Dadansoddi

Colofnau


Sioned Puw Rowlands

Hanner canrif yn ôl, ar 21 Awst 1968, rowliodd tanciau’r Sofietiaid i ganol prifddinas Tsiecoslofacia. Dros nos, caewyd y drws yn glep ar Wanwyn Prâg. Ymosodwyd ar y Tsieciaid gan chwarter miliwn o filwyr gwledydd Cytundeb Warszawa, sef yr Undeb Sofietaidd, Bwlgaria,…

Colofnau


Huw L Williams

Dyma eiriau John Stuart Mill, un o gewri’r traddodiad rhyddfrydol, yn ei draethawd ‘On Representative Government’. Rwyf wedi dyfynnu’r geiriau hyn droeon; maent hyd yn oed yn addurno’r pinfwrdd ar bwys fy swyddfa. A minnau’r unig Gymro Cymraeg mewn swydd lawn-amser ym maes athroniaeth, mae geiriau…

Colofnau


Dylan Foster Evans

Ai’r un person ydwyf heddiw ag yr oeddwn ddeng mlynedd, ugain mlynedd, ddeugain mlynedd yn ôl? Dyma gwestiwn oesol y gall y llenor a’r gwyddonydd fel ei gilydd geisio ei ateb. Mae un ystadegyn yn awgrymu bod oddeutu 98 y cant o’r atomau yn…

Colofnau


Emyr Ll Gruffudd

Dwi am fod yn gwbwl onast. Dim ond unwaith dwi wedi mynd ati’n fwriadol i ddwyn llyfr. Tra oedd hogiau eraill yr un oed â fi yn dwyn dadas a ‘caps’ o Woolworths, mi es i ati i ddwyn llyfr o farddoniaeth. Ella…

Colofnau


Mihangel Morgan

Mae’r helynt Brexitlyd diweddaraf ynghylch dymuniad rhai jingoistiaid i gael pasbortau glas - pasbortau wedi’u cynhyrchu ym Mhrydain yn hytrach nag ar y cyfandir, er gwaetha’r gost ychwanegol aruthrol, a chan gwmni â’r enw Prydeinig iawn De La Rue - wedi dwyn i gof yr helynt…

Colofnau


Alun Llywelyn-Williams

Yr oeddwn yn wyth oed cyn dechrau mynd i’r ysgol yn gyson, ond ni allaf gofio adeg pan na fedrwn Saesneg. Mae gennyf rith gof amdanaf yn hogyn bach yn chwarae ar fy mhen fy hun yn Gymraeg, ond rhaid bod…

Dadansoddi


R Gareth Wyn Jones

Dengys gwaith Damasio bod modd gwahaniaethu yn ffisiolegol rhwng ein hemosiynau a’n teimladau a bod ein hymatebion emosiynol yn digwydd yn lled ‘ddifeddwl’. Dadleua fod emosiwn yn deillio – yn niwrolegol a ffisiolegol – o integreiddio gweithgaredd ein hymennydd a’n cyrff (yn groes i ddeuoliaeth…

Dadansoddi


Angharad Penrhyn Jones

‘My small voice was answered by a rich chorus of voices! My voice, which had once been mute!’ Dyma eiriau Nuala O’Faolain, yn sôn yn ei hunangofiant, Are You Somebody?, am y profiad o gael ei chlywed ar ôl blynyddoedd o deimlo, fel merch yn Iwerddon, ei bod yn…

Dadansoddi


Rhodri Davies

Treuliais y flwyddyn ddiwethaf yn adeiladu telyn rawn, sef telyn wedi ei llinynnu â blew hir, garw o gynffon ceffyl. Nid oes un wedi ei chwarae yng Nghymru ers dau gant o flynyddoedd. Clywais am fodolaeth y delyn hon am y tro…

Dadansoddi


Aled Llion Jones

Dwy daith drên i Warszawa, prifddinas Gwlad Pwyl: y naill ym Medi 1968 o dref Przemyśl, nid ymhell o’r ffin â’r Wcráin, a’r llall yn Nhachwedd 2017 o ddinas Kraków yn y de. Dau deithiwr Pwylaidd â’r un nod o brotestio yn erbyn eu llywodraeth, a’r ddau yn cario yn eu pocedi…

Dadansoddi


Diane Bailey

Yn 1935, tynnodd Edith Tudor-Hart y llun hwn yn Nhrealaw, de Cymru: gwŷr a merched yn gorymdeithio yn erbyn deddf diweithdra’r llywodraeth a bygythiad y prawf modd. Y flwyddyn flaenorol, priododd y meddyg Alexander Tudor-Hart yn Fienna, priodas a gynigiai ddihangfa i Brydain…

Dadansoddi


Angharad Price

Dinas dlos, ddi-sôn-amdani ar lannau afon Mosel ydi Trier, a’r bryniau o’i chwmpas yn rheseidiau unionsyth o winwydd, deunydd crai’r gwin aur, mawr-ei-fri. Hon ydi dinas hynaf yr Almaen, meddan nhw, a dan yr enw Trevorum hi oedd prifddinas ogleddol yr Ymerodraeth Rufeinig;…

Dadansoddi


Simon Brooks

Gan Louie y clywais i’r ymadrodd gyntaf. Yn y Ship neu’r Aussie roeddwn i, efo criw Llais Gwynedd fwy na thebyg, yn y dyddiau braf hynny cyn i bethau suro rhyngom ar ôl i mi gefnogi’r ymgeisydd anghywir mewn etholiad ar sail rhywbeth mor…

Dadansoddi


Daniel G Williams

‘Iaith carreg fedd’ oedd y Gymraeg i Michael Stephens yn hafau ei arddegau pan fyddai'n gweithio fel torrwr beddau yn ei Drefforest enedigol. Ymhen amser fe drodd Michael yn Meic, a’r iaith ‘yn iaith carreg fy aelwyd’. Disgrifiodd ei hun yn un o blant ‘y Gymru ddiwydiannol,…

Dadansoddi


Angharad Closs Stephens

Yn Abertawe y mae gwaith awyr agored mwyaf yr artist gwleidyddol Jeremy Deller. Ef hefyd a gynlluniodd ‘We’re here because we’re here’ (ar y cyd â Rufus Norris, cyfarwyddydd Theatr Genedlaethol Pydain) – gwaith sydd yn cofiannu can mlynedd ers brwydr y Somme. Fel rhan o’r perfformiad hwnnw ar 1 Gorffennaf 2016, gwelwyd…

Dadansoddi


Nerys Williams

Roedd hawliau atgenhedlu ac iechyd menywod yn perthyn yn naturiol i diriogaeth ddi-nod fy mhlentyndod yng ngorllewin Cymru'r saithdegau. Nyrs ardal a bydwraig oedd fy mam ac yn ystod gwyliau'r haf byddwn yn mynd gyda hi ar ei rownds. Gwrando ar dapiau ar y stereo…