Cysylltu


24·07·2016

Mae yna groeso mawr i'ch gohebiaeth, eich awgrymiadau a'ch sylwadau bob amser.

Cysylltwch hefyd os byddwch am gynnig syniad am erthygl neu i drafod digwyddiad ar y cyd neu bartneriaeth/cydweithrediad o fath arall.

I gysylltu â thîm golygyddol O'r Pedwar Gwynt, anfonwch eich e-bost at gol@pedwargwynt.cymru

I gysylltu â'r tîm cynhyrchu/marchnata/hysbysebu, anfonwch eich e-bost at post@pedwargwynt.cymru

Gallwch yrru gohebiaeth drwy'r post at y cyfeiriad canlynol:

O'r Pedwar Gwynt Cyf., Blwch Post 91, Aberystwyth SY23 9AY

Gallwch hefyd ddefnyddio'r ffurflen isod i gysylltu â ni. Os hoffech chi i ni gynnwys eich enw ar ein rhestr bostio, cofiwch gynnwys eich cyfeiriad e-bost.

Diolch yn fawr am eich adborth.

Mae O'r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn werthfawr - na, yn anhepgor - wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i'r cylchgrawn.


Dyddiad cyhoeddi: 24·07·2016

Yn ôl i frig y dudalen

Dadansoddi


Iolo ap Dafydd

Mae ffiniau nifer fawr o wledydd Canolbarth Asia a’r Dwyrain Canol wedi symud dros y canrifoedd. Ac mae llawer o bobl y rhanbarth yn parhau i gondemnio imperialwyr Ffrengig a Phrydeinig am ffiniau a gaiff eu hystyried yn rhai ffug. Syria,…

Cyfweld


Dyl Mei a Marged Tudur

Mae Rhywbeth i’w Ddweud yn gyfrol o ysgrifau am ddeg o ganeuon gwleidyddol a ysgrifennwyd rhwng 1979 a 2016. Ymysg y deg mae ‘Gwesty Cymru’ Geraint Jarman a ‘Gwlad ar fy Nghefn’ gan Datblygu. Dewisodd Dyl Mei ysgrifennu ei gyfraniad yntau i'r gyfrol am 'Talu Bils' gan Rodney Evans. Un o'r golygyddion, Marged…

Dadansoddi


Ned Thomas

Roedd hi'n adeg y cynhaeaf, a daeth llu o fedelwyr i Barcelona heb i'r awdurdodau sylwi bod dim anarferol ar y gweill. Ymunodd nifer o arweinwyr y dosbarth canol â'r gwrthryfel, yn eu plith y clerigwr Pau Claris, a gofir hefyd am iddo sicrhau…

Adolygu


Mared Llywelyn

Hawdd dychmygu bod llawer un ar bigau’r drain wrth weld taith Mwgsi yn dynesu a rhywun yn ymwybodol y byddai llygaid pawb ar y cynhyrchiad. Roedd yn addo bod yn brofiad anodd ac emosiynol ar y gorau, oherwydd nid stori wneud yw hon ond stori wir.…

Dadansoddi


Dylan Huw

Yn ei waith dylanwadol Cruising Utopia, mae’r theorïwr José Esteban Muñoz yn galw am ddealltwriaeth o fodolaeth hoyw â gyriad iwtopig yn ganolbwynt iddi. Mae e’n defnyddio 'criwsio' am ryw fel trosiad ar gyfer ei weledigaeth ef o’r modd y gallwn ddod i ddeall y potensial i gymunedau LGBT+ sy’n deillio o…

Cyfansoddi


David Elwyn Lewis

Ymlwybrodd y trên trwy faestrefi Warszawa, heibio'r adeiladau aml-lawr concrid a dienaid. Ychydig a wyddai'r bachgen ar y pryd bod y ddinas hon, gwta ugain mlynedd ynghynt, ac fel cynifer o rai eraill, wedi ei difa'n llwyr. Ar ôl iddynt gyrraedd y brif orsaf,…

Adolygu


Iwan England

Fe’m magwyd i lai na dau gan metr o ddrws ffrynt cartre’r awdur, Huw Lewis. Roedd ei blentyndod e’n cwmpasu’r chwedegau a saithdegau’r ganrif ddiweddaf, cyfnod allweddol yn hanes pentref Aberfan. Dyma’r adeg pan lwyddodd y gymuned i ailadeiladu, gan glirio olion trychineb 1966 a sefydlu…

Cyfansoddi


Ffion Dafis

Er i mi ddatgan, wrth drafod y Mileniwm mewn dosbarth Bywydeg yn 1983, y byddwn – a minnau’n mynd i fod mor hen â 28 oed erbyn y flwyddyn dyngedfennol honno – yn briod â dau o blant erbyn hynny, tydw i erioed wedi gwirioneddol…