Fyodor Dostoyevsky, cyf. David McDuff


Crime and Punishment

Penguin, 720tt, £7.99, 2003 (1866)

Y Ci Strae yn Sant Peterbwrg
Dadansoddi

Y Ci Strae yn Sant Peterbwrg


Samuel Jones

Amser darllen: 7 munud

03·01·2017

‘Dinas Ewropeaidd ydi Sant Peterbwrg,’ meddai’r athrawes Rwsieg wrthym ni ddysgwyr o bedwar ban y byd, ar daith dywys o amgylch y ddinas. Ydi, mae’r ddinas wedi’i lleoli ar gyfandir Ewrop, ond mae’r syniad fod ganddi ysbryd Ewropeaidd hefyd yn boblogaidd ymysg llawer o’i thrigolion, ac mae’r syniad hwn yn tarddu o’i chreadigaeth.   

Fis Tachwedd oedd hi, pryd mae’r gaeaf yn dechrau cipio’r ddinas. Roedd y Niefa’n llonyddu dan dalpiau o rew a ninnau ar y lan yn fferru gerbron y Marchog Efydd, cerflun trawiadol o Pedr Fawr, Tsar cyntaf Ymerodraeth Rwsia. Ym 1703 y sefydlodd Pedr y ddinas hon a’i phwrpas oedd trawsffurfio'r Rwsia ganoloesol, led-Asiaidd yn wlad Ewropeaidd rymus.

Alecsandr Pwshcin, bardd enwocaf Rwsia, a roes yr enw ‘Y Marchog Efydd’ ar y cerflun. Ym 1833, cyhoeddodd gerdd hir yn dwyn yr un teitl. Mae'r gerdd yn agor gyda delwedd fytholegol o Pedr Fawr yn synfyfyrio ar lannau’r Niefa, lle mae’r afon yn cwrdd â'r Môr Baltig, ac yn dychmygu’r ddinas a fyddai’n ‘ffenestr i Ewrop.’ Llonyddodd Pedr ddyfroedd y Niefa â rhwydwaith cywrain o gamlesi. ‘Fenis y Gogledd’ yw’r llysenw a roddir arni heddiw - ond ar ddelw Amsterdam y cafodd ei chynllunio. Gorchmynnodd Pedr uchelwyr ei wlad i’w ddilyn o Fosco, y brifddinas draddodiadol, i’w brifddinas newydd yn y gogledd, a chodi plastai yn ôl ffasiynau Ewrop. Yn awr, lle ar un adeg doedd yna ddim ond tir corsiog, mae yna resi o blastai Baróc a neo-glasurol. Dewiswyd eu lliwiau’n ofalus – lliwiau gwelw sy’n gweddu i’r eira, ac yn ystod y gaeafau tywyll mae rhyw gysur yn y lliwiau hyn, sy'n gadarnhad y daw’r haf yn ei dro â’i nosweithiau gwynion.

Gyda chymorth llenorion fel Pwshcin, troes hanes ei chreadigaeth yn fyth, a daeth Sant Peterbwrg yn gysyniad cenedlaethol – y Rwsia Ewropeaidd. 

Ond rhith fu’r ddinas erioed: façade y byddigion. Nid nepell o'r Marchog Efydd mae Pont y Cyfarchiad yn croesi’r Niefa. Byddwn yn croesi’r bont yn aml iawn wrth gerdded am y Brifysgol, ac yn oedi o dro i dro tua’r canol. Yn yr union fan hon, ond ar yr hen bont, y daw Rascolnicoff, prif gymeriad 'Trosedd a Chosb', i fyfyrio ac, wrth edrych ar y banorama fawreddog ar lannau’r Niefa – Palas y Gaeaf, y Marchog Efydd a chromen aur Cadeirlan Isaac sy'n teyrnasu uwch rhengoedd o blastai – ni wêl ddim ond prydferthwch di-fudd a diwylliant diamgyffred.

Portread gwahanol iawn o Sant Peterbwrg a gawn fel arfer yn nofelau Dostoiefsci. Mae’n dadrithio’r ddelwedd ramantaidd ac yn tynnu sylw at realiti hagr y ddinas yn ystod y 1860au. O dan façade yr ymffrost imperialaidd mae dinas y meddwon, y puteiniaid a’r gwystlwyr ac, yn y gymdeithas ddiymgeledd hon, gwelwn foesau’n gwyro, a’r afresymol yn cael ei resymoli.  

Ni fûm erioed mewn dinas sy’n dathlu ei hetifeddiaeth lenyddol gymaint â Sant Peterbwrg – mae pob gardd, sgwâr a safle metro yn coffáu rhyw lenor neu’i gilydd. Yn yr ardal o gwmpas Sgwâr Senaia, ble mae 'Trosedd a Chosb' wedi’i lleoli, mae yna ddelw o Dostoiefsci a’r geiriau Cartref Rascolnicoff yn troi ffuglen yn realiti. Fe’i gosodwyd, nid ar gartref Dostoiefsci ond ar yr adeilad lle y dychmygodd yr awdur gartref Rascolnicoff. Gwreiddiodd Dostoiefsci ei nofel yn y rhan hon o’r ddinas ac fe ddaeth y stori a’i chymeriadau’n rhan o’i hanes. Felly, ar drywydd hanes, nid ffuglen, yr aethom am dro drwy’r ardal hon, gan ddilyn ôl troed Rascolnicoff ar y daith dyngedfennol honno o’i gartref i dŷ’r hen wraig y mae e'n dewis ei lladd yn y nofel. Mae yna 730 o gamau, meddai Dostoiefsci; ni fentrais eu cyfri.

Roedd oes aur gyrfa Dostoiefsci, y 1860au a’r 1870au, yn gyfnod cythryblus yn Rwsia. Ym 1861 cafodd y taeogion eu rhyddhau. Daeth cyfnod o ansefydlogrwydd gwleidyddol, economaidd a chymdeithasol yn sgil hynny ac ni lwyddodd diwygiadau'r Tsar i lonyddu’r dyfroedd. Ym 1881, lladdwyd y Tsar gan Chwyldroadwyr ac yn y fan lle ffrwydrodd y bom codwyd ‘Yr Eglwys ar Waed a Ollyngwyd.’ Dechreuwyd ei chodi ym 1883 ond ni chafodd ei chwblhau tan 1907, a hynny am fod pob un o’i muriau wedi ei addurno â delweddau crefyddol mewn mosäig.

Sant Peterbwrg

‘Dydi’r eglwys ddim yn gweddu i’r ddinas,’ meddai ein hathrawes yn ddigon onest, ‘mae’n rhy Rwsiaidd.’ Rhaid imi gytuno â’i gosodiad. Er gwaetha’i phrydferthwch, mae ei thyrrau a’i thoeon crynion – onion domes a ddywedir yn Saesneg – yn tarfu ar gymesuredd perffaith ei chymdogion neo-glasurol. Pan gynlluniwyd yr eglwys yn yr 1880au, roedd mudiad deallusol Slafoffiliaeth yn parhau i herio’r ymdeimlad o berthyn Ewropeaidd, a chaiff hynny ei efelychu ym mhensaernïaeth yr Eglwys. Roedd deiliaid y mudiad hwn yn ceisio arddel hen werthoedd y wlad a gwrthod dylanwadau Ewropeaidd; bu Dostoiefsci yn ymhél â’u syniadau am gyfnod yn ei waith newyddiadurol. Felly, yn gydnaws â’r ysbryd cenedlaetholgar hwn, cynlluniwyd yr eglwys ar ddelw Cadeirlan draddodiadol Basil Sant ar y Sgwâr Coch ym Mosco, a saif heddiw’n symbol o hunaniaeth gymhleth ac amlweddog gwlad fwyaf dwyreiniol cyfandir Ewrop.

Diwedd ein taith oedd caffi y Бродячая Собака, sef y ‘ci strae,’ neu’r ‘ci digartref'. Dyma gaffi cabaret wedi’i leoli mewn seler wrth ymyl theatr Michailofsci. Hawdd iawn fyddai cerdded heibio’r caffi oni welwch ei arwydd trawiadol: ci blêr wedi’i hel i’r tywyllwch, y tennyn am ei wddf wedi’i rwygo, a’i bawen yn pwyso ar fwgwd. Fe’i agorwyd Nos Galan 1912, a hyd at 1915 bu’n gyrchfan i nifer o artistiaid bohemaidd. Yn ystod y cyfnod hwn, cynhaliodd y cabaret lawer o nosweithiau cerddorol, perfformiadau theatrig, a darlleniadau barddoniaeth. Yma roedd beirdd Oes Arian barddoniaeth Rwsia yn cyfarfod, gan gynnwys Anna Achmatofa, Osip Mandelshtam a Fladimir Maiacofsci. Roedd Boris Pasternac hefyd yn ymwelydd cyson â’r caffi, yn ogystal â’r actor enwog, Fsefelod Meyerhold; artistiaid o fri heddiw, ond artistiaid a sathrwyd gan eu gwlad eu hunain - cŵn strae a yrrwyd i’r tywyllwch. Dechreuodd yr artistiaid hyn eu gyrfaoedd ar drothwy un o gyfnodau mwyaf cythryblus Sant Peterbwrg. Bu’r tyndra gwleidyddol a chymdeithasol yn cyniwair ers cyfnod Dostoiefsci, ac ym mis Hydref 1917 cyrhaeddodd ei benllanw â dau Chwyldro a drawsffurfiodd y wlad. Cawn ninnau yng Nghymru bortread o’r cyfnod hwn gan Wiliam Owen Roberts, yn Petrograd, y nofel a’m denodd i’r ddinas yn y lle cyntaf.

Ym 1918, canodd un o’r ‘cŵn strae’, Osip Mandelshtam, am dranc ‘Petropolis’, y ddinas Ewropeaidd:

Ffrwydrodd gwanwyn gwyn tros Nefa ddu;
Toddodd tragwyddoldeb fel cŵyr ein cnawd.
Os seren wyt, marw mae Petropolis gu,
Marw mae Petropolis, dy frawd.

(Cyfieithiad Stephen Jones, Cerddi Osip Mandelstam, 1996)

Gyda’r Chwyldro, trawsnewidiwyd gwedd ac ysbryd y ddinas. Codwyd adeiladau llwm Sofietaidd, gydag arwydd y morthwyl a'r cryman wedi’i naddu ynddynt, yn atgoffâd parhaus o ideoleg Gomiwnyddol y drefn newydd. Troes dinas Pedr yn Leningrad, crud y Chwyldro.   

Bu raid i’w llenorion hefyd gydymffurfio ag ideoleg Gomiwnyddol y Bolsheficiaid. Pan esgynnodd Ioseff Stalin, roedd yn rhaid i’r ‘cŵn strae’ ganu cytgord â’i agenda ef neu gael eu difa. Dywedodd Mandelshtam mai ‘yn Rwsia yn unig y caiff barddoniaeth ei pharch dyladwy. Yma y mae pobl yn cael eu lladd o’i phlegid. Ple arall yn y byd y mae eu crefft mor aml yn gyfrifol am roddi beirdd i farwolaeth?’ (Cyfieithiad Stephen Jones, Cerddi Osip Mandelstam). Roedd yr Undeb Sofietaidd yn ymwybodol iawn o rym geiriau a phwysigrwydd llenyddiaeth fel arf gwleidyddol; lladdwyd rhai o’r cŵn yn ystod Puredigaeth Fawr Stalin (1936-38), ac eraill gan anobaith. Gwrthod plygu i’r drefn a wnaeth Mandelshtam, ac ym 1934 fe’i carcharwyd am ganu’n wawdiol am Stalin. Ym 1938, bu farw mewn gwersyll tramwy ar y ffordd i Siberia.

Cafodd Y Ci Strae ei gau gan yr awdurdodau ym 1915 ond fe’i hail-agorwyd yn 2001, ddeng mlynedd ar ôl cwymp yr Undeb Sofietaidd, oherwydd y diddordeb cynyddol yn llenorion yr Oes Arian. Yn driw i’w gwreiddiau, ceisiwyd adfer yr hen naws fohemaidd a gwneud y caffi, unwaith eto, yn fagwrfa gelfyddydol. A chawsom ninnau noson ddifyr yng nghwmni artistiaid ifainc - llenorion a cherddorion a anwyd wedi i’r llen haearn rhwng Rwsia a’r gorllewin gael ei dymchwel.  

Mae Sant Peterbwrg wedi newid ei gwedd sawl gwaith. Heddiw, fe’i hystyrir yn brifddinas ddiwylliannol y wlad ac yn un o ardaloedd mwyaf rhyddfrydol Rwsia. Dywedir bod ganddi ysbryd Ewropeaidd ac, wrth wrando ar lenorion ifainc Y Ci Strae, daeth yn amlwg fod yr ysbryd hwnnw yn seiliedig ar werthoedd rhyddfrydol y gorllewin.

Ond wrth eistedd yno ac edrych ar luniau beirdd yr Oes Arian ar hyd y waliau, ni allwn lai na theimlo mai cŵn strae yw llenorion Rwsia o hyd, yn enwedig yng ngolwg y Cremlin, sy’n ceisio gwasgu’i grafangau’n dynnach am gelfyddyd Rwsia. Rai diwrnodau’n ddiweddarach, daeth Pwtin i Sant Peterbwrg er mwyn cwrdd ag arweinwyr celfyddydol y ddinas. Â’i ddawn rethregol arbennig, dywedodd na ddylai celfyddyd greu ‘rhwygiadau cymdeithasol,’ ac awgrymu, felly, y dylai pawb gydymffurfio â’r un safbwynt cymdeithasol. Dim ond fel hynny y mae osgoi ymosodiadau terfysgol fel yr un a gafwyd yn erbyn cyfranwyr Charlie Hebdo ym Mharis, meddai Pwtin.

Bu sensoriaeth yn fwrn ar awduron Rwsia erioed: ynghyd â’r ‘cŵn strae’, cafodd Pwshcin a Dostoiefsci hwythau eu herlid. Erbyn heddiw, hunan-sensoriaeth yw’r perygl mwyaf, ac fe anogir hynny gan gyfreithiau cyfrwys Pwtin. Dros y blynyddoedd diwethaf cafwyd ffrwd o gyfreithiau gwrth-ryddfrydol sy’n cyfyngu ar fynegiant yr artist: mae rhai ohonynt yn gwahardd ‘hybu gwerthoedd annhraddodiadol’, ‘sarhau crefydd’ a chreu ‘rhwygiadau cymdeithasol.’ Maent oll yn fodd i’r Cremlin gryfhau ei allu i reoli’r cyfryngau a’r celfyddydau.

Gweledigaeth Pedr Fawr oedd troi Rwsia at Ewrop, ond heddiw ymddengys fod Pwtin yn ceisio datod rhai o’r cysylltiadau hynny a throi’r wlad yn gynyddol oddi wrth werthoedd rhyddfrydol y gorllewin (er mor simsan yw’r rheini ar hyn o bryd) a thuag at geidwadaeth ddwyreiniol.

Fodd bynnag, wrth ymweld â Dom Cnigi – siop lyfrau enwog yn Sant Peterbwrg – ar 9 Tachwedd, a chael fy nghroesawu gan ddoliau matrioshca wedi’u haddurno â wyneb arlywydd newydd yr Unol Daleithiau, ynghyd â phentwr o bapurau newydd yn dathlu’r fuddugoliaeth, ystyriais ba mor wahanol yw Rwsia a’r gorllewin mewn gwirionedd. Yn ystod y cyfnod cynnar ôl-Sofietaidd y gred oedd y byddai Rwsia, maes o law, yn troi’n gynyddol at y gorllewin. Ond, ar ôl pleidlais Brexit a buddugoliaeth Donald Trump, ymddengys nad oes angen iddi; mae’r gorllewin eisoes yn troi ati hi.


Mae Samuel Jones yn treulio cyfnod yn San Peterbwrg ar hyn o bryd yn ymchwilio i gyfieithiadau T Hudson Williams o'r Rwsieg i'r Gymraeg. Darllenwch 'Cymru ac etifeddiaeth Ewrop' ganddo fan hyn.  

Lluniau o Sant Peterbwrg gan Samuel Jones.

Gellir darllen cyfweliad gyda Wiliam Owen Roberts, awdur Petrograd, lle trafodir chwyldroadau ddoe a heddiw, yn y fan hon

Darllenwch gyfweliad gyda Sfetlana Aliecsieftis, enillydd Gwobr Llenyddiaeth Nobel 2015 fan hyn.


Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


 

Categorïau:

Rwsia, Samuel Jones

 


Erbyn heddiw, hunan-sensoriaeth yw’r perygl mwyaf ... Dros y blynyddoedd diwethaf cafwyd ffrwd o gyfreithiau gwrth-ryddfrydol sy’n cyfyngu ar fynegiant yr artist

Dyddiad cyhoeddi: 03·01·2017

Yn ôl i frig y dudalen

Cyfansoddi


Grug Muse

Gan ymddangos mewn gofod diamser dechreuais siarad trwy fy nghlustiau yn y pnawn roeddwn eisiau diffodd y golau ond wyddwn i ddim pryd yn union roedd y golau am orffen canu roedd fy mreichiau wedi blino arwain yr unig beth y dois o hyd iddo o blith atgofion gorffennaf oedd yr offeiriad yn chwydu wedi’r priodasau ... 

Dadansoddi


Sioned Puw Rowlands

Fis Hydref eleni, yn fuan wedi cyhoeddi enw enillydd gwobr Nobel llenyddiaeth 2019 – Peter Handke (Griffen, Awstria, 1942) – cyhoeddodd PEN America eu bod yn gegrwth: ‘We are dumbfounded by the selection of a writer who has used his public voice to undercut…

Adolygu


Siân Melangell Dafydd

Sylwch ar ddarlun y nico bach, mor gysáct ei ystumiau, yn hedfan hyd glawr y gyfrol hon. Bron na ellir clywed fflap ei adenydd, ei gân benysgafn, sionc. Ond mae awgrym o rywbeth arall ar y clawr: darlun manwl berffaith cloc dant y llew…

Adolygu


Jerry Hunter

Mae hanes Unol Daleithiau America yn hanes ymerodraeth: dyna neges graidd y llyfr hwn. Yn ogystal â chraffu ar hynt imperialaeth Americanaidd, mae Daniel Immerwahr yn archwilio’r berthynas ryfedd rhwng dinasyddion yr Unol Daleithiau ac ymerodraeth eu gwlad. Fel yr awgryma teitl y gyfrol, ymerodraeth gudd ydyw o…

Adolygu


Mike Parker

Er na chefais gyfle hyd yma i gyfarfod â Daryl Leeworthy, awdur y gyfrol hon, rwyf wedi dod i’w nabod yn lled dda yn rhithfyd Twitter. Dywedodd wrthyf bod A Little Gay History of Wales yn ‘very “me”, as it were’. Ni allwn fod wedi cyfleu hynny’n…

Adolygu


Grug Muse

Dilyn hanes teulu ifanc o Grangetown mae’r nofel hon, a hynny yn sgil Brexit. Adroddir y stori o safbwynt tad ifanc o Gwm Gwendraeth, sef Carwyn. Dyma deulu bach niwclear dosbarth canol, efo morgais, y rhieni â graddau da i’w henwau, ac o leiaf un…

Cyfansoddi


Jerry Hunter

1. y noson honno. 2. gadael yr Eglwys Gadeiriol. 3. dweud rhywbeth [fel hyn] wrtho fo [:]. 4. chwara teg, roedd yr hen gastrato na yn canu'n wych. Dwi wrth modd â'r math yna o sŵn – pedwar llais yn dod ynghyd felna, yn…

Cyfansoddi


Jerry Hunter

Mae'n haws gosod popeth mewn trefn. Llyma dechreu [sic] rhoddi trefn ar ... Rhaid eu rhestru: pry genwair / hunangenhedlahalogol / O bosibl ymysg y rhai a oedd wedi bwyta Liwsi a'r lleill ac amlygu'r esgyrn ...