Hysbysebu

26·07·2016

Manylion hysbysebu yn rhifynnau print 2023

 

Telerau hysbysebu 2023

I drefnu hysbysebu yn rhifynnau print 2023, anfonwch air at sioned@pedwargwynt.cymru

Gellir gweld y rhifyn diweddaraf a'r ôl-rifynnau yn y fan hon.

Amserlen

Dyddiad cau archebu gofod hysbysebu: 17 Mawrth 2022
Dyddiad cau derbyn hysbysebion: 24 Mawrth 2022
Dyddiad postio’r rhifyn i danysgrifwyr: 5 Ebrill 2022
Dyddiad cyrraedd y Ganolfan Ddosbarthu: 5 Ebrill 2022
Dyddiad cyhoeddi’r rhifyn ar-lein: 8 Ebrill 2023

Cyfraddau sylfaenol

Tudalen gyflawn - £400
Tair colofn - £310
Dwy golofn - £190
Hanner tudalen ar draws - £190
Stribyn - £100
Un golofn - £100 
Chwarter tudalen - £100

Gweler ddelwedd o'r meintiau ar waelod y dudalen hon.

Gofynion derbyn y gwaith celf

  • PDF wedi ei greu gydag Adobe PDF/X-1a (2001).
  • Ffontiau wedi eu gwreiddio.
  • Teip llai na phwynt 24 i'w gadw 1/8" o rigol y ddalen.
  • Maint yr hysbyseb i fod yn gyson â maint y gofod a ddewisir (gweler y grid).

Am wasanaeth dylunio hysbyseb, cysylltwch â ni i drafod telerau.

Nodweddion yr argraffiad

Fformat - tudalen pedair colofn
Argraffu - Stella Press 57 gram
Trim - 275mm x 370mm wedi ei staffylu
Rhwymiad - wedi ei staffylu
Cylchrediad - 1200

Telerau ac amodau

  1. Dylid archebu'r gofod hysbysebu mewn pryd.
  2. Dylid anfon pob hysbyseb ar ffurf ffeil PDF at sioned@pedwargwynt.cymru.
  3. Dylai’r hysbyseb fod ar ffurf ffeil PDF ac yn gyson ag union faint y gofod a ddewiswyd o blith yr opsiynau a gynigir. Dylai'r ffeil fod wedi ei chreu gydag Adobe PDF/X-1a (2001), gyda’r ffontiau wedi eu gwreiddio, a’r teip sy’n llai na phwynt 24 i'w gadw 1/8" o rigol y ddalen.
  4. Fe fydd pob hysbysebwr yn derbyn copi o’r rhifyn perthnasol.
  5. Anfonebir am bob hysbyseb wedi i’r rhifyn perthnasol ymddangos neu ar ddiwedd y flwyddyn galendr os bydd archeb arbennig ar gyfer tri rhifyn.
  6. Disgwylir taliad am yr hysbyseb o fewn 30 niwrnod wedi derbyn yr anfoneb.
  7. Cedwir pob hawl gan O’r Pedwar Gwynt Cyf i wrthod hysbyseb.

Manylion cyswllt

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â sioned@pedwargwynt.cymru

Gorolwg o'r meintiau ar gyfer yr hysbysebion