Dadansoddi

Y Dyn Rhydd


Qing Niao

Amser darllen: 6 munud

22·05·2018

Mae'r Tsieineaid yn hoff o ddilyn ffasiwn ac wrth eu boddau yn trwytho eu hunain mewn moethusrwydd, lliwiau a phatrymau. Yn bwysicach na dim i'r Tsieineaid y mae gwneud yr argraff iawn: mae'r awydd i dynnu sylw yn gryf ond hefyd yr awydd i gadw wyneb. Pobl sy'n swmera ydym – wedi ein gwisgo mewn dillad gwaith. Yn ein plith ceir hefyd yr hyn a adnabyddaf fel gwag-swmeriaid prysur.

Byw yn y wlad y mae'r gweithwyr hyn. Wedi pob tymor o waith mawr amaethyddol ymgasglant mewn ardaloedd penodol. Ar gyrion pethau y clustnodwyd yr ardaloedd hyn ganddynt. O dro i dro, daw cyflogwyr yma i chwilio amdanynt.

Gwisgant yn debyg i'w gilydd. Dillad hen yr olwg fel arfer, o liw glas neu wyrdd tywyll; cap glas ar yr hen ffurf filitaraidd ond heb y seren goch; pâr o sgidiau du lledr, a'r sawdl o blastig (yn draddodiadol, fe'u gwnaethpwyd â llaw gyda sawl haenen o ddefnydd wedi eu rhwymo'n droellog a'u gwnïo ag edafedd cotwm). Er na ddynodir eu proffesiwn gan eu dillad llychlyd, maent yn gosod ac arddangos eu hunain ag arddeliad, eu hoffer parod yn eu dwylo. Yr offer sy'n dynodi natur eu gwaith.

Fel milwyr bychain, mae'r rhawiau'n gorwedd, un yn ochr y llall, ers y bore. Mewn cornel, gorffwys y rholiwr paent ar flaen ei garn hir; caiff ambell roliwr ei ddal mewn llaw, a thro arall, ei wnïo'n sownd mewn bag trwm a ollyngwyd ar lawr. Yn y bag hwn, o ddefnydd gwyrdd tywyll, y cedwir yr holl offer yn drefnus. Dim ond un boced sydd i'r bag a fflap yn cau amdano gyda'r geiriau 'Trydanwr Rhyngwladol' neu 'Gwneuthuriad Graenus a Solet'.
 

Llun gan Qing Niao: Y Dynion Rhydd wedi ymgynnull yn Xining, Qinghai, Awst 2014
 

Mae'r offer a'r bagiau fel petaent yno i arwyddo cymhwyster. Ond weithiau, ceir cardiau busnes ym mhocedi'r gweithwyr hyn a'r enw, yr arbenigedd a'r rhif ffôn yn unig wedi eu cofnodi. Ffurfir grwpiau ganddynt ar sail cydweithredol; ceir y nafis i ofalu am y ffyrdd, y plastrwyr, yr adeiladwyr... Dônt i drefniant ymysg ei gilydd ac yna, rhoddir rhwydd hynt i'r cwsmeriaid. Maent yn griw siaradus. Yn ystod y dydd, yn eu hamser hamdden, fe'u gwelwn yn chwarae pocer efo mymryn o bres. Fel arall down o hyd iddynt yn amgylchynu cwsmer neu ddau, eu cardiau busnes wedi eu codi i'r awyr, yn mynnu'n groch: Fi! Mae brwdfrydedd yn cael ei werthfawrogi ac mae'r offer yn eu dwylo yn arwydd digamsyniol o'u busnes.

Pobl gynnes ydynt, gyda digon o amser i sbario. Fel gwynwy yn glynu mewn melynwy, amgylchynant eu cwsmer. Unwaith mae pawb yn gytûn ar y cyflog, bydd un ohonynt wedi ei hurio, ond nid yw hynny'n golygu ei fod yn well na'r lleill.

Gofynnais iddynt 'pam nad ewch chi i weithio i gwmni?' Meddyliais y byddai mwy o alw yno, cyflog sefydlog o leiaf, a gwaith bob dydd. Ond meddant dan wenu: 'Os na ddaw pres heddiw, daw pres fory'.

Mae'r Tsieineaid ar y cyfan yn mwynhau cael enw da. Maent yn ofalus o'u hymddangosiad; does a wnelo hyn ddim oll â'u haddysg, eu meddylfryd, eu syniadau, sydd yn groesddywediad rywsut. Ond i'r gwrthwyneb, mae'n well gan y gwag-swmeriaid prysur eu rhyddid. Fe'u galwaf yn ryddfreinwyr, yn ddynion rhydd (er nad ydynt mewn gwirionedd yn rhydd). Maent yn byw heb eu hymrwymo'n gymdeithasol a hynny'n eu taro'n drefniant mwy cyffyrddus. Democratiaeth byd gwaith yw hon – democratiaeth sy'n annibynnol ar wleidyddiaeth. Yma, ymhlith y clystyrau hyn o weithwyr, gadewir y dewis i'w cwsmeriaid. Ond mae ganddynt hwythau'r gweithwyr ddewis hefyd – i weithio neu i beidio â gweithio. Nid democratiaeth ydyw, mewn gwirionedd, ond ffordd o fyw ar sail dewis personol. Onid dyna'ch dymuniad chithau yn y Gorllewin?


'Deg mlynedd sydd ers fy mod yn byw fel dieithryn – yn ddieithryn yn Ffrainc yn ogystal ag yn fy ngwlad enedigol, Tsieina. Y mynd a dod rhwng y ddwy wlad hyn sydd wedi ffurfio fy hunaniaeth ddwbl. Euthum i'r arfer o ddadansoddi ac yna dethol fy nghysyniadau'n ofalus o'r ddau fyd hyn, ond yna, deuthum i ddeall mai delwedd – yn y ddwy wlad – yw bywyd 'pobl eraill'.' Qing Niao


Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


 

Categorïau:

Tsieina, Ysgrifau

 


Pobl gynnes ydynt, gyda digon o amser i sbario. Fel gwynwy yn glynu mewn melynwy, amgylchynant eu cwsmer

Dyddiad cyhoeddi: 22·05·2018

Yn ôl i frig y dudalen

Dadansoddi


Simon Brooks

Gan Louie y clywais i’r ymadrodd gyntaf. Yn y Ship neu’r Aussie roeddwn i, efo criw Llais Gwynedd fwy na thebyg, yn y dyddiau braf hynny cyn i bethau suro rhyngom ar ôl i mi gefnogi’r ymgeisydd anghywir mewn etholiad ar sail rhywbeth mor…

Cyfansoddi


Manon Steffan Ros

Dyma Mam yn fy ngyrru fi allan bore 'ma am ei bod hi'n ddiwrnod braf, a deud, 'Rhoswch allan nes bod hi'n amser swpar, lle bo' ti dan draed'. A dyma Now ac Edwin a finna'n mynd lawr i chwaral bach efo brechdana' mewn papur pobi, a dyna lle roeddan ni…

Dadansoddi


Daniel G Williams

‘Iaith carreg fedd’ oedd y Gymraeg i Michael Stephens yn hafau ei arddegau pan fyddai'n gweithio fel torrwr beddau yn ei Drefforest enedigol. Ymhen amser fe drodd Michael yn Feic, a’r iaith ‘yn iaith carreg fy aelwyd’. Disgrifiodd ei hun yn un o blant ‘y Gymru ddiwydiannol,…

Cyfansoddi


Angharad Price

Pwy sy’n ddigon hen i gofio’r ogla? Blas rwber yr awel. Ceir yn ciwio i fynd i mewn. Y sentri sgwâr a llinell syth y bar. Tonnau trionglog y to – yn ymestyn draw hyd dragwyddoldeb. Ac enw mawr y ffatri ar y brig:…

Cyfansoddi


Angharad Price

Mae gan yr Alban Ben Nevis a chan Gaernarfon Ben Twthill. Fan hyn yr oedd y gaer gyntaf. Fan hyn, os byth, y bydd yr olaf. Dwrn caled o graig yn codi yn ei noethni dros amlinell afreolus y dre.

Dydi…

Dadansoddi


Angharad Closs Stephens

Yn Abertawe y mae gwaith awyr agored mwyaf yr artist gwleidyddol Jeremy Deller. Ef hefyd a gynlluniodd ‘We’re here because we’re here’ (ar y cyd â Rufus Norris, cyfarwyddydd Theatr Genedlaethol Pydain) – gwaith sydd yn cofiannu can mlynedd ers brwydr y Somme. Fel rhan o’r perfformiad hwnnw ar 1 Gorffennaf 2016, gwelwyd…

Adolygu


Ruth Richards

Maen nhw'n edrych fel pâr o hipstyrs o ddwy wahanol genhedlaeth. Yr hynaf yn farfog (gafrog hefyd, fel mae'n digwydd), a'r llall yn eiddgar a braidd yn betrusgar dan ei gýt powlen. Mae'r ddau yn syllu arnom drwy'r math o sbectolau a ffafrir, hyd heddiw, gan bobl…

Cyfansoddi


Elin Haf Gruffydd Jones

Mae sefyllfa gyfredol Catalunya wedi bod yn fyw yn ein newyddion ers Hydref 2017. Gwelsom olygfeydd trawiadol o’r refferendwm dadleuol ar annibyniaeth drwy sgriniau gwefannau cymdeithasol, y cyfryngau darlledu a’r wasg. Cyhoeddodd y dyddiolyn ar-lein Vilaweb gyfres o gerddi gan feirdd ‘Proclames de Llibertat’ (Datganiadau…