Preifatrwydd a ‘Cookies’

24·05·2018

Eglurwn isod sut mae O'r Pedwar Gwynt Cyf yn casglu ac yn defnyddio gwybodaeth am ddefnyddwyr a thanysgrifwyr y wefan a'r cylchgrawn.

Crynodeb

  • Rydym wedi ein hymrwymo i ofynion GDPR a Deddf Gwarchod Data y Deyrnas Gyfunol.
  • Defnyddir yr hyn a elwir yn 'cookies' ar y wefan hon i gasglu gwybodaeth amhersonol am y defnydd a wneir ohoni.
  • Wrth greu cyfrif ar gyfer mewngofnodi, wrth danysgrifio, prynu nwyddau neu trwy gofrestru i dderbyn ein e-gylchlythyr, a thrwy ymrywmo i gyfrannu cynnwys i gylchgrawn O'r Pedwar Gwynt, rydych yn darparu gwybodaeth bersonol i ni. Nid ydym yn rhannu'r wybodaeth hon ag unrhyw un heb dderbyn eich caniatâd.
  • Mae modd i chi gysylltu â ni unrhyw bryd i ofyn am ddiwygio neu ddileu unrhyw wybodaeth a ddarperir gennych.
  • Defnyddir MailChimp gennym i greu e-gylchlythyr O'r Pedwar Gwynt. Mae'r manylion ebost a ddarperir gennych wrth gofrestru neu danysgrifio yn cael eu trosglwyddo i MailChimp yn unol â'u Termau a'u Polisi Preifatrwydd.
  • Mae'r holl daliadau a wneir drwy'r wefan yn cael eu trin gan system Stripe a PayPal. Dim ond y wybodaeth sy'n hanfodol i ni fedru cyfeirio a phrosesu'r taliad gennych a gedwir gennym.

Mwy o fanylion ar elfennau penodol

'Cookies'

Defnyddir yr hyn a elwir yn 'cookies' gennym ar y safle hwn er mwyn gwella effeithiolrwydd y wefan ac er mwyn casglu gwybodaeth amhersonol am eich defnydd o'r safle fel bod modd i ni hwyluso'r broses.

Cadwyni neu ffeiliau testun bychain ydi 'cookies' a osodir ar eich cyfrifiadur neu'ch dyfais symudol gan wefannau yr ydych yn ymweld â hwy. Nid ydynt yn niweidio eich cyfrifiadur ac nid ydynt yn cynnwys unrhyw wybodaeth sydd yn caniatáu i ni eich hadnabod yn bersonol. Eu pwrpas yw galluogi ein gwefan i adnabod eich cyfrifiadur ac adnabod gwybodaeth amhersonol benodol o fath arall, er enghraifft, pa borwr a ddefnyddir gennych. Defnyddir y wybodaeth hon i alluogi'r wefan i weithio ar eich dyfais, i sefydlu pa rannau o'r wefan all weithio'n well, neu i ddadansoddi pa mor aml mae pobl yn ymweld â'r safle a pha dudalennau maen nhw'n ymweld â hwy. Nid ydym yn cysylltu'r data hwn gydag unrhyw wybodaeth (y byddwch efallai'n penderfynu darparu i ni mewn ffyrdd eraill) fyddai'n caniatáu i ni eich hadnabod yn bersonol.

Rydym yn nodi ein defnydd o 'cookies' ar y wefan hon yn glir, gyda chyswllt i'r polisi hwn. Trwy ddefnyddio'r wefan hon ein dealltwriaeth ydi eich bod wedi darllen y polisi hwn ac yn cytuno felly i ni yrru 'cookies' i'ch dyfais.

Os byddai'n well gennych beidio â chael 'cookies' wedi eu gyrru gan ein safle i'ch cyfrifiadur neu ddyfais mae modd i chi addasu eich porwr i'w gwrthod (gyda'r ddealltwriaeth y bydd hyn yn dylanwadu ar effeithiolrwydd y wefan wrth i chi ei defnyddio).

Gwybodaeth a ddarperir gennych

Rydych yn darparu gwybodaeth i ni trwy greu cyfrif i fewngofnodi i'n gwefan, trwy danysgrifio, trwy brynu nwyddau gennym, trwy gysylltu â ni, neu trwy gofrestru i dderbyn ein cylchlythyr. Dyma enghreifftiau o'r wybodaeth a gesglir gennym a'r modd y caiff ei defnyddio:

  • Rhestr ebost. Mae gennym restr ebost a ddefnyddir i ddosbarthu ein e-gylchlythyr. Os hoffech ymuno â'r rhestr, rydym angen eich cyfeiriad ebost. Mae modd ymuno trwy gofrestru ar ein gwefan, trwy danysgrifio i'r cylchgrawn, trwy ddarparu eich manylion cyswllt mewn digwyddiadau, neu trwy anfon ebost yn mynegi eich dymuniad i ymuno â'r rhestr at post@pedwargwynt.cymru. Mae holl gyfranwyr y cylchgrawn hefyd yn derbyn yr e-gylchlythyr. Mae'n bosib y byddwn yn gofyn am wybodaeth bellach amdanoch, er enghraifft eich enw llawn a'ch cyfeiriad cyswllt llawn fel bod modd sicrhau eich bod yn derbyn y wybodaeth fwyaf perthnasol. Mae modd i chi dynnu eich enw o'r rhestr bost unrhyw bryd trwy glicio ar y nodyn 'dad-danysgrifio' ar waelod yr e-gylchlythyr neu trwy ebostio post@pedwargwynt.cymru gyda 'dad-danysgrifio' yn y neges destun.
  • Ebost, rhifau ffôn, a manylion cyswllt pellach. Byddwch yn cysylltu â ni o dro i dro trwy ebost, llythyrau drwy'r post neu alwad ffôn. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth hon dim ond at bwrpas ymateb i'ch cais neu'ch awgrym.
  • Creu cyfrif. Wrth brynu nwyddau neu wrth danysgrifio i'r cylchgrawn, rydym angen i chi ddarparu manylion cyswllt llawn ar gyfer prosesu taliadau ac er mwyn dosbarthu'r cylchgrawn i chi. Dim ond er mwyn prosesu eich archeb y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth hon. Mae modd i chi ddileu'r wybodaeth a gasglwyd i brosesu eich tanysgrifiad trwy ebostio post@pedwargwynt.cymru gyda chais penodol.

Gwybodaeth a gesglir gennym amdanoch

Defnyddiwn Google Analytics i gasglu gwybodaeth ynghylch sut y mae defnyddiwr yn defnyddio'r wefan hon. Defnyddir y wybodaeth hon gennym i ddadansoddi'r defnydd a wneir o'r wefan, er mwyn gwella ei heffeithiolrwydd. Mae'r wybodaeth hon yn cael ei chasglu'n ddi-enw ac nid oes modd defnyddio'r wybodaeth i'ch hadnabod yn bersonol.

Pan fyddwch yn ymweld â'n gwefan rydym yn casglu'r wybodaeth ganlynol yn awtomatig:

  • gwybodaeth dechnegol, gan gynnwys y cyfeiriad IP (Internet Protocol) a ddefnyddir i gysylltu eich cyfrifiadur i'r rhyngrwyd, eich gwybodaeth mewngofnodi, y math o borwr a pha fersiwn ohono a ddefnyddir, gosodiadau rhanbarth amser, y math o 'plug-ins' a ddefnyddir gan y porwyr a pha fersiynau, systemau gweithredu a phlatfform;
  • gwybodaeth am eich ymweliad â'r safle, gan gynnwys o ba wefan y daethoch i wefan O'r Pedwar Gwynt; tudalennau yr ydych wedi ymweld â hwy; pa mor gyflym mae tudalennau'n llwytho, gwallau llawrlwytho, hyd ymweliadau â thudalennau penodol, gwybodaeth am ryngweithio ar dudalennau penodol; a'r dudalen olaf y byddwch yn ymweld â hi cyn gadael y safle.

Os byddwn yn gwneud defnydd o'r wybodaeth hon, bydd at bwrpas:

  • gwella ein gwefan ac i sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei chyflwyno yn y ffordd fwyaf effeithlon i chi ac i'ch cyfrifiadur neu'r teclyn a ddefnyddir gennych i ymweld â'n gwefan;
  • sicrhau bod ein gwefan wedi ei diogelu;
  • mesur neu ddeall pa mor effeithiol ydi'r ffordd yr ydym yn cyfathrebu â chi.

Gwybodaeth am gardiau credyd

Dim ond gwybodaeth sylfaenol yr ydym yn ei chadw am gardiau credyd (y math o gerdyn a'r pedwar rhif olaf). Mae'r holl daliadau trwy'r wefan yn cael eu prosesu'n ddiogel gan wasanaeth Stripe neu trwy system daliadau PayPal, yn ôl eich dewis. Gellir darllen am bolisi preifatrwydd Stripe yn y fan hon:  https://stripe.com/fr/privacy

Preifatrwydd a gwarchod data

Mae O'r Pedwar Gwynt Cyf yn gwneud ein gorau i gydymffurfio â deddfwriaeth gwarchod data a gaiff ei gweithredu yn y DU ac Ewrop. Ni fydd y data personol a ddarperir gennych yn cael ei rannu gennym gydag unrhyw un arall heb eich caniatâd. Mae modd i chi gysylltu â ni os am ddiwygio neu os am wneud cais i ddileu unrhyw wybodaeth yr ydych wedi ei darparu i ni: post@pedwargwynt.cymru

Gwefannau eraill

Bydd ein gwefan wedi ei chysylltu mewn mannau â gwefannau eraill. Os byddwch yn dilyn cyswllt i unrhyw wefan allanol, cofiwch bod gan y gwefannau hyn eu polisïau preifatrwydd eu hunain ac nad ydym yn ysgwyddo cyfrifoldeb dros y polisïau hynny. Os gwelwch yn dda, gwiriwch y polisïau perthnasol cyn darparu unrhyw ddata personol i wefannau allanol.

Newidiadau i'n polisi preifatrwydd

O dro i dro gall O'r Pedwar Gwynt Cyf wneud newidiadau i'r nodyn preifatrwydd hwn. Byddai'n arfer da i wirio'r dudalen hon bob tro rydych yn darparu gwybodaeth bersonol i ni. Mi fydd y nodyn preifatrwydd diweddaraf bob amser yn ymddangos ar y dudalen hon.

Cysylltu

Gellir cysylltu â ni trwy'r cyfeiriad post@pedwargwynt.cymru