim lle tân, dim nwy, dim ond trydan, a’r mwyafrif o hwnnw’n cael ei greu gan ein paneli haul. Mae’r dŵr hefyd yn cael ei gynhesu gan baneli arbennig ar y to. Mae’r waliau yn drwchus ac wedi eu stwffio â hemp. Hynny sy’n gwneud y fflat mor effeithlon: mae wedi ei ynysu i’r fath raddau nes bod modd i’r haul a ffynonellau gwres eraill (fel tegell a phopty) gynhyrchu digon o egni i gnesu’r lle. Mae’r waliau’n anadlu, yn ein cadw’n gynnes pan fydd hi’n oer, ac yn oer braf pan gawn ni bwl o dywydd poeth. Wedi ei ddylunio a’i adeiladu gan y pensaer Paola Sassi, a arferai ddarlithio ym Mhrifysgol Caerdydd, mae’n unigryw yn ein prifddinas. Roedd gofyn addasu er mwyn byw yma – cael cawod gyda’r nos yn hytrach nag yn y bore, ar ôl i’r haul gael amser i gynhesu’r dŵr, gadael drws y popty ar agor ar ôl gorffen coginio er mwyn cynhesu’r parlwr at gyda’r nos. Bydd wir, mi fydd yn chwith cario’r bocsys a chloi’r drws am y tro ola’, ond mi fydd yr hyn dwi wedi ei ddysgu am gynaliadwyedd yn aros efo fi, a fedra i mond gobeithio y ca’ i gyfle i fyw mewn cartref mor arbennig rywbryd eto.

 

Pacio

Treulio oriau yn rhoi’r holl geriach mewn bocsys. Cartio’r bocsys mewn fan, a’u cludo i’r tŷ newydd, yna treulio oriau yn dadbacio. Dewis cartref newydd i bob dim, yn silff neu gwpwrdd. Dechrau byw o’r newydd, mewn gofod gwahanol. Ydy lle ’dan ni’n byw yn ein gwneud ni’n wahanol? Mi ges i fy magu mewn hen dŷ ffarm drafftiog a chartrefol. Ai’r un person fyddwn i petawn i wedi fy magu mewn tŷ cyngor, mewn tŷ capel, mewn plasty neu mewn pabell? Wrth lenwi’r bocsys dwi’n meddwl am yr holl bobl a phlant sydd yn gorfod gadael eu tai yn ddirybudd, er mwyn aros yn fyw, heb gael pacio’r un hosan hyd yn oed. Mae yna dros 65 miliwn o ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn y byd heddiw. 65 miliwn. Tydan ni ddim yn gwybod ein geni.

 

Llond pabell mewn perlewyg barddonol

Eleni mi fuon ni’n ddigon dewr/gwirion/gwallgo i fentro i Ŵyl y Dyn Gwyrdd ger Crug Hywel gyda’n babi wyth mis oed. Un o’r prif resymau dros isio mynd oedd i weld Kate Tempest yn perfformio. Yn 31 oed ac yn hanu’n wreiddiol o Brockley yn ne Llundain, mae hi’n awdur ac yn fardd ond hefyd yn gerddor. Cafodd ei cherdd ddiweddaraf, Let Them Eat Chaos, ei rhyddhau hefyd ar gryno ddisg ac fe gafodd ei henwebu am wobr gerddoriaeth y Mercury Music Prize. Wrth aros iddi gamu i’r llwyfan am hanner nos (y bychan a’i dad yn cysgu’n sownd yn y babell erbyn hynny!) roeddwn i’n methu peidio â rhyfeddu at yr holl bobl oedd o ’nghwmpas i, pob un yno i wrando ar farddoniaeth. Ond nid barddoniaeth fel ’dan ni’n tueddu i’w hadnabod hi yn y Gymraeg; nid barddoniaeth sefyll o flaen meicroffon a darllen cerdd oddi ar ddarn o bapur, o na. Barddoniaeth o waelod bol oedd hon, barddoniaeth awr a hanner heb stop heb anghofio’r un gair, barddoniaeth poeri a rapio, bron â chrio. Mae’r bryddest yn ymrafael â diwylliant modern hunanaddoliad, newid hinsawdd, argyfwng y ffoaduriaid, unigrwydd mewn cymdeithas, cyfalafiaeth, materoliaeth a llawer mwy. Os oes gennych chi bum munud sbâr, gwyliwch Kate yn perfformio ar YouTube. Mae hi’n wefreiddiol. 


Casia Wiliam yw Bardd Plant Cymru 2017-19.


Mae O'r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn werthfawr - na, yn anhepgor - wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i'r cylchgrawn.


Dechrau byw o’r newydd, mewn gofod gwahanol. Ydy lle ’dan ni’n byw yn ein gwneud ni’n wahanol?

Dyddiad cyhoeddi: 20·09·2017

Yn ôl i frig y dudalen

Dadansoddi


Cefin Roberts

Mae’r theatr yng Nghymru wedi colli dyrnaid creulon o’i mawrion eleni ac roedd clywed am farwolaeth Meic Povey yr wythnos ddiwethaf yn waldan greulon arall i bawb ohonom sy’n caru’r theatr Gymraeg. Roedd Meic yn actor, awdur, cyfaill a Chymro i’r carn ac un a fu’n dyfal osod…

Cyfansoddi


Jan Morris a Twm Morys

Glywsoch chi fi yn crio ddoe? Fy nghyfrifiadur, o bethau’r byd, oedd achos y dagrau. Yn ystod y bore, galwodd dyn fi i ddweud wrthyf beth oedd angen ei wneud ar frys er mwyn cadw’r cyfrifiadur i fynd. Wyddwn i ddim bod dim yn…

Dadansoddi


M Wynn Thomas

Roedd Tony yn un o gymwynaswyr mwyaf gwerthfawr Cymru a’r Gymraeg fy nghyfnod i. Roedd hefyd yn un o’r unigolion mwyaf egwyddorol a llachar o dreiddgar ei feddwl i mi ddod ar eu traws. Fe ddes i’w adnabod gyntaf ar ddiwedd yr wythdegau pan…

Cyfansoddi


Ifor ap Glyn

Rhwng 1914 ac 1918 bu chwarter miliwn o ffoaduriaid o wlad Belg yn byw dros dro ym Mhrydain. Daeth rhai i Gymru ... 

Cyfweld


Ruth Richards

Daeth yn amser i gyrchu hanfodion dianghenraid drachefn; y rhuthr blynyddol am anrhegion Nadolig. Ac os digwydd i chwi fod ym Môn dros y cyfnod hwn, fe welwch fod trefi Biwmares a Phorthaethwy'n prysur gystadlu am y farchnad mewn addurniadau, hylifau a…

Adolygu


Gideon Koppel

Dw i ar awyren Ryanair o Chania, ar ynys Creta, i Stansted. Er bod y profiad yn ddigon anghysurus – cawn ein gyrru fel anifeiliaid ar hyd y maes awyr a’n gorfodi i aros heb eglurhad fan hyn fan draw – mae yna deimlad…

Colofnau


Mihangel Morgan

Fis diwethaf roedd ffrind i mi yn cael ei phen-blwydd yn hanner cant oed. Pan oedd John Betjeman yn fardd y Frenhines cafodd ei feirniadu yn y wasg am beidio â llunio cerdd i ddathlu pen-blwydd Ei Mawrhydi pan gyrhaeddodd hithau’r hanner…

Dadansoddi


Steffan Gwynn

Mae’r Ffindir yn enwog am ei fforestydd maith a’i chant a mil o lynnoedd disglair. Dyma wlad yr haul ganol nos, a pheth cyffredin yw dal bws o’r ddinas allan i’r wlad er mwyn mwynhau’r tywydd braf gan gasglu llus neu fadarch mewn basged wiail…