Colofnau

Ymuno â‘r ‘Mur Coch’ yn Ffrainc

Yr awdur yn ei elfen


Ifor ap Glyn

Amser darllen: 3 munud

24·07·2016

Sefyll ar sgwâr Sant Siôr yr oeddwn yn Toulouse. Pnawn Llun a phob caffi awyr-agored yn gyforiog o grysau coch, a’r parti wedi gorlifo i’r llecynnau gwyrdd o dan y coed yng nghanol y sgwâr. Yno roedd rhagor o grysau coch, a baneri draig goch a chroes Dewi Sant yn sownd wrth feinciau’r sgwâr, neu wedi’u clymu rhwng y coed. Roedd sawl un â slogan Cymraeg arni: ‘Pêl-droed cyn Addysg’; ‘Joe Allen yw fy mugail, dilynaf ef bob dydd’; ‘Coron Gwlad ei Mamiaith – Glantaf Boyz’.

Roedd hi’n ddiwrnod y gêm grŵp olaf yn erbyn Rwsia. A ninnau wedi curo Slofacia a cholli yn erbyn Lloegr, roedd hi’n dal yn bosib i ni orffen unrhyw le yn y grŵp, yn olaf neu'n gyntaf. Fyddai Cymru’n mynd adre? Gwyddwn mai hon fyddai fy ngêm olaf innau cyn gorfod mynd yn ôl i’r gwaith, ac roeddwn i’n benderfynol  o fwynhau.

O dan yr haul crasboeth roedd criw camera yn chwilio am stori. ’Dach chi’n poeni am y posibiliad o drafferth hefo ffans Rwsia?’ ‘Dim felly,’ meddai Gwil John, ‘’dan ni yma i wylio’r ffwtbol a mwynhau’n hunain.’ A dyna roedd ffans Cymru wedi’i wneud, gan droi Bordeaux, ac yna Lens, yn fôr o goch ac yn fôr o gân, gan greu argraff hynod ffafriol ar y Ffrancwyr. Yn ôl papur L’Équipe, ‘Les Gallois sont nombreux, bruyants, parfois un peu turbulents mais surtout pacifiques. Il faut croire qu’ils s’encaissent mieux la bière que les autres.’  (Mae’r Cymry’n niferus a swnllyd, weithiau ychydig yn stwrllyd ond, yn anad dim, yn heddychlon. Allwn ni ddim ond tybio eu bod yn dal eu cwrw’n well nag eraill.)

Roedd yr helynt a welwyd ar ddechrau’r gystadleuaeth rhwng y Rwsiaid a’r Saeson yn Marseille yn teimlo’n bell, bell yn ôl. Roedd y Rwsiaid a welsom ninnau yn gyfeillgar, yn teimlo efallai fod gweithredoedd lleiafrif wedi eu pardduo. Tynnon ni luniau hefo'n gilydd a dymuno ‘zhŵ lai ŵ ŵ da tji’ — ‘pob lwc!’ Roedd ganddynt fwy o ddiddordeb mewn siopa dillad na thrais, a barnu yn ôl y bagiau plastig oedd yn nwylo llawer ohonynt.

Yng nghornel y sgwâr, ar ôl siarad ag Almaenwr coll o Düsseldorf (‘Dwi’n hoff iawn o gân Ashley Williams!’ meddai), gwelais y cynhyrchydd Gary Pritchard, un o’r criw a oedd wedi ffilmio tîm Cymru yn diolch i’r ffans ar gyfer S4C. Dywedodd fod y cynhyrchwyr wedi gofyn i’r chwaraewyr a fydden nhw’n fodlon cyfrannu yn Gymraeg, gan bwysleisio y caen nhw wneud yn Saesneg petai'n well ganddyn nhw. Ashley Williams oedd y cyntaf i gamu ’mlaen. ‘I’m the captain of Wales – my kids go to Welsh school, I’m going to do it in Welsh.’ ‘So am I,’ meddai Gareth Bale, ac felly y bu, rhai’n recordio’r neges yn Gymraeg a rhai yn Saesneg. Doedd ambell aelod o’r sgwad ddim ar gael y diwrnod hwnnw, felly aeth y criw ffilmio yn ôl, ddiwrnod neu ddau yn ddiweddarach, i recordio’r lleill. ‘Ond hyn oedd yn ddiddorol,’ meddai Gary. ‘Pan aethon ni ’nôl, daeth sawl un ata’ i a dweud, “Hey, Gary, you know that video we did for you the other day? Can I do it again, but in Welsh this time?”’ Ac yn y fideo gorffenedig, y Gymraeg yw’r iaith y mae’r rhan fwyaf wedi dewis ei defnyddio — er bod llawer ohonynt yn ddigon prin eu Cymraeg. Mae hynny wedi llonni ’nghalon bron cymaint â’r canlyniadau. Hynny a’r canu sydd wedi nodweddu pob gêm yn ystod y gystadleuaeth — hyd yn oed yn ôl adre, fel y profais wrth wylio’r ddwy gêm nesaf ar sgrin yn nhafarnau Caernarfon. 

Nid oedd yr un cyfle i gymdeithasu â phobl o wledydd eraill, ond roedd yr awyrgylch bron cystal. Cael siampŵ cwrw wrth i’r cannoedd yn Neuadd y Farchnad ffrwydro â rhyddhad ar ôl y gôl yn erbyn Gogledd Iwerddon. Cerdded y strydoedd ar ôl y fuddugoliaeth yn erbyn Gwlad Belg a phawb yn gwenu ar ei gilydd, yn ysgwyd llaw ac yn cofleidio. Ym mhob maes parcio mae coedwig o fflagiau bach ar doeau’r ceir; mae’r dreigiau coch yn hedfan yn rhesi o ffenestri llofft Maes Barcer. ‘Mae wedi codi calonnau pawb yn do?’ meddai nyrs wrthyf yn Ysbyty Eryri.

Bordeaux, Mehefin 2016

Ac am unwaith, mae hyd yn oed y Saeson yn cymryd sylw. ‘We’re all Welsh now,’ meddai’r Sunday Mirror. ‘Yr wyf yn Gymro,’ meddai Rod Liddle yn y Sunday Times, cyn mynd ati i geisio difrïo’r sgwad drwy ddweud bod llawer ohonynt wedi’u geni yn Lloegr. A minnau hefyd, Rod, ond rwyt ti’n methu’r pwynt. Mae hogiau tîm Cymru’n gwisgo’r crys ag arddeliad, maen nhw’n canu’r anthem, ac yn chwarae hefo calon. Dyw ein cenedligrwydd ni ddim yn seiliedig ar fan geni, na hil. Mae’n seiliedig ar bobl sydd isio bod yn rhan o’r prosiect, y sawl sy’n uniaethu â Chymru.

Ac yn y cyfnod hwn, pan gawn ein gorfodi yn ôl pob tebyg i ail-lunio ein perthynas ag Ewrop, siawns y bydd yn rhaid i ni edrych o’r newydd ar ein perthynas â Phrydain hefyd. Ac os ydi ein tîm pêl-droed ni yn ein helpu i gymryd ein hunain o ddifrif fel cenedl, ac yn cynnig patrwm cynhwysol ar gyfer gwneud hynny, dyna rywbeth i lonni ’nghalon bron cymaint â churo Portiwgal a chyrraedd y ffeinal. Gyda’n gilydd yn gryfach, gyfeillion!


Ifor ap Glyn yw Bardd Cenedlaethol Cymru. Ei gyfrol ddiweddaraf yw Tra Bo Dau (Carreg Gwalch, 2016).

Lluniau: 'Bordeaux, Mehefin 2016' gan Owen Martell.

Darllenwch yn ogystal: Beth yw draig? gan Alfredo Noriega


Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


Ashley Williams oedd y cyntaf i gamu ’mlaen. ‘I’m the captain of Wales – my kids go to Welsh school, I’m going to do it in Welsh.’ ‘So am I,’ meddai Gareth Bale, ac felly y bu.

Dyddiad cyhoeddi: 24·07·2016

Yn ôl i frig y dudalen

Cyfansoddi


John Emyr

Casglodd Glyn ei fagiau gan sylwi, drwy ffenest ei lofft, fod llechi’r toeau yn sych. Hyd yma, ar y bore hwn o Fai ym Mangor Uchaf, roedd y tywydd o’i blaid. Er iddo glywed chwyrniadau ffrae atmosfferig y cymylau uwchlaw’r Carneddau neithiwr, roedd…

Adolygu


Angharad Penrhyn Jones

Mae’r profiad o ddarllen y gyfrol hon fel eistedd ar soffa yn gwrando ar ferch alluog, ddidwyll a byrlymus yn adrodd hanes ei bywyd, paned mewn un llaw, hancesi papur mewn llaw arall, a digon o chwerthin. Mae’n lyfr mor hawdd ei ddarllen ar un ystyr, mor agos at rywun, y…

Cyfansoddi


Osian Wyn Owen

Pobol coleg fu’n clegar ‘nad oes byd na phlaned sbâr wedi hon’ a bod ‘i wedd yr haf gynhesrwydd rhyfedd ... 

Cyfansoddi


Rhiannon Ifans

Piciodd Ingrid i'r ardd i dorri cabatsien. Roedd hi’n ddychryn o oer, ac asgwrn ei chlun yn boen byw rhwng y gwynt main a’r eira’n pluo’n ysgafn o gwmpas ei phen. Ers dyddiau roedd yr awyr dywyll fel petai’n dal ei hanadl, yn gyndyn o ryddhau mwy na sgeintiad…

Cyfansoddi


Carl Chapple

Yn 2013 y dechreuodd fy niddordeb mewn dawns. Cynigiodd John Livingston, dawnsiwr a hen ffrind i mi, eistedd ar gyfer llun. Roeddwn yn gweithio ar gyfres o bortreadau o berfformwyr llwyfan ar y pryd – comedïwyr ac actorion yn bennaf ... 

Dadansoddi


Angharad Closs Stephens

Dros y misoedd diwethaf aeth llawer ati i baentio ‘Cofiwch Dryweryn’ ar waliau ac adeiladau ar hyd a lled Cymru. O blith y rhai a welais i – mewn mannau cyhoeddus ac ar blatfform trydar – mae’r arwyddion fel petaent yn golygu amrywiol bethau i wahanol bobl. Gwelais un ag…

Adolygu


Dylan Huw

Yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst eleni, crëwyd yr hyn a alwyd yn AGORA, o hen ddrysau a gyfrannwyd gan bobl Sir Conwy. Gofod canolog, cyhoeddus ac agored yn ninas-wladwriaethau Hen Roeg oedd yr αγορά yn wreiddiol; mae’r gair hefyd yn golygu 'cynulliad' neu 'man cwrdd'. Paentiwyd y…

Adolygu


Esyllt Lewis

Pnawn glawog, pawb bach yn fflat, naws oer yn yr awyr. Dydd Sadwrn ola’ Steddfod. Trodd sudd yr wythnos yn byllau mwdlyd dan draed. Brysiais draw o’r maes i Oriel Ffin y Parc cyn i’r falen Eisteddfodol allu gafael ynof. Dyma ofod gogoneddus yn y goedwig, yn gynnes ynghanol…