Colofnau

Yr awdur yn ei elfen


Alun Llywelyn-Williams

Amser darllen: 10 munud

28·07·2018

Yr oeddwn yn wyth oed cyn dechrau mynd i’r ysgol yn gyson, ond ni allaf gofio adeg pan na fedrwn Saesneg. Mae gennyf rith gof amdanaf yn hogyn bach yn chwarae ar fy mhen fy hun yn Gymraeg, ond rhaid bod perygl yn gynnar iawn i’r Saesneg gymryd y lle blaenaf, oherwydd gallaf glywed llais fy nain yn fy nwrdio, ac yn annog arnaf y pwysigrwydd o fedru dwy iaith, ‘am fod dwy ffenestr ar y byd yn well nag un,’ meddai hi. Yr oedd fy nhad i ffwrdd yn y rhyfel, ond credaf yr arferid Cymraeg a Saesneg yn gymysg ar yr aelwyd gan fy mam a’m nain a’m hewythr, yn ôl yr arfer, mae’n debyg, ymysg dosbarth canol y trefi yr adeg honno, fel heddiw. ’R wy’n ei chael yn anodd gwahaniaethu, wrth edrych yn ôl, rhwng cylchoedd a dylanwadau’r naill iaith a’r llall, ar wahân wrth gwrs i’r capel, ond y mae’n rhaid i mi gyfaddef mai â’r iaith Saesneg y cysylltaf lawer o atgofion mwyaf byw fy mhlentyndod. Trwy’r Saesneg y cefais rai o’r profiadau sydd wedi glynu orau yn fy meddwl, ac o’r rhain rwy’n hoff o gofio yn arbennig am f’arweiniad cyntaf i diriogaeth llên.

Risa Gould oedd enw f’arweinydd. Mae gennyf lun ohoni o hyd. Llun bychan, ond digon o faint i ddod â’r cof am ei hwyneb hawddgar yn fyw a chlir i’r meddwl. Llun merch tua deng mlwydd ar hugain. Wyneb difrif, ychydig yn rhy lawn efallai, a heb fod yn dlws; gwefusau llaes, synhwyrus; trwyn hir, syth; llygaid tawel, meddylgar o dan aeliau nas pliciwyd monynt erioed yn llinellau hirfain; a thalcen llyfn, deallus, gyda chnwd o wallt toreithiog uwchben wedi ei gribo’n ôl yn blaen a diaddurn yn ôl ffasiwn drom a diddychymyg y cyfnod. Fy modryb Theresa. Neu’n hytrach, i ni’r plant, Auntie Risa.

’D oedd hi ddim yn fodryb inni mewn gwirionedd. Ond yr oedd yn byw gyda dwy fodryb o waed coch cyfa’, ac ni feddyliodd neb ohonom ar y pryd nad oedd Risa’n un o’r teulu. Cadw gwesty cleifion a wnâi fy modryb Grace mewn tref glan môr, a daethai Risa yno’n glaf, yn eneth ifanc, i wella o’r dyciáu. Yr oedd rhyw ddirgelwch ynglŷn â hi. Unwaith yn unig y cofiaf imi weld neb o’i theulu hi. Daeth ei mam i’w gweld, gwraig lethol o siaradus a pheraroglog, ac yr oedd arnaf ei hofn hi. Estrones yn ddiamau. Awstriad efallai, ond gwell peidio â holi’n rhy fanwl ynghylch hynny, oherwydd yr oedd Awstria mewn cynghrair â’r Almaen yn y rhyfel i’n herbyn. Nid amheuais ddim nad Gwyddel oedd ei thad hi, ac yr oedd hynny bron cynddrwg â bod yn Almaenwr. Beth bynnag oedd y gwir am y rhieni rhyfedd hyn, ’d oedd ganddyn-nhw fawr o ddiddordeb yn eu merch. Hyd yn oed ar ôl iddi wella, daliodd i fyw yn Nhandderwen gyda fy modryb Grace. Bu yno am flynyddoedd, ac yr oedd iddi le arbennig iawn yn y tŷ. Ni bu Grace yn briod. Rhoddai ei gwaith fel nyrs ryw gymaint o foddhad i’w greddf famol gref, ond carodd Risa fel ei merch ei hun. O dan gronglwyd fy modryb y bu Risa farw yn ddeunaw mlwydd ar hugain oed.

Tŷ hyfryd o ddiddorol oedd Tandderwen, ac un o bleserau mawr bywyd pan oeddwn yn hogyn oedd cael mynd yno i aros. Am un peth, cawn fy mrecwast yn fy ngwely yn foethus bob bore, fel pe bawn yn un o’r cleifion. Ac yna, torrai trefn y gwesty ar draws rheolau caeth y Saboth. Ystyrid un waith i’r capel ar y Sul yn ddigon, dwy waith ar y mwyaf. ’D oedd neb yno i fynd â mi i’r Ysgol Sul, a ’d oedd dim rheol i’m gwahardd rhag darllen dim ond Cymraeg ar y diwrnod sanctaidd. Gartref, yr oedd Cymreigrwydd yn agos iawn at sancteiddrwydd. Yn Nhandderwen hefyd yr oedd gardd fawr, a digon o le i chwarae ynddi, a phe baech yn blino ar yr ardd ’d oedd dim ond eisiau dringo’r wal a dyna’r lle oeddych yn rhydd i grwydro’r bronnydd gwyrddion a godai y tu ôl i’r tŷ tua’r wlad wahoddus a’i gorwelion dihysbydd.

Ond yn bennaf oll, ni wyddech pa bobl ddiddorol a allai fod yn aros yn y tŷ, na phwy y gallech gwrdd â hwy, oherwydd nid pawb o’r cleifion a fyddai mor wael nes gorfod cadw i’r gwely neu i’w stafell. Dyna’r artist, er enghraifft, a oedd yn byw am ysbaid yn y cwt-awyr-iach yn yr ardd. Byddai’n gadael i mi ei wylio wrth ei waith yn peintio lluniau digri ar gyfer yr hysbysebiadau yr enillai ei damaid oddi wrthynt, meddai fo. Ac yr oedd gramoffôn ganddo - nid wyf yn siŵr nad hwn oedd y gramoffôn cyntaf i mi ei glywed. Dwy record yn unig yr wyf yn eu cofio erbyn hyn o’r stôr a oedd ganddo ac a ganai i mi mor ddiwarafun dro ar ôl tro i hybu’r oriau hir. Syml ond amrywiol ydoedd chwaeth gerddorol yr arlunydd. Ar y naill record, cafwyd Miniwet Beethoven yn G, ar y ‘cello’, gyda ‘Träumerei’ Schumann ar yr ochr arall; ’chofiaf i ddim pwy oedd datgeinydd y ddau ddarn rhamantus a lleddf hyn na allaf eu clywed heddiw heb fy ngweld fy hun yn fachgen eto. Deuawdau o operâu difyr W S Gilbert ac Arthur Sullivan oedd ar y record arall; deuawd Rose a Robin, ‘I have a Song to Sing, O’, deuawd Elsie a Point, y ddau chwaraeydd crwydrol yn ‘The Yeomen of the Guard’. Diolch i’r artist siriol, unig, dyna’r gerddoriaeth gyntaf a gofiaf, ar wahân i ganu emynau.

Ond Risa oedd fy mhrif gymwynaswr, a’m cyfaill pennaf. Unig ddrwg Tandderwen oedd nad oedd dim plant eraill yno i chwarae â hwy, oherwydd awn yno’n aml pan fyddai fy mrawd a’m chwaer yn yr ysgol. Ond ni pharodd hynny ofid i mi tra cawn gwmni Risa. Ambell waith âi â mi i’w stafell ei hun, y stafell orau yn y tŷ a’i ffenestri braf yn agor uwchben lawnt yr ardd. Ni allaf gofio’r ’stafell rywsut heb weld yr heulwen yn tywynnu’n siriol iddi, ond glas tywyll yw’r lliw a gysylltaf â’r lle bob amser. Lliw Mair. Carped glas, a llenni gleision, cwrlid glas ar y gwely. Ac mewn un gongl, o bopeth annisgwyl, allor fach a lliain glas arni, a delw’r Crist ynghrog ar y mur uwchben.

Oherwydd Pabydd ydoedd Risa, ac arddelai ei chrefydd yn ffyddlon a dirodres. Dyma ryfeddod arall i fachgen bach o Fethodist. Methodist oedd fy modryb, wrth gwrs, merch yn wir i weinidog Methodist a oedd unwaith wedi diarddel aelod o’i eglwys yn unig am ryfygu ‘canlyn’ merch o Babyddes. Ond ni chlywais air erioed yn erbyn crefydd Risa, a chawn berffaith ryddid i fynd gyda hi ambell dro i’r offeren yn yr eglwys Gatholig. Am a wn i nad oedd lawn gwell gennyf bryd hynny yr offeren fawreddog a lliwgar na gwasanaeth cyfarwydd y capel, oblegid ni ddisgwylid imi yno ddweud adnod, ymarfer a oedd yn gas gennyf.
 

Alun Llywelyn-Williams ger bedd Theresa (Risa). Gyda diolch i Luned Meredith am y llun


Daeth cwmwl dros y dedwyddyd goddefgar yn y man. Gan fod Risa yn Babydd mor selog, yr oedd cryn berswâd arni gan yr offeiriad a chan rai o’i chyfeillion ymhlith lleianod y cwfent i ymwadu â’r byd. Ac yn wir, felly y bu. Aeth i’r cwfent ei hunan, ond ni bu yno’n hir iawn cyn dychwelyd i Dandderwen at fy modryb. A daeth yn ei hôl i farw. ’Dwn i ddim yn iawn beth a ddigwyddodd. Y tebyg yw fod bywyd nofis wedi profi’n rhy galed i ferch a amgylchynid ers blynyddoedd gan ofal tyner ac eiddigus nyrs a’i hystyriai ei hunan hefyd yn fam. Ni chafodd yr offeiriad fawr o groeso i’r tŷ byth wedyn, ac ni chredaf i’m modryb faddau i’r Pabyddion hyd ei bedd. Yr oedd arnaf innau hiraeth am Risa, er fy mod yn ddigon pell o Dandderwen ar y pryd. Yr oedd rhywbeth trychinebus ac annynol ynglŷn â’i marwolaeth. Gwelais y gall fod i grefydd ddau wyneb.

Ond am gymwynas arbennig Risa â mi y bwriadwn sôn. Hyhi a’m harweiniodd gyntaf at deyrnas llenyddiaeth. Mae gennyf ryw syniad iddi dderbyn rhan o’i haddysg ar gyfandir Iwrob, ac nad llyfrau Saesneg yn unig a welid ar ei silffoedd taclus. Yr oeddwn i’n rhy ifanc i allu darllen llawer ar rai hyd yn oed o’r cyfrolau Saesneg trwchus a agorai Risa imi mor barod, ond yr oedd ei llyfrgell fechan at fy ngwasanaeth, a bod at ei ryddid i chwilio llyfrau da yw’r arweiniad gorau posibl y gall bachgen obeithio’i gael byth at fwynhau llenyddiaeth. Mwy na hynny, yr oedd cyngor a chymorth i gydddarllen beunydd at fy ngalw, a’r gair doeth sy’n ennyn chwilfrydedd plentyn ac yn goleuo’i chwaeth a’i farn. Pwy all ddatgan hyfrydwch y camau cyntaf i fyd difesur y dychymyg? Yn y stafell las, heulog honno y darllenais gyntaf oll rai o storïau mawr y byd. ’R oedd fy mam a’m nain wedi gofalu wrth gwrs fy mod yn clywed neu’n darllen storïau’r Beibl yn Gymraeg. Yn Saesneg y cefais i’r allwedd gan Risa i chwedlau’r Groegiaid, ac i lwybrau hanes yr hen ymerodraethau. A chododd gwr y llen hefyd ar gynhysgaeth llên Iwrob. Wrth gwrs, gofalai Risa barchu amgyffrediad crwt. Nid wyf yn cofio inni amcanu’n uwch nag Alexandre Dumas. Hyd heddiw, y mae gwên araf merch yn hydreiddio tywyllwch y Château d’If i mi, ac yn chwarae ar anturiaethau’r Tri Mwsgedydd a phranciau ysblennydd D’Artagnan a’i gyfeillion dewr o wlad Gwasgwyn.

Y gymwynas fwyaf efallai, o’r cwbl oll, oedd hyn. Yn Saesneg y siaradem â’n gilydd, ond yr oedd Risa wedi dysgu peth Cymraeg, ac yr oedd yn ymhyfrydu yn ein hen lenyddiaeth. Rhyfedd meddwl mai oddi ar ei gwefusau hi y clywais gyntaf oll am y Mabinogion ac am chwedlau’r Cynfyd Celtaidd. Wrth gyd-ddarllen cyfieithiad Charlotte Guest y dangosodd hi i mi y rhyfeddodau hyn, ac yn Saesneg yn y stafell las yng nghwmni’r ferch ryfedd hon, y cyfarfûm i gyntaf oll â Phwyll Pendefig Dyfed ac â Gwydion ac Arthur a’r Twrch Trwyth. Ac yno hefyd y clywais gyntaf, rwy’n tybio, ochenaid Branwen.

 

Detholiad o ‘Theresa’, Y Drysorfa, Mai 1956.


‘Braidd yn anerferol ymhlith llenorion Cymraeg oedd Alun Llywelyn-Williams (1913-1988), ar gyfrif ei gefndir dosbarth canol yn bennaf. Bardd craff, cynnil, athronyddol, eang ei orwelion ydoedd, un a ymboenai'n ddwys am wareiddiad gorllewin Ewrop ond mewn modd tra gwahanol i Saunders Lewis. Nid yw ei gerddi'n niferus ond maent wedi ennill parch ymhlith y beirniaid fel drych i feddylfryd sensitif a gwâr, a'u gwneuthuriad crefftus. Fe'i ganwyd yng Nghaerdydd ym 1913 yn fab i feddyg, a chafodd ei addysg yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd, lle graddiodd mewn Cymraeg a Hanes. Tra'n efrydiwr, ef oedd golygydd y cylchgrawn byr-hoedlog Tir Newydd. Ei brif safbwynt golygyddol oedd fod cylchgronau Cymraeg y cyfnod (Y Llenor yn bennaf) yn rhy wledig eu naws ac yn rhy gul eu maes. Ei fwriad oedd adlewyrchu syniadau adain-chwith, dinesig am ddiwylliant a chelfyddydau Cymru ymhlith deallusion Cymreig - uchelgais ddewr a wireddwyd ond yn rhannol yn ei farn ef.’ Meic Stephens


Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


Tŷ hyfryd o ddiddorol oedd Tandderwen, ac un o bleserau mawr bywyd pan oeddwn yn hogyn oedd cael mynd yno i aros

Dyddiad cyhoeddi: 28·07·2018

Yn ôl i frig y dudalen

Dadansoddi


Gareth Leaman

Waeth i ni gydnabod un gwirionedd sylfaenol ar y dechrau un: nid oes unrhyw beth cynhenid Gymreig am y cyfryngau cyfrwng Saesneg yng Nghymru ac ni cheir ychwaith y fath beth â chyhoeddfan neu fywyd cyhoeddus penodol Gymreig trwy gyfrwng y Saesneg. Mae difrifoldeb y…

Adolygu


Dylan Huw

Artes Mundi, a agorodd ei hwythfed arddangosfa ddiwedd mis Hydref yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd, yw gwobr gelf ‘fwyaf’ y Deyrnas Gyfunol – fel mae ei nodiadau i ymwelwyr yn hoff o’n hatgoffa. Er ei bod, o ran proffeil, yn parhau i geisio dal i…

Cyfansoddi


Boz Groden

gŵyl

Dydd neu ddyddiau pryd na chyflawnir gwaith beunyddiol, dydd neu ddyddiau o ddifyrrwch neu adloniant; diwrnod wedi ei neilltuo a'i gadw'n barchus yn flynyddol er coffa am ryw sant neu berson arbennig neu am ryw ddigwyddiad cofiadwy, dydd gŵyl (grefyddol), dygwyl, dydd cysegredig, gwyl-mabsant, diwrnod…

Cyfansoddi


Jerry Hunter

[Diweddariad. Cynnig arall arni] Aeth y stori o gwmpas y wlad. Ar ôl iddyn nhw glywed, daeth y dynion pwysig ynghyd a phenderfynu gofyn iddo ysgaru â'i wraig am gyflawni trosedd mor erchyll. Dyma'i ateb o: 'Does dim rheswm [...] ngwraig gan fy mod i'n gwybod…

Adolygu


Miriam Elin Jones

Mewn sioe gerdd lachar, How to Win Against History, y dysgais i gyntaf am fodolaeth pumed Marcwis Môn. Gyda’r fersiwn honno o stori anhygoel y dyn hwn yn fyw yng fy nghof – dyn a wariodd bob ceiniog o’i gyfoeth teuluol ar ddeiamwntiau…

Adolygu


Morgan Owen

Gorddefnyddir yr ansoddair ‘cynnil’ wrth adolygu a gwerthu nofelau Cymraeg: perthyn y gair i eirfa (an)feirniadol dra ystrydebol erbyn hyn, nad yw’n golygu odid ddim (ail agos i ‘cynnil’ yw ‘cignoeth’). Yn yr achos hwn, fodd bynnag, hynod briodol yw’r gair ‘cynnil’ a chlod mawr i’r awdur yw y llwyr…

Adolygu


Katie Gramich

Ym mhennod gyntaf ei lyfr dylanwadol The Dragon has Two Tongues (1968), sy’n sôn am ei ddatblygiad fel awdur, mae Glyn Jones – brodor o Ferthyr – yn datgan: ‘While using cheerfully enough the English language, I have never written in it a word about any country…

Adolygu


Dyfrig Jones

Prin fod unrhyw un yn ysgrifennu am hil yn Unol Daleithiau’r America heddiw â’r un angerdd, yr un dyfeisgarwch, yr un graen â Ta-Nehisi Coates. Ef, yn ôl Toni Morrison, yw etifedd James Baldwin, yr unig un a lwyddodd i lenwi’r gwacter sydd wedi bodoli ers…