Cefnogi

14·09·2016

Cefnogi O’r Pedwar Gwynt 

Mae pob tanysgrifiad yn werthfawr i ni ac yn ein cynorthwyo i gynnal a datblygu'r cylchgrawn.
Gellir prynu tanysgrifiad blwyddyn, a chael mynediad i dros 750,000 o eiriau yn ein harchif, am gyn lleied â £10 y flwyddyn yn y fan hon.

Mae amryw yn penderfynu cefnogi eu siop lyfrau leol trwy brynu’r rhifynnau print yno a chyfuno hynny â thanysgrifiad digidol, i gael mynediad di-rwystr i’r archif. Cofiwch, yn ogystal â'r rhifynnau print, ein bod yn cyhoeddi bob nos Fercher ar pedwargwynt.cymru

Os hoffech drafod awgrym am gynnwys ysgrifenedig neu weledol i'r cylchgrawn, anfonwch air atom. Mae cyfraniadau ariannol rheolaidd – pris paned o goffi bob mis, neu swper hyd yn oed – hefyd yn ein cynorthwyo i sicrhau dyfodol i’r fenter annibynnol hon:
 


 

Mae croeso i chi gyfrannu symiau unigol hefyd:
 


Cyhoeddir rhestr flynyddol o enwau cefnogwyr O’r Pedwar Gwynt. Os nad ydych yn dymuno i’ch enw ymddangos ar y rhestr, anfonwch neges at y golygydd, os gwelwch yn dda.

Nid oes angen cyfrif PayPal arnoch. Cliciwch ar y botwm perthnasol i fynd i dudalen PayPal.
Uwch ben symbolau'r cardiau credyd/debyd ceir opsiwn 'Defnyddio cerdyn neu gyfrif banc'. Cliciwch ar y botwm 'Continue' er mwyn defnyddio eich cerdyn banc i gyfrannu.