Amdanom ni


24·07·2016

Gweld y byd trwy lyfrau.

Mae cylchgrawn llyfrau newydd Cymru, O’r Pedwar Gwynt yn darllen, yn holi ac yn herio; yn adlewyrchu ac yn cwestiynu syniadau am y Gymru gyfoes a’i lle yn y byd.

Cyhoeddir gwaith beirniadol a chreadigol newydd – yn erthyglau, adolygiadau, straeon a cherddi – a cheisiwn annog trafodaeth fywiog. Deallus – nid astrus ...

Bydd rhifynnau print yn ymddangos deirgwaith y flwyddyn – Eisteddfod, Nadolig a Gwanwyn – ac fe gyhoeddir deunydd newydd yn wythnosol ar pedwargwynt.cymru.

Rydym am fod yn bapur newydd i ddarllenwyr y Gymraeg; i unrhyw un a phob un sy’n ymddiddori mewn syniadau, mewn llyfrau ac yn y byd cymhleth – ond anhraethol ddiddorol – sydd ohoni.  

Cyhoeddir y cylchgrawn gan O'r Pedwar Gwynt Cyf, cwmni annibynnol newydd a'i bencadlys yn Aberystwyth. Mae gennym bartneriaeth weithredol ag Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor ac rydym yn derbyn grant blynyddol gan Gyngor Llyfrau Cymru. 
 

I hysbysebu yn y rhifyn print, anfonwch air at post@pedwargwynt.cymru 

I danysgrifio i'n cylchlythyr, anfonwch neges gyda 'cylchlythyr' yn destun iddi at post@pedwargwynt.cymru

Cysylltwch os byddwch am gynnig syniad am erthygl neu gydweithrediad o fath arall.

I gysylltu â thîm golygyddol O'r Pedwar Gwynt, anfonwch eich e-bost at gol@pedwargwynt.cymru.

 


Llywyddion
Gwyneth Lewis
Robin Llywelyn
Ned Thomas

Llywydd Er Anrhydedd
Gwyn Thomas (1936-2016)

Cyhoeddwr
O’r Pedwar Gwynt Cyf. 

Golygyddion
Owen Martell
Sioned Puw Rowlands
gol@pedwargwynt.cymru

Rheolwr Golygyddol a Chynhyrchydd
Mari Siôn
post@pedwargwynt.cymru

Cynorthwy-ydd Golygu a Chynhyrchu
Ruth Richards

Dylunydd y papur
Pryderi Gruffydd

Cadeirydd
Angharad Price

Bwrdd ymgynghorol
Jon Gower, Lefi Gruffudd, Llŷr Gwyn Lewis, Eirian James, Carl Morris, Angharad Price

Prif bartner
Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor
 

O'r Pedwar Gwynt Cyf., Blwch Post 91, Aberystwyth SY23 9AY

Mae O'r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn werthfawr - na, yn anhepgor - wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i'r cylchgrawn.


Dyddiad cyhoeddi: 24·07·2016

Yn ôl i frig y dudalen

Adolygu


Ruth Richards

Ai peth fel ’ma, mewn difri, oedd Eisteddfod y bedwaredd ganrif ar bymtheg? Rhyfeddwn at ffotograffau John Thomas o Eisteddfod Genedlaethol Lerpwl yn 1884, a'r un pryd fe'n gorfodir i'w cydnabod fel cofnod cywir. Ffotograffiaeth, wedi'r cwbl, yw un o'r cyfryngau amlycaf i gyflwyno'r…

Dadansoddi


Angharad Price

Bob blwyddyn, mae dwy filiwn o deithwyr yn mynd trwy Gaergybi, porthladd fferi prysuraf-ond-un y Deyrnas Unedig, sydd hefyd yn rhan allweddol o briffordd fawr Ewropeaidd yr E22 sy’n ymestyn o Ddulyn i Fosgo a thu hwnt. Flina’ i byth ar y wefr o ddod yma.

Dadansoddi


Simon Brooks & Daniel Williams

'Roedd yna berygl ar ôl Brexit, ac yng nghyd-destun yr etholiad hwn yn benodol, dw i’n meddwl, i Blaid Cymru ddiflannu’n llwyr o olwg pleidleiswyr mewn rhai rhannau o Gymru. Un o sgil-effeithiau Brexit oedd rhannu’r ardaloedd hynny o Gymru a esgorodd ar y bleidlais o…

Dadansoddi


Sarah Hill

Eleni rydym yn cyrraedd carreg filltir liwgar: pum deg mlynedd ers y ‘Summer of Love’, neu Haf Cariad. Yng Nghymru, roedd pop dipyn bach ar ei hôl hi ym 1967 ond roedd yna drobwynt pwysig, serch hynny, a chwyldro diwylliannol ar lan Llyn Tegid.

Cyfansoddi


Aled Jones Williams

Penderfynodd Bet ar y pafin na fyddai’n mynd drwy’r dref i dŷ ei modryb y bore hwn. Fe gadwai’r pleser hwnnw – a phleser fyddai, cael gweld yr hen le eto – at yn hwyrach. Fe wyddai am siort cyt. Os a’ i lawr ffor’ hyn, meddai wrthi…

Colofnau


Mihangel Morgan

Er mwyn dianc rhag twymyn yr ymgyrch etholiadol – Carwyn nad yw’n Corbyn bondigrybwyll, arweinydd Prennaidd Plaid Cymru ac ymddangosiad brawychus anochel Mark Williams neu Ann Clwyd ar garreg y drws (yr unig adeg y cewch chi gipolwg ar y troglodeitau hyn yw pan…

Adolygu


Gwydion Gruffudd

Beth ’sgwn i yw’r rhesymau dros y diffyg cydnabyddiaeth i gyraeddiadau y tu hwnt i’r ‘pethe’ traddodiadol yng Nghymru? Wrth gofio’r Athro Phil Williams, ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae dyn yn meddwl y dylai fod wedi cael cymaint os nad mwy o gydnabyddiaeth am ei waith ffiseg…

Cyfweld


Emanuele Severino

Yn 1961, lansiwyd archwiliad gan Chwil-lys y Fatican o waith yr athronydd Emanuele Severino (1929- ). Parhaodd yr archwiliad hwn am bron i ddegawd. Penderfynwyd bod ei syniadaeth yn 'sylfaenol anghydnaws' ag athrawiaeth Gristnogol ac o ganlyniad fe'i hesgymunwyd o'i swydd fel Athro…