Dadansoddi

Y Faner, dadeni a Nation.cymru


Ifan Morgan Jones

Amser darllen: 5 munud

24·04·2017

​Wrth gyfodi Baner i fyny i’w gwlad, gyda y disgwyliad y bydd i’w cenedl ymrestru o dani, dyledus ydyw i’r banerwyr hysbysu pa fath un yr amcanant iddi fod – beth fydd ei defnyddiau, ei dybenion, a’i nodweddion.

Dyma eiriau cyntaf papur newydd Baner Cymru a lansiwyd gan Thomas Gee yn Ninbych yn 1857. Ef oedd un o ffigyrau mwyaf dylanwadol Cymru yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Trwy gyfrwng ei bapur newydd fe chwaraeodd ran flaenllaw. Roedd Cymru yn prysur droi yn sir yn Lloegr, dan oruchwyliaeth tirfeddianwyr ceidwadol lled-ffiwdal; cyfranodd Thomas Gee at ei thrawsnewid yn genedl hunanymwybodol a hyderus, gyda sefydliadau cenedlaethol megis Prifysgol Cymru, a Llyfrgell ac Amgueddfa Genedlaethol.

Mae’r disgwrs a ddefnyddir ganddo drwy gydol ei gyfarchiad yn ddiddorol iawn. Disgwrs cenedlaetholdeb sydd yma, a ddefnyddiwyd yn gyson ganddo tan ei farwolaeth ar ddiwedd y ganrif, a hynny er mwyn argyhoeddi ei ddarllenwyr i gefnogi ei amcanion gwleidyddol - sef sicrhau, yn bennaf oll, mai Ymneilltuwyr Rhyddfrydol yn hytrach nag Eglwyswyr Ceidwadol estron fyddai mewn grym yng Nghymru. Gwyddai bod angen rhyw fath o sment i uno’r bobl, yn lowyr a chwarelwyr a masnachwyr. Cenedlaetholdeb oedd y sment hwnnw. Y nhw, yr Ymneilltuwyr Rhyddfrydol, oedd y Cymry. ‘Yr Estrones’ oedd yr enw a oedd gan Gee am yr Eglwys Sefydledig. Roedd angen dod â’r genedl at ei gilydd dan un Faner - ei faner ef - yn erbyn ei gelynion gwleidyddol.

Mae gen i ddiddordeb brwd yn ffenomenon cenedlaetholdeb. Mae fy nofel newydd, Dadeni (Y Lolfa, 2017), yn archwiliad i raddau helaeth o’r elfennau cadarnhaol a negyddol oddi mewn i genedlaetholdeb Cymreig a rhyngwladol.

Mae yna elfen ymrannol, wenwynig ynghlwm â chenedlaetholdeb, wrth gwrs. Gall y dorf ymddwyn mewn modd afresymegol a threisgar. Mae'n sialens ffurfio ‘ni’ sy’n dod â phobl at ei gilydd heb hefyd esgor ar ‘nhw’ - ‘Yr Estrones’, y bygythiad y mae’n rhaid ymrestru yn ei erbyn. Gwelwyd hyn yn eglur yn ymgyrch Brexit a hefyd ym muddugoliaeth Trump yn yr Unol Daleithiau y llynedd.

Ond mae yna ochr gadarnhaol iawn i genedlaetholdeb hefyd. Mae ffiniau cenedlaethol yn fodd i gynnal amrywiaeth ieithyddol a diwylliannol. Ac fel y dangosodd Thomas Gee, maent yn fodd i ddod â chenhedloedd at ei gilydd er mwyn gwrthdroi cyfundrefn gwladwriaethau canolog sy’n eu trin mewn modd annheg.

Baner ac Amserau Cymru

Mae Cymru heddiw yn wynebu dyfodol digon tebyg i’r hyn a wynebai pan gyfododd Thomas Gee ei Faner. Hi yw’r wlad dlotaf yng ngorllewin Ewrop, ac mae ei hiaith a’i diwylliant yn marw. Mae’n wynebu cael ei thraflyncu gan Loegr. A does dim trafodaeth ystyrlon yn mynd rhagddi o fewn y genedl hon ynglŷn â sut y gellid atal hyn rhag digwydd. Llynedd, gwelwyd unrhyw sgwrs ynglŷn â beth fyddai orau i Gymru yn cael ei gwthio i’r ymylon yn ystod y ddadl ynglŷn â dyfodol y Deyrnas Unedig oddi mewn neu y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd. Fframiwyd y drafodaeth gan y cyfryngau Llundeinig. Faint o bobl Cymru a oedd yn gwybod faint roedd y wlad yn ei dderbyn mewn buddsoddiad o goffrau’r Undeb Ewropeaidd bob blwyddyn? Sawl un a oedd yn gwybod bod 67% o allforion Cymru y tu hwnt i’r Deyrnas Unedig yn mynd i wledydd yr Undeb Ewropeaidd? Faint o ffermwyr tir uchel, neu gynhyrchwyr nwyddau trwm, a wyddai beth fyddai’r effeithiau tebygol ar eu bywoliaeth?

Mae gan yr Alban ei gwasg ffyniannus broffesiynol ac amgen ei hun, ac nid yw’n syndod, felly, y cafwyd trafodaeth fywiog yno ynglŷn â goblygiadau gadael yr Undeb Ewropeaidd. Ac roedd canlyniad y bleidlais yn wahanol iawn, wrth gwrs.

Mae’r gwrthgyferbyniad rhwng cyflwr y wasg Saesneg yn yr Alban ac yng Nghymru yn amlwg. Parhau i ddirywio mae’r wasg broffesiynol yma, ac mae bron i bob gwasanaeth newyddion yn nwylo perchnogion y tu allan i Gymru. Ychydig iawn o Gymry sy’n dod i gysylltiad â newyddion dyddiol am yr hyn sy’n digwydd yn eu gwlad eu hunain.

Heddiw, rydym yn wynebu pleidlais dyngedfennol arall lle caiff anghenion Cymru eu hanwybyddu. Mae’n debyg i Theresa May benderfynu galw etholiad 8 Mehefin wrth gerdded ar Gader Idris. Mae’n debygol iawn mai dyna fydd cyfanswm cyfraniad Cymru i’r etholiad. Ni fydd problemau Cymru yn cael eu trafod gan y cyfryngau Llundeinig, ac ni fydd atebion yn cael eu cynnig. Mae’r brif wrthblaid ynghanol rhyfel cartref a allai barhau am flynyddoedd eto. Heb wyrth wleidyddol, mae Cymru yn wynebu degawd neu fwy dan lywodraeth Geidwadol sydd am ddefnyddio Brexit fel esgus i ganoli gwleidyddiaeth ac economi'r Deyrnas Unedig yn Llundain. Fe fydd yr Alban a Gogledd Iwerddon yn ein gadael ni i wynebu ein ffawd ar ein pennau ein hunain. Ac fe fydd mwyafrif pobl Cymru yn fodlon eu byd gyda'r fath ganlyniad, am nad oes neb wedi cynnig gweledigaeth amgen iddynt.

Mae Nation.cymru yn ymgais i gynnig llwyfan er mwyn trafod problemau Cymru drwy gyfrwng y Saesneg. Mae sawl cyfrwng cenedlaethol eisoes yn bodoli yn Gymraeg - ac mae O’r Pedwar Gwynt, BBC Cymru Fyw, Golwg 360 a’r Cymro (am ryw gyfnod eto) yn eu mysg. Ond yn y Saesneg, y tu hwnt i’r BBC, dim ond papurau a gwefannau rhanbarthol sydd gennym. Ni all papurau rhanbarthol fod yn gyfrwng ar gyfer trafodaeth genedlaethol. Ni all darllenwyr y Daily Post a’r Western Mail deimlo eu bod yn perthyn i'r un bobl os na chlywan nhw fyth am fywydau ei gilydd.

Gwasanaeth newyddion gwirfoddol fydd Nation.cymru, i ddechrau o leiaf - caiff ei chynnal gan newyddiadurwyr a chodwyr di-dâl, gyda chymorth cyfraniadau a thanysgrifiadau. Y gobaith, dros amser, yw y bydd modd i'r fenter wneud rhywfaint o elw, ac fe fydd yr elw hwnnw'n cael ei fuddsoddi yn ôl yn y gwasanaeth. Llwyfan i’r Cymry drafod beth sydd orau i Gymry fydd y wefan.

Mae hi’n bwysig pwysleisio felly na fydd Nation.cymru yn llwyddo heb eich cymorth chi. Os nad fyddwch chi'n defnyddio ac yn cyfrannu at y wefan, fe fydd yn marw - fel sawl ymgais arall o’r fath.

Roedd y wasg Gymreig a Chymraeg yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn ganolog i’r trawsnewidiad a welwyd yn y wlad yn ystod y ganrif honno. Ni ellir dychmygu trawsnewidiad tebyg yng Nghymru heddiw tan bod gennym ninnau hefyd wasg ffyniannus. Os ydym am ddatrys yr heriau sy’n ein hwynebu fel cenedl, mae'n rhaid dod at ein gilydd fel cenedl i’w datrys. Dyma felly 'gyfodi baner i fyny i’r wlad - gyda y disgwyliad y bydd i’r genedl ymrestru o dani ...'

Gallwch gyfrannu at sefydlu Nation.cymru fan hyn.


Mae Ifan Morgan Jones yn darlithio yn Adran Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau Prifysgol Bangor. Mae'n sylfaenydd Nation.cymru. Bydd ei drydedd gyfrol, Dadeni, yn cael ei chyhoeddi eleni gan Y Lolfa. Enillodd Igam Ogam Wobr Goffa Daniel Owen yn 2008.


Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


 

Categorïau:

Ifan Morgan Jones, Cyhoeddi

 


Mae Cymru heddiw yn wynebu dyfodol digon tebyg i’r hyn a wynebai pan gyfododd Thomas Gee ei Faner. Ychydig iawn o Gymry sy’n dod i gysylltiad â newyddion dyddiol am yr hyn sy’n digwydd yn eu gwlad eu hunain

Dyddiad cyhoeddi: 24·04·2017

Yn ôl i frig y dudalen

Adolygu


Tomos Morgan

Heb os mae angen cryn sensitifrwydd wrth ymhél – neu ymyrryd – â digwyddiad lle mae teimladau mor gryf ac emosiynau mor amrwd. Mewn cyd-destun newyddiadurol, er enghraifft, mae’n hysbys pa mor real yw perygl dwysáu trallod teuluoedd sydd eisoes mewn galar drwy gyhoeddi erthygl neu…

Cyfansoddi


John Emyr

Casglodd Glyn ei fagiau gan sylwi, drwy ffenest ei lofft, fod llechi’r toeau yn sych. Hyd yma, ar y bore hwn o Fai ym Mangor Uchaf, roedd y tywydd o’i blaid. Er iddo glywed chwyrniadau ffrae atmosfferig y cymylau uwchlaw’r Carneddau neithiwr, roedd…

Adolygu


Angharad Penrhyn Jones

Mae’r profiad o ddarllen y gyfrol hon fel eistedd ar soffa yn gwrando ar ferch alluog, ddidwyll a byrlymus yn adrodd hanes ei bywyd, paned mewn un llaw, hancesi papur mewn llaw arall, a digon o chwerthin. Mae’n lyfr mor hawdd ei ddarllen ar un ystyr, mor agos at rywun, y…

Cyfansoddi


Osian Wyn Owen

Pobol coleg fu’n clegar ‘nad oes byd na phlaned sbâr wedi hon’ a bod ‘i wedd yr haf gynhesrwydd rhyfedd ... 

Cyfansoddi


Rhiannon Ifans

Piciodd Ingrid i'r ardd i dorri cabatsien. Roedd hi’n ddychryn o oer, ac asgwrn ei chlun yn boen byw rhwng y gwynt main a’r eira’n pluo’n ysgafn o gwmpas ei phen. Ers dyddiau roedd yr awyr dywyll fel petai’n dal ei hanadl, yn gyndyn o ryddhau mwy na sgeintiad…

Cyfansoddi


Carl Chapple

Yn 2013 y dechreuodd fy niddordeb mewn dawns. Cynigiodd John Livingston, dawnsiwr a hen ffrind i mi, eistedd ar gyfer llun. Roeddwn yn gweithio ar gyfres o bortreadau o berfformwyr llwyfan ar y pryd – comedïwyr ac actorion yn bennaf ... 

Dadansoddi


Angharad Closs Stephens

Dros y misoedd diwethaf aeth llawer ati i baentio ‘Cofiwch Dryweryn’ ar waliau ac adeiladau ar hyd a lled Cymru. O blith y rhai a welais i – mewn mannau cyhoeddus ac ar blatfform trydar – mae’r arwyddion fel petaent yn golygu amrywiol bethau i wahanol bobl. Gwelais un ag…

Adolygu


Dylan Huw

Yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst eleni, crëwyd yr hyn a alwyd yn AGORA, o hen ddrysau a gyfrannwyd gan bobl Sir Conwy. Gofod canolog, cyhoeddus ac agored yn ninas-wladwriaethau Hen Roeg oedd yr αγορά yn wreiddiol; mae’r gair hefyd yn golygu 'cynulliad' neu 'man cwrdd'. Paentiwyd y…