Catrin Dafydd


Gwales

Y Lolfa, 298tt, £9.99, Awst 2017

Yr awdur yn ei helfen
Dadansoddi

Yr awdur yn ei helfen


Catrin Dafydd

Amser darllen: 8 munud

25·11·2017

Ers cyhoeddi fy nofel, Gwales, ym mis Awst, dwi wedi dod yn fwy ymwybodol o gymuned o ddarllenwyr dros Gymru benbaladr. Beth yw llyfr heb y darllenwyr? Dim ond swp o eiriau du ar bapur gwyn mewn drâr tywyll. Profiad cathartig ac archwiliol i'r sgwennwr, efallai. A thipyn o her i olygydd. Ond mae'r sgwennwr yn gwbl ddibynnol ar ddychymyg y darllenydd i hudo'r byd yn fyw drachefn. Pwy a ŵyr nad nofel wahanol i'r un a sgwennwyd gan yr awdur yw'r hyn sy'n cael ei ddarllen gan y darllenydd yn y diwedd. Oblegid, fel y mae pobol yn gweld lliwiau'n wahanol, felly hefyd gyda geiriau, emosiynau a phlot nofel. Mae gan awdur reolaeth lwyr wrth ddychmygu a chreu ond chewch chi neb mwy di-rym unwaith i'r gwaith ddechrau mwydo ym mhennau pobol eraill. 

Ry'n ni'n aml yn becso'n heneidiau am y Gymraeg ac, wrth gwrs, mae yna ddigon i fecso yn ei gylch. Ond weithiau, mae'n werth tynnu sylw at sefyllfaoedd iach. Nid sôn ydw i yma am werthiant nac economi'r byd llyfrau, ond yn hytrach am y bwrlwm diwylliannol, rhyngweithiol sy'n bodoli ar hyn o bryd. Alla i ddim llai na rhyfeddu at yr ymateb sy'n dod yn sgil cyhoeddi llyfr Cymraeg yng Nghymru heddiw. Mae 'na adolygiadau rif y gwlith yn ymddangos! Yn Golwg, O'r Pedwar Gwynt a Barn; Prynhawn Da, rhaglen radio Y Silff Lyfrau a Rhaglen Dewi Llwyd ar ddydd Sul. Mae 'na adolygiadau ar flogiau pesonol, cyfweliadau ar y BBC a Golwg 360, ac adolygiadau byrion yn cyrraedd fel trydariadau hefyd. Ac yna, mae hwyl y lansiadau a'r gobaith y bydd aelodau clybiau llyfrau (sy'n frith dros y wlad!) yn codi copi dros y gaeaf. Bid a fo am gynnwys unrhyw nofel, mae'r ffaith fod cymaint o ymateb a chraffu ar unrhyw waith yn destun dathlu. 

Ond waeth imi gyfaddef ddim. Tra bod y cynnwrf hwn yn mynd rhagddo, mae 'na feddyliau eraill, mwy melancolig, yn mynnu fy sylw. Wrth weld y ddeialog iachus hon yn llifo rhwng awdur a darllenydd a rhwng darllenwyr a'i gilydd, alla i ddim help ond canolbwyntio ar y ffaith nad oes modd i bawb fod yn rhan o'r bwrlwm. Elite sy'n cael mwynhau'r arlwy, a finne'n un ohonynt. Beth yw'r ateb felly? Sut mae sicrhau mynediad i'r Gymraeg i bawb? Ar wahân i'r angen i Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol sicrhau addysg Gymraeg gyflawn i bawb, yn blant ac yn oedolion, beth arall y gellid ei wneud? Yn achos Gwales a nofelau tebyg, mae'n wir y byddai gofyn i berson fod fwy neu lai'n rhugl er mwyn eu mwynhau. Ond nid felly gyda chyfryngau eraill fel y teledu a'r radio. Mae modd iddynt hwy gyflwyno'r Gymraeg a chynnig isdeitlau neu gymorth amgen ar yr un pryd. Mae modd iddynt fod yn bont.

Y reddf gychwynnol, yn naturiol, yw datgan yr angen am ragor o beuoedd 'dwyieithog'. Byddai'r rhain yn cynnwys pawb ac yn adlewyrchu realiti diwylliannol cynifer ohonom. A hyd yn oed pan fydd rhagor yn cael addysg Gymraeg, bydd dal angen adlewyrchu'r berthynas gymhleth a phrydferth rhwng y Gymraeg a'r Saesneg. Wedi'r cyfan, mae'n adlewyrchiad ohonom ni a'n teuluoedd. Ond dyna ni unwaith eto wedi cwympo i'r fagl, a chyfrannu at ffetisheiddio'r angen am gynnyrch dwyieithog a'i weld fel panacea. Fi yw'r cyntaf i ddweud fod yna le i gynnwys dwyieithog ar ein cyfryngau. Dwi wedi gweithio ar ffilmiau dwyieithog fel Ar y Tracs fy hun. Ond mae gwneud hynny'n fympwyol, o gynhyrchiad i gynhyrchiad, yn sefyllfa sy'n bell o daro'r nod. Heb strategaeth genedlaethol glir ar y math o ddiwylliant ry'n ni i gyd am ei greu ac ymrwymiad i bwysigrwydd cynnwys uniaith, gwreiddiol ac unigryw yn y Gymraeg, gall mympwy fod yn beth peryg. Wrth gwrs fod yna ddadl eithriadol o gryf dros yr angen i sicrhau bod iaith bob dydd pobol yn cael ei hadlewyrchu ar sgrin, ond siawns nad oes modd inni feddwl yn fwy soffistigedig (a strategaethol) ynghylch yr amrywiol ffyrdd y dylem fod yn gwasanaethu ein pobol yn ieithyddol. A siawns hefyd nad oes modd dod o hyd i amrywiol ffyrdd o groesawu pobol ddi-Gymraeg i fyd lliwgar, byrlymus, unigryw'r iaith.

Dwi'n meddwl y dylai'r holl ddarparwyr cyfryngol yng Nghymru fod yn atebol i siartr sy'n ateb anghenion ieithyddol pawb. Dylid ffurfio panel i benderfynu ar yr anghenion ieithyddol hynny. Dylai pawb sydd mewn grym yn ein sefydliadau creadigol orfod tynnu llinellau clir yn y tywod: datgan yn gyhoeddus sut mae rhaglen ddwyieithog yn ffitio i ddarlun ehangach; datgan yn glir pa ganran o'r arlwy fydd yn ddwyieithog neu'n uniaith Gymraeg neu'n Saesneg. Yn allweddol, dylid gweld datganiad o ymrwymiad gan y sianeli Saesneg yng Nghymru i'r Gymraeg a thrwy hynny i'w cynulleidfa ddi-Gymraeg. Dylai'r cod moesol-ieithyddol hwn fod yn gynsail ar gyfer BBC Cymru, S4C ac ITV Wales. Oherwydd, fel y saif pethau yng Nghymru heddiw, ar draul cynnwys unigryw yn y Gymraeg y daw'r arlwy ddwyieithog bob tro. Y duedd ar hyn o bryd, wrth gwrs, yw meddwl fod yn rhaid i bethau fod o leia'n ddwyieithog er mwyn iddynt lwyddo yn y farchnad ryngwladol. Agwedd meddwl yw hyn. Wedi'r cyfan, mae Denmarc wedi dangos y ffordd trwy wneud y Saesneg yn is-deitl yn unig. Ac er bod Daneg a Swedeg yn eistedd yn gyfforddus gyda'i gilydd yng nghyd-destun rhaglen fel Bron (The Bridge), mae cydberthynas yr ieithoedd hynny â'i gilydd yn wahanol iawn i'r Gymraeg a'r Saesneg. Ac wedyn, beth am Borgen? Un o fy hoff gyfresi. A'r anhygoel Sé quién eres (I Know Who You Are) o Sbaen? Dim Saesneg heblaw am yr isdeitlau a neb fel petaent yn sylwi.

Yn ôl yng Nghymru, mae yna enghraifft amlwg iawn o gynhyrchiad uniaith Gymraeg sy'n aruthrol o boblogaidd gyda chynulleidfaoedd di-Gymraeg (er nad oes hawl ganddi gael ei henwebu yn y Soap Awards, mae'n debyg), a Pobol y Cwm yw'r gyfres honno. Dwi ddim yn ddiduedd. Dwi'n sgwennu i'r gyfres, ond yr un yw'r ffeithiau, sef ei bod yn gyfres sy'n hynod o boblogaidd gyda siaradwyr di-Gymraeg a Chymraeg fel ei gilydd, a'i bod yn gynhyrchiad uniaith Gymraeg. Mae Pobol y Cwm yn caniatáu i bobol ddod yn nes at Gymraeg naturiol. Mae'n ddigyfaddawd, yn llwyddo ac yn gymorth i ddysgwyr.

Yn lansiad Gwales yn IndyFest, sicrhaodd y Lolfa gyfieithu ar y pryd. Pe bawn i wedi dechrau trafod y nofel yn Saesneg, fe fyddai hynny wedi tarfu ar gymeriad Cymraeg y digwyddiad, gan gofio hefyd gynnwys cynhenid Gymraeg y nofel. Ond fe roddodd y cyfieithydd gyfle prin i'r bobol ddi-Gymraeg a fynychodd weld fod yna ddiwylliant hyfyw, cyflawn yn bodoli yn yr iaith. O weld fod yna fyd cynhyrfus i'w croesawu ar yr ochr arall, pwy a ŵyr na fyddai rhai o'r bobol hynny'n awyddus i ddysgu'r Gymraeg ryw ddydd?

Rai wythnosau yn ôl bûm yn cael swper gyda ffrindiau i mi yn Nhre-biwt. Mae'r gŵr yn ei nawdegau ac o dras Somali a Rwsiaidd ac roedd tad y wraig yn dod o Nigeria a'i mam o Gymru. Dydyn nhw ddim yn siarad Cymraeg ond digwyddodd y ddau sôn eu bod wedi bod yn gwylio'r Eisteddfod ar y teledu ym mis Awst am fod y gŵr yn hoff iawn o wneud. Rhoddodd hynny ddealltwriaeth newydd imi hefyd, o bwysigrwydd y cyfryngau a'r diwydiannau creadigol wrth rannu'r diwylliant gyda phawb yng Nghymru. Doedd fy ffrind ddim yn gwylio'r Eisteddfod am ei bod yn rhaglen ddwyieithog nac am ei bod yn debyg, o reidrwydd, i unrhyw beth yn ei fywyd beunyddiol. Roedd yn dewis gwylio a pherchnogi'r diwylliant oherwydd bod y Gymraeg a phopeth a ddaw yn ei sgil hi yn etifeddiaeth iddo yntau hefyd. Ni fydd fy ffrind naw deg oed byth yn dysgu Cymraeg, ond mae ganddo hawl ar y diwylliant. 

Nid tlodi materol yn unig yw'r broblem inni yng Nghymru ond tlodi gweledigaeth a thlodi diwylliannol. Rhan o'r hyn y mae Cymry Cymraeg yn ei etifeddu yn gwbl naturiol wrth gael addysg Gymraeg gyflawn neu'r cyfle i sarad Cymraeg ar yr aelwyd yw'r cyfalaf diwylliannol sy'n dod yn sgil hynny. Mae gennym gyfrifoldeb: i ddiogelu'r hyn sy'n unigryw am y Gymraeg ac adlewyrchu prydferthwch yr ymwneud rhwng y Gymraeg a'r Saesneg. Ac mae gennym gyfrifoldeb i ddala'r drws led y pen ar agor i bawb sydd am sbecian neu ymwneud â'r iaith. Y bobol a ddaw drwy'r drws sy'n debygol o'i hachub.


Nofel ddiweddaraf Catrin Dafydd yw Gwales (Y Lolfa, 2017).


Mae O'r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn werthfawr - na, yn anhepgor - wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i'r cylchgrawn.


Ni fydd fy ffrind naw deg oed byth yn dysgu Cymraeg, ond mae ganddo hawl ar y diwylliant

Dyddiad cyhoeddi: 25·11·2017

Yn ôl i frig y dudalen

Dadansoddi


Cefin Roberts

Mae’r theatr yng Nghymru wedi colli dyrnaid creulon o’i mawrion eleni ac roedd clywed am farwolaeth Meic Povey yr wythnos ddiwethaf yn waldan greulon arall i bawb ohonom sy’n caru’r theatr Gymraeg. Roedd Meic yn actor, awdur, cyfaill a Chymro i’r carn ac un a fu’n dyfal osod…

Cyfansoddi


Jan Morris a Twm Morys

Glywsoch chi fi yn crio ddoe? Fy nghyfrifiadur, o bethau’r byd, oedd achos y dagrau. Yn ystod y bore, galwodd dyn fi i ddweud wrthyf beth oedd angen ei wneud ar frys er mwyn cadw’r cyfrifiadur i fynd. Wyddwn i ddim bod dim yn…

Dadansoddi


M Wynn Thomas

Roedd Tony yn un o gymwynaswyr mwyaf gwerthfawr Cymru a’r Gymraeg fy nghyfnod i. Roedd hefyd yn un o’r unigolion mwyaf egwyddorol a llachar o dreiddgar ei feddwl i mi ddod ar eu traws. Fe ddes i’w adnabod gyntaf ar ddiwedd yr wythdegau pan…

Cyfansoddi


Ifor ap Glyn

Rhwng 1914 ac 1918 bu chwarter miliwn o ffoaduriaid o wlad Belg yn byw dros dro ym Mhrydain. Daeth rhai i Gymru ... 

Cyfweld


Ruth Richards

Daeth yn amser i gyrchu hanfodion dianghenraid drachefn; y rhuthr blynyddol am anrhegion Nadolig. Ac os digwydd i chwi fod ym Môn dros y cyfnod hwn, fe welwch fod trefi Biwmares a Phorthaethwy'n prysur gystadlu am y farchnad mewn addurniadau, hylifau a…

Adolygu


Gideon Koppel

Dw i ar awyren Ryanair o Chania, ar ynys Creta, i Stansted. Er bod y profiad yn ddigon anghysurus – cawn ein gyrru fel anifeiliaid ar hyd y maes awyr a’n gorfodi i aros heb eglurhad fan hyn fan draw – mae yna deimlad…

Colofnau


Mihangel Morgan

Fis diwethaf roedd ffrind i mi yn cael ei phen-blwydd yn hanner cant oed. Pan oedd John Betjeman yn fardd y Frenhines cafodd ei feirniadu yn y wasg am beidio â llunio cerdd i ddathlu pen-blwydd Ei Mawrhydi pan gyrhaeddodd hithau’r hanner…

Dadansoddi


Steffan Gwynn

Mae’r Ffindir yn enwog am ei fforestydd maith a’i chant a mil o lynnoedd disglair. Dyma wlad yr haul ganol nos, a pheth cyffredin yw dal bws o’r ddinas allan i’r wlad er mwyn mwynhau’r tywydd braf gan gasglu llus neu fadarch mewn basged wiail…