Dadansoddi

Poblyddiaeth a’r dosbarth gweithiol


Morgan Owen

Amser darllen: 10 munud

22·05·2019

Beth yw wyneb poblyddiaeth? Wyneb blinedig, trist, trallodus. Nid yw’r ffromi a’r ysgyrnygu ond crychau egnïol, dros dro, ar y wyneb hwn; yn y dwfn y mae’r casineb yn llechu. A phrin mewn gwirionedd y bydd y casineb hwn yn brigo’n agored yng nghwrs y rhygnu arferol o ddydd i ddydd, o slip talu i slip talu; ar y cyfan mae’n rhy wasgarog a chyffredinol. Ei brif fynegiant yw anniddigrwydd hydreiddiol, a chylchred parhaus diflastod ac anobaith. Yn y bôn, yn wynebau’r bobol ddiymadferth a ysbeilir gan gyfalafiaeth y mae mesur lledaeniad poblyddiaeth. Pan gaiff poen y bobol hyn ei throsi’n weledigaeth dwyllodrus, yn ateb gorsyml i wacter bywyd, dyna pryd mae poblyddiaeth yn bwrw gwraidd: y tlawd yn bwydo ar y tlawd o dan arweiniad y cyfoethog (am taw nhw yn unig sy’n elwa ar y dinistr sy’n dilyn). Hynny yw, nid dim ond y digwyddiadau mawr a’r ralïau sy’n fynegiant o boblyddiaeth, ond y trais gwaelodol sy’n cronni mewn pobl gyffredin yn sgil eu rhwystredigaethau, sef effeithiau cyfalafiaeth, a’r trais a ddioddefant trwy law system sy’n eu trin â dirmyg. Nid yw'r gweddill yn deall hyn. Canolbwyntio ar fynegiannau amlwg, ystrydebol poblyddiaeth y bydd sylwebwyr, gan anwybyddu’r casineb sy’n ymnerthu fesul diferyn. A thra bo poblyddiaeth yn bresennol, bydd ffasgaeth hefyd yn bosibilrwydd hunllefus. Er mwyn trechu’r casineb, a’i ddeall, rhaid inni syllu i’r wyneb trallodus.
 



Protestwyr yn Ffos-y-Fran, Merthyr ym mis Mai 2016

Yn ddiweddar, bûm mewn gwrthdystiad gwrth-ffasgaidd yn fy nhref enedigol, Merthyr Tudful. Y noson honno, cynhaliwyd rali gan y blaid ‘newydd’ dros adael yr Undeb Ewropeaidd, ond mewn gwirionedd, nid dyna oedd pwrpas y rali o gwbl – ac nid yw Brexit ei hun yn ymwneud rhyw lawer â’r peth bellach. Roedd hynny’n amlwg yn y sylw a gafodd y digwyddiad yn y cyfryngau yn y diwrnodau blaenorol: troes yr anniddigrwydd a leisiwyd gan y twyllwyr hyn o amgylch amryfal faterion: cyflogau isel; cwmnïau traws wladol yn gadael, a’r swyddi a gollir o ganlyniad i hynny; gwasanaethau cyhoeddus annigonol; diffyg cyfleoedd; cymunedau darniog; ac, wrth gwrs, mewnfudo. Cerbyd ar gyfer poen ac anfodlonrwydd oedd y sioe gyfan, ond un sy’n hyrddio tua’r dibyn. 

Roedd yn eglur taw gwir bwrpas y rali oedd rhoi cyfle i'r arch-dwyllwr gyflwyno bwch dihangol. I’r bobol ddosbarth gweithiol a fentrodd i’r rali, haws oedd derbyn bwch dihangol na chydnabod yr anghydraddoldeb hollgofleidiol sy’n eu briwio, sy’n mynd at graidd eu bod. Byddai cydnabod hynny yn golygu cydnabod eu safle truenus mewn cymdeithas, yr un gymdeithas sy’n eu cyflyru i syllu tua’r brig a’u beio eu hunain fel unigolion am eu sefyllfa.

Ond strwythur cymdeithas a’r wladwriaeth sydd yn creu ac atgynhyrchu’r anghydraddoldeb hwn ym mywyd y dosbarth gweithiol, gan gyffwrdd â phob elfen o’u profiad. Mae’r naratif boblyddol, asgell dde yn celu’r ffaith bod y tlodi a’r ymylu maent yn eu dioddef yn ganlyniad i’r system economaidd gyfalafol sydd ohoni. Mae’n eu rhwystro rhag sylwi bod y gormes ar leiafrifoedd yn tarddu o’r un grym â’r gormes arnynt hwythau. Cuddia’r ffaith bod y dosbarth gweithiol yn cynnwys y lleiafrifoedd hynny, a taw’r un yw eu brwydr. Yn bennaf oll, mae’n cuddio’r ffaith nad yw’r drefn hon yn anochel, ond yn ganlyniad i weithredoedd y rhai sy’n meddu ar rym gwleidyddol – ac ar gyfalaf. Yr hyn a wna poblyddiaeth felly yw defnyddio pobl a ormesir er mwyn gwarchod y drefn sy’n eu gormesu. 

Hynny yw, nid yw’r bobl sy’n cael eu swyno gan y celwydd yn ddi-fai; casineb yw casineb, beth bynnag yw’r ysgogiad, a dewis affwysol o wael yw derbyn y naratif boblyddol sydd, wrth annog trais, yn naratif ffasgaidd. Ond maent mewn sefyllfa lle credant taw dyma yw’r unig ddewis gan eu bod wedi eu hesgeuluso a’u gwawdio a’u baeddu cymaint. Mynegiant hunanddinistriol o anobaith ydyw.

✒︎

Trefnwyd y gwrthdystiad yn fuan wedi i’r rali gael ei chyhoeddi, a theimlais reidrwydd mynychu, am fod gwrthwynebiad gweledol i’r pethau hyn yn hollbwysig; ond yn ogystal, nid rhywbeth pell oedd hyn bellach a ddôi ataf drwy sgrin fy ngliniadur neu fy ffôn: gallwn weld y llwyfan o’m tŷ; a phan oeddent yn gosod y systemau sain yn gynharach y dydd hwnnw, gallwn glywed pob gair o’u profion sain (a’u cynigon dilornus ar geisio ynganu Merthyr Tudful, a’u crechwenu ), fel pe baent yn sefyll yn y stryd. Yn wir, gallai’r rhan fwyaf o drigolion gwaelod Heolgerrig eu clywed. Nid oedd modd eu hosgoi.

A dyna wedyn y safle ei hun – maes parcio Trago Mills: llwyfan addas iawn ar gyfer y digwyddiad truenus hwn. Cafwyd yno lofeydd yn wreiddiol, ac yn ddiweddarach, gwaith brics, ond roedd hwnnw eisoes wedi ei gau a’i glirio pan oeddwn yn ifanc; cofiaf chwarae yno yn y tir diffaith gyda fy mrawd. Roedd yn rhyw fath o dir comin answyddogol i’r trigolion lleol yr adeg honno; byddai pobl yn mynd â’u cŵn am dro yno, a phethau felly. Ond fe’i prynwyd, ac fe’i caewyd i’r cyhoedd. Bu’n wag ond yn waharddedig am sbel, ac yna codwyd Trago Mills. Gwelir hanes yr ardal yn hanes y darn hwn o dir: safle diwydiannol yn gyntaf; wedyn tir diffaith, agored ond ‘rhydd’; yna tir caeedig, caeth; ac yn olaf, tir wedi ei lenwi gan siop anferth, ddiangen sy’n targedu, ar y cyfan, bobl dlotach. Busnes a groesawyd yn frwd gan gynghorwyr y dref, oherwydd 'swyddi' – swyddi nad ydynt yn cynnig unrhyw ddatblygiad personol nac unrhyw foddhad heblaw ennill digon o arian i oroesi. Dyna’r camau: gwaith a chynhaliaeth a chyfnod ymffurfio’r dosbarth gweithiol fel carfan wleidyddol-ymwybodol; chwalfa; diffeithwch; ac yna neo-ryddfrydiaeth. Dyna olrhain tarddiad llawer o’r rhwystredigaethau a ddenodd bobl i'r rali: ble oedd y Chwith ar hyd y blynyddoedd llwm hynny? Ble oeddent yn fwy diweddar mewn llefydd fel Merthyr? 

✒︎

Ymgasglodd y gwrthdystwyr ger y fynedfa i’r safle anferthol lle byddai’r rali’n cael ei chynnal, a dyna oedd yr unig ffordd i mewn. Rhaid oedd i bob un a fynychai’r safle fynd heibio inni. Wrth i’r mynychwyr ddechrau cyrraedd, aeth ambell wrthdystiwr i’r hewl a rhwystro’r ceir, a chyn hir, roedd rhes ohonynt, nes y bu rhaid i'r digwyddiad ddechrau'n hwyr yn y pen draw. Cafwyd yr hyn a oedd yn rhagweladwy: pobl yn gweiddi, yn rhegi, yn bygwth. Fe wnaeth un gyrrwr hyrddio ei gar yn ei flaen yn sydyn, nes inni ofni y byddai’n gyrru dros rywun. Fe’n galwyd yn ffasgwyr, yn elynion, yn llysnafedd, a phob sarhad y gellid ei ddychmygu. Daeth ambell un (dynion canol oed, pob un) o’u ceir i fygwth trais; ac fe wnaeth un drio ymosod ar grŵp o wrthdystwyr a oedd yn cynnwys dwy fenyw a phlentyn. Bu rhai’n poeri. Dadlennol oedd ymateb yr heddlu i’r golygfeydd hyn: arestiwyd un o’r gwrthdystwyr a oedd yn sefyll yn yr hewl, ond hebryngwyd y dyn treisgar, ymosodgar a hollol wyllt drwy’r gatiau i’r digwyddiad. Gwelwyd dicter pur o du’r mynychwyr hwythau, a phrin yr aeth yr un ohonynt heibio heb weiddi neu ystumio. Cliriwyd yr hewl gan yr heddlu (a oedd yn bygwth arestio). Roedd rhai o’r mynychwyr yn amlwg wedi dod o bell – rhai a fydd yn dilyn yr arch-dwyllwr i bob rali, a llawer ohonynt yn weithgar yn ei blaid – ond ergyd drom oedd clywed cynifer o bobl o’r Cymoedd.

Ond mwyaf trawiadol oedd yr hyn a ddigwyddodd wedyn, pan oedd y rali wedi gorffen a’r bobl yn gadael, gan fynd heibio inni unwaith eto (yn yr un man mae’r fynedfa a’r allanfa) – ond y tro hwn ar ein hochr ni o’r hewl. Fel y disgwyliasid, roeddent wedi eu cynhyrfu gan y rali. Erbyn hyn, roedd y gweiddi’n fwy croch, y dicter yn ddyfnach, a’r geiriau’n halltach. Roedd eu hymateb inni yn gwbl eithafol, gan ddangos yn eglur y modd y mae demagogiaid yn gallu enynnu torf. Y tro hwn, taflwyd pethau atom hefyd (placardiau a roddwyd iddynt yn ystod y rali yn bennaf), a stopiodd ambell un i weiddi brawddegau cyfain yn hytrach na dyrnaid o eiriau. Thema gyffredin a fynegwyd ganddynt oedd ein bod yn fradwyr, a bod eu cyndeidiau wedi ymladd yn y Rhyfel i gael gwared ar bobol fel ni. Gwelwyd wynebau’n lasgoch gan ffyrnigrwydd, pobl hollol gandryll. Pe na bai heddlu’n gwylio o’r ochr arall, does wybod beth fyddai’r bobl hyn wedi ei wneud. Roedd y casineb yn agored.

Teimlais erbyn hyn ofn ynghylch gyflwr pethau yn gyffredinol. Gwelais bobl gyfarwydd, ac ambell un a aeth i’r un ysgol â fi, yn gadael y rali. Gwelodd rai o’r gwrthdystwyr eraill bobl roeddent yn eu nabod hefyd, a derbyn ganddynt eiriau sarhaus a rhegfeydd. Dyna pryd y sylweddolais pa mor ddifrifol oedd y sefyllfa, wrth i’r bobl hyn yr oeddem yn eu hystyried yn bobl gyffredin ymddangos yn barod i’n niweidio. 

Gellir diystyru haniaethau a chysyniadau a dadleuon maith, ond pan fydd rhywun yn gweld wyneb dosbarth gweithiol yn ysgyrnygu a brochi oherwydd twyll ffasgaidd, mae difrifoldeb y peth yn ei daro fel gorddod. Dyna rywun yn fodlon ei archolli ei hun drwy archolli eraill sy’n dioddef yr un fath ag ef, yn hytrach na throi ei sylw tuag at gynheiliaid y system sydd wedi gwasgu pob diferyn o faeth o’i ardal, ac o’i gorff ei hun. Yn sylfaenol, poblyddiaeth asgell dde sy’n mabwysiadu trais fel dull gweithredu yw ffasgaeth. Mae'n fater o raddfeydd. Pa mor agos ydym at hyn, o weld digwyddiadau fel y rali hon?

✒︎

Pan gerddaf drwy strydoedd y dref bellach, ni allaf beidio â theimlo ias wrth imi weld pobl sydd mor agored i’r twyll hwn. Anodd iawn yw peidio â theimlo rhyw ofid ynghylch pa mor hawdd y gallent gael eu cythruddo’n fwriadol gan bobl sydd am gam-fanteisio arnynt. Gwn fod yr anniddigrwydd hwnnw’n llechu ynddynt. Yr unig ateb i hyn yw cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol – i bawb. Hynny yw, po fwyaf hafal yw’r gymdeithas, a pho decaf y system economaidd, lleiaf o rwystredigaeth ac anobaith sydd, a rhan bwysig o hyn yw sicrhau cynrychiolaeth wleidyddol deilwng i’r dosbarth gweithiol. 

Fel y deil Didier Eribon yn ei gyfrol arbennig, Retour à Reims [Returning to Reims yn y cyfieithiad Saesneg], sy’n trafod yn huawdl a gydag argyhoeddiad lawer o’r pynciau rwyf wedi eu codi fan hyn, mae’r dosbarth gweithiol yn troi o’r chwith at yr asgell dde eithafol oherwydd mwy na ‘thwpdra’. Wrth fod y chwith wedi peidio ag ymgymryd â sefyllfa’r dosbarth gweithiol fel dosbarth gweithiol, fel grŵp gormesedig, a breinio yn lle hynny hawliau unigolyddol, neo-ryddfrydol, daw’r bobl hynny i golli eu hymwybyddiaeth o feddu ar rym cyfunol, ac o fod â buddiannau fel grŵp. Parhau a wnaeth eu rhwystredigaethau fel dosbarth cymdeithasol o hyd, wrth gwrs, ond nid oedd y Chwith yn cynnig iddynt naratif a gydnabyddai broblemau eu bywydau a ddeilliai yn uniongyrchol o’u safle israddol mewn cymdeithas gyfalafol. Nid oedd y Chwith, a feddiannwyd gan y dosbarth canol, yn deall hyn, ac felly nid oeddent yn gallu rhoi ystyr i brofiadau’r dosbarth gweithiol. Dyna pryd mae poblyddwyr – a ffasgwyr – yn cynnig naratif sy’n cyfeirio at brofiadau’r dosbarth gweithiol sy’n deillio o ormes cyfalafiaeth arnynt, ond heb gydnabod hynny: beio mewnfudwyr tlawd sy’n cael eu hecsploetio gan gyfalafiaeth, er enghraifft, gan wneud bwch dihangol ohonynt. Wrth gwrs, mae’r mewnfudwyr tlawd hefyd yn perthyn i’r dosbarth gweithiol, ond ni chydnabyddir hynny gan y twyllwyr poblyddol; maent yn eu harallu y tu hwnt i bob adnabyddiaeth, ac felly crëir hollt hiliol, afresymol. Mae’n werth dyfynnu Eribon eto:

Mae’n ymddangos felly taw absenoldeb ymdrefnu gwleidyddol, neu absenoldeb y canfyddiad bod rhywun yn perthyn i grŵp cymdeithasol ymdrefnedig, sy’n peri ei bod yn bosibl i fath o raniad hiliol ddisodli rhaniad sy’n seiliedig ar ddosbarth... Ar adeg pan fo’r chwith wedi dileu pob ymdeimlad o ymdrefnu gwleidyddol, un a oedd wedi ffurfio gorwel ar gyfer canfyddiad pobl o’u hunain, mae’r grŵp wedyn mewn sefyllfa i’w ail-gyflunio ei hun yn ôl egwyddor arall, sef un cenedlaethol y tro hwn: y datganiad ein bod yn ddeilyddion ‘dilys’ rhyw diriogaeth y teimlir ei bod yn cael ei chymryd o’n meddiant... Felly daw’r gymdogaeth yr ydym yn byw ynddi i ddisodli’r gweithle a’n safle mewn hierarchaeth ddosbarth fel rhan o’n ffordd o ddiffinio ein hunain, a’r ffordd rydym yn ymwneud ag eraill.

Rhaid estyn yr egwyddor o gydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol er lles pawb a mynd i’r afael â chyfalafiaeth. Mae’n rhaid i fuddiannau grwpiau gormesedig gael eu cydnabod yn y brif ffrwd wleidyddol, ac mae’n rhaid meithrin ymwybyddiaeth wleidyddol sydd â’r gormesedig wrth ei gwraidd. Golyga hyn ymwrthod â syniadaeth neo-ryddfrydol sy’n trin hunaniaeth fel mater unigolyddol, gan anwybyddu ei seiliau a’i chyd-destun cymdeithasol-wleidyddol. Golyga gydnabod fod anghyfartaledd yn strwythurol. Golyga chwalu hiliaeth. Tra bo’r sefyllfa bresennol yn parhau, bydd cyfle o hyd i boblyddwyr ddefnyddio dicter a diffyg cydlyniad gwleidyddol y dosbarth gweithiol at eu dibenion difäol eu hunain. Ni allwn adael iddynt greu ffug raniadau rhwng pobloedd. Rhaid chwalu’r amodau sy’n galluogi ffasgaeth; rhaid grymuso’r dosbarth gweithiol.

Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


Defnyddir pobl a ormesir er mwyn gwarchod y drefn sy’n eu gormesu

Dyddiad cyhoeddi: 22·05·2019

Yn ôl i frig y dudalen

Adolygu


Tomos Morgan

Heb os mae angen cryn sensitifrwydd wrth ymhél – neu ymyrryd – â digwyddiad lle mae teimladau mor gryf ac emosiynau mor amrwd. Mewn cyd-destun newyddiadurol, er enghraifft, mae’n hysbys pa mor real yw perygl dwysáu trallod teuluoedd sydd eisoes mewn galar drwy gyhoeddi erthygl neu…

Cyfansoddi


John Emyr

Casglodd Glyn ei fagiau gan sylwi, drwy ffenest ei lofft, fod llechi’r toeau yn sych. Hyd yma, ar y bore hwn o Fai ym Mangor Uchaf, roedd y tywydd o’i blaid. Er iddo glywed chwyrniadau ffrae atmosfferig y cymylau uwchlaw’r Carneddau neithiwr, roedd…

Adolygu


Angharad Penrhyn Jones

Mae’r profiad o ddarllen y gyfrol hon fel eistedd ar soffa yn gwrando ar ferch alluog, ddidwyll a byrlymus yn adrodd hanes ei bywyd, paned mewn un llaw, hancesi papur mewn llaw arall, a digon o chwerthin. Mae’n lyfr mor hawdd ei ddarllen ar un ystyr, mor agos at rywun, y…

Cyfansoddi


Osian Wyn Owen

Pobol coleg fu’n clegar ‘nad oes byd na phlaned sbâr wedi hon’ a bod ‘i wedd yr haf gynhesrwydd rhyfedd ... 

Cyfansoddi


Rhiannon Ifans

Piciodd Ingrid i'r ardd i dorri cabatsien. Roedd hi’n ddychryn o oer, ac asgwrn ei chlun yn boen byw rhwng y gwynt main a’r eira’n pluo’n ysgafn o gwmpas ei phen. Ers dyddiau roedd yr awyr dywyll fel petai’n dal ei hanadl, yn gyndyn o ryddhau mwy na sgeintiad…

Cyfansoddi


Carl Chapple

Yn 2013 y dechreuodd fy niddordeb mewn dawns. Cynigiodd John Livingston, dawnsiwr a hen ffrind i mi, eistedd ar gyfer llun. Roeddwn yn gweithio ar gyfres o bortreadau o berfformwyr llwyfan ar y pryd – comedïwyr ac actorion yn bennaf ... 

Dadansoddi


Angharad Closs Stephens

Dros y misoedd diwethaf aeth llawer ati i baentio ‘Cofiwch Dryweryn’ ar waliau ac adeiladau ar hyd a lled Cymru. O blith y rhai a welais i – mewn mannau cyhoeddus ac ar blatfform trydar – mae’r arwyddion fel petaent yn golygu amrywiol bethau i wahanol bobl. Gwelais un ag…

Adolygu


Dylan Huw

Yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst eleni, crëwyd yr hyn a alwyd yn AGORA, o hen ddrysau a gyfrannwyd gan bobl Sir Conwy. Gofod canolog, cyhoeddus ac agored yn ninas-wladwriaethau Hen Roeg oedd yr αγορά yn wreiddiol; mae’r gair hefyd yn golygu 'cynulliad' neu 'man cwrdd'. Paentiwyd y…