Dadansoddi

Tri pheth ar feddwl Geraint Løvgreen


Geraint Løvgreen

Amser darllen: 2 funud

21·02·2018

1.

Y Tad (diolch i Mari)

Ers tro bellach dwi’n cymryd rhan mewn gornest flynyddol ar y slei yn erbyn Mari, y ferch: dwi a hithau’n cystadlu ar ba un bynnag o destunau ysgrifenedig yr Eisteddfod Genedlaethol sy’n cymryd ein ffansi. Yn 2016, er mawr sioc imi, cefais wobr ym Mhrifwyl y Fenni am gyfieithu drama wych Florian Zeller, Le Père, o’r Ffrangeg – hynny efo fy Ffrangeg Lefel-A, geiriadur Harrap’s a Google Translate yn gymorth. Ar ôl sawl sgwrs fuddiol gydag Arwel Gruffydd, Cyfarwyddwr y Theatr Genedlaethol, braint fwy fyth rŵan fydd gweld y gwaith yn cael ei lwyfannu yn Pontio ac wedyn yn teithio ledled Cymru. Mae hi’n ddrama ddoniol o drist – a dryslyd – ar sawl lefel, yn bortread craff a gonest o gyflwr dementia. Dwi’n dechrau cynhyrfu wrth feddwl am weld fy ngeiriau’n cael eu llefaru ar lwyfan broffesiynol gan rai o actorion gorau’r genedl. A minnau erbyn hyn yn ddigon hen i fod yn berchen bus pass, dydi hi byth yn rhy hwyr i fwynhau profiad newydd sbon.

Dyfan Roberts yn un o ymarferion Y Tad, Theatr Genedlaethol Cymru

2.

Symud tŷ (diolch i Gwil)

Mae’r mab hynaf Gwil, a Ffion ei wraig, yn byw ryw ddau ganllath o’n tŷ ni yng Nghaernarfon. Wrth i’w meibion Ifor a Huw dyfu mae eu tŷ nhw’n mynd ychydig yn gyfyng iddyn nhw. Mae’n tŷ ni, ar y llaw arall, yn un mawr braf efo gardd helaeth – yn dŷ teulu, a dweud y gwir, yn hytrach na thŷ i bâr o bensiynwyr. Felly mae’n gwneud synnwyr iddyn nhw symud i fama, yn tydi, ac i Eleri a finnau symud i le ’chydig llai (ond ddim llawer llai!) heb ardd. A dyna ’yden ni’n ’neud. Ond mae gadael yn mynd i fod yn anodd. Mae dyddiad y symud mawr yn prysur nesáu ac mae’n syndod gymaint o ’nialwch sydd wedi casglu yn stafelloedd yr hen dŷ dros yr ugain mlynedd y buom yn byw yma mor ddedwydd. Mae bywyd erbyn hyn yn gyfres o dripiau i’r siopau elusen efo bocseidiau o lyfrau a gemau bwrdd a ... wel, stwff.

3.

Breuddwydio (diolch i Gruff)

Mae’r symud tŷ ’ma wedi rhoi taw ar unrhyw syniad oedd gen i am fynd i Beijing a Nanning ym mis Mawrth i wylio gemau pêl-droed Cwpan Tsieina. Un o fanteision mawr dilyn tîm pêl-droed Cymru ydi cael mynd efo Hywel fy mrawd i wledydd na faswn i’n meddwl mynd iddyn nhw fel arall, ac mi fasai Tsieina yn sicr wedi ticio’r bocs hwnnw. Ond am y tro, dwi’n gorfod gadael y trafaelio i Gruff, y trydydd plentyn, sy’n deithiwr brwd ers iddo dreulio bron i flwyddyn yn mynd o amgylch y byd yn ei ugeiniau cynnar. Golygydd ffilm llawrydd ydi o, yn gweithio’n galed am fisoedd er mwyn cronni cyfnodau rhydd digon hir i gael mynd ar ei drafels i rywle pell. Dyna ’i bethe fo. Felly, am eleni, dim ond breuddwydio a wna i, a phicio draw i Facebook bob yn hyn a hyn i fwynhau lluniau gwych Gruff, sy’n crwydro De Affrica ar hyn o bryd. 
 


Geraint Løvgreen a drosodd ddrama Florian Zeller Le Père i'r Gymraeg. Mae cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru ohoni yn agor yn Pontio, Bangor ar 21 Chwefror 2018. Bydd yn teithio ledled Cymru. Enillodd y ddrama wobr Molière 2014 yn Ffrainc. Gellir darllen mwy amdani ar wefan Theatr Genedlaethol Cymru.

Canolfan Celfyddydau Pontardawe: 27 Chwefror 7.30yh / 28 Chwefror 11yb
Sgwrs wedi’r sioe 27 Chwefror.

Theatr Felinfach, Dyffryn Aeron: 2 Mawrth 1.00yp a 7.30yh / 3 Mawrth 7.30yh
Sgwrs wedi’r sioe 7.30yh, 2 Mawrth.

Theatr y Lyric, Caerfyrddin: 6 Mawrth 1yp a 7.30yh

Theatr y Sherman, Caerdydd: 8 Mawrth 7.30yh / 9 Mawrth 1.30yp a 7.30yh
Sgwrs wedi’r sioe 8 Mawrth.

Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug: 13 Mawrth 7.45yh / 14 Mawrth 1.30 a 7.45yh
Sgwrs wedi’r sioe 13 Mawrth.

Canolfan Garth Olwg, Pentre’r Eglwys, Pontypridd: 16 Mawrth 1yp a 7.30yh
Sgwrs cyn y sioe 1yp i ddysgwyr, yn cychwyn am 12.15yp. Cadeirydd: Helen Prosser.


Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


 

Categorïau:

Theatr, Tri pheth ar fy meddwl

 


A minnau erbyn hyn yn ddigon hen i fod yn berchen bus pass, dydi hi byth yn rhy hwyr i fwynhau profiad newydd sbon

Dyddiad cyhoeddi: 21·02·2018

Yn ôl i frig y dudalen

Dadansoddi


Gareth Leaman

Waeth i ni gydnabod un gwirionedd sylfaenol ar y dechrau un: nid oes unrhyw beth cynhenid Gymreig am y cyfryngau cyfrwng Saesneg yng Nghymru ac ni cheir ychwaith y fath beth â chyhoeddfan neu fywyd cyhoeddus penodol Gymreig trwy gyfrwng y Saesneg. Mae difrifoldeb y…

Adolygu


Dylan Huw

Artes Mundi, a agorodd ei hwythfed arddangosfa ddiwedd mis Hydref yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd, yw gwobr gelf ‘fwyaf’ y Deyrnas Gyfunol – fel mae ei nodiadau i ymwelwyr yn hoff o’n hatgoffa. Er ei bod, o ran proffeil, yn parhau i geisio dal i…

Cyfansoddi


Boz Groden

gŵyl

Dydd neu ddyddiau pryd na chyflawnir gwaith beunyddiol, dydd neu ddyddiau o ddifyrrwch neu adloniant; diwrnod wedi ei neilltuo a'i gadw'n barchus yn flynyddol er coffa am ryw sant neu berson arbennig neu am ryw ddigwyddiad cofiadwy, dydd gŵyl (grefyddol), dygwyl, dydd cysegredig, gwyl-mabsant, diwrnod…

Cyfansoddi


Jerry Hunter

[Diweddariad. Cynnig arall arni] Aeth y stori o gwmpas y wlad. Ar ôl iddyn nhw glywed, daeth y dynion pwysig ynghyd a phenderfynu gofyn iddo ysgaru â'i wraig am gyflawni trosedd mor erchyll. Dyma'i ateb o: 'Does dim rheswm [...] ngwraig gan fy mod i'n gwybod…

Adolygu


Miriam Elin Jones

Mewn sioe gerdd lachar, How to Win Against History, y dysgais i gyntaf am fodolaeth pumed Marcwis Môn. Gyda’r fersiwn honno o stori anhygoel y dyn hwn yn fyw yng fy nghof – dyn a wariodd bob ceiniog o’i gyfoeth teuluol ar ddeiamwntiau…

Adolygu


Morgan Owen

Gorddefnyddir yr ansoddair ‘cynnil’ wrth adolygu a gwerthu nofelau Cymraeg: perthyn y gair i eirfa (an)feirniadol dra ystrydebol erbyn hyn, nad yw’n golygu odid ddim (ail agos i ‘cynnil’ yw ‘cignoeth’). Yn yr achos hwn, fodd bynnag, hynod briodol yw’r gair ‘cynnil’ a chlod mawr i’r awdur yw y llwyr…

Adolygu


Katie Gramich

Ym mhennod gyntaf ei lyfr dylanwadol The Dragon has Two Tongues (1968), sy’n sôn am ei ddatblygiad fel awdur, mae Glyn Jones – brodor o Ferthyr – yn datgan: ‘While using cheerfully enough the English language, I have never written in it a word about any country…

Adolygu


Dyfrig Jones

Prin fod unrhyw un yn ysgrifennu am hil yn Unol Daleithiau’r America heddiw â’r un angerdd, yr un dyfeisgarwch, yr un graen â Ta-Nehisi Coates. Ef, yn ôl Toni Morrison, yw etifedd James Baldwin, yr unig un a lwyddodd i lenwi’r gwacter sydd wedi bodoli ers…