Cyfrannu

15·10·2021

A oes gennych awydd ysgrifennu ar gyfer O’r Pedwar Gwynt?

Comisiynir y rhan helaeth o gynnwys O’r Pedwar Gwynt ond rydym bob amser yn falch o glywed gan leisiau anghyfarwydd, ac yn fwy na dim, am syniadau annisgwyl. Ar y cyfan, mae’n well gennym drafod a datblygu trywydd darn ar y cyd â’r awdur yn hytrach na derbyn erthygl orffenedig, ond mae croeso i chi hefyd anfon eich gwaith ysgrifenedig atom i’w ystyried. 

Rydym yn gosod llenyddiaeth ynghanol materion cyfoes, ac felly â diddordeb arbennig mewn ysgrifau ac erthyglau sy’n ystyried llenyddiaeth (a gyhoeddwyd mewn unrhyw iaith) ochr yn ochr â llyfrau mewn meysydd eraill. Yn unol â’n harwyddair – ‘darllen, holi, herio’ – mae gennym ddiddordeb mewn rhoi llwyfan i safbwyntiau deallusol sy’n cwestiynu rhagdybiaethau. Rydym yn croesawu’n arbennig gyfraniadau dadansoddol sy’n trafod llyfrau ym maes economeg, cyllid, gwleidyddiaeth ryngwladol, technoleg a gwyddoniaeth, oherwydd y prinder deunydd yn y meysydd hyn yn Gymraeg. Os oes gennych syniadau treiddiol i’w rhannu, peidiwch â bod yn swil ynghylch eich sgiliau iaith. 

Y canllaw gorau ar gyfer y math o ddeunydd rydym yn debyg o fod am ei gyhoeddi ydi cynnwys cyfredol y cylchgrawn, felly i gael gwell syniad, darllenwch y cylchgrawn yn rheolaidd. Cofiwch bod tanysgrifiad blwyddyn am £10 ar gael i bawb, sydd yn cynnwys bron i 150 erthygl newydd mewn blwyddyn a mynediad i’r holl archif chwiliadwy (dros filiwn o eiriau a bron i fil o erthyglau a gyhoeddwyd ers lansio yn haf 2016). Tanysgrifiwch i’n cylchlythyr hefyd, er mwyn derbyn y newyddion diweddaraf am gynnwys O’r Pedwar Gwynt.

O ran hyd, mae’r ysgrifau a’r erthyglau a gyhoeddir, sef prif ffurfiau’r cylchgrawn, fel arfer oddeutu 2,500-3,000 o eiriau. Mae’r adolygiadau byrion oddeutu 800 gair. Dechreuwyd colofn newydd yn 2022, sef ‘Gweld y gwynt’, sy’n rhoi cyfle i ddarllenwyr ymateb i drafodaeth a gafwyd yn nhudalennau’r cylchgrawn. Mae’r golofn hon fel arfer oddeutu 1,500 o eiriau. Cysylltwch os oes gennych gynigion ar gyfer hon.

Nid oes amserlen benodol gennym ar gyfer derbyn ac ystyried syniadau am gyfraniadau ac mae croeso i chi gysylltu unrhyw bryd. Mae’r cildwrn rydym yn ei gynnig am bob cyfraniad ar hyn o bryd yn £50 am golofnau, adolygiadau byrion, gwaith creadigol neu erthyglau byr ac yn £75 am erthyglau adolygu a dadansoddol ac ysgrifau hwy.

Cofiwch nad oes gennym lawer o adnoddau ac fel arfer, bydd ein gwaith darllen yn cael ei wneud yn wirfoddol a thu allan i oriau swyddfa, sef gyda’r nos a dros y penwythnos. Mae hynny’n golygu y gall gymryd peth amser i ni ymateb i’ch cynigion. Noder nad yw hyn yn arwydd o ddiffyg diddordeb. Rydym yn ceisio rhoi ateb i bawb o fewn chwe mis, ond weithiau, mae’r amserlen yn medru llithro, yn dibynnu ar ofynion cyhoeddi’r foment. 

Edrychwn ymlaen at drafod! Llawer o ddiolch am ystyried cyfrannu. Dylid gyrru eich syniadau ar ffurf ebost at gol@pedwargwynt.cymru