Marilynne Robinson


Gilead

Virago, 282tt, £14.99, 2004

Emyr Humphreys


Outside the House of Baal

Seren, 415tt, £6.95, 1965; 1996

Adolygu

Chwilio am yr enaid

Emyr Humphreys a Marilynne Robinson


M Wynn Thomas

Amser darllen: 15 munud

30·04·2019

Marilynne Robinson (Creative Commons)
 

‘Mae’r holl awduron y gwn i amdanynt yn ateb mewn un gair pan ofynnir iddynt sut mae datblygu’n awdur: “Darllenwch.”’ Dyna ddywed Marilynne Robinson yn ei chasgliad o ysgrifau When I Was a Child I Read Books (2012). Caf fy mlino wrth weld cynifer o gyw-awduron ein cyfnod ni yn gwrthod darllen llyfrau dwys, yn arbennig llyfrau o’r gorffennol, fel petai hynny’n bygwth eu gwreiddioldeb bondigrybwyll. Nid dyna sut y mae Robinson yn gweld pethau, a hithau’n un o nofelwyr cyfoes mwyaf nodedig llenyddiaeth Americanaidd. Nid dyna safbwynt Emyr Humphreys ychwaith, nofelydd nodedig arall sy’n parhau’n ddarllenwr brwd ac newydd ddathlu ei ben-blwydd yn gant oed. 

Mae ffuglen gyfoes, hyd yn oed, o ddiddordeb i Emyr Humphreys. Ar drothwy ei ben-blwydd yn naw deg oed darllenodd nofel ryfeddol Marilynne Robinson, Gilead, gan sylweddoli’n syth mai gwaith awdur o bwys oedd hon, awdur a rannai yr un parch angerddol ag yntau tuag at y traddodiad crefyddol Cristnogol. Mae’n werth myfyrio’n fyr ar y cydlifiad diddorol hwn rhwng y meddwl Cymreig a’r meddylfryd Americanaidd. Cytuno ynghylch beth a wnânt, yn ddiarwybod? Mae’r ddau wedi eu tawel argyhoeddi bod eu priod ddiwylliannau yn waddol, er gwell neu er gwaeth, credoau a gwerthoedd crefyddol. Maent hefyd ill dau yn credu bod y diwylliannau hyn, o golli gafael ar y gwerthoedd arloesol hynny, wedi rhoi eu hunain mewn sefyllfa fregus, ac o ganlyniad, bod dryswch enbyd ac erydiad moesol ar eu gwarthaf. Ac i’r ddau awdur, yr hyn sydd fwyaf dan fygythiad yw’r hyn y gellid ei alw’n gymynrodd werthfawr yr unigolyn, yn llawn ystyr etifeddol y categori hwnnw. Wedi dweud hynny, rhaid ychwanegu’r rhybudd canlynol: nid yw eu ffyddlondeb (at ei gilydd) i draddodiad crefyddol yn digwydd ar draul ymwybyddiaeth lygatglir o’r trais hanesyddol a’r anffurfio cynnil, ond marwol, a gyflawnwyd yn enw’r traddodiad hwnnw. Yn wir, mae gan eu nofelau gryn dipyn i’w ddweud ynghylch agweddau problematig ymrwymiadau o argyhoeddiad crefyddol, ac yn yr un modd eu hansawdd moesol sydd hefyd, ar adegau, yn annifyr o benagored.

Ar ôl iddynt aeddfedu y gwnaeth Robinson a Humphreys fwrw eu coelbren ysbrydol personol gyda’r hyn a elwir yn Saesneg yn Congregational Church ac yn Gymraeg yn enwad yr Annibynwyr. Mae dull yr enwad hwn o addoli yn rhoi blaenoriaeth i ofynion a chyfrifoldebau ysbrydol yr enaid unigol i’r fath raddau nes ceisio lleihau clymau trefniadaeth eglwysig o unrhyw fath. Mae pob capel sy’n perthyn i’r Annibynwyr yn hunanlywodraethol, fel yr awgrymir gan yr enw. Nid yw’n cydnabod ymrwymiadau o deyrngarwch arbennig, nac unrhyw ddyletswydd o ufudd-dod, i unrhyw eglwys Annibynnol arall, heb sôn am yr Eglwys Gristnogol yn ei chyfanrwydd. Ac fel yr awgrymir gan yr enw amgen ‘Congregationalist’, mae natur hunanlywodraethol pob capel yn gyfan gwbl ddemocrataidd o ran strwythur. Gan gorff yr aelodau yn unig – cymuned gydradd o gredinwyr llwyr ymroddedig – y mae’r hawl i benderfynu, dan arweiniad yr Ysgrythur, sut drefn i’w gosod ar bethau. Yn ychwanegol at hynny, mae pob aelod, yn wryw a benyw, yn cael ei gydnabod â’r un ddawn ysbrydol i resymu. Ac yn ei dro, disgwylir i bob unigolyn ymlynu at y math o ymddygiad ysbrydol a moesol a bennir gan y rheswm goleuedig a lywodraethir gan ddealltwriaeth gytbwys o’r Ysgrythur. Nid yw’n syndod darganfod, felly, fod gan yr Annibynwyr draddodiad anghydffurfiol hir a balch o ymdrechu deallusol, o feddwl radical, ac yn wir o weithredu cymdeithasol a gwleidyddol blaengar.

Yn erbyn y safonau hyn y mae Robinson yn mesur unigolyddiaeth fodern Americanaidd ac yn ei chael yn sylfaenol ddiffygiol. Lansiodd felly ei Jeremiad pwerus ei hun yn erbyn yr unigolyddiaeth hon, sydd wedi ei chyfyngu’n gynyddol i synio am yr unigolyn fel uned mewn economi gyfalafol a gysegrwyd yn ddwyfol, neu o leiaf a ragordeiniwyd yn ddiwrthdro. Yn y modd hwn, y mae’r unigolyn, y dirgelwch cysegredig eithaf yng ngolwg Robinson, yn cael ei drin fel cynhyrchydd neu ddefnyddiwr yn unig, ac fel casgliad o wahanol ysgogiadau a chwantau. 

Yn annog y safbwynt hwn, ac yn dylanwadu arno, y mae’r hyn a elwir ganddi mewn man arall yn para-wyddoniaeth. Yr hyn a olygir ganddi wrth ddefnyddio’r term hwn yw’r arfer siwdo-wyddonol o gamddefnyddio casgliadau diddeall o ddulliau gwyddonol dilys. Un canlyniad i hyn, ychwanega, yw: ‘Modern discourse is not really comfortable with the word “soul”, and in my opinion the loss of the word has been disabling, not only to religion but to literature and political thought and to every humane pursuit.’ Mae Robinson hefyd yn ei gwneud hi’n glir bod gan y nofel rôl unigryw a hanfodol i’w chwarae wrth ddysgu darllenwyr sut i adfer categori’r unigolyn, categori a wagiwyd o’i ystyr, a thrwy hynny i adennill y cysyniad gwerthfawr o’r ‘enaid’.

Mae Emyr Humphreys (Llun ar y chwith o gasgliad Geoff Charles, Llyfrgell Genedlaethol Cymru) yn datgan yn glir ei ymrwymiad yntau fel nofelydd i’r dasg achubol hon mewn ysgrif bwysig a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn The Listener yn 1953. ‘It is not by deserting the Protestant principle of personal responsibility,’ mynna Humphreys yn blaen yn ‘A Protestant View of the Modern Novel’, ‘that our way of living will recover any degree of stability and meaning.’ ‘Often, in the recent past,’ meddai Humphreys drachefn, ‘the artist has shied away from the crude strength of the Protestant conscience – that constant, hoarse, dynamic whisper. But it possesses an exciting paradoxical combination of simplicity and complexity: an awareness of the great mystery, the infinite unconditional nature of God, and the egocentric solitude and sin of man in his trap of time.’ 

Crynhoir ganddo’r safbwynt dwys ar y ddynoliaeth a ddarganfydda yng ngwaith y nofelwyr y mae â’r parch mwyaf atynt, sef Tolstoi a Dostoiefsci (ac yn wir Kate Roberts hithau): 

Human life for them was not merely the raw material of art; it was a strange sea in which humanity thrashed about like a powerful, bewildered whale, harpooned by death, and still consumed with a desire for immortality. These greatest of novelists looked upon themselves and upon all mankind as souls thirsting equally for salvation.

A beth am grwpiau dynol, boed yn rhai cymdeithasol neu ddiwylliannol? Wel, medrir dweud am bob cymuned, meddai Robinson, neu o leiaf am bob cymuned sy’n fwy na’r teulu, ei bod wedi ei seilio ‘very largely [on] imaginative love for people we do not know or whom we know very slightly’. Noda Humphreys yntau nad oes modd i eneidiau unigol fodoli in vacuo. Maent yn bodoli yn unig oherwydd eu hymwneud ag eraill. Bu Humphreys bob amser yn hoff o osodiad grymus ei gyfaill, ei fentor a’i eilun, Saunders Lewis:

Man is a social being. It is within society alone that the dignity of his existence lies. It is through society alone that he can find personal fulfilment. Everything that an individual ever accomplished, the achievements of intellect and imagination as expressed in image and picture and architecture, was accomplished only through co-operation and collective endeavour. He must socialise. He must love and cherish his social environment. 

Dyma hefyd safbwynt Robinson. Ac, unwaith eto fel Humphreys, mae hi’n grediniol mai cyfrifoldeb pob nofelydd sydd o ddifri – cyfrifoldeb sydd yn fraint, os yn faich moesol – yw dal gafael trwy gyfrwng ffuglen (yr unig gyfrwng sy’n ddigonol, yn wir, ar gyfer y dasg) ar feinwe ffiligri cymhleth ymwneud pobl â’i gilydd. Mae myfyrdod mwyaf dwys Robinson a Humphreys ar gyflwr yr enaid, felly, yn digwydd nid yn eu hysgrifau ond yn eu ffuglen empathig, a thrwy gyfrwng y ffuglen honno yn unig. A dyna union bwysigrwydd dwy nofel eithriadol: Gilead gan Robinson ac Outside the House of Baal gan Humphreys, y ddwy yn canolbwyntio ar fywyd a chymeriad gweinidog Anghydffurfiol. 

Maent yn fyfyrdodau grymus ar gynhysgaeth foesol ac ysbrydol Anghydffurfiaeth, ei rhinweddau a’i gwendidau. Ymhellach, mae’r ddwy yn nofelau arbennig o anarferol, yn yr ystyr eu bod yn astudiaeth o ddaioni, sef y briodwedd honno sy’n ddiarhebol o anodd i’w chyfleu ag argyhoeddiad mewn ffuglen. Mae daioni yn y fan hon yn golygu, yn sylfaenol, gallu gwirioneddol, wedi ei wreiddio yn y bôn mewn ymwybyddiaeth ddarostyngedig o atebolrwydd dyn i Dduw, i gyd-deimlo a chydymdeimlo ag eraill, a ystyrir yn blant Duw, hyd yn oed ar draul yr hunan. Ac mae Robinson a Humphreys ill dau yn llwyddo’n orchestol i bortreadu hynny, trwy ddangos bod daioni dynol, ymhell o fod yn syml, yn rhinwedd arbennig o gymhleth, yn sylfaenol agored i gael ei herio, ei amau a hyd yn oed ei danseilio. 

Yn Gilead, nofel sydd wedi ei gosod yn nechrau’r 1950au, yr un sydd dan sylw yw John Ames, bugail saith deg a chwech oed ar eglwys fechan yn nhalaith Iowa. Cyfres o lythyrau cyffes ganddo i’w fab saith oed yw’r nofel. Bwriadwyd y rhain i’w darllen ar ôl marwolaeth y tad, wedi i’r plentyn gyrraedd oed aeddfedrwydd yn unig. Ymhell o fod yn ddifrifol ei naws, mae i’r nofel gyfran o hiwmor tyner, hyfryd, sy’n ein hatgoffa ar adegau o Mark Twain. Mae Ames yn cofio fel y byddai’n blentyn yn ymuno â ffrindiau i fedyddio cathod gwyllt, a sut yr oedd wedi ei anniddigo, yn gwaredu pan fyddai rhai o’r cathod hyn yn llwyddo i ddianc o’u dwylo a sgrafangu’n ôl i’w bywydau paganaidd. Roedd un o’i ffrindiau’n Fedyddiwr Caeth a mynnai ef yn ddiniwed ddifrifol mai dim ond trochiad llwyr fyddai’n effeithiol o safbwynt sacramentaidd.

Ceir hefyd y munudau telynegol, yr epiffanïau tawel. Mae gŵr ifanc a’i gariad yn cerdded fraich ym mraich, yng nghysgod coed sydd yn dal i ddisgleirio wedi’r glaw. Yna, ar fympwy hoenus, llama’r gŵr ifanc i fyny a thynnu ‘a storm of luminous water’ am eu pennau, er mawr lawenydd i’r ddau. Dyma enghraifft, meddylia’r bugail Ames gyda chynildeb dirodres, o ‘a thing existing in excess of itself, so to speak, a purity or lavishness, at any rate something ordinary in kind but exceptional in degree’. Mae yna rywbeth diniwed a theimladwy am yr hen fugail hwn, rhywbeth sydd yn cyffwrdd â’r darllenydd, rhywbeth y mae yntau’n ei alw, wrth gyfeirio at eraill, yn ‘an earned innocence... which is to be honoured’.

Mae ei atgofion hefyd yn cynnwys darnau yr un mor anhygoel ag unrhyw stori celwydd golau o’r hen ‘Orllewin Gwyllt’. Y mae un enghraifft o’r fath yn dwyn atgofion am gyfnod tanbaid yr ymgyrch yn erbyn caethwasanaeth, pan adeiladwyd rheilffordd danddaearol i ryddid. Aeth cymuned fechan yn Kansas ati i balu twnnel rhwng storfa ddefnyddiau a gogordy. Ond heb styllod pren i’w gynnal doedd dim modd rhwystro’r twnnel rhag disgyn, a dyna ddigwyddodd pan gyrhaeddodd dieithryn y dref ar gefn ceffyl a sefyll yn stond yn union uwchben y pydew tanddaearol. Suddodd ei geffyl mor ddwfn i’r ddaear nes iddo allu camu oddi arno ar y lefel. Wedi eu dychryn o weld eu twnnel wedi ei ddadlennu yn y modd hwn, dechreuodd y trigolion lleol ofidio ynghylch sut i guddio’r ceffyl hyd nes y gellid ei dynnu allan. Felly datgymalwyd sied fechan, a cheisiwyd ei hailadeiladu ar ongl ynfyd dros yr anifail truenus. Wedi i hynny fethu, llwyddasant yn y pen draw i ogwyddo un ochr o’r twnnel fel y gallai’r ceffyl yn wir ddianc. Yna cafwyd yr anhawster o lenwi’r twnnel, i wared unrhyw arwydd o’u cyfrinach euog. Ond waeth faint eu hymdrechion, bob tro yr oedd hi’n bwrw glaw neu’n rhewi, byddai wyneb y tir yn rhoi rywfaint, yn arwydd o’r helynt. Yn y pen draw, doedd dim dewis ond datgymalu’r holl anheddle a’i ailadeiladu ychydig filltiroedd i ffwrdd.

Dim ond yn raddol y dechreuwn amau bod twneli cudd o anniddigrwydd ac euogrwydd o dan wyneb y naratif tawel hwn. Er enghraifft, wrth ddarllen am atgof Ames o’i weinidog anystywallt o dad-cu, ceir yr argraff ei fod yn hen ŵr ffyrnig, hael, piwis, unllygeidiog. Ond wrth i John Ames aeddfedu, daw i ddeall bod gwallgofrwydd cynyddol yr hen ŵr yn tarddu o euogrwydd. Symudodd o Maine i Kansas yn ifanc, er mwyn rhwystro pleidlais y diriogaeth honno o blaid estyn caethwasiaeth. Yno cafodd ei gysylltu â lladdfa ddrwg-enwog, gan ddechrau trwy gynnig lloches i’r gwrthryfelwr John Brown yn ei eglwys ac yna lladd, i bob pwrpas, y marchfilwr a yrrwyd i’w arestio. Wedi hynny aeth i’r Rhyfel Cartref i wasanaethu fel gweinidog gan dynnu cyflafan arall am ei ben. Sylweddola John Ames fod euogrwydd ei dad-cu, a oedd gymaint mwy treisgar o fod wedi ei fygu a’i atal, yn fynegiant o’r ddeuoliaeth dywyll wrth galon hanes y traddodiad Americanaidd o Anghydffurfiaeth grefyddol, er iddo ef ei hun ddewis treulio ei fywyd heddychlon yn gweinidogaethu gydag enwad y Congregationalists. 

Ond mae’r twnnel cudd hefyd yn ar-wyddo’r posibilrwydd o gwymp mewnol moesol ac ysbrydol, ac mae hynny’n anes-mwytho John Ames yn ddybryd. Caiff ei fygwth ei hun gan gwymp o’r fath wedi i Jack – John Ames Boughton – ddychwelyd adref. Dewisodd tad Jack, gweinidog a ffrind hynaf ac agosaf Ames, enwi’r bachgen fel hyn er mwyn cysuro Ames yn ystod ei flynyddoedd maith ac unig yn ddi-blant. Un dengar, diddrwg didda, yw Jack, un ac iddo is-stori annymunol, a daw honno’n raddol amlwg. Yn fyfyriwr, beichiogodd ferch gwyn ei chroen o gefndir tlawd cymuned symudol o dinceriaid, ac yna gwrthododd gydnabod y fam a’r plentyn, heb sôn am eu cynnal. Ers yn fachgen, bu’n ystrywgar, yn slei, gan greu trafferth yn gyffredinol, ac roedd o natur ddichellgar cybydd. Felly, pan mae Jack yn dechrau swyno mab bychan Ames a’i wraig, mae gan y bugail bob rheswm i’w ddrwghoffi a’i amau. Ond mae hefyd yn ymwybodol o genfigen sydd yn ei gwneud hi’n anodd iawn iddo ystyried y posibilrwydd bod Jack wedi ymddiwygio. Oherwydd mae Jack fwy neu lai’r un oed â’i wraig ei hun, sydd ddeng mlynedd ar hugain yn iau nag ef, a gwna hynny i Ames deimlo’n hen ac yn ddi-werth. Dyma enghreifftiau o’r math o benbleth a deimlir gan yr hyn a elwir ganddo yn ‘sullen old reptilian self’, a’r enghreifftiau hyn sy’n cael eu harchwilio’n hunan-gyffesol gan Ames mewn parchedig ofn yn nhrydedd ran y nofel odidog hon. 

Daioni fel enigma boenus i’w bwyso a’i fesur â’r difrifwch mwyaf trwyadl a dwys, yw pwnc un o brif nofelau Emyr Humphreys, Outside the House of Baal. Mae’n gweu ynghyd ddwy linell naratif ac amseroedd amrywiol. Cyfyngir y gyntaf i un diwrnod yn nechrau’r 1960au ym mywyd pâr oedrannus: J T Miles, gweinidog wedi ymddeol, hen ŵr mwyn sy’n freuddwydiol ei anian ac yn delfrydu’n barhaus, a’i chwaer yng nghyfraith ymarferol a di-serch, Kate. Mae’r ail naratif yn ymestyn dros chwe degawd yn hanes JT a’i Gymru, o ddiwedd teyrnasiad Victoria at bresennol y nofel. Yn ei chyfanrwydd, mae’r nofel yn dangos i ni gymeriad sydd fel petai’n bodoli ar groesfan, croesfan lle mae dyfarniadau gwahanol yn ei gylch yn gwrthdaro mewn modd arbennig o atgofus ac anodd eu glastwreiddio. Mae ei briodas yn chwalu o ganlyniad i wahaniaeth anian rhyngddo a’i wraig, Lydia, ac yn sgil ymarweddiad cynyddol anymarferol JT yn enw ffydd ysbrydol. Wedi ei swyno ar y dechrau gan ddelfrydiaeth bachgen ifanc hynod olygus, dechreua Lydia golli amynedd ar ôl priodi, gan chwerwi oherwydd y canlyniadau niweidiol iddi hi a’u plant sy’n deillio, yn ei golwg, o hunanfaldod ac ymgolledigrwydd ei gŵr. 

I’r diwedd un, erys JT yn enigma lwyr, na ellir fyth ddatglymu cwlwm Gordian ei gymeriad. Ai anhunanol ydyw ynteu hunanol, diniwed ynteu ystrywgar, creadigol ynteu dinistriol? Mae ei fam-gu ar ochr ei fam yn gweld ‘Joe Miles’ bach – bachgen a amddifadwyd o fam yn ifanc ac a fagwyd gan ei dad, a oedd ar y botel yn ddistaw bach – fel cymeriad cyfrwys ond anymwybodol felly. Gan ymddangos yn wan, llwydda Joe bob amser i gael ei ffordd ei hun. Mae tad piwritanaidd llym ac awtocrataidd Lydia yn argyhoeddedig mai ffŵl anghymwys ydyw; ac mae chwaer yng nghyfraith JT, Kate, sydd yn anorchfygol ymarferol (Sancho Panza i’w Don Quixote), yn gresynu’n siarp ei barodrwydd i fod yn wên deg â phawb. Yn llymach fyth ei farn mae ei brawd cybyddlyd o faterol, Dan, sydd, yn ei henaint, yn galw JT yn ‘old fool’ i’w wyneb, wedi colli pob amynedd.

Er eu bod yn llawn bwriadau da, mae cynifer o weithredoedd JT yn arwain at drychineb, nid yn gymaint felly iddo ef ond i eraill. Wrth iddo fynnu’n bengaled ei fod am achub milwr wedi ei anafu a adawyd yn ddiymgeledd yn nhir neb dan saethu’r gelyn, caiff ei gyd-gludwr elor-wely ei ladd; â’i fryd ar aberthu ei gyflog pan yw’n weinidog yn y cymoedd diwydiannol yn ystod y Dirwasgiad mawr, er mwyn dangos solidariaeth â’r glowyr ar streic, mae’n amddifadu ei wraig a’i blant o gartref ac yn rhoi ei briodas mewn peryg gwirioneddol; ac wrth baratoi i faddau’n fawrfrydig i’w wraig am iddi, mae’n tybio, odinebu, ei gwthio ymaith a wna.

Pan gyfarfyddwn â JT am y tro cyntaf, hen ŵr ydyw yn deffro yn y bore ac yn archwilio’r byd llwyd drwy nudden euraidd llenni ei ystafell wely. Byddai nifer yn dehongli hynny fel mynegiant o’i ddihangdod, ei ddiffyg gafael ar realiti ar hyd ei fywyd; ond wedyn mae’n honni ei fod yn byw yn ôl diffiniad o realiti sydd yn gyfan gwbl wahanol i’r cyffredin ac mewn cytgord ufudd â’r Efengyl. Mae’n grediniwr argyhoeddedig yn naioni cudd (nas gwireddwyd eto) y ddynol-ryw yn ei chyfanrwydd. Yn eithafwr ysbrydol nad oes diwygio arno, ac mewn llawer ystyr yn ŵr anoddefadwy, mae’n mentro popeth – hyd yn oed ei fywyd – ar ei gredoau, ond trwy wneud hynny yn ymhlygu eraill o fodd neu o anfodd. Ac am JT mewn gwth o oedran, gallai fod wedi adleisio geiriau John Ames tua diwedd ei lythyrau: ‘What have I to leave you but the ruins of old courage, and the lore of old gallantry and hope?’

‘No other writer in English can write wonder like she can,’ meddai’r New Statesman am Robinson. Ysgrifennodd yn benodol am y rhyfeddod a brofa yn wyneb dirgelwch y ‘nexus of the self, so uniquely elegant and capable’. Mae hyn, ychwanega, yn haeddu enw ‘that would indicate a difference in kind from the ontological run of things, and for my purposes “soul” would do nicely’. Mae Gilead ac Outside the House of Baal yn nofelau mawr, hunanholiadol yn yr ystyr dwfn hwn; mae’r ddwy felly yn gyfraniad amhrisiadwy i genre prin a gwerthfawr tu hwnt yn nhirlun ein ffuglen gyfoes.

Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


[Mae] daioni dynol, ymhell o fod yn syml, yn rhinwedd arbennig o gymhleth

Dyddiad cyhoeddi: 30·04·2019

Yn ôl i frig y dudalen

Dadansoddi


Angharad Closs Stephens

Dros y misoedd diwethaf aeth llawer ati i baentio ‘Cofiwch Dryweryn’ ar waliau ac adeiladau ar hyd a lled Cymru. O blith y rhai a welais i – mewn mannau cyhoeddus ac ar blatfform trydar – mae’r arwyddion fel petaent yn golygu amrywiol bethau i wahanol bobl. Gwelais un ag…

Adolygu


Dylan Huw

Yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst eleni, crëwyd yr hyn a alwyd yn AGORA, o hen ddrysau a gyfrannwyd gan bobl Sir Conwy. Gofod canolog, cyhoeddus ac agored yn ninas-wladwriaethau Hen Roeg oedd yr αγορά yn wreiddiol; mae’r gair hefyd yn golygu 'cynulliad' neu 'man cwrdd'. Paentiwyd y…

Adolygu


Esyllt Lewis

Pnawn glawog, pawb bach yn fflat, naws oer yn yr awyr. Dydd Sadwrn ola’ Steddfod. Trodd sudd yr wythnos yn byllau mwdlyd dan draed. Brysiais draw o’r maes i Oriel Ffin y Parc cyn i’r falen Eisteddfodol allu gafael ynof. Dyma ofod gogoneddus yn y goedwig, yn gynnes ynghanol…

Cyfansoddi


Guto Dafydd

Yn ôl ar y lôn, ceisia Dadi dynnu ei sylw’i hun oddi ar sŵn y caneuon plant sy’n llenwi’r car. Mae mewn lle rhyfedd – wedi laru ar garafanio, a ddim eisiau noson arall mewn carafán am amser hir, ond eto’n dyheu am dripiau eraill. Nid yw’n siŵr pam y mae’n mwynhau…

Cyfansoddi


Beirniad: Aled Llion Jones

Cyhoeddwyd ar ddydd Iau wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst (8 Awst 2019) mai Morgan Owen yw enillydd Her Gyfieithu 2019. Yn hanu o Ferthyr Tudful, graddiodd gydag MA Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd o Brifysgol Caerdydd yn 2017 ... 

Adolygu


Amrywiol

Dwi wedi darllen ac edmygu gwaith sawl awdur o Iwerddon yn ystod y blynyddoedd diwethaf: Fintan O’Toole, Sally Rooney, Colm Tóibín, Sara Baume, Nicole Flattery. Gwelwyd datblygiadau gwleidyddol cyffrous yn ystod y cyfnod hwn, megis y refferendwm ar erthyliad y llynedd; mae’r genedl…

Adolygu


Huw Waters

Prif gonsýrn James Bridle yn y gyfrol hon yw tynnu ein sylw at y modd y cawn ein camarwain o ganlyniad i’n hymddiriedaeth mewn technoleg. Tueddwn i feddwl bod gallu technoleg i gasglu mwy a mwy o ddata o reidrwydd yn ein harwain…

Adolygu


Richard Crowe

Roedd 2006 yn flwyddyn nodedig yn hanes hoyw Machynlleth. Dyna’r flwyddyn y cynhaliwyd y seremoni partneriaeth sifil gyntaf yn y dref, ychydig fisoedd ar ôl i’r gyfraith ganiatáu hynny, a hynny rhwng dau o gymeriadau’r gyfrol hon, sef George a Reg. Yn dystion i’r seremoni roedd…