Rhifyn gwanwyn 2026 Adolygu

Bywydau cyfrin dan gwfl

Rhan I

Fel pob celfyddyd fawr, mae’r lluniau o ystafell Gwen John yn amwys ac amlhaenog – yn drymlwythog o’r ‘negative capability’ y soniodd y bardd John Keats amdano yn ei lythyrau: ‘that is when a man is capable of being in uncertainties, mysteries, doubts, without any irritable reaching after fact and reason’. Mae’r ystafell yn alegori o lonyddwch; yn ofod o ryddid creadigol; yn symbol proto-ffeministaidd; yn stafell ddirgel yr enaid; ac yn boudoir

Marc Edwards

Rhifyn gwanwyn 2026 Dadansoddi

Tirweddau tanddaearol

Dinas y glo Jules Verne

Mae’r stemar yn smotyn bach ym mhen pella’r llyn. Mae pob dim yn llachar, mor syfrdanol o lachar, mae angen hanner cau dy lygaid i’w gweld hi’n iawn. Ond daw sŵn y peiriant ar draws y dŵr, sŵn wedi ei chwyddo gan y bryniau uchel. Yn sgil wythnosau o dywydd gwlyb a llwyd a diflas mae hyn yn wyrthiol i’r tri ohonom. Heddiw, am awr neu ddwy ganol dydd, mae popeth yn dwysáu dan oleuni cryf gaeafol: lliwiau, ffurfiau, synau, a theimlad yr awyr oer,…

Mary-Ann Constantine