Marged Tudur & Elis Dafydd (goln)


Rhywbeth i'w ddweud: deg o ganeuon gwleidyddol 1979-2016

Barddas, 104tt, £8.95, Gorffennaf 2017

‘Ym marddoniaeth caniateir popeth’
Dadansoddi

‘Ym marddoniaeth caniateir popeth’

Darllen caneuon Cymraeg ail hanner yr ugeinfed ganrif


Marged Tudur

Amser darllen: 7 munud

26·07·2017

Ar ddydd Llun y Pasg 2014, roeddwn i yn y Caban ym Mrynrefail, yn holi Steve Eaves ar gyfer fy nhraethawd hir. Bwriad y traethawd oedd gofyn a oedd wedi cael sylw haeddiannol fel bardd. Wedi cael fy swyno ers blynyddoedd gan ei gerddoriaeth, wedi mynychu gigs, wedi darllen ac ymchwilio amdano, wedi fy nghyfareddu gan ei gerddi, fy nhasg yn y Caban oedd dod i adnabod mwy ar Steve Eaves y bardd. I’r teithwyr a’r ymwelwyr rhycsaciog eraill a’r merched-canol-oed-paned-ddeg yn y caffi, mae’n debyg ei fod yn ymddangos fel rhywun digon disylw, ffwrdd-â-hi a laid back; yn ŵr heb grys a thei, yn ŵr diorchest. Dyma’r dyn a ddywedodd; ‘dyn reit brysur ydw’i / felly paid â meddwl / paid byth â meddwl / fy mod yn unig / mae gen’i fy mywyd i’w lenwi / a chymaint o ddyddia’ i’w byw.’ Geiriau sydd yn mynd â ni yn ôl i’w gyfrol gyntaf o farddoniaeth Noethni, a gyhoeddwyd yn 1983. Tybed beth fyddai ymateb ymwelwyr y Caban pe gwyddent ei fod dros y deng mlynedd ar hugain diwethaf wedi cyhoeddi dwy gyfrol a naw albwm?

Bellach, dair blynedd i ‘lawr y lôn’, rwy’n astudio ar gyfer doethuriaeth sy’n ymgais i ddarllen geiriau pum cyfansoddwr caneuon o ail hanner yr ugeinfed ganrif fel llenyddiaeth. Y pump dan sylw yw Dafydd Iwan, Geraint Jarman, Meic Stevens, David R Edwards a Steve Eaves. Er dilyn trywydd ysgolheigaidd, mae’n destun y gall sawl un uniaethu ag o. Mae gan bawb ei hoff ganeuon, gall pawb ddyfynnu geiriau o gân sydd wedi gadael argraff neu sydd wedi cyffwrdd â hwy mewn lle ac amser arbennig. Ar fy niwrnod olaf fel myfyriwr israddedig yn y Brifysgol a minnau ar fin cau’r drws am y tro olaf ar y tŷ fu’n gartref i mi a’m ffrindiau, roedd geiriau Yr Ods wedi eu serio yn fy mhen; ‘gai aros fel hyn am byth / dim cyfrifoldeb, dim math o ddiddordeb’. Geiriau oedd yn dal fy nheimladau i’r dim oedden nhw.

Ym mis Chwefror 2016, ar Ddydd Miwsig Cymru, gofynnodd Llenyddiaeth Cymru i bobl drydar eu hoff linellau o’u hoff gân. Roedd fy llif trydar i’n llawn geiriau caneuon. Dyfynnwyd Meic Stevens: ‘ac i gwpla’r llun / yn y botel, gwaddod gwin / gwaddod y môr o gariad a roddais i ti’, a Huw Chiswell: ‘ni’n meddwl bo ni’n fechgyn mawr / cerdded gyda’n tade / y llwybr hir i’r pylle’. Dyfynnwyd Cowbois Rhos Botwnnog: ‘Gwario’r geiniog / gwario’r ddima / a gwario plant na ddônt byth adra’ a Steve Eaves: ‘pan fydd popeth sy’n annwyl i chdi / yn chwalu’n yfflon / a hen ffrindiau yn cadw draw - ymlaen mae Canaan’. Ac fe ddyfynnwyd geiriau David R. Edwards; ‘y teimlad sy’n hala pobl i anghofio amser / y teimlad sy’n hala chi feddwl nad yw’r dyfodol mor flêr’. Roedd un peth yn amlwg; mae geiriau caneuon yn siarad efo pobl.

Ar un wedd, geiriau caneuon yw’r farddoniaeth fyw heddiw. Maen nhw’n eiriau sy’n cydio, maen nhw’n fyrlymus ac maen nhw’n boblogaidd. Mae synnwyr yn dweud mai’r gerddoriaeth sy’n gyfrifol am eu poblogeiddio ac na fyddent wedi cael yr un effaith pe baent wedi eu cyhoeddi’n foel ac yn ddigyfeiliant; ond eto, mae’r geiriau hyn ar ryw bwynt yn llwyddo i sefyll ar eu pennau eu hunain ac yn annibynnol ar y gerddoriaeth hefyd. Cymerer ‘Adra’ Gwyneth Glyn, ‘Angor’ Tudur Huws Jones a ‘Pam fod eira’n wyn?’ Dafydd Iwan fel enghreifftiau.

Mae’n rhaid gofyn y cwestiwn ai fel beirdd ynteu fel cerddorion y dylid synio yn bennaf am y cyfansoddwyr hyn? A ellir gwahanu’r ddeubeth? Ys dywed Gwyn Thomas; ‘Fe all geiriau cân fod yn farddoniaeth, ond dydi geiriau pob cân yn sicr ddim yn farddoniaeth.’ Bob Dylan – y gŵr a enillodd Wobr Nobel am Lenyddiaeth ‘for having created new poetic expressions within the great American song tradition’ – ganodd a’i dafod yn ei foch: ‘Yippee! I'm a poet, and I know it / Hope I don't blow it.’ Yntau hefyd ddywedodd: ‘Anything I can sing, I call a song. Anything I can’t sing, I call a poem.’ Gwn fy mod yn mynd yn groes i ddymuniadau rhai o’n cyfansoddwyr drwy ddehongli geiriau eu caneuon fel llenyddiaeth. Yn ‘Y Trên Olaf Adref’, y casgliad o ganeuon cyfoes a olygwyd gan Steve Eaves, dywed fel hyn yn y Rhagair:

Y peth cyntaf i’w ddweud wrth gyflwyno’r casgliad hwn yw nad llyfr o farddoniaeth mohono. Anghymwynas â’r awduron fyddai beirniadu’r caneuon hyn yn ôl y safonau a chanllawiau a roir ar waith mewn beirniadaeth lenyddol draddodiadol. Cyfrwng mynegiant unigryw yw’r canu pop Cymraeg, ac y mae amodau creu’r caneuon hyn, a’u hamcanion hefyd, yn bur wahanol i’r hyn a gewch mewn ffurfiau llenyddol.

Mae gan Steve Eaves bwynt teg. Eto, o ddarllen geiriau’r caneuon fel llenyddiaeth, yr hyn sy’n fy nharo yw bod gan y cyfansoddwyr hyn rywbeth gwirioneddol gwerth ei ddweud. Adrian Mitchell ddywedodd fod y rhan fwyaf o bobl yn anwybyddu barddoniaeth, am fod barddoniaeth yn anwybyddu’r rhan fwyaf o bobl. Nid yw hynny’n wir am y cyfansoddwyr hyn. Yr hyn a wnânt yw rhoi llwyfan i bobl a anwybyddwyd fwy neu lai gan feirdd Cymraeg a’r sîn lenyddol draddodiadol Gymraeg. Pobl fel y ‘ferch o’r ffatri wlân’ a ddarluniwyd mor gofiadwy gan Meic Stevens. Pobl ddifreintiedig a llawer ohonynt wedi’u dadrithio yw pobl Jarman hefyd. Dyna’r ‘cwd’ a ddarlunnir ganddo yn Macsen (1983) sy’n

Methu talu’r bil
ac mae’i gariad swil
yn disgwyl babi.

Mae o angen ffisig sy’ ddim ar gael gan y meddyg,
mae’r cwd yn ateb nôl,
methu cael dim dôl.

Darlunio pobl wedi mynd i rigol bywyd a wna Steve Eaves hefyd, fel y ferch sy’n teithio ar fws ‘Traws Cambria’ sydd heb freuddwyd na gobeithion mawr, ‘dim byd ond sêt reit glyd / ar fws sy’n teithio drwy’r glaw’. Rhydd lais i’r ‘hogia cyffredin’ sy’n ‘gweithio fel ffyliaid blinedig blin’ a’r ‘pobol golledig’, fel y ferch yn ‘Pymtheg Mlynedd’ sy’n teimlo

nid fel hyn ro’n i isio byw, na,
mae rhywbeth yn fy nghorddi o hyd,
llais yn galw 'tyrd allan i ddawnsio yn y glaw
a chodi dau fys ar y byd'

Pobl yw'r rhain sydd, fel y dywedodd Steve Eaves yn ‘Nos Sadwrn’, yn rhan o’r ‘genhedlaeth gyfan’ sy’n ‘wych o ddiamcan’.

Mae gan y cyfansoddwyr hyn lygad i weld a gallu i gyflwyno pobl a negeseuon drwy gyfrwng delweddau syml, cynnil. Pwy all anghofio ddweud crafog-gignoeth David R Edwards yn ‘Cân i Gymry’?

Gradd da yn y Gymraeg
Ar y Volvo bathodyn Tafod y Ddraig,
Hoff o fynychu pwyllgorau blinedig
Am ddyfodol yr iaith yn enwedig.
Meistroli iaith lleiafrifol fel hobi
Platiau dwyieithog i helpu y gyrru
Agwedd cwbl addas
Ar gyfer cynllun cartre
Syth mas o set Dinas.

Ac er yn fwy parchus ei fynegiant, mae geiriau Dafydd Iwan yntau wedi cydio. Meddylier am alwad gadarnhaol ‘Yma o Hyd’. Hyd yn oed heddiw, pan fo pethau’n ddu arnom fel cenedl, mi fydd rhywun yn siŵr o ddefnyddio’r ymadrodd ‘Ry’n ni yma o hyd!’ Heb fwriadu bron, mae’r cyfansoddwyr hyn wedi mynd â geiriau eu caneuon at gynulleidfa ehangach na’r bardd traddodiadol. Os nad yw’r gynulleidfa honno yn sylweddoli eu bod yn gwrando ar farddoniaeth, y nhw, yn gwbl ddiarwybod iddynt eu hunain, yw’r gynulleidfa yn anad neb arall sydd wedi rhoi sylw haeddiannol i’r cyfansoddwyr hyn. Ac yn ddistaw bach, byddai hynny yn eu plesio yn fawr rwy’n siŵr.

Rhaid gofyn y cwestiwn pam na roddwyd y sylw dyladwy i eiriau’r cyfansoddwyr cyn hyn? Mae Geraint Jarman, Steve Eaves ac yn fwy diweddar, David R Edwards, wedi cyhoeddi cyfrolau o farddoniaeth (cofier mai bardd oedd Geraint Jarman i ddechrau; yn ddiweddarach y daeth y cerddor reggae). Ond cyfrolau yw’r rhain a gafodd eu hanwybyddu fwy neu lai gan adolygwyr a’r wasg Gymraeg. A dyma fwy o gwestiynau’n codi. Pam na chafodd y cyfrolau hyn sylw? Beth oedd i gyfrif am hynny? Ai am eu bod yn gwisgo label sy’n wahanol i un y dylai bardd yng Nghymru ei gario? Hynny yw, nad yw’r ‘ID’ na’r ‘DNA’ iawn ganddynt? Yn sicr, mae geiriau’r cyfansoddwyr hyn yn haeddu cael eu darllen fel llenyddiaeth yn hytrach nag fel ffenomen hanesyddol yn unig.

Beth bynnag fo barn rhywun am drin geiriau caneuon fel llenyddiaeth, mae’n werth cofio geiriau Geraint Jarman yn y gerdd ‘Beirdd Ifanc’ (Eira Cariad, 1970):         

Ysgrifennwch fel y mynnoch
mewn unrhyw ddull a ddymunoch
mae gormod o waed wedi llifo dan y bont
i ni fynd ’mlaen dan gredu
mai un ffordd yn unig sy’n gywir.

Ym marddoniaeth caniateir popeth.

Dim ond gyda’r un amod hwn
wrth gwrs:
mae’n rhaid i chwi wella ar y dudalen wag.


Mae Marged Tudur yn olygodd y gyfrol Rhywbeth i'w ddweud: deg o ganeuon gwleidyddol 1979-2016 (Barddas, 2017) ar y cyd ag Elis Dafydd.


Mae O'r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn werthfawr - na, yn anhepgor - wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i'r cylchgrawn.


Adrian Mitchell ddywedodd fod y rhan fwyaf o bobl yn anwybyddu barddoniaeth, am fod barddoniaeth yn anwybyddu’r rhan fwyaf o bobl

Dyddiad cyhoeddi: 26·07·2017

Yn ôl i frig y dudalen

Dadansoddi


Huw L Williams

Mae’r penderfyniad i streicio gan staff prifysgolion ledled Cymru a’r Deyrnas Gyfunol, yn wyneb y bygythiad newydd i gynllun pensiwn prifysgolion, yn codi cwestiynau sylfaenol am rôl y Brifysgol fel sefydliad. Mae hyn ar ben cynlluniau diswyddo sydd ar waith ar raddfa syfrdanol ac sydd…

Dadansoddi


Nerys Williams

Yn y chwedegau, anogwyd 'Mamau America' i yrru eu plant i'r sinema gan y bardd Americanaidd Frank O'Hara – yn chwareus felly. O leiaf byddai gobaith wedyn na fyddent yn stelcian yn eu llofftydd 'yn eich casáu cyn pryd, a chithau ddim wedi gwneud dim byd rhy…

Cyfansoddi


Marion Muller-Colard

Mae'r stori hon i blant gan Marion Muller-Colard, a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn Ffrangeg (2014), yn cyflwyno syniadau Hannah Arendt (1906-1975) ar ffurf hanesyn a lluniau unigryw gan Clémence Pollet. Mae'r athronwraig ar fin gorffen sgwennu ei llyfr olaf, ond wrth iddi bendroni dros y…

Cyfansoddi


Robert Walser

Cyhoeddodd Robert Walser ddarnau cyson ym mhapur dyddiol y Berliner Tageblatt yn 1907-8 ac yn y cyfnod 1925-1933, gan gynnwys 'Llythyr gan Ewropead' ym Mai 1926. Mae nifer o'r darnau hynny ar ffurf llythyr sy'n cyfarch y darllenydd yn bersonol, yn lythyrau caru sydd wedi eu cyfeirio at foment ddychmygol. Yn wir, yn 1930, penderfynodd y papur wahodd nifer o…

Dadansoddi


Daniel Huws

Mae canu'n ymestyn lawer pellach yn ôl yn ein hanes nag ysgrifennu. Genir canu yn y cof ac yn y cof y'i diogelir. Cof sy'n gwneud dyn. Mae grym y cof dynol yn rhywbeth y mae pawb ohonom wedi cael achos o bryd i'w gilydd i…

Dadansoddi


Huw L Williams

Nid ysgeler yw pob llais o'r ochr draw i Glawdd Offa. Yn ddiweddar, bûm yn ddigon ffodus i fynychu sesiwn benigamp Cymru dros Ewrop, yng nghwmni Anthony Barnett, sef cyfarwyddwr y mudiad Charter 88 a sefydlydd y wefan wych OpenDemocracy. Buodd yng Nghaerdydd yn…

Cyfansoddi


Mihangel Morgan

Rwy wedi golygu a diwygio wrth ailadrodd y stori ryfedd hon a gefais gan Merfyn Taylor y diwrnod hwnnw. Ac ers y siwrne drên honno bûm yn ddigon ffodus i gael gafael ar atgofion anghyhoeddedig Mona Moffat ei hun trwy law Dr…

Adolygu


Alun Llwyd

Ymhell bell yn ôl, cefais drip gorau'r flwyddyn i Bookland yn Wrecsam i brynu blwyddlyfr y cylchgrawn pop, Sgrech. Darganfyddais pwy oedd yn chwarae'r gitâr fâs i Trobwll, darllenais am (ond chlywais i ddim nodyn gan) T Dunlop Williams, a daeth 'canu pop Cymraeg' yn air yn ogystal â…