Cynog Dafis & Aled Jones Williams


Duw yw'r broblem

Carreg Gwalch, 175tt, £8.00, Mawrth 2016

Adolygu

Trem o’r Dwyrain

Ymateb i 'Duw yw'r Broblem'


Y Tad Deiniol

Amser darllen: 15 munud

24·08·2016

Mae ein Duw yn annherfynol ac annirnadwy, a’r cwbl y gallwn wybod amdano yw ei annherfynoldeb a’i annirnadwyedd. Nid yw Duw yn perthyn i’r categori o bethau sy’n bodoli; nid nad oes ganddo fodolaeth, ond ei fod y tu hwnt i bopeth sy’n bod, yn wir, y tu hwnt i fodolaeth ei hun. 
Sant Ioan o Ddamascus (c. 675–749 AD)

Y mae esgeuluso diwinyddiaeth yn y cyfnod modern yn gyfrifol am yr edwino ar grefydd bersonol ac am yr ymdeimlad yna o rwystredigaeth sy’n llywodraethu’r meddylfryd cyfoes. Yr union beth sydd arnom ei angen “mewn cyfnod fel hwn” yw diwinyddiaeth gadarn ddirfodol. Yn wir, y mae ar glerigwyr a lleygwyr newyn am ddiwinyddiaeth. Ac am na phregethir diwinyddiaeth fel arfer, mabwysiadant ryw 'ideolegau estronol' a’u cyfuno â briwsion cred draddodiadol. 
Georges Florovsky, Bible, Church, Tradition: an Eastern Orthodox View, 1972.

Gwn fod honiad y lleygwr o ddiwinydd Rwsiaidd, Alexei Khomiakov (1804–1860), yn taro nodyn annisgwyl iawn yn y Gorllewin pan ddywed yn ei glasur bychan, Un yw’r Eglwys, fod Protestaniaeth a diwinyddiaeth yr Eglwys Gatholig Rufeinig yn ddwy ochr o’r un geiniog.

Yr ydym yn y Gorllewin wedi arfer ag ystyried y naill draddodiad a’r llall yn bur wahanol i’w gilydd ac fel yna ar y cyfan, tan yn ddiweddar beth bynnag, y maen nhw wedi arfer â gweld eu hunain a’i gilydd ers yr ymrwygo adeg y Diwygiad Protestannaidd.

Ond nid dyna wêl Khomiakov, sydd yn sefyll yn gadarn yn nhraddodiad yr Eglwys Ddwyreiniol ac yn ysgrifennu o’i safbwynt diwinyddol hi. Yn hytrach, gwêl ddau draddodiad sy’n rhannu llawer o’r un seiliau diwinyddol a’r un dehongliadau o athrawiaethau. Mae hyn yn arbennig o wir, er enghraifft, mewn perthynas â themâu yn ymwneud â’r hanes yn llyfr Genesis am y Cwymp. Mae diwinyddion gorllewinol – yn Babyddion neu’n Brotestaniaid – wedi arfer â dehongli rhai o elfennau’r hanes yn unol â dehongliad Sant Awstin o Hippo (354–430 AD), sydd yn ystyried Adda yn ‘binacl perffeithrwydd’ cyn y Cwmp, a’r Cwymp ei hun nid fel llithriad ym mhlentyndod y ddynoliaeth ond yn gwymp o’r entrychion i’r gwaelodion, sef cwymp yr honnir ei fod yn peri trosglwyddiad euogrwydd o un genhedlaeth i’r llall ar ôl hynny. Nodaf yr enghraifft hon gan fod stori’r Cwymp yn faen tramgwydd i lawer sy’n ymrafael â ffydd. Y cwestiwn rwyf am ei ofyn er mwyn adlewyrchu ar y llyfr Duw yw’r Broblem yw pa mor berthnasol yw goblygiadau safbwynt Khomiakov? A yw’r cwestiynau y mae Aled Jones Williams a Cynog Dafis yn ymrafael â nhw yn adlewyrchu – neu hyd yn oed yn ffrwyth – y ffordd y mae’r Gorllewin wedi arfer â diwinydda? Mae’r olrhain a geir yn y llyfr o hanes syniadau’r ymrafael, er yn drylwyr, yn ymddangos braidd yn llafurus ac yn unochrog ar adegau. Tybed a yw hyn yn dilyn yn naturiol rywsut o drywydd diwinyddol y Gorllewin ers cyn belled yn ôl â'r Canol Oesoedd ac, os felly, a oes ffordd amgen o lefaru’n ystyrlon â’n hoes?

Mae’r gyfrol ei hun yn chwilio’n benodol am ffyrdd amgen – ‘persbectif newydd’, fel y nodir yn ddiamwys yn y rhagarweiniad, ac hefyd fel y nodir gan Dr Catrin Williams yn ei sylwadau ar y clawr: ‘Nid digon gan y naill na’r llall wisgo’r hen uniongrededd mewn diwyg newydd; rhaid bod yn fwy radical na hynny.’

Ond pa mor radical mewn gwirionedd yw’r opsiynau a gyflwynir yn y llyfr? I ba raddau y mae’r gyfrol yn llwyddo i ddod o hyd i ‘ffyrdd amgen’ neu ‘bersbectif newydd’? A yw’n bosib bod cais yr awduron ynddo’i hun yn ymateb i linach traddodiad diwinyddol y Gorllewin ond bod eu cais, yn eironig, yn parhau yn gaeth i lyffetheiriau methodoleg y traddodiad hwnnw?

Y ffigwr allweddol yn ffurfiant y traddodiad diwinyddol ac athronyddol Gorllewinol oedd Sant Tomos o Acwin (c. 1225–1274) oedd yn byw ar ôl y Rhwyg Fawr yn y byd Cristnogol rhwng Dwyrain a Gorllewin a ddigwyddodd ym 1054. Un o brif amcanion meddylwyr y Canol Oesoedd yn y Gorllewin oedd ceisio cysoni’r berthynas rhwng diwinyddiaeth ac athroniaeth ac mae hynny’n un o brif nodweddion gwaith Sant Tomos o Acwin. I’r perwyl hwnnw y cyfansoddodd ei waith enfawr, y Summa Theologica, sy’n ymgais i gwmpasu pob prif gwestiwn diwinyddol ac athronyddol. Mae’n defnyddio pum ‘prawf’ o fodolaeth Duw – rhai y parhawyd i’w defnyddio yn y gorllewin ymhell ar ôl y Diwygiad Protestannaidd. Mae llawer o ddiwinyddiaeth Sant Tomos o Acwin yn dibynnu ar syniadau a chategorïau Aristotlys a diwinyddiaeth Sant Awstin o Hippo – awdur cynnar gorllewinol sydd, gyda llaw, yn coleddu syniadau hynod besimistaidd am y natur ddynol. Yn ei erbyn ef y gorymatebodd Pelagiws (c. 360–420 AD), y mynach Prydeinig Morgan a wrthododd ddehongliad Sant Awstin o Bechod Gwreiddiol a dysgeidiaeth Awstin bod dyn yn hollol lygredig ac na all hyd yn oed ddymuno gwneud daioni heb ras Duw. Ystyrid ei ymateb yn erbyn Awstin yn rhy chwyrn, ac fe’i condemniwyd ef gan ddau Gyngor Eglwysig yng ngogledd Affrica yn 416, un arall yno yn 418 ac wedyn gan Gyngor Eciwmenaidd Effesus (Asia Leiaf) yn 431.

Trosglwyddodd dysgeidiaeth a system Sant Tomos o Acwin (sef ‘Tomistiaeth’ neu ‘Sgolastiaeth’) syniadau – ac yn bwysicach efallai, fethodoleg – a dreiddiodd drwy linach diwinyddiaeth y Gorllewin am ganrifoedd, a gellir ystyried y gwrthdaro ffyrnig a fu yn y Gorllewin rhwng crefydd a gwyddoniaeth yn etifedd iddynt. Yr enghraifft fwyaf amlwg o hyn, efallai, yw’r gwrthod llwyr a fu o bum ‘prawf’ Tomos o Acwin o fodolaeth Duw.

Mae Tomistiaeth yn sylfaenol estron i’r Traddodiad Uniongred Dwyreiniol ar ambell gyfrif, nid yn lleiaf am na all y Dwyrain Cristnogol dderbyn bod rhesymeg yn offeryn digonol i gyrraedd adnabyddiaeth o Dduw, nac y gall bodolaeth Duw gael ei brofi drwy ymresymiad. Pe byddai’r fath ‘brawf’ yn bod, byddai hynny’n gorfodi unigolion i gredu yn Nuw ac felly yn tanseilio’r rhyddid ewyllys a gynysgaeddwyd arnynt gan Dduw. Ond rhaid cofio wrth gwrs fod gwadu ewyllys rydd ynddo’i hun yn un elfen a ddaeth i’r amlwg yn y Gorllewin ar ffurf Calfiniaeth.

Nid yw diwinyddion Uniongred yn fodlon chwaith â’r ymgorffori helaeth o gategorïau Aristotelaidd sy’n nodweddu Tomos o Acwin, na hyd yn oed y syniad o gyfansoddi gwaith i gwmpasu pob cwestiwn diwinyddol ac athronyddol.

Mae’r dirfodwr Basgaidd, yr athronydd hynod Don Miguel da Unamuno (1864–1936) a fu’n Rheithor Prifysgol Salamanca ddwywaith ar ddechrau’r ganrif ddiwethaf, yn deall yn iawn oblygiadau’r ‘Pum Prawf’: ‘Mae’r holl brofion honedig traddodiadol o fodolaeth Duw yn cyfeirio at y Syniad-o-Dduw, at Dduw rhesymeg, Duw drwy haniaethu, ac felly nid ydynt yn profi dim, neu’n hytrach, ddim mwy na bodolaeth y syniad hwnnw o Dduw’.

Gall y credadun gredu fod ei brofiad personol yn tystio iddo am fodolaeth Duw, a gall gymryd y cam o seilio’i fywyd ar hynny – ymateb dirfodol a all fod yn ddewr iawn, ond sydd wrth gwrs yn ymddangos yn ffôl iawn i’r sawl a fyn brawf rhesymegol o fodolaeth Duw. Gellid cyfeirio at lawer unigolyn a gymerodd gam o’r fath. Dyma sut y disgrifia’r athronydd Douglas W Shrader ei brofiad yntau: ‘Haf ’71 oedd hi. ’Roeddwn newydd raddio o’r ysgol [...] Cefais fy hun yn ymdroelli ar hyd llwybr llychlyd ym mynyddoedd tra choediog dwyrain Kentucky [...] Yn sydyn, yn ddirybudd, newidiodd fy mywyd – newidiodd y byd am byth – mewn ennyd a oedd fel pe bai y tu allan i amser, moment dragwyddol a gwmpasai’r greadigaeth, difodiaeth a phob peth rhwng y ddau – ymddiosgwyd fi o’m holl ragdybiaethau; rhagdybiaethau amdanaf fy hun, am y byd ac am Dduw.’

Wrth iddo ysgrifennu’r geiriau hynny un ar bymtheg ar hugain o flynyddoedd wedyn, dywed fod y profiad hwnnw mor real, mor fyw ac mor ddi-ildio â’r profiad gwreiddiol. Onid hyn a olyga Unamuno pan fo'n cymell ei ddarllenydd i fod fel ‘Marchog Ffydd’, yn neidio ar geffyl yn y tywyllwch a marchogaeth yn eofn? Risg? Ie. Ond risg y mae llawer yn fodlon â hi. Gresyn yw amharodrwydd Duw yw’r Broblem ar y cyfan i gydnabod hygrededd profiad ysbrydol yr unigolyn yn gadarnhad dilys o’i gred mewn Duw – y Duw Byw y gall fod mewn perthynas real a chariadus ag Ef.

Amgen yw ffordd y Dwyrain o ‘ddiwinydda’. O gyfnod cynharaf yr Eglwys ymlaen, diffiniad Efagriws Ponticws (345–399 AD) sy’n mynd â hi yn yr Eglwys Ddwyreiniol: ‘Os gwir weddïwch, yna rydych yn ddiwinydd’. Byddwn wedi croesawu gweld sylw haeddiannol i weddi gan awduron Duw yw’r Broblem.

Methodoleg allweddol y dull Dwyreiniol o ‘ddiwinydda’ yw dilyn y llwybr apophataidd – sef y ffordd ‘negyddol.’ Gallwn ddweud, er enghraifft, fod Duw yn anhraethol, anfarwol, anfeidrol, annherfynol. Nid estron mo’r ffordd hon i emynyddiaeth Cymru chwaith. Fel hyn y cana’r cyfrinydd, Pantycelyn:         

’Chlywodd clust, ni welodd llygad
Ac ni ddaeth i galon dyn
Mo ddychmygu, chwaethach deall
Natur d’hanfod Di dy hun.

Ond pan drown at y ffordd gataphataidd ‘gadarnhaol’ o siarad am Dduw – dweud, er enghraifft, ei fod yn ‘dda’ neu yn ‘dosturiol’ – yr ydym mewn peryg o liwio’r syniadau hyn â’n profiad a’n hamgyffred personol, camarweiniol hyd yn oed, o’r priodoleddau hynny. Gellir dweud fod y problemau a achosir gan hynny i’w gweld yn y gyfrol dan sylw. Yn wir, y mae Aled yn datgan hynny yn union, heb ddefnyddio’r term ‘cataphatig’: ‘[P]eidiodd Duw â bod yn brofiad a throdd yn “wrthrych”. Ac yn “enw”. Yr Hollalluog ydoedd. Yr Hollbresennol ydoedd. Yr Hollwybodus ydoedd. Roedd yn ddyletswydd arnaf ei brofi (yn yr ystyr o ‘proof’) – rhywbeth cwbl amhosibl wrth gwrs. Ei gyfiawnhau . . . roedd y gair wedi ei dynnu . . . allan o gystrawennau naturiol fy mywyd a’i ynysu mewn rhyw hurtrwydd ar ei ben ei hun.’

Onid disgrifiad o ddiwinyddiaeth gataphataidd yn peri ‘argyfwng gwacter ystyr’ a ddisgrifir fan hyn? Ac onid yw’r dadansoddiadau campus a rydd Cynog o gymnasteg llafurus ac arteithiedig un meddyliwr ar ôl y llall – boed y rheiny yn gredinwyr neu’n anghredinwyr – yn dystiolaeth o’r un broblem?

Beth ddywedwn ni, felly, am fethodoleg apophataidd, negyddol, diwinyddiaeth Eglwys y Dwyrain? Mae ei gwreiddiau yn ysgrifeniadau Sant Dionysiws yr Areopagitiad – disgybl tybiedig Sant Paul yn Athen – sy’n dweud mai trwy anwybod (αγνωσία, ‘agnosia’) y mae adnabod Duw (sydd y tu hwnt i bob gwybodaeth), a bod unrhyw brofiad ecstataidd a gawn o’r dirgelwch Dwyfol yn ffrwyth yr agwedd apophataidd.

Dyma ddywed Vladimir Lossky am apophatiaeth yn ei glasur The Mystical Theology of the Eastern Church, 1957:          

Mae diwinyddiaeth negyddol [...] yn fynegiant o’r agwedd sylfaenol sy’n trawsffurfio diwinyddiaeth yn ei chyfanrwydd yn weledigaeth o ddirgelion datguddiad. Nid cangen o ddiwinyddiaeth mohoni [...] Y mae apophatiaeth yn ein dysgu i weld yn anad dim yr ystyr negyddol yn athrawiaethau’r Eglwys: mae’n ein gwahardd rhag dilyn llwybrau naturiol y meddwl a ffurfio cysyniadau a ddisodlai realaethau ysbrydol. Canys nid ysgol athronyddol i ddamcaniaethu am gysyniadau haniaethol yw Cristnogaeth eithr cymundeb â’r Duw byw [...] Dyna pam, wrth aros yn driw i egwyddor apophataidd diwinyddiaeth, na chaniataodd Tadau’r traddodiad Dwyreiniol fyth i’w syniadau groesi trothwy dirgelwch [...] Mae trawsnewid diwinyddiaeth yn athroniaeth grefyddol [...] yn ganlyniad i gefnu ar apophatiaeth.

Diwinydd enwog ac awdurdod ar weithiau’r awduron cynnar hynny a elwir yn ‘Dadau’r Eglwys’ oedd y Tad Dumitru Stăniloae, offeiriad yn Eglwys Uniongred Romania.

Ym 1946, dan bwysau gwrth-grefyddol llywodraeth gomiwnyddol y dydd, fe’i gorfodwyd o’i swydd fel Rheithor Academi Ddiwinyddol Sibiu. Erbyn 1950, ac yntau’n aelod o Grŵp Rugul Aprins (Allor Tanllyd) – grŵp a fu’n gyfrifol am adnewyddu bywyd Eglwysig yn ninas Bucharest, roedd ymhlith y rheiny a arestiwyd. Carcharwyd ef ym 1958 a thros y blynyddoedd nesa, symudwyd ef o un carchar i’r llall, cyn ei ryddhau ym 1963. Ymddeolodd ym 1973 a derbyn anrhydeddau academaidd ym Mharis, Thesalonica, Paris, Athen, Belgrâd a Bucharest. Bu farw ym 1992 yn 90 oed.

Wrth sôn am y traddodiad Sgolastaidd a’i etifeddion, mae’r Tad Dumitru yn credu bod eu methodoleg yn troi, yn anochel, yn fagl: ‘Wrth honni heddiw fel y gwnaeth yn y gorffennol y gall lwyr ddirnad trwy reswm y realiti dwyfol a’i berthynas achubol â dyn, mae diwinyddiaeth Orllewinol mewn peryg o orfod ildio esboniadau rhesymegol heddiw i esboniadau eraill, oherwydd buan iawn y bydd esboniadau heddiw yn annigonol i feddyliau yfory’.

Onid y fagl hon sydd wrth wraidd llawer o’r union broblemau y mae awduron y gyfrol yn ymrafael â nhw – themâu sy’n nodweddu’r ymateb poblogaidd yn erbyn Cristionogaeth? Ymatebion fel yr ystyriaeth mai ‘myth’ yw cred ac ymosodiad rhai gwyddonwyr ar ffydd? Onid i’r union fagl y troedia awduron Duw yw’r Broblem, wrth iddynt ddewis aros oddi mewn i gylch ddieflig o orfod ‘ildio esboniadau rhesymegol heddiw i esboniadau eraill’? Ac os mai hyn sydd wrth wraidd y problemau dyrys y mae’r gyfrol yn ymdrin â nhw, does bosib nad oes angen ffordd amgen a fyddai’n rhyddhau’r awduron o’r fethodoleg sydd, ar y naill law, wedi creu’r problemau hynny ac, ar y llaw arall, wedi creu’r fath rwystredigaethau llyffetheiriol fel eu bod yn cael eu harwain i ‘ddiosg yn llwyr y syniad o Dduw fel bod goruwchnaturiol’ ac i gredu mai’r unig ddihangfa yw ‘cydnabod yn blwmp ac yn blaen, nad oes unrhyw reswm i gredu bod y fath beth yn bod â’r Goruwchnaturiol’ ac mai ‘creadigaeth dyn yw Duw’.

I Cynog, mae’r syniad o fodolaeth Duw goruwchnaturiol yn broblem fawr os am ‘adfer hygrededd crefydd’ – enghraifft arall, gyda llaw, o’r deuoliaethau niferus a welaf yn y gyfrol. Hynny yw, mae Cynog yn mynnu ‘naill ai hyn neu’r llall’, yn hytrach na chydnabod bod angen cynnal syniadau mewn perthynas o densiwn weithiau yn ystod y broses ddiwinyddol, fel y gwyddai Tadau’r Eglwys Fore ac fel y mae fformiwlâu y Cynghorau cynnar yn ei wneud.

Mae’r awgrym o gael gwared â’r ‘syniad’ o Dduw yn adlewyrchu ac yn adleisio’r dadfytholegu a welir yng ngweithiau rhai awduron dirfodol fel Bultmann, Tillich a John Robinson. Dywed Robinson: ‘Rhaid rhoi’r gorau hyd yn oed i’r enw “Duw”’.

Nid wyf am ddibrisio dyhead Cynog i ddiosg y meddylfryd caethiwus sy’n cyffyrddus sôn am y ‘syniad’ o Dduw. Ai ‘syniad’ yw Duw, ac a fyddai diosg rhai syniadau amdano yn golygu nad yw Duw yn bod? Tybed na allai’r diwinydd mawr Bysantaidd, Sant Gregory Palamas, fod o gymorth i Cynog? Dyma a ddywed hwnnw yn y Patrologia Graeca (dyfynnir gan Vladimir Lossky yn The Mystical Theology of the Eastern Church, 1968):  

Nid yw natur uwch-hanfodol Duw yn destun siarad na meddwl, na syllu ysbrydol hyd yn oed, canys y mae cymaint y tu hwnt i’r hyn oll sy’n bodoli, fel ei fod Ef uwchlaw an-nirnadwyedd hyd yn oed. Nid oes unrhyw enw â’r hwn y gellir ei enwi, naill ai yn yr oes hon nac yn yr oes a ddêl [...] Ni all neb, os ceisio’r gwirionedd sydd goruwch pob gwirionedd, iawn enwi ei hanfod na’i natur. 

Mewn man arall, mae’n adleisio geiriau Sant Ioan o Ddamascus a ddyfynnir ar ddechrau’r adolygiad hwn wrth bwysleisio bod bodolaeth Duw mor bell y tu hwnt i fodolaeth popeth arall nad addas defnyddio’r gair ‘bodolaeth’ am y naill a’r llall. Hynny yw, mae Duw yn bod ond Ei fod y tu hwnt i fodolaeth.

Hoffwn awgrymu nad yw’r ieithwedd hon na’r ymresymiad hwn mor ddieithr ag yr ymddangosant ar yr olwg gyntaf a bod yna awduron Ewropeaidd sy’n ein cymell i’r union gyfeiriad hwn. Dyna pam y byddwn wedi croesawu gweld sylw’n cael ei roi nid yn unig i’r dadfytholegwyr dirfodol Bultmann, Tillich a John Robinson, ac i’r dadfytholegydd Karen Armstrong, ond hefyd i ddirfodwyr fel Berdiaev, Unamuno a Dostoiefsci. Mae’r rheiny’n cyrraedd casgliadau gwahanol iawn.

Un o seiliau dirfodaeth yw derbyn dilysrwydd profiad personol fel sail ar gyfer dewisiadau a wneir ac argyhoeddiadau a ddewisir gan oddrych byw (person, hynny yw) â’i ewyllys rydd. Os yw Cynog yn derbyn dilysrwydd yr egwyddor hon yng nghyd-destun y dadfytholegwyr dirfodol, onid teg fyddai iddo gydnabod y posibilrwydd bod argyhoeddiad yr awduron dirfodol sy’n dod i gredu mewn Bod Goruwchnaturiol mor ddilys bob tamaid, er nad yw’r rheiny, yn wahanol i’r Esgob Robinson ac eraill, yn teimlo angen i ‘ddadfytholegu’? Byddai gwrthod y posibilrwydd hwnnw yn nacâd nid yn unig o un o seiliau dirfodaeth ond hefyd o’r syniad o ffydd sy’n tarddu o brofiad.

Yn ei glasur The Tragic Sense of Life (https://www.gutenberg.org/files/14636/14636-h/14636-h.htm), ac mewn ieithwedd a dull sy’n agos iawn at draddodiad apophataidd y Dwyrain Cristnogol, dyma ddywed Unamuno:            

Nid ar hyd llwybr rheswm ond ar hyd llwybr cariad a dioddefaint y down at y Duw byw ... Y mae rheswm yn ein dieithrio oddi wrtho. Ni allwn Ei adnabod yn gyntaf er mwyn Ei garu wedyn; rhaid inni gychwyn drwy Ei garu, dyheu amdano, newynu amdano cyn Ei adnabod. Mae adnabod Duw yn deillio o gariad at Dduw, ac ychydig iawn o resymeg sydd yn yr adnabyddiaeth hon os oes yna resymeg o gwbl. Canys y mae Duw yn anhraethol. Y mae ceisio Ei ddiffinio yn ymgais i’w gaethiwo oddi mewn i derfynau ein meddwl – hynny yw, Ei ladd. Yn gymaint ag y ceisiwn Ei ddiffinio, cyfyd o’n blaenau wacter llwyr [yn Sbaeneg: ‘la nada’ – ‘nothingness’].

Ond fel y gwelsom eisoes, nid oes rhaid mynd cyn belled â Gwlad y Basg na Rwsia na Chaergystennin i weld ieithwedd apophataidd fel yr eiddo Unamuno uchod. Wrth ddatgan ei gariad at Dduw – ‘Anweledig, ’rwy’n dy garu’ – mae’r Pêr Ganiedydd yn adleisio Dionysiws a Gregory ac yn rhagflaenu Unamuno:

Uchder nefoedd yw dy drigfan,
Llawer uwch na meddwl dyn.

Ac eto, wrth sôn am gariad Duw, dywed:

Pell uwch geiriau, pell uwch deall,
Pell uwch rheswm gorau’r byd.

ac ymateb dirfodol Pantycelyn i gariad anhraethol Duw yw gweddi:

’Rwy’n dy garu ers nas gwelais;
Mae dy gariad fel y tân.

Gŵyr y Pêr Ganiedydd, drwy brofiad, nad yw natur drosgynnol Duw yn rhwystr i feidrolion fod mewn perthynas ag Ef, ac mae Sant Gregory Palamas yntau’n pwysleisio’r un peth yn union drwy gyfrwng un o’i hoff gysyniadau, sef bod Duw yn cymuno â ni a ninnau ag Yntau drwy Ei ‘weithgareddau dwyfol anghreëdig’ sydd yn Dduw llawn cymaint ag y mae pelydrau’r haul yn haul. Dyma enghraifft o gynnal dau syniad paradocsaidd mewn tensiwn – yn yr enghraifft benodol hon, y syniad bod Duw’n gwbl drosgynnol a hefyd ein bod yn gallu cymuno ag Ef. Yn hytrach na mynnu mai deuoliaeth sydd yma na ellir ei datrys ond drwy bolareiddio’r syniadau a dewis un neu’r llall, mae Sant Gregory, ar sail ei brofiad ysbrydol, yn osgoi’r polareiddio hwn ac yn pontio’r hyn sy’n ymddangos fel deuoliaeth absoliwt. Gwna hynny drwy ddefnyddio’r cysyniad o Weithgaredd Dwyfol Duw, sy’n aml yn gyfystyr â Gras yn ei waith. Mae hon yn fethodoleg ddeinamig iawn. Ond yn Duw yw’r Broblem, ymddengys i mi fod y duedd gaethiwus i bolareiddio yn dod i’r golwg o bryd i’w gilydd, yn enwedig pan fo'r llyfr yn olrhain hanes syniadaeth. A’r broblem a gyfyd wrth bolareiddio, yn hytrach na chynnal syniadau mewn tensiwn deinamig, yw ei fod yn gorfodi dewis rhwng un pegwn a’r llall. Tybed a syrthiodd awduron Duw yw’r Broblem i’r fagl hon?

Dychwelwn at drywydd diwinyddol y Tad Dumitru Stǎniloae: ‘Gan ei bod yn caniatáu i’r dirgelwch dihysbydd ymddangos drwy unrhyw un o’i fformiwlâu mewn unrhyw oes, nid yw diwinyddiaeth Uniongred yn troi fformiwlâu blaenorol yn rhai i gefnu arnynt pan êl ymlaen at rai newydd; mae’r rhai newydd yn barhad ohonynt yn hytrach. Daw’r rhai blaenorol, yn wir, yn esboniadau newydd o’r diweddaraf, rhan newydd o’r olwg ar y dirgelwch dwyfol a ddirnadwyd yn gywir yn y fformiwlâu blaenorol. I ddiwinyddiaeth Uniongred, mae’r un dirgelwch yn parhau’n dryloyw ym mhob mynegiant diwinyddol newydd, er fod bob mynegiant newydd yn gam ymlaen o ran amlygu’r dirgelwch a gwneud cyfoeth dihysbydd ei ystyron yn weladwy.’ (Theology and The Church, 1980)

Sylweddolaf y gallai hyn ymddangos yn estron i awduron Duw yw’r Broblem ond gan fod llawer o gynnwys wyth ganrif o’r traddodiad Gorllewinol yn achosi anawsterau mawr iddynt, oni fyddai yna werth mewn edrych ar ffyrdd amgen, ffyrdd gwahanol i’r un y teimlant ei bod yn arwain at y canlyniad mai ‘creadigaeth Dyn yw Duw’?

Go brin bod unrhyw un o ddiwinyddion yr Eglwys Uniongred wedi astudio cwestiynau ei oes â’r fath ddyfnder ac ehangder ag y gwnaeth yr Athro, y Tad Georges Florovsky (1893-1979). ‘Tasg gyntaf y pregethwr cyfoes,’ meddai ‘yw “ailadeiladu cred”. Nid ymdrech ymenyddol mo hyn o gwbl. Nid yw cred yn ddim ond map o’r byd go iawn, ac ni ddylid ei chamgymryd am realiti.’ (Bible, Church, Tradition: an Eastern Orthodox View, 1972).

 yn ei flaen i ddweud fel hyn: ‘Caf deimlad od yn aml. Pan ddarllenaf glasuron oesol diwinyddiaeth Gristionogol, tadau’r Eglwys, caf eu bod yn fwy perthnasol i helyntion a phroblemau fy nghyfnod fy hun na chynnyrch diwinyddion modern.’ Roedd y tadau yn ymrafael â phroblemau dirfodol a mentrwn awgrymu bod Sant Athanasiws a Sant Awstin yn fwy cyfoes na llawer o’n cyfoedion diwinyddol. Y mae rheswm syml am hynny: yr oeddent yn ymdrin â phethau, nid â’r mapiau. Fel y dywed y Tad Florovsky, mewn oes fel hon, mae angen i ni ehangu’r persbectif, cydnabod meistri’r gorffennol, a cheisio ‘synthesis dirfodol o brofiad Cristionogol i’n hoes ni.’

Yn y rhagarweiniad i Duw yw’r Broblem, mae’r awduron yn nodi ‘angen dwfn ac arhosol yn natur Dyn am ddimensiwn ysbrydol’. Go brin mai damweiniol yw eu defnydd o D fawr wrth sôn am ddyn.

Erbyn y bennod olaf, y mae Cynog yn datgan bod angen ‘diosg y syniad o Dduw goruwchnaturiol yn llwyr ac yn gyfan-gwbl’, gan ddweud wedyn ‘nad oes unrhyw reswm i gredu bod y fath beth yn bod â’r Goruwchnaturiol [...] ac mai creadigaeth Dyn yw Duw’ – â D fawr eto.

Beth tybed yw’r syniad y tu ôl i’r defnydd o’r D fawr wrth sôn am ‘Ddyn’ ar gychwyn y llyfr, ac am ‘Ddyn’ a Duw ar derfyn y llyfr? Ai cil-awgrym o gydraddoldeb sydd yma?

Gwelsom eisoes hoffter y Tadau cynnar Eglwysig o baradocs, ac o gynnal syniadau mewn tensiwn creadigol – ffactor sy’n cyfrannu at natur hynod ddeinamig eu gweithiau.

Un o’r enghreifftiau mwyaf adnabyddus o hyn yw datganiad trawiadol Sant Athanasiws o Alecsandria (c. 296–373 AD), wrth iddo sôn am yr Ymgnawdoliad: ‘Daeth Ef [Mab Duw] yn ddyn fel y’n dwyfoler ninnau’ – yn y gwreiddiol: Αὐτὸς γὰρ ἐνηνθρώπισεν, ἵνα ἡμεῖς θεοποιηθῶμεν.   

Sail ysgrythurol neges ddiwinyddol Sant Athanasiws yw’r geiriau hyn yn Ail Epistol Sant Pedr: ‘Trwy’r hyn y rhoddwyd i ni addewidion mawr iawn a gwerthfawr; fel trwy’r rhai hyn y byddech gyfranogion o’r duwiol anian.’ (Cyfieithiad Beibl Wiliam Morgan sydd yma. Mewn Groeg, θείας κοινωνοὶ φύσεως yw’r geiriau, sef ‘cyfranogion o’r anian dwyfol’, nid duwiol. Mae cyfieithiad y Beibl Cymraeg Newydd, sy’n defnyddio dwyfol, yn fwy cywir.)

Mae’r cysyniad hwn o ddwyfoli yn sylfaenol ac yn allweddol yn niwinyddiaeth Tadau’r Eglwys – diwinyddiaeth ‘Batristig’. Cael ein ‘dwyfoli’, ein huno â Duw yn unol â’r geiriau o Ail Epistol Pedr, meddant, yw pwrpas a nod ein bywydau. Nid yw’r dwyfoli (θέωσις) hwn yn golygu uno â hanfod trosgynnol Duw – uno yn hytrach â’r gweithgareddau dwyfol anghreëdig y sonia Sant Gregory Palamas amdanynt sydd yn digwydd ond, fel y nodais, mae’r gweithgareddau hyn yn ‘Dduw’ llawn gymaint â’i natur drosgynnol Ef. Trwy daith ysbrydol ein dwyfoli, rydym yn ‘cyfranogi o ras anghreëdig Duw’; down yn ‘dduwiau drwy ras’ (ac nid, wrth gwrs, yn ‘Dduwiau’!).

Mae’r neges Gristionogol o gynnig gobaith mor aruchel i’r ddynoliaeth yn cyfateb yn llwyr â geiriau’r Drindod Sanctaidd yn llyfr Genesis sy’n gosod y fath anrhydedd arnom: ‘Gwnawn ddyn ar ein delw ni, wrth ein llun ein hunain’ (‘yn ôl ein llun ni’, yn y Beibl Cymraeg Newydd).

Mentraf ofyn, felly, tybed na fethodd awduron Duw yw’r Broblem â dal rhai syniadau paradocsaidd mewn tensiwn creadigol, gan ddibynnu’n ormodol ar fethodoleg nodweddiadol rhannau o draddodiad diwinyddol, athronyddol a gwyddonol y gorllewin, a pholareiddio, o’r herwydd, yn lle pontio rhai syniadau? A phenderfynu nad oedd dim i’w wneud wedyn ond ‘diosg yn llwyr y syniad o Dduw fel Bod Goruwchnaturiol [...] Person o ryw fath’. Erbyn diwedd y llyfr, mae Cynog yn datgan mai ‘creadigaeth Dyn yw Duw’ – y Duw hwnnw y dadleuodd nad yw’n bodoli!

Go brin y gellid dychmygu cyferbyniad llwyrach: y gobaith aruchel o gael ein dwyfoli a gyhoeddir gan yr Ysgrythur a chan y Tadau Eglwysig ar y naill law ac, ar y llaw arall, y neges dywyll a awgrymir yn y llyfr sef mai gobaith dyn yw cael ei enwi â llythyren fras a chofleidio’r syniad mai ef sydd wedi creu’r Duw y dywedant nad yw yna (neu ‘yma’) beth bynnag.

Mentrais ofyn ai ‘cil-awgrym o gydraddoldeb’ rhwng dyn a Duw oedd y tu ôl i ddefnydd yr awduron o’r D fawr wrth sôn am ddyn. Ond wrth gwrs, nid dyna’r ystyr o gwbl. Yn hytrach, erbyn diwedd y llyfr, gwelwn mai dyn yw’r safon a’r ffon fesur ar gyfer popeth. O honni, felly, mai meddwl dyn sydd wedi creu Duw, ni all Duw a dyn fod yn gyfartal.

A go brin mai’r math hunan-addolgar hwn o ‘ddwyfoli’ dyn yw gobaith y ddynoliaeth.


Y Tad Deiniol yw Offeiriad yr Eglwys Uniongred ym Mlaenau Ffestiniog.


Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


Erbyn diwedd y llyfr, mae Cynog yn datgan mai ‘creadigaeth Dyn yw Duw’ – y Duw hwnnw y dadleuodd nad yw’n bodoli!

Dyddiad cyhoeddi: 24·08·2016

Yn ôl i frig y dudalen

Cyfweld


Angharad Penrhyn Jones

Angharad Penrhyn Jones, Golygydd Cysylltiol O'r Pedwar Gwynt, sy'n holi Beti George am ei bywyd a'i phrofiadau fel darlledwraig ac ymgyrchydd.

Dadansoddi


Ned Thomas

Fel pawb roeddwn wedi clywed yn y newyddion am yr hyn ddigwyddodd ger Madrid ar 24 Hydref, sef codi gweddillion y Cadfridog Francisco Franco o'i fedd yn y Valle de los Caidos a'u trosglwyddo i feddrod teuluol yn y brifddinas. Digwyddodd hyn wedi brwydr hir yn y…

Dadansoddi


Caryl Lewis a Gwen Davies

Yn fy nofel Y Gemydd, defnyddir gemau (ar ffurf modrwyon), i gario addewidion a gobeithion. Er fod y cymeriadau yn perchnogi’r gemau hyn dros dro, perthyn i’r byd a’r cenedlaethau i ddod y maen nhw mewn gwirionedd. Ceir proses debyg wrth greu stori: mae’r awdur yn…

Adolygu


Tomos Morgan

Heb os mae angen cryn sensitifrwydd wrth ymhél – neu ymyrryd – â digwyddiad lle mae teimladau mor gryf ac emosiynau mor amrwd. Mewn cyd-destun newyddiadurol, er enghraifft, mae’n hysbys pa mor real yw perygl dwysáu trallod teuluoedd sydd eisoes mewn galar drwy gyhoeddi erthygl neu…

Cyfansoddi


John Emyr

Casglodd Glyn ei fagiau gan sylwi, drwy ffenest ei lofft, fod llechi’r toeau yn sych. Hyd yma, ar y bore hwn o Fai ym Mangor Uchaf, roedd y tywydd o’i blaid. Er iddo glywed chwyrniadau ffrae atmosfferig y cymylau uwchlaw’r Carneddau neithiwr, roedd…

Adolygu


Angharad Penrhyn Jones

Mae’r profiad o ddarllen y gyfrol hon fel eistedd ar soffa yn gwrando ar ferch alluog, ddidwyll a byrlymus yn adrodd hanes ei bywyd, paned mewn un llaw, hancesi papur mewn llaw arall, a digon o chwerthin. Mae’n lyfr mor hawdd ei ddarllen ar un ystyr, mor agos at rywun, y…

Cyfansoddi


Osian Wyn Owen

Pobol coleg fu’n clegar ‘nad oes byd na phlaned sbâr wedi hon’ a bod ‘i wedd yr haf gynhesrwydd rhyfedd ... 

Cyfansoddi


Rhiannon Ifans

Piciodd Ingrid i'r ardd i dorri cabatsien. Roedd hi’n ddychryn o oer, ac asgwrn ei chlun yn boen byw rhwng y gwynt main a’r eira’n pluo’n ysgafn o gwmpas ei phen. Ers dyddiau roedd yr awyr dywyll fel petai’n dal ei hanadl, yn gyndyn o ryddhau mwy na sgeintiad…