Siarad am Gymru, Lloegr a Llanrwst
Owain Schiavone, Toni Schiavone ac Y Cyrff
Llawenydd Heb Ddiwedd: Atgofion drwy ganeuon Y Cyrff
Carreg Gwalch, 44tt, £9.50, Gorffennaf 2019

Y Cyrff ar Gerrig yr Orsedd, Llanrwst. Llun gan Paul Jones.
Y bws ola’ adra
Roedd y bws ola i Lanrwst o Ganolfan Aberconwy, Llandudno nos Sadwrn 12 Awst 1989 dan ei sang. Wrth deithio i lawr y dyffryn trwy Glan Conwy ac ymlaen i Maenan roedd pawb mewn hwyliau da ar ddiwedd noson gofiadwy yn y Ganolfan yng nghwmni Tynal Tywyll, Crumblowers, Canol Caled ac Am Dwrw.
Wrth gyrraedd Llanrwst ac ymlwybro’n araf ar hyd Stryd yr Orsaf gwelwyd bod y strydoedd yn dal i fod yn brysur iawn. Golau o ambell dân yn y maes pebyll yng Nghae George wrth ymyl yr heol a sŵn canu a gweiddi i’w glywed yn glir wrth droi am y sgwâr, ac yna i ganol torf o bobl yn ymestyn o un pen o’r sgwâr i’r llall. Golygfa ryfeddol, a phawb ar y bws yn cynhyrfu wrth weld cymaint o bobl yn llenwi’r sgwâr a’r stryd gyfagos er ei bod ymhell wedi hanner nos. Allan â ni i ymuno yn y rhialtwch – dyma’r ffordd i ddathlu diwedd wythnos Steddfod. Diwedd wythnos hynod o lwyddiannus hefyd o ran gigs ar y maes yn ystod y dydd a fin nos yng Ngwesty’r Fic, Llanrwst; Canolfan Hamdden Aberconwy, Llandudno; Rhaeadr Ewynnol ym Metws-y-Coed a nifer o leoliadau eraill. Roedd y Steddfod wedi meddiannu strydoedd Llanrwst ac roedd pobl Llanrwst, Dyffryn Conwy a Hiraethog wedi cofleidio’r Steddfod. Sgwâr Llanrwst oedd y lle perffaith i gloi’r dathliadau.
Nid peth anghyffredin oedd gweld y sgwâr yn llawn o bobl ar ddiwedd noson fawr yn y dre. Dyma oedd y drefn ar ôl i’r tafarnau gau, yn y cyfnod pryd roedd y tafarnau i gyd yn cau tua’r un pryd. Dyma’r cyfle olaf i fachu, cyfle i sobri wrth ddisgwyl tacsi, tynnu coes, athronyddu a hyd yn oed cyfle i daro ambell i fargen. Ar adegau prin, cyfle hefyd i setlo ambell ddadl a gychwynnwyd rywdro yn ystod y nos yn yr Eagles, Pen-y-bryn, yr Albion, New Inn neu’r Red/Llew Coch. Nos Sadwrn Sioe Llanrwst, penwythnosau gŵyl banc, nosweithiau gemau rygbi rhyngwladol, noson dathlu llwyddiant Clwb Rygbi Nant Conwy neu dîm pêl-droed y dre. Dyma’r nosweithiau mawr yn Llanrwst, ond bron heb eithriad ar ddiwedd noson allan, lle bynnag y cafwyd y peint olaf roedd rhaid wedyn troi am y sgwâr. Y gwahaniaeth yn wythnos Steddfod Llanrwst 1989 oedd bod hyn wedi bod yn batrwm trwy gydol yr wythnos gyda’r dorf yn cynyddu wrth i’r wythnos fynd yn ei blaen, gan gyrraedd uchafbwynt ar y noson ola’. Neb isio mynd adre.
Bu’r wythnos yn un hynod lwyddiannus hefyd i’r grwpiau roc, pop a gwerin fu’n perfformio ac yn arbennig felly i grwpiau lleol. I grwpiau fel Boff Frank Bough, Yr Orsedd a Dail Te Pawb, roeddent yn profi’r wefr o chwarae am y tro cyntaf ar lwyfan mawr gyda system sain wych a chynulleidfaoedd mawr. Roeddent yn cael cyfle hefyd i berfformio ym mhabell roc Y Cremlin a’r Cremlin Bach ar faes y Steddfod.

DNA 001
I un o’r grwpiau lleol roedd arwyddocâd arbennig i’r wythnos. Roedd Y Cyrff yn arwyr i grwpiau lleol ac wedi sefydlu eu hunain fel un o brif grwpiau Cymru, ond efallai heb gyrraedd y brig. Y Cyrff oedd y prif grŵp ar lwyfan nos Lun 7 Awst yng Nghanolfan Aberconwy gydag Arfer Anfad a Cerrig Melys yn cefnogi ac ar nos Iau 10 Awst gyda Madfall Rheibus, Dail Te Pawb a Defaid. Roeddent hefyd wedi chwarae mewn dau gig arall yn ystod yr wythnos yn y dre’ ac ar faes y Steddfod yn y Cremlin, yr enw a roddwyd i’r babell roc. Fore dydd Llun yr wythnos honno roedd Mark Roberts (gitarydd a phrif ganwr Y Cyrff) a Paul Jones (basydd) yn crwydro’r maes yn dosbarthu copïau o’r record feinyl 12 modfedd, Yr Atgyfodi. Recordiwyd y caneuon yn gynharach yn y flwyddyn yn y Music Factory yng Nghaerdydd ond penderfynwyd oedi tan wythnos Steddfod Llanrwst cyn rhyddhau’r cynnyrch. Gan fod y Steddfod yn Llanrwst, tref enedigol Y Cyrff, roedd hyn yn beth amlwg i’w wneud ac yn arbennig felly gan fod Y Cyrff wedi cyfansoddi’r gân ‘Cymru, Lloegr a Llanrwst’ a rhyddhau’r record yn annibynnol ar eu label eu hunain – DNA 001.
Dosbarthwyd y feinyl gan Probe Plus, cwmni annibynnol o Lerpwl a sefydlwyd gan Geoff Davies ac a gychwynnodd fel siop recordiau ail-law, Probe, yn y saithdegau. Yn ystod yr wythdegau a’r nawdegau bu’r cwmni’n ganolbwynt i gerddorion a grwpiau ifanc Lerpwl a gogledd Cymru gan sefydlu eu hunain yn rhyngwladol gyda rhyddhau’r record Back in the DHSS gan Half Man Half Biscuit ym 1986. Cyrhaeddodd y record yma frig y siartiau annibynnol ac aros yno am nifer o wythnosau. Yn ôl Paul, ‘Aethon ni at Geoff Davies yn Probe i gael rhywun i ddosbarthu’r record i ni. Roedd Mike Swire yn dod o Ddolwyddelan ac yn ffrind. Roedd o’n nabod rhywun oedd yn gweithio yn y siop ac yn gallu helpu gyda dylunio’r clawr.’ Fel cwmni a symudodd i fyd cynhyrchu recordiau yn ogystal â rhyddhau a dosbarthu, roeddent yn ymfalchïo mewn recordiau oedd yn adlewyrchiad o egni a chyffro perfformiadau byw. Dim rhyfedd felly bod Yr Atgyfodi wedi plesio, ac yn wir llwyddodd Probe i sefydlu cyswllt gyda chwmni dosbarthu recordiau annibynnol yn Efrog Newydd. O bosib, Yr Atgyfodi oedd y record roc Gymraeg gyntaf i gael cytundeb o’r fath yn yr Unol Daleithiau.
Yr Atgyfodi
‘Cymru, Lloegr a Llanrwst’ oedd un o’r pum trac ar y record, yn rhannu un ochr y feinyl gydag ‘Y Boddi’ a ‘Cofia Fi yn Ddiolchgar’, a ‘Cerdda Efo Fi Mewn Distawrwydd’ a ‘Weithiau/Anadl’ ar yr ochr arall. Cynhyrchwyd y caneuon gan Y Cyrff ar y cyd â John Davies, gyda John Davies a Dai Shell yn beirianwyr. Daeth Dai Shell i amlygrwydd fel prif gitarydd un o grwpiau mwyaf llwyddiannus Cymru yn y saithdegau, Sassafras. Yn ddifyr, Sassafras sy’n dal y record byd am chwarae’r nifer fwyaf o gigs mewn blwyddyn, sef 322! Erbyn diwedd yr wythdegau roedd Dai Shell wedi agor stiwdio recordio ac yn gweithio gyda nifer o grwpiau. Stiwdio Music Factory felly oedd man geni un o anthemau enwoca’ Cymru – yr union gân i gyfleu emosiwn a theimladau, cynnwrf a balchder nos Sadwrn ola’ Steddfod Llanrwst.
Roedd cyfansoddi’r gân ‘Cymru, Lloegr a Llanrwst’ wedi dilyn trywydd gwahanol i’r arfer gan fod Mark wedi meddwl am fachu ar y dywediad cyfarwydd ar gyfer cân ers tro. Mark oedd yn ysgrifennu’r geiriau i ganeuon Y Cyrff ond y gerddoriaeth oedd yn dod yn gyntaf bron heb eithriad gan gychwyn trwy ddewis riff, melodi neu syniad wrth ymarfer caneuon ac yna gweithio ar hyn ar y cyd. Roedd pob aelod o’r grŵp gan gynnwys Barry Cawley (gitâr a llais) Paul Jones (bas) a Mark Kendall (drymiau) yn cyfrannu at y cyfansoddi. Unwaith roedd yr alaw yn ei lle byddai Mark yn cyfansoddi’r geiriau ac yn yr ymarfer nesaf byddai’r grŵp yn gweithio ar fanylion y gân. ‘Er bo fi ond wedi dechra gyda’r grŵp ychydig cyn mynd i’r stiwdio roeddan nhw’n trystio fi ac yn gwrando ar fy syniada’ i am y drum fillso’n i isho cynnwys,’ meddai.
Ar ddechrau 1989 derbyniodd Y Cyrff gynnig gan y cwmni teledu annibynnol Criw Byw i recordio fideo ar gyfer rhaglen deledu. Dewiswyd y gân newydd, ‘Y Boddi’, ar gyfer hyn a threfnwyd i recordio’r fideo yn stiwdio Music Factory yng Nghaerdydd. Bu’r profiad o recordio mewn stiwdio o ansawdd uchel, gyda chynhyrchydd a pheiriannydd profiadol a brwdfrydig, yn bleserus iawn. ‘Roeddan nhw’n gefnogol iawn i ni ac yn gweithio’n galed i wneud yn siŵr bod y sain fel oeddan ni isho fo i fod. Ro’dd o hefyd yn amlwg bo nhw’n licio be o’n ni’n gwneud,’ eglura Paul. Penderfynwyd defnyddio’r tâl a gafwyd am wneud y fideo i recordio gweddill y caneuon ar gyfer Yr Atgyfodi a dychwelyd i Music Factory. Y Cyrff oedd yn talu am yr holl amser yn y stiwdio ac felly roedd yn bwysig gwneud defnydd da o’r amser. Roedd trefniadau pob un o’r caneuon yn eu lle cyn dychwelyd i Gaerdydd gan fod y grŵp wedi bod yn ymarfer yn rheolaidd. Nid felly y geiriau, gyda Mark yn gorfod gweithio ar ambell un yn y gwesty’r noson gynt. Er hynny roedd y syniad a’r delweddau yn y gân ‘Cymru, Lloegr a Llanrwst’ wedi bod mewn lle ers tro byd ac roeddent wedi chwarae’r gân ar lwyfan nifer o weithiau dros y flwyddyn flaenorol.
Y cam nesaf ar ôl recordio a chymysgu oedd cael gafael ar rywun i ddylunio’r clawr a’r label. Roedd Mike Swire yn dilyn cwrs sylfaen celf yn Lerpwl a thrwy’r cyswllt gyda Paul wedi cael y cynnig i wneud y clawr. Roedd Y Cyrff yn awyddus iawn i gael clawr safonol. Yn sicr mae’r clawr yn drawiadol ac yn chwaethus, ac yn adlewyrchiad o ansawdd y gerddoriaeth ac o’r aeddfedrwydd sy’n amlwg yn y caneuon.
‘Cymru, Lloegr a Llanrwst’
Pryd ma llygad fi jysd yn methu symud o’r gornel,
Weithiau mae’n sbio ochr yma ond ’dio byth yn ddigonol,
Rhywun yn gofyn wrtha fi hei beth sydd ar werth yma heno
Trosi a throsi yn fy meddwl does na ddim byd yno.
Sôn amdan Cymru, Lloegr a Llanrwst,
Sôn amdan Cymru, Lloegr a Llanrwst.
Pryd mae’r byrddau’n dechrau fflio dwi jysd yn eistedd yma’n llonydd
Dyma’r unig amser pryd dwi byth yn teimlo’n aflonydd,
Heno mae gwaed a gwydr ar y llawr yn y toiledi,
Ond alla’i ddim cydymdeimlo hefo s-s-sgwadi
Sôn amdan Cymru, Lloegr a Llanrwst,
Sôn amdan Cymru, Lloegr a Llanrwst.
Os ti ddim yn gwybod be sy’n iawn,
Wel paid â eistedd yna’n gwenu,
Os dwi’m yn gwybod be dwi’n dweud, O paid â chwerthin ar fy mhen i,
ar fy mhen i, ar fy mhen i...
Rhywun yn gofyn wrtha fi hei beth sydd ar werth yma heno
Trosi a throsi yn fy meddwl does na ddim byd yno
Tyrd hefo fi lle di’r anifeiliaid byth yn mentro,
A gawn ni siarad am Cymru, Lloegr a Llanrwst unwaith eto.
Sôn amdan Cymru, Lloegr a Llanrwst,
Sôn amdan Cymru, Lloegr a Llanrwst.