Colofnau

‘Un serch sydd, un ofn, un angau ...’

Y Cofnod


Sioned Puw Rowlands

Amser darllen: 14 munud

30·11·2018

Golygfa o'r ffilm Sátántangó gan Béla Tarr, a seiliwyd ar nofel yr awdur o Hwngari, László Krasznahorkai


Roedd fy mam yng nghyfraith ar y ffôn: ‘Be, mi rwyt ti’n ymddiheuro am dorri gwydr arall? Bravo! I’w torri maen nhw’n da, ferch! Gad i wydr arall ddisgyn yn deilchion ar lawr! Ia, yr un drudfawr yna sydd wedi ei gadw’n ofalus gan dy fam yng nghyfraith, dy nain... Gollwng o. Yn siwrwd! Mi rof i fwy i ti, i’w lluchio. Dwi wedi syrffedu gweld y llestri, y gwydrau, y dillad yma, yn sefyll yn falch, yn gorwedd yn dangnefeddus yn y cwpwrdd, yn mynnu fy ngofal, a finnau’n plygu i henaint o’u blaenau. Mi fyddan nhw yma eto mewn canrif, gei di weld. Haerllug ydyn nhw. Gwatwarus. Maen nhw’n torri fy nwylo – er mwyn rhoi i mi gysur eli; maen nhw’n fy nenu, yn tynnu fy llygaid – er mwyn crafu’r tyllau. Dychmyga. Hen bryd eu chwalu’n deilchion, y glaswydrau hyn sy’n stond uwch fy natod ... Mi fedra’ innau hefyd farddoni, weli di, yn nhraddodiad gorau’r Hen Roegwyr.’

Tan i mi briodi Groegwr, roeddwn i’n cymryd mai myth oedd awch y Groegiaid i dorri llestri. Ond fel swynogl y Llygad, το μάτι – a gaiff barch a lle ym mwyafrif cartrefi Groeg, gwrthrych nad yw cweit yn ornament, a all fod yn bitw bach neu sylweddol – mae’r ddelwedd yn un ddiriaethol, yn rhan weithredol o’r diwylliant.

Derbynnir sŵn y llestri’n malu mor naturiol â geni, cenhedlu a marw, ei gydnabod yn yr un ebychiad ag achos ac effaith, yn rhesymeg gyfansawdd. Ac er eu bod ar yr yr wyneb yn fwy caeth eu byd, wedi eu rhwymo am ddegawdau eto i’w dyledion cenedlaethol (cofiaf eiriau un Groegwr yn ei bumdegau yn gynharach eleni: ‘Waeth i ni anghofio am y tri deg mlynedd nesaf, maen nhw wedi mynd’) mi fyddaf yn ymwybodol ar adegau fod y Groegiaid yn gwybod mwy o dipyn am ystyr rhyddid na thrigolion diwylliannau mwy Gorllewinol.

O fod wedi cydnabod yn eu ffordd o fyw yr angen dynol hwn – yn sylfaenol, y gynneddf i chwalu – ceir ysbeidiau o ryddid meddyliol ymhlyg ym mhob diwrnod yng Ngroeg. Nythwyd y llygaid gleision oer yn llygad-dystion pan ddaw dieithriaid i’r cartref, eu clymu’n emwaith rownd gyddfau pan fo raid mynd allan i wynebu’r byd, eu rowlio hefyd fel marblis i gesail yr oriau a’r dyddiau, i’n gwarchod ‘rhag dymuniad y diafol’ (gall ein cyffwrdd mewn edrychiad, mae’n debyg), a siwtrws y malu llestri yn hongian uwchlaw’r aelwyd yn ddelwedd a gynigia falm i’r galon, fel disgyn dafnau glaw ganol Awst. Syniad rhamantus sy’n fwy tebyg o daro dieithryn, mae’n siŵr, ond un sy’n fwy tebyg o wreiddio hefyd mewn caethiwed fallai.

Er nad oes modd cuddio llwybr y chwalu drwy’r llestr – heb fynd at arbenigwr mewn amgueddfa – mae modd gludo’r darnau’n ôl at ei gilydd ac yfed eto o’r un gwydr. Heblaw, pan dorrir yn ddarnau ‘r[h]ywbeth na ellir byth ei gyfannu drachefn na’i wneuthur fel cynt, yna fe brofir cyffro gwahanol, ias fer o anobeithioldeb, wrth syllu ar y trychineb’, meddai T H Parry-Williams. Ac meddai eto wedyn, ‘yn gymysg â honno’ mae ‘ymdeimlad o anghyfrifoldeb, sydd bob amser yn bleserus, am fod dyn yn rhydd pan ddêl ffit felly drosto’.

Y ferch a'r gath. Golygfa o'r ffilm Sátántangó / Béla Tarr

Tybed ai rhydd ydyw oherwydd iddo gael pardwn i adael llwyfan ei stori? Pardwn fel y gall roi’r gorau i gyniwair fel y gwynt hwnnw ym myd Sátántangó (Dawns y diafol, 1985; cyf. Saesneg gan G. Szirtes, 2012), nofel yr awdur athrylithgar o Hwngari, László Krasznahorkai. Yno, ym mwd a baw adfeilion yr Ymerodraeth Awstro-Hwngaraidd a methiannau fferm gyfunol, mae’r gwynt yn siffrwd trwy’r coed ‘megis llaw ddiymadferth yn chwilota llyfr llychlyd am ryw brif gymal diflanedig’. Fallai os parith y ffit ddigon hir, ni fydd raid ymlafnio i drwsio’r naratif, oherwydd does obaith wedyn ailgyflunio llinellau’r un un stori. Gollyngdod.

✒︎

Er gwaethaf popeth, er gwaethaf y newyddion dyddiol sy’n sobri a’r ansicrwydd byd-eang, mae rhyw gynnwrf ar y funud yn yr aer hefyd, rhwy deimlad o gyffro y gellid ei chwyddo eto – gan dymestl. Ac yn yr un chwa, synhwyrwn eisoes adenydd y ffenics yn ystwyrian yn y llwch, yn barod i godi: yn Gymru Rydd, neu sinigiaeth ‘sosialaeth drychineb’. Pa mor bell fedr dyn fynd?

Wrth ddal anadl o flaen dinistr, ‘wrth daro’r pen cyn dyfod i’r pen yn hollol’, yn yr hanner ymdrech unllygeidiog i osgoi dychmygu’r gwaethaf, gallwn deimlo’r gwaed yn llifo a’r galon yn curo. A’r ‘gôl wedi ei sgorio cyn i’r bêl fynd i’r rhwyd’, ys dywedodd drachefn T H Parry-Williams, mae gobaith deffro’n ‘fyw’ eto – heb lyncu’r wermod. A thra bod y dinistr wedi ei gadw hyd braich, gellir teimlo pleser nid annhebyg i wefr y voyeur; neu’r mwynhad amheus o fod yn gaeth i arfer sy’n bwydo gwefr gorfforol, gwefr y gellir ei chadw i fynd trwy fentro symud y bar – at bwynt. Aeth ‘sigarét wedi swper’ yn ‘sigarét amser bwyd’, nes llosgi paced rhwng nos a dydd. Rhyw fath o gêm ‘dares’ ond ar raddfa fyd-eang, gyhoeddus – ac sy’n dibynnu ar sgrolio penawdau.

Ddoe, daeth y newydd o Fwlgaria am lofruddiaeth newyddiadurwraig arall eto. Erbyn nos, ymhellach i’r dwyrain, gwawriodd arnom mai cael ei dorri a’i smyglio’n ddarnau o Gonswliaeth Saudi Arabia yn Istanbwl oedd ffawd Jamal Khashoggi, cyn-uwch ymgynghorydd i’r llywodraeth a feirniadodd weinyddiaeth y Tywysog Mohammed ac a ddihangodd, am sbel, yn alltud. Ben bore, wedyn, yn llenwi’r tudalennau blaen mae gorfoledd mwyafrif Brasil wrth iddi ddod yn amlwg, wedi rownd gyntaf y bleidlais Arlywyddol, y daw Jair Bolsonaro i ‘achub’ y wlad cyn Dolig. Dyma’r dyn a ddisgrifiwyd fel cyfuniad o Hugo Chávez a’r unben o Chile, Augusto Pinochet, a gyhoeddodd yn agored ei fod yn cymeradwyo unbennaeth, ac a amddiffynnodd lywodraeth Brasil 1964-85 – llywodraeth a fu’n gyfrifol am ddiflaniad cannoedd o wrthwynebwyr. Dyma’r dyn sydd hefyd wedi addo agor fforestydd glaw yr Amason i ffermwyr a mwyngloddwyr, a’r diweddaraf i roi addewid y gwnaiff dynnu ei wlad o gytundeb Paris. Yn y cyfamser, arestiwyd pennaeth Interpol – onid ceidwad y giatiau olaf? – nid yn Lyon, lle mae’r pencadlys, ond yn Tsieina, a dyna dynnu tu chwith allan, ei throi ar ei phen, ein dealltwriaeth o gyfraith a threfn.

Cawn ninnau ein tynnu o batrwm ein byw, ein rhyddhau am ennyd rhag pwysau ein cyfrifoldebau gan ddwyster cyffro’r sbectacl absẃrd ac amlochrog hon, wrth iddi wawrio arnom nad mewn hanes yn unig mae llinynnau’r naratif yn cael eu torri, nid ychwaith mewn gwlad bellennig nad yw’n ddim mwy na llun, ond mewn bywyd go iawn – ein bywyd ni, rŵan hyn. Mae’n ddigon o gyfiawnhad i down tools; yn wir, onid anghyfrifol ac annynol fyddai dal ati wrth ein tasgau beunyddiol yn y theatr hon? Onid oes dyletswydd arnom i oedi a rhythu – a sgrolio – i fod yn dyst? Yn dyst, yn nes adref, nid yn unig i gampau gwyrdroëdig a phellgyrhaeddol Trump a Pwtin i ddechrau, sy’n llwyddo unwaith eto i symud y ffiniau, ac i driciau ail law May a’n cydwladwyr, ond i’n stori ni’n hunain. Dyna’n union a benderfyna’r doctor yn Sátántangó: rhaid ‘gwylio pob un dim yn ofalus iawn a’i gofnodi’n barhaus’, mewn ymgais i ymorol yn erbyn ‘hynt gorfoleddus y broses chwalu ... y grym a ddinistriodd gartrefi, waliau, coed a chaeau’ – tan i bawb ddiflannu o’r fferm gyfunol, nes nad oedd yna ddim i’w wylio a’i gofnodi mwyach.

✒︎

Ceir hen syniad fod archwilio’r naratif – myfyrio ac arsylwi ar Fy Stori I – yn hanfodol er mwyn byw yn dda. Haerodd Socrates ryw gymaint. Ac onid oes yna bobl wedi gwneud y camgymeriad o dalu pres i seicdreiddwyr Lacanaidd i geisio dal gafael ar y darnau coll yn eu ‘hanes’, i’w galluogi i drwsio’r naratif a chamu i’w dyfodol? Mae’n gofyn am ymdrech i sythu stori’n feunyddiol, i’n hargyhoeddi ein hunain, yn gymaint ag eraill, ein bod ar drywydd clir, dewisiedig, er gwaetha’r rhychau. Nid pethau sy’n barod i’w trefnu fel llestri neu gynfasau mewn cwpwrdd mohonom, wedi’r cyfan, ond pobl o gig, a gwaed yn llifo trwom, yn heneiddio o’r newydd bob dydd.

Mae’r pwysau i fod fel petai’n Awduron proffesiynol ein hynt a’n hanes ein hunain yn cynyddu hefyd, wrth gwrs, wrth i ni fyw’n hirach a wynebu gorfod dringo mwy nag un ysgol yrfaol. Yn hytrach na meistroli métier, yn hytrach nag un bwa symffonig i’n codi, a’n gollwng â gravitas ar ddiwedd oes, rhaid ffurfio ein hunain yn ddarnau hyblyg, yn focs taclau symudol i ffitio pob math o gyfarpar gwneud cyfalaf, cyfarpar rhithiol weithiau, yn aml heb ddeall yn iawn eu gwir bwrpas. Dywedir ar y glannau hyn mai Ni Pia’n Tynged. Ond yn lle byw o’r newydd (fel y gwna pry genwair, mae’n debyg), wrth hunan-hollti, wrth fodiwleiddio stori, tybed ai cyfansoddi a wnawn adlais ohonom ni’n hunain, yn hytrach na thrawsffurfio; creu tonnau entropig yn y pen draw sydd yn ein cario ymaith, yn ein pellhau oddi wrth y dirgryniadau dan ein traed, oddi wrth wefr byw? ‘Os un ... ydyw popeth ac os unwaith yn unig sydd,’ meddai T H Parry-Williams wrth brofi bod ar chwâl, ‘os agweddau sy’n cyfrif ac nid amserau, yna nid cyswllt achos ac effaith sydd rhwng pethau bywyd – y mae’r effaith yn gymaint o achos â’r achos ei hun, y mae yfory’n gymaint o ddoe â doe ei hun, a dau yn gymaint o un-ac-un ag ydyw un-ac-un o ddau.’ Ac onid symptom yw’r sgrolio penawdau, y mewnblygu uwchben y ffôn lôn – fel y diwydiant awyrennau rhad – symptom o’n hawydd i ymestyn a chlosio ar yr un pryd, i gyffwrdd y byd, a chyfannu?

✒︎

Fel Scheherazade, gweu straeon ydi ffordd llawer, fallai’r brif ffordd, nid yn unig i ddenu eraill atom ond i’n temtio ni’n hunain o’n twll, o ba bynnag gyflwr sydd yn ein rhwystro rhag symud ymlaen ar hyd y llwybr ‘dewisiedig’. Ym mharagraff agoriadol Sátántangó gwelwn un o’r trigolion, Futaki, yn crafangu am ystyr sefydlog ar dir dadfeiliedig ystad Hochmeiss a’r fferm gyfunol fethedig – byd o entropi soeglyd:

Un bore tua diwedd mis Hydref ddim ymhell cyn i’r dafnau cyntaf o’r glaw hydrefol didrugaredd o ddiderfyn ddechrau disgyn ar y pridd caled o ddŵr halen ym mhen gorllewinol yr ystad (yn hwyrach ymlaen byddai’r môr o fwd melyn drewllyd yn gwneud y llwybrau’n amhosib i’w tramwyo ac yn gosod y dref hefyd tu hwnt i gyrraedd) deffrodd Futaki i glywed clychau.

Os ydyw’n clywed clychau, nid clychau capel yr ystad mohonynt ym meddwl Futaki – byddai’r capel yn rhy bell, o fod bedair cilomedr i ffwrdd, i’r canu yno fedru cyrraedd ei glustiau. Caiff ei ddrysu wrth fethu dirnad o ble daw’r sain – ai o’r ‘tu hwnt’? Wrth i’r stori ddatblygu, â’r si ar led bod Irimiás, a adawodd ddwy flynedd ynghynt ac y tybiwyd ei fod yn farw, ar ei ffordd, yn dychwelyd yn fyw – i achub y trigolion. Meddai Futaki am Irimiás: ‘Mae’n ddewin mawr. Pe byddai’n dymuno hynny, gallasai droi tomen o dail gwartheg yn blasty.’ Ac yn sydyn, anghofir yr holl gynllwynio a fu dan bwrdd, am ffyrdd i adael y twll lle ar draul cyd-ddyn, ac mae’r trigolion yn ymgynnull yn y bar, yng ngwres llewyrch eu dyfodol.
 

Golygfa o'r ffilm Sátántangó / Béla Tarr

Ond fel ym mhrofiad Futaki a’r doctor, cymaint y dryswch wrth geisio dod o hyd i lwybr drwy’r nofel hon, diolch i arddull drofaus Krasznahorkai, mae’r darllenydd hefyd yn cael ei orfodi i fireinio ei grebwyll wrth geisio dirnad geiriau, symbolau ac arwyddion byd Sátántangó, wrth ymlafnio trwy’r mwd a chael ei rwydo gan y delweddau o bydredd trosgynnol – fel petai’r madru yn amod ystyr.

✒︎

Pethau grymus ydi geiriau hefyd, yn ein clymu i’n gilydd. Ac mae’n debyg fod angen pibydd brith, os nad Irimiás, ar bob cymuned o bobl: pibydd sydd yn defnyddio geiriau i ganu, i’n deffro o’n hedonistiaeth naturiol, i’n rhyddhau oddi wrthym ein hunain i edrych tu hwnt i’r presennol – a thrawsffurfio, i gyflawni’r ‘amhosib’.

Er bod angen greddf ar gyfer hynny, ar gyfer gwybod pryd i ganu a chamu – a chyfrifoldeb ar bob dinesydd, i ystyried pryd i wrando a dilyn – nid gêm i’w hennill ydi swyno pobl. Mae dehongli a manteisio ar rythm y foment yn gelfyddyd ond hefyd yn goblyn o gyfrifoldeb. Gall fod yn fendith pan fo awch a gallu un dyn yn mapio anghenion cyfnod. A hanfod hunanhyder yw gwybod bod rhywun â ffydd ynom. Ond drygioni melltigedig ydi siarad – neu hyd yn oed gredu, fel trigolion Sátántangó – anwiredd hefyd, meddai ysgrifwr penigamp y Dadeni, Michel de Montaigne, oherwydd ‘diolch i’n geiriau yr ydym ddynol’. (Roedd Niccolò Machiavelli, awdur beibl gwyddor gwleidyddiaeth fodern, Il Principe, eisoes yn ei fedd.) Gwybod sut i ddelio gyda’r gwirionedd hwn – mai geiriau sydd yn ein gwahaniaethu oddi wrth weddill creaduriaid y ddaear – ydi sialens fwyaf gwleidyddiaeth.

Sobreiddiol felly ydi ystyried fallai mai gwanhau, yn hytrach na chryfhau, mae’r gafael ar hunanddealltwriaeth ddilys wrth ymdrechu i fodiwleiddio, i adrodd yr hunan, i gynnal Ein Hanes, ei drimio a’i ffitio i ba bynnag ofynion. Wrth gymoni ein straeon, fel unben ar wladwriaeth o un, tybed onid mygdarthu mynegiant a wnawn? ‘For we live,’ meddai’r awdur a’r ysgrifwr taith V S Pritchett, ‘beyond any tale we happen to enact.’ Pendroni wna T H Parry-Williams yntau wrth fynd ymhellach ar chwâl:

Onid yw dyn ambell dro yn gallu dywedyd ei feddwl cyn bod y meddwl hwnnw - yn ymwybodol, beth bynnag, - wedi ymffurfio yn ei ymennydd? Y mae geiriau’r mynegiant fel petaent yn dyfod o flaen y meddwl ei hun, yn hytrach nag fel arall.

Tybed onid oes angen elfen o’r anhysbys a’r anghyflawn, o’r anhydrin yn ogystal, er mwyn cadw’r ysbryd beirniadol yn fyw, gan greu rhwystr yn llwybr y demtasiwn i archwilio, cyweirio a phennu stori? Yn yr un cywair â’r ddelwedd o’r llestri teilchion yn hongian uwchlaw’r aelwyd, yn ysbryd swynogl y llygad-dystion gleision sy’n cydnabod drygioni yng nghesail pob awr, oes felly rinwedd i gof eiddil hefyd, rhyddhad o fath, wrth gyfyngu ambell un i ateb y cwestiwn ‘Sut wyt ti?’ yn drwsgl, yn ddarniog, heb linell naratif?

Yn sicr, meddai Montaigne, does dim masnach i’r un gwan o gof yn celwydda. Ac fel gwydr toredig, penodol a meidrol o raid yw daioni, amhenodol ac aneirif ddrygioni. Roedd Montaigne hefyd yn grediniol mai gwendid ei gof oedd yn ei alluogi i dderbyn croeso a gwên o’r newydd gan hen lyfrau, hen lefydd. Ond yn Sátántangó, wedi i’r trigolion adael i ddilyn Irimiás i’w ffawd, pan nad oes dim ar ôl i arsylwi arno na’i gofnodi, mae’r doctor yn sylweddoli’n sydyn y gall wneud defnydd o’i gof a sgwennu eu straeon hebddynt. Heblaw, wrth iddo flysio sgwennu, caiff yntau ei styrbio gan glychau’n canu. Ceisia ddirnad o ble daw’r sŵn, ni fedr yn ei fyw ddeall, gan gerdded drwy’r glaw i’r capel ar yr ystad – y capel y barnodd Futaki fyddai’n rhy bell i’w glustiau glywed sain ei glychau. Yno, daw o hyd i wallgofddyn, yn canu ‘cloch fechan ei maint ... a hongiai yng nghanol y strwythur noeth, dros-dro’. Wedi canfod eglurhad bydol i’r canu trosgynnol, mae’n dychwelyd adref drwy’r mwd a’r glaw, yn hoelio drws ei gartref ynghau, ac yn dechrau ysgrifennu: ‘Un bore tua diwedd mis Hydref ddim ymhell cyn i’r dafnau cyntaf o’r glaw hydrefol didrugaredd o ddiderfyn ddechrau disgyn ar y pridd caled o ddŵr halen ...’ Sef y nofel rydym newydd ei darllen, Sátántangó.

Gadewir y darllenydd i bendroni ai achubiaeth yw hyn i’r doctor, wrth iddo ystyried fallai mai yn ei ddarnau, yn ei ddigwydd – wrth iddo ysgrifennu – y mae profi’r trosgynnol, ynteu ai gwas y diafol yw’r doctor, yn tynghedu’r ddawns drasig hon i droi am byth, yn stori ar linyn.

Mewn cyflwr nid cwbl annhebyg, gofyn am chwa o wynt – Gwynt y Dwyrain – wna T H Parry-Williams er mwyn cael byw amser, a’r bywyd hwn: yr un serch, yr un ofn, yr un angau. ‘Unwaith y maent erioed’ ond ‘I ni y mae hyn yn bod yn ei ddyfod’.

Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


Gall fod yn fendith, at bwynt, pan fo awch a gallu un dyn yn mapio anghenion cyfnod

Dyddiad cyhoeddi: 30·11·2018

Yn ôl i frig y dudalen

Adolygu


Dyfrig Williams

Mae cyfrol ddiweddaraf Mariana Mazzucato, Athro yng Ngholeg Prifysgol Llundain, yn ddadl angerddol dros fuddsoddi a gwario er budd ein dyfodol. Yn ôl yr awdur, dylid ailfeddwl y berthynas rhwng marchnad a llywodraeth a bod yn gwbl lygatglir ynghylch pwy sydd yn…

Adolygu


Pedr Jones

Ar drothwy’r Rhyfel Mawr, roedd tueddiad gan y Cymry i gysylltu militariaeth â Seisnigrwydd, Eglwys Lloegr a gormes landlordiaeth. Yn y gyfrol bwysig hon gan Aled Eurig, sydd yn ffrwyth ymchwil archifol sylweddol, cawn ein hatgoffa bod nifer y Cymry a ymunodd â’r Fyddin yn…

Dadansoddi


Angharad Dafis

Aeth tridiau heibio bellach ers i gabinet Cyngor Dinas a Sir Abertawe benderfynu yn unfrydol i gau Ysgol Gynradd Gymraeg Felindre. Bu’n dridiau anodd. Rwyf wedi bod yn galaru droeon am anwyliaid. Mae hwn yn alar gwahanol: galar am gymuned benodol iawn…

Dadansoddi


Mabon Llŷr Hincks

Benben â’i gilydd, mewn cydbwysedd perffaith, mae dau gerflun yng nghanol cylch. Heb fwy na lled bys rhyngddyn nhw, does dim dwywaith nad ar y bwlch bychan hwn yr hoelir ein sylw gyntaf. Nid sefyll yn urddasol a wna’r siapiau rhyfedd ychwaith, ond…

Adolygu


Llio Mai Hughes

Nos Wener, 15 Mawrth, perfformiodd Cymdeithas John Gwilym Jones eu cynhyrchiad cyntaf yn Stiwdio Pontio, Bangor. Ac Eto Nid Myfi oedd y ddrama, a phob tocyn wedi’i werthu. Roedd Pontio yn llawn bwrlwm wrth i’r dorf ymgasglu; yn eu mysg roedd myfyrwyr, cyn-fyfyrwyr, darlithwyr,…

Cyfansoddi


Emyr Lewis

Mae Lana Turner 'di colapsio! O'n i'n trotian heibio ac yn sydyn ddechreuodd hi fwrw glaw a bwrw eira a deudist di ei bod hi'n bwrw cenllysg ond mae cenllysg yn dy hitio di ar dy ben yn galad felly go iawn ... 

Cyfweld


Sioned Puw Rowlands

Roedd hi'n llonydd braf uwch ben moryd Dyfi fis Chwefror eleni. Yn gynnes. Roedd yr eithin wedi hen agor ei des melyn i'r cloddiau. A oedd pioden ddŵr – yr halcyon – wedi drysu a rhithnythu ar y môr gan leddfu'r dyfroedd? Fel y byddai ar fyrddydd gaeaf, yn ôl awduron…

Adolygu


Angharad Tomos

Da oedd gweld y theatr yn Pontio yn gyfforddus lawn ar nos Iau, 21 Chwefror ar gyfer y ddrama Anweledig. Roedd y cynhwysion cywir ar gyfer noson dda yno – Ffion Dafis yn gwneud sioe un wraig, ac Aled Jones Williams yn awdur. Ychwanegwch ddyfeisgarwch…